Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

14. Moliant i seintiau Morgannwg

golygwyd gan Eurig Salisbury

⁠Llst 167, 156‒7

Nodiadau
Casgliad pwysig o gerddi gan feirdd y de-ddwyrain. Cofnodwyd testun y gerdd hon gan Richard Turberville (fl. 1606) fel rhan o gasgliad o waith Rhisiart ap Rhys (tudalennau 154–200). Ni ddaethpwyd o hyd i drefn arbennig o fewn y casgliad hwnnw. Ef hefyd a gopïodd gasgliad o waith Lewys Morgannwg (111–54), mab i Risiart ap Rhys, a chywyddau gan dad Rhisiart, Rhys Brydydd, a’i ewythr, Gwilym Tew (200–3), efallai i gyd o destunau awtograff. Gwnaeth Turberville bum cywiriad, yn ôl pob tebyg wrth iddo godi’r testun (gw. llinellau 4, 14, 30, 38 a 44). Yn y testun, gosodir pob collnod uwchben y llythyren ddilynol, yn hytrach nag o’i blaen. Yn y trawsysgrifiad, fe’i rhoir ym mhob achos o flaen y llythyren, fel y disgwylid.

156
i Sant Cirig ag i saintau eraill i ddaisyf iechyd i glaf
Cev’r glod am wr cywir glan
Cirig lle plycco arian
Synna rhag i lysenwi
i vab Sant teg i vabsant wyt ti
5Cirig ni bu ’n dwyn Coronn
i well a phwys llaw a ffonn
gwaewyr Einon a Gronwy
ag owain vyth pa gwyn vwy
Cwynaw ar glod Cynwrig lan
10a Chadrod o chae oedrann
llaw dyn pell i adwaenynt
llaw’n dwyn gwaew’n llvndain gynt
i ddwrn ai vwa ddyrneid
amlyn gorff ymlaen a geid
15Byd gwych a dwyn bwyd a gwin
Beirdd breiniol bwrdd y brenin
pan davth ir penn i dathoedd
tan y sin ffortennys oedd
Roi’r brenhin ar frenhines
20ir twr yn gryf or twrn gwres
pan ddel ar y penn melyn
dial duw beth a dal dyn
Blino gwr heb liw na gwedd
bai mal anaf bvmlynedd
25ve wnaeth Duw sant o Antwn
ve wna sant o vynwes hwnn
Bei berr vei’r nos ni dderfydd
bei ryw dwrn nid byrr y dydd

157
gwr lliwiog o gaer lleonn
30gwed rhoi fry gwaew drwy fronn
mae llvn ymhell a enwir
ymhenn Rys ir meinwr hir
Cattwg yn amlwg a wnaeth
i gannyn veddeginaeth
35Teilo ’mhob ty aelwynn
Tyvodwg at veudwy gwynn
nessav barod Sain Barwg
ni ddeily ar draws ddolur drwg
derfel a chorff durfael chwyrn
40yllteuoedd ag ellteyrn
myned heb rhodd gormodd gwaith
meddylieid am Dduw eilwaith
Dyn wyf i dan y nevoedd
Dilyxd gwr dyledog oedd
45Son am wr dros win a medd
a vu varw yw vo’veredd
Gwr vu yn gryf i awen
Gwr a sant wrth y groes wenn
Merch wenn i mae aur a chwyr
50er swynaw i rhoi sanwyr
mae Cein·wyr yn amcanv
wellhav bwynt ai rhoi lle bu
breuch vyr yn ghwrr bach y fronn
brad chwerw halfbert a choronn
55os i dal sy a dolur
nisgwn ai ddyn ysgawn ai ddur
chwith yw’r avel ar delyn
chwerw yw tant a chariad tyn
ni chel arf vwel arwy
60or oes honn vyth ryssynn vwy
ni bv ’mhann lloegr i lannach
ni bydd oi waew o bydd iach

Risiart ap Rys. 27.