Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

14. Moliant i seintiau Morgannwg

golygwyd gan Eurig Salisbury

Moliant gan Risiart ap Rhys i seintiau Morgannwg er mwyn dymuno iechyd i glaf. Dyddiad 1498‒c.1515.

Cei’r⁠1 Cei Gan mor anghyson yw orgraff testunau Richard Turbeville yn y llawysgrif, nid yw’n eglur beth a ddynodir gan ddarlleniad y llawysgrif, Cev. Ceir dau bosibil¬rwydd, a’r ddau gystal â’i gilydd o ran ystyr. Yn GRhB 8.1, ceir Cau, sef ffurf ail berson unigol orchmynnol y ferf cau, gyda’r ystyr ‘amddiffynna, diogela’, gw. GPC Ar Lein d.g. caeaf (b). Sylwer ar y defnydd o’r un ffurf ar y ferf synnu yn ll. 3. Defnyddiodd Rhisiart ffurf fwy cyffredin ar y ferf cau, yn yr un ystyr, mewn cerdd arall, gw. GRhB 10.39.40 A gwŷr Ffrainc … / … yn cau’r Eidal⁠; cf. TA III.4 yn cau’r ffydd. O ran yr orgraff, cf. GRhB 38.54, 56, sef dwy l. yn rhan olaf y cywydd a gofnodwyd o flaen y cywydd hwn yn y llawysgrif, lle ceir y ffurfiau lluosog pvnnev a donnav. Yr ail bosibilrwydd yw mai ffurf ail berson unigol bresennol y ferf cael a geir yma, sef cei. O ran orgraff, cf. cav a geu am y gair hwnnw ar dudalennau 156 ac 181 yn y llawysgrif, yn y drefn honno (gw. GRhB 38.60, 20.51; cf. gav am gâi ar dudalen 171, sef GRhB 10.43). Gan mai prin iawn yw’r enghreifftiau o’r ffurf ail berson unigol orchmynnol y ferf cau (gw. G 97 d.g. kaeu), bernir yn betrus mai cei a ddynodir gan ddarlleniad y llawysgrif. glod am ŵr cywir, glân,
Curig,1 Curig Fe’i cysylltir yn bennaf â Llangurig a Chapel Curig, ond y tebyg yw mai yn sgil cysegru eglwys Llanilid ger Pen-coed iddo ef ac i’w fam, Ilid, y cyfeirir ato yma, yn unol â’r ffaith mai seintiau a gysylltir ag eglwysi ym Morgannwg a’r cyffiniau a enwir yn nes ymlaen yn y gerdd. lle plyco arian.2 lle plyco arian Y ferf plygu a geir yma, yn hytrach na plycio, gyda’r calediad arferol i gytsain bôn berf ddibynnol, gw. GMW 128. Roedd yn arfer gan bererinion blygu darnau o arian wrth eu hoffrymu i ganolfan eglwysig, gw. Finucane 1977: 94–5; cf. CawrdafHRh llau. 25–6.
Synna, rhag ei lysenwi
– Sant teg, ei fabsant wyt ti –
5Curig, ni bu’n dwyn coron3 dwyn coron Gw. GPC Ar Lein d.g. coron 2 ‘dernyn o arian bath’; cf. ll. 2n, ll. 54n halbert a choron; GRhB 29.5. Diddorol nodi defnydd o’r un cyfuniad o eiriau mewn cywydd mawl gan Guto’r Glyn i Ddafydd Mathau o Landaf, lle cymherir meibion y noddwr i geirw cryfion, gw. GG.net 17.41–2 Fal na bydd na blaen na bôn, / Addwyn ceirw, heb ddwyn coron. Ymddengys mai trosiad am ‘dyfu cyrn’ yw dwyn coron yn y gerdd honno, gyda’r ystyr mai gwŷr ar eu prifiant oedd meibion Dafydd. Posibilrwydd arall yw bod y bardd o’r farn na fu’r un brenin yn well na’i noddwr fel rhyfelwr.
Ei well â phwys llaw a ffon.4 pwys llaw a ffon Cf. GIG XXVI.45–6 Rhoi pwys y ffon ar honno / Ar hyd ei phen – bu rhaid ffo. Dangos grym corfforol y noddwr yw’r nod yn y cwpled hwn.

Gwewyr Einon a Gronwy
Ac Owain,5 Llau. 7–8. Ni ellir ond dyfalu pwy oedd Einion a Gronwy / Ac Owain. Ai aelodau o deulu’r noddwr, ei frodyr neu ei feibion? fyth pa gŵyn fwy?
Cwynaw ar glod Cynwrig lân
10A Chadrod,6 Llau. 9–10. Nid yw’n eglur pwy oedd Cynwrig … / A Chadrod. Mae’r ffaith fod Cadrod yn enw anghyffredin yn awgrymu nad gwŷr cyffredin a oedd yn galaru dros y noddwr (fel y tri gŵr uchod, efallai) yw’r ddau ŵr hyn, eithr dau enwogyn. Ond, os felly, nid enwogion mohonynt erbyn heddiw. Ni ellir ond dyfalu pwy oedd Cynwrig, ac ni ellir ond awgrymu mai Cadrod Calchfynydd oedd y llall, sef mab yng nghyfraith i Frychan Brycheiniog, gw. GRhGE 23–4n. Nid oes dim yn hysbys am Gadrod sy’n fodd i oleuo’r cyfeiriad yma, ond y tebyg yw ei fod ef a Chynwrig yn arwyr o’r gorffennol, a bod y bardd yn taeru y byddai ei noddwr cystal â hwy pe câi fywyd hirach. o châi oedran.

Llaw dyn – pell y’i adwaenynt –
Llaw’n dwyn gwayw yn⁠2 gwayw yn Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, gwaew’n, er mwyn ymestyn hyd y ll. Gellid gwneud yr un peth i Llaw’n ar ddechrau’r ll., ond bernir mai gwell fyddai gwneud hynny yn yr orffwysfa. Llundain gynt,
Ei ddwrn a’i fwa, ddyrnaid,
Amlyn7 Amlyn Cymeriad o’r chwedl Kedymdeithyas Amlyn ac Amic, a geir yn Llyfr Coch Hergest ac a seiliwyd ar y testun Lladin, Vita Sanctorum Amici et Amelii. Roedd Amlyn a’i gyfaill, Amig, yn nodedig am eu cyfeillgarwch, ac fe’u lladdwyd gyda’i gilydd mewn brwydr, gw. KAA2. gorff, ymlaen a gaid,
15Byd gwych, a dwyn bwyd a gwin8 dwyn bwyd a gwin Os ‘cario’ yw ystyr dwyn yma, ymddengys fod y noddwr wedi gweini ar y teulu brenhinol, yn ôl pob tebyg ym mhalas Sheen (gw. ll. 18n). Ac ystyried y cyfeiriadau ato’n dwyn arfau yn llau. 11–14 (cf. llau. 51–6), bu’n gwasanaethu fel milwr hefyd, a gall mai un o Iwmyn y Gard ydoedd, gw. y nodyn cefndir. Fel arall, gall mai ‘cymryd’ yw ystyr dwyn, a bod y noddwr wedi cydwledda gyda Beirdd breiniol bwrdd y brenin, efallai fel bardd ei hunan neu ynteu fel telynor, onid y ddau, gw. llau. 57–8n.
Beirdd breiniol bwrdd y brenin.
Pan ddaeth i’r pen ydd athoedd⁠3 Pan ddaeth i’r pen ydd athoedd Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, pan davth ir penn i dathoedd.
Tân y Sin⁠9 tân y Sin Dinistrwyd hen balas brenhinol Sheen yn Llundain gan dân ar 23 Rhagfyr 1497. Yn fuan wedyn, achubodd Harri VII ar y cyfle i ailadeiladu palas ysblennydd ar y safle, ar lan afon Tafwys yn Richmond. Roedd y safle’n adfail erbyn yr 17g. Am yr hanes, gw. Thurley 1993: 27–32. – ffortenus10 ffortenus Yr enghraifft gynharaf o’r ffurf amrywiol ar yr ansoddair ffortunus, nas nodir yn GPC Ar Lein d.g. oedd –
Rhoi’r brenin a’r frenhines11 Llau. 19–20. Harri VII (1457–1509) ac Elisabeth o Efrog (1466–1503).
20I’r tŵr12 [y] tŵr Tŵr Llundain, efallai, ond gall hefyd mai prif dŵr carreg palas Sheen ydoedd, a oroesodd y tân yn 1497, gw. ll. 18n tân y Sin⁠; Thurley 1993: 28–9. yn gryf o’r twrn gwres.

Pan ddêl ar y pen melyn13 y pen melyn Nid ymddengys mai’r noddwr yw hwn, eithr y diafol, gw. GPC Ar Lein d.g. melyn (b) ‘o liw melyn gwrthun (yn enw. am angau wedi ei bersonoli), marwol, anghymodlon, annymunol’; llau. 21–8n. Am enghreifftiau cynnar nas nodir yn GPC, gw. GIRh 9.48; CYSDT 16.37, 18.57n; ac, o bosibl, GPB 11.1.
Dial Duw, beth a dâl dyn?
Blino gŵr heb liw na gwedd,
Bai mal anaf bum mlynedd.14 Llau. 23‒4. Gellid hefyd drin bai fel berf: ‘Poenydio gŵr heb liw na ffurf / fyddai hyn fel anaf am bum mlynedd.’
25Fe wnaeth Duw sant o Antwn,15 Antwn Sant o’r Aifft ac un o feudwyaid enwocaf y byd Cristnogol, gw. y nodyn uchod.
Fe wna sant o fynwes hwn!16 Fe wna sant o fynwes hwn Gall mai ‘enaid’ yw ystyr mynwes yma, ond ni cheir enghraifft yn yr ystyr honno cyn 1574 yn GPC Ar Lein d.g. mynwes (c). Awgrymir bod y bardd yn honni y byddai’r boen ym mynwes ei noddwr yn ei buro.
Bei ber fai’r nos, ni dderfydd,17 Bei ber fai’r nos, ni dderfydd Cynghanedd lusg gysylltben (gw. CD 174–5), a defnydd anarferol o’r ansoddair benywaidd yn y traethiad er ei fwyn.
Bei ryw dwrn, nid byr y dydd.18 Llau. 21–8. Ymddengys y dylid ystyried y llau. hyn yng ngoleuni’r cyfeiriad yn ll. 25 at Antwn, sant o feudwy a oedd yn enwog am gael ei demtio yn yr anialwch gan y diafol ar ffurf ellyllon ac anifeiliaid gwyllt. Yn un o’r hanesion enwocaf amdano, dywedir ei fod wedi ymladd ag ellyllon mewn ogof cyn i’w ddilynwyr, ac yntau ar farw, gludo ei gorff i ddiogelwch. Pan ddaeth ato’i hun, mynnodd ddychwelyd i’r ogof i frwydro â’r ellyllon yr eildro, ond cyn iddynt fedru ymosod arno fe ddisgleiriodd goleuni arnynt ac fe ffoasant. Sylweddolodd Antwn fod Duw wedi ei achub, a gofynnodd wrtho pam nad oedd wedi ei gynorthwyo ynghynt. Atebodd Duw ei bod yn dda ganddo weld Antwn yn brwydro’r ellyllon ac yn byddai, yn sgil gwrhydri’r sant, yn peri iddo fod yn enwog ar draws y byd. Tebyg mai’r hyn a wna’r bardd yn llau. 21–2 yw darlunio diymadferthedd dyn, fel Antwn gynt, yn wyneb y frwydr oesol rhwng Duw a’r diafol, gan gyplysu dioddefaint dyn â dioddefaint y noddwr yn llau. 23–8. Anodd gwneud pen na chynffon o llau. 27‒8, ac eithrio fel disgrifiad o ddioddefaint y noddwr, sy’n gweld y nos a’r dydd fel ei gilydd yn hir a blinderus. Gellid hefyd, wrth newid yr atalnodi, gynnig aralleiriad gwahanol: ‘Pe bai’r nos nad yw’n darfod yn fyr, / pe bai’r diwrnod yn bwl heb fod yn fyr.’

Gŵr lliwiog o Gaerlleon⁠19 Gŵr lliwiog o Gaerlleon Delw enwog o Grist ar ffurf crog yn eglwys Ioan yng Nghaer, y grog enwocaf i Gymry’r Oesoedd Canol. Roedd wedi ei haddurno ag aur a gemau gwerthfawr, ac ychydig o arian hefyd, efallai, gw. Lewis 2005b: 20.
30Gwedy⁠4 Gwedy Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, gwed, er mwyn yr ystyr a hyd y ll. rhoi fry gwayw drwy’i fron,20 Gwedy rhoi fry gwayw drwy’i fron Am hanes y milwr yn trywanu ystlys Iesu wedi iddo farw ar y groes, gw. Ioan 19.31–7.
Mae llun ym mhell a enwir
Ym Mhen-rhys⁠21 Llau. 31–2. Yn ôl y gred, darganfuwyd delw o’r Forwyn Fair mewn derwen ger ffynnon a gysegrwyd i Fair ym Mhen-rhys, a hynny ar fryncyn rhwng cymoedd Rhondda Fawr a Rhondda Fach. Am gywydd mawl gan Risiart ap Rhys i Fair ym Mhen-rhys, gw. GRhB cerdd 5. i’r meinwr hir;22 [y] meinwr hir Ac ystyried y cyfeiriad digon digyswllt at grog Caer yn y cwpled blaenorol, gall mai Crist ydyw, ond y tebyg yw mai at y noddwr y cyfeirir yma.
Catwg23 Catwg Nawddsant Llancarfan ym Mro Morgannwg. Canodd Rhisiart ap Rhys ddau gywydd mawl iddo, gw. CadogRhRh1 a MWPSS cerdd 24. Ymddengys fod Catwg yn ffurf ar enw’r sant a ddefnyddid yn y de-ddwyrain yn benodol, gw. ibid. 327. yn amlwg a wnaeth
I gannyn feddeginaeth,24 feddeginaeth Ffurf dreigledig amrywiol, efallai, ar meddyginiaeth, nas nodir yn GPC Ar Lein d.g.
35Teilo25 Teilo Sant a gysylltir yn bennaf â Llandeilo Fawr yn nyffryn Tywi, ond diau mai yn sgil cysegru eglwys Llandaf iddo ef a dau sant arall y’i enwir yma. ym mhob⁠5 ym mhob Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, ’mhob, er mwyn estyn hyd y ll. tŷ aelwyn,26 tŷ aelwyn Eglwys wedi ei gwyngalchu.
Tyfodwg27 Tyfodwg Sant a goffeir yn Ystradyfodwg, plwyf yng nghwm Rhondda Fawr, ac yn Llandyfodwg i’r gorllewin o Donyrefail, sef Glynogwr heddiw, lle cysegrwyd eglwys iddo. at feudwy gwyn;28 meudwy gwyn Disgrifiad o ŵr crefyddol delfrydol, mae’n debyg, ond gall hefyd mai canmoliaeth ydyw i’r noddwr.
Nesaf, barod Sain Barwg,6 Nesaf, barod Sain Barwg Dilynir darlleniad y llawysgrif, ond gellid diwygio i Nesâ’n barod, Sain Barwg ‘tyrd yn agosach yn ewyllysgar, Sant Barwg’, ac ystyried pa mor debyg yw n ac v neu u yn orgraff rhai llawysgrifau.
Ni ddeily ar draws ddolur drwg;30 Ni ddeily ar draws ddolur drwg Gw. GPC Ar Lein d.g. daliaf a’r cyfuniad dal ar (iii) ‘to observe, mark, give heed to, attend to, notice, consider, regard’ (perthyn yr enghraifft gynharaf yno i 1547). Estynnir rhywfaint ar yr ystyr yn y golygiad hwn, gyda’r ergyd nad yw Barwg yn ‘goddef’ trais. Ystyrir [t]raws yn ansoddair i ddisgrifio [d]olur.
Derfel31 Derfel Sant a gysylltir yn bennaf â Llandderfel ym Meirionnydd, ond diau mai yn sgil cysegru iddo eglwys goll Llandderfel ger Cwm-brân y’i henwir yma, ynghyd â’r ffaith ei fod, fel noddwr y gerdd, yn enwog am ryfela, cf. ll. 39n isod. Safai’r eglwys goll honno ar lwybr y pererinion o abaty Llantarnam i Ben-rhys, gw. Gray 1996: 21. â chorff durfael,32 durfael Sef dur + mael ‘arfwisg fetel’. Nis ceir yn GPC Ar Lein, ond gw. d.g. mael3; cf. GLMorg 14.5–6 Bedd Maelgwn Gwynedd neu Gynan – durfael, / Bedd Derfel neu Frychan; GSC 17.28 Durfael pawl onn Derfel plaid. chwyrn,
40Yll deuoedd ac Elltëyrn.33 Elltëyrn Cyfeiriad unigryw, fe ymddengys, at nawddsant Llanilltern (neu Gapel Llanilltern) ym Morgannwg, ger Pen-tyrch ar gyrion Caerdydd; WATU 132.

Myned heb rodd, gormodd gwaith,
Meddyliaid am Dduw eilwaith.34 Llau. 41–2. Anodd gwybod beth yn union yw ystyr y cwpled hwn. Dyfelir mai’r noddwr yw’r un sydd wedi myned heb rodd, hynny yw bod ei weddïau ar y seintiau a enwir uchod heb eu hateb, ac yntau’n wael ei iechyd o hyd. Ymddengys mai disgrifiad o’r cyflwr hwnnw yw gormodd gwaith ‘anfadwaith eithafol’, cf. yr un cyfuniad o eiriau yn DG.net 152.19 i ddigrifio Jiwdas yn bradychu Crist. Yr ateb, yn ôl y bardd, yw dal ati i fyfyrio ar Dduw, ac efallai mai i’r diben hwnnw y cyfeirir at ddwy santes arall yn llau. 50 a 51, gw. y nodiadau.
Dyn wyf i dan35 i dan ‘O dan’, gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. i4. y nefoedd,
Dilyd gŵr, dyledog oedd.
45Sôn am ŵr dros win a medd
A fu farw yw f’oferedd,36 f’oferedd Tebyg y llinierir rhywfaint o effaith negyddol y disgrifiad hwn yn sgil y defnydd a wnaed o oferfardd ac oferwr i ddynodi beirdd crwydrol yn gyffredinol, gw. GPC Ar Lein d.g.
Gŵr fu yn gryf ei awen,
Gŵr a sant, wrth y Groes Wen.37 y Groes Wen Ceir o leiaf dri lle o’r enw hwn ym Morgannwg, a safai’r tri ar lwybrau’r pererinion i Ben-rhys. Roedd un ym Margam, ar y llwybr i Ben-rhys drwy Langynwyd, ac fe’i coffeir yno heddiw yn enwau dwy stryd wedi eu lleoli rhwng cyffyrdd 39 a 40 yr M4. Ceir un arall, mwy adnabyddus, yn y Groes Wen i’r gorllewin i Gaerffili, ar y llwybr o abaty Llantarnam i Ben-rhys, gw. Gray 1996: 26. Safai’r trydydd ar y llwybr o Landaf i Ben-rhys, ar gyrion Radur (A. Cook, gohebiaeth bersonol a Twixt Chain and Gorge www.radyr.org.uk 47–50, 79–80, 84, 99 (map)). Diau bod mwy. Yr unig un o’r tri lle hyn a saif o fewn tafliad carreg i dŷ nawdd y gellir ei gysylltu â Rhisiart yw’r Groes Wen ger Radur, nid nepell o gartref teulu Mathau. Cyfeiriodd Rhisiart at [g]weryl Cing Harri mewn cywydd mawl i Syr Wiliam Mathau ap Tomas Mathau, ŵyr i Ddafydd Mathau, un o noddwyr Guto’r Glyn, a urddwyd yn farchog ar faes Bosworth, gw. GRhB 28.14; GG.net cerdd 17. Fodd bynnag, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth i’w glymu wrth gynnwys y gerdd hon. Mae’r defnydd o’r fannod yn awgrymu mai enw priod a geir yma, ond nid yw’n amhosibl ychwaith mai cyfeiriad cyffredinol ydyw at y groes sanctaidd, cf. BeunoRhGE ll. 39; GLl 1.17; GLMorg 30.52. Ymhellach, gw. llau. 43–8n. 38 Llau. 43–8. Mae’n bur eglur mai at y noddwr y cyfeiria’r ferf rhôi yn ll. 50, sy’n awgrymu’n gryf mai ato ef hefyd y cyfeirir yn y llau. hyn fel gŵr bonheddig yr oedd Rhisiart ap Rhys yn ei ddilyn yn ffyddlon ac a ddisgrifir ganddo fel sant, cf. llau. 25–6. Fodd bynnag, cyfeirir at yr un person fel gŵr a fu farw yn ll. 46, er ei bod yn eglur fod y noddwr ar dir y byw. Tybed ai gormodiaith ryfedd yw sôn am dranc y noddwr yma? Neu ynteu a oedd y bardd wedi honni ar gam (hynny yw, yn ofer, gw. y nodyn nesaf) fod ei noddwr wedi marw?
Merch wen,39 merch wen Sef Sanwyr, gw. ll. 50n. y mae aur a chwyr
50Er swynaw y’u rhôi i Sanwyr;40 Sanwyr Cyfeiriad unigryw, fe ymddengys, at nawddsantes Llansanwyr ym Morgannwg, i’r gogledd o’r Bont-faen; WATU 139.
Mae Ceinwyr41 Ceinwyr Cyfeiriad unigryw arall, fe ymddengys, y tro hwn at nawddsantes Llangeinwyr ym Morgannwg, i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr; WATU 126. yn amcanu
Wellhau42 Llau. 51–2. Anodd esbonio’r treiglad ar ddechrau ail l. y cwpled, amcanu / Wellhau, ac eithrio drwy golli’r arddodiad i o ddechrau’r ll. neu yn sgil gwyrdroi’r arfer o beidio treiglo yn y safle hwnnw (am yr arfer, gw. TC 196). O ran y cyfuniad gwellhau pwynt ‘gwella cyflwr’, cf. DE 30 yr vn ym a ran amwynt / a all am hyn wellav ymhwynt.’i bwynt a’i rhoi lle bu,⁠7 Wellhau’i bwynt a’i rhoi lle bu Dilynir darlleniad y llawysgrif, rhoi. Bernir bod y ferf yn cyfeirio at [p]wynt ‘cyflwr’ fel enw benywaidd, gw. GPC Ar Lein d.g. pwynt1 (e).
Breichfyr⁠8 Breichfyr Unwyd y ddau air a geir yn narlleniad y llawysgrif, breuch fyr, cf. nisgwn ai am nis gwnâi yn ll. 56; GPC Ar Lein d.g. breichfawr, breichfras. yng nghwr bach y fron,43 Breichfyr yng nghwr bach y fron Disgrifiad o anaf y noddwr, fe ymddengys, ond niwlog yw’r ystyr. A oedd y fraich mewn sling? Neu ynteu a yw breichfyr yn gyfeiriad at ran o’r arf a roes anaf i’r noddwr, a dilyn y cyfeiriad yn y llinell nesaf at halbert, arf a chanddo fachyn byr yn ogystal â llafn mawr? Deellir bach yn ansoddair, ond gall mai enw ydyw ar ran o’r torso, fel y gesail, gw. GPC Ar Lein d.g. bach2 (a) ‘gafaelfach’ (hynny yw, ‘hook’), (b) ‘colyn’, (c) ‘cilfach, congl’; cf. llau. 57–8n. Ceir y bai camosodiad yn y ll. hon a’r tebyg yw mai ar ôl yng y rhoesai’r bardd yr orffwysfa, a dilyn ei hoffter o roi’r acen ar arddodiaid a mân eiriau tebyg, cf. ll. 36; CadogRhRh1 ll. 64; GRhB 28.20, 44, 53, 29.26, 29; ar yr arfer, gw. CD 266–8.
Brad chwerw44 brad chwerw Caledir -d dan effaith ch-, cf. CD 211–2. halbert⁠9 halbert Diwygir darlleniad y llawysgrif, halfbert, sydd efallai’n deillio o gamddeall tarddiad y gair, gw. OED Online d.g. halberd. a choron.45 halbert a choron Ffurf ar halbard yw halbert, gw. GPC Ar Lein d.g. ‘Bwyell ryfel ac iddi goes hir fel gwaywffon a phigyn blaenllym yn ymestyn yn uwch na’r llafn’. Ac ystyried y gallai’r noddwr fod wedi bod yn rhan o gard Harri VII (gw. y nodyn cefndir), diddorol nodi bod yr halbard yn un o brif arfau’r gwarchodlu hwnnw, gw. Hewerdine 2012: 54–5, 57–8. Nid yw ystyr coron lawn mor eglur. Yn ll. 5, fe’i defnyddir yn yr ystyr ‘darn o arian bath’ (gw. y nodyn), ond gall mai coron yn yr ystyr gyffredin heddiw ydyw yn y ll. hon. Darlunnid halbardiaid a choronau ar arfwisgoedd, ond ni ddaethpwyd o hyd i gyfuniad a fedrai daflu goleuni ar y ll. hon, gw. DWH iii. Fel arall, tybed ai pen y noddwr a feddylir, neu rwymyn a wisgai o’i amgylch, a chymryd ei fod wedi dioddef anaf iddo, gw. ll. 55 Os ei dâl sy â dolur; GPC Ar Lein d.g. coron 1 (a), (c).
55Os ei dâl sy â dolur,46 Os ei dâl sy â dolur Y tebyg yw fod tuedd i dalcen y noddwr grychu mewn poen. Noder hefyd y gred fod ysgrifen ar dalcen pawb ar Ddydd y Farn yn amlygu cyflwr ei enaid, gw. Rowlands 1956‒7.
Nis gwnâi ddyn ysgawn â’i ddur.
Chwith yw’r afel ar delyn,
Chwerw yw tant a chariad dyn.47 Llau. 57–8. Gall mai disgrifiad a geir yn y cwpled hwn o’r bardd yn cael hwyl ddrwg ar ganu’r delyn gan fod ei noddwr yn wael, yn unol ag arfer y beirdd o fynnu eu bod yn dioddef gyda’u noddwyr. Fel arall, os oedd y noddwr yn dioddef o anaf i’w fraich, tybed ai ato ef y cyfeirir yma fel un a gâi anhawster i ganu’r delyn? Ceir enghreifftiau lu o noddwyr yn ymddiddori yng nghrefft cerdd dafod a cherdd dant, a cf. y sôn am y noddwr ym mwynhau bwyd a gwin / Beirdd breiniol bwrdd y brenin yn llau. 15–16, a’r disgrifiad ohono fel Gŵr fu yn gryf ei awen yn ll. 47.
Ni chêl arf Achelarwy48 Ni chêl arf Achelarwy Cynghanedd drychben, o bosibl, ond efallai fod y bardd wedi anwybyddu f led-lafarog ac, os felly, gall mai cynghanedd lusg ydyw, gw. CD 155–6, 199–200. Ar Achiles, prif arwr y Groegiaid yn erbyn gwŷr Troea, gw. OCD 1213. Ar y ffurf, gw. G 435 d.g. Echel1.10 Achelarwy Diwygir darlleniad y llawysgrif, vwel arwy, gan ddilyn GRhB 8.59, cf. A chael awr Achelarwy mewn cywydd a briodolir i Dudur Aled ac i Lewys Morgannwg, TA CXXIII.45; GLMorg Atodiad ii.45 (a cf. yr amrywiadau ar y ll. honno ar dudalen 530). Tybed a oedd y ffurf Gymraeg ar enw Achiles yn aneglur yn y gynsail? Ar y llaw arall, cf. GRhB 10.36, lle diwygiwyd ai sdemor i Antenor, sef un o gynghorwyr Priam, brenin Troea. Tybed a oedd Richard Turbeville yn anghyfarwydd â’r ffurfiau hyn ar enwau arwyr y chwedl Roegaidd?
60O’r oes hon fyth rysyn49 grysyn Ffurf amrywiol ar gresyn, gw. GPC Ar Lein d.g. ‘trueni; poen, gofid; anffawd, aflwydd’; cf. Llst 164, 192 Rosser pam nad oedd ryssynn / amdy gorff roi amdo gwynn (cf. GRhB 24.21). fwy;50 Llau. 59–60. Ac ystyried y cyfeiriadau at fraich a llaw glwyfedig y noddwr (gw. ll. 53n), ymddengys mai’r arf y cyfeirir ato yn y cwpled hwn yw tarian Achiles, a ddisgrifir mewn cryn fanylder yn yr Iliad. Ni cheir sôn am y darian yn Ystoria Dared, ond gallai fod yn hysbys i’r bardd drwy’r Ilias Latina, fersiwn Ladin o’r chwedl a oedd yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol, gw. Rhŷs and Evans 1890: 1–39; Miles 2011: 107‒9.
Ni bu ’m mhân⁠11 mhân Gthg. darlleniad y llawysgrif, mhann. Gan fod orgraff y testun yn parchu’r hen sillafiad -nn mewn sillaf drom (cf. ll. 48 wenn), bu’n rhaid diwygio’r darlleniad er mwyn yr ystyr ac i osgoi’r bai trwm ac ysgafn, cf. CD 232‒5. Lloegr ei lanach,
Ni bydd o’i wayw o bydd iach.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Fe gei’r clod, Curig, ar gyfrif gŵr diffuant
a glân, lle plyga geiniogau.
Ystyria, rhag iddo gael ei ddifenwi
– sant teg, ti yw ei fabsant –
5Curig, ni bu neb a chanddo goron
yn well nag ef gyda phwysau llaw a ffon.

Poenau Einon a Gronwy
ac Owain, pa lef fwy erioed?
Llefain mewn cerdd fawl [am un cymesur â] Chynwrig glân
10a Chadrod, pe câi fyw.

Llaw dyn – roeddynt yn ei adnabod o bell –
llaw’n cario gwaywffon yn Llundain gynt,
ei ddwrn a’i fwa, llond dwrn,
corff Amlyn, a geid ar y blaen,
15byd gwych, a chymryd bwyd a gwin
beirdd breintiedig bwrdd y brenin.
Pan gyrhaeddodd y pen draw
lle roedd tân Sheen wedi mynd – roedd hynny’n ffodus –
rhoddodd y brenin a’r frenhines
20yn y tŵr yn ddiogel rhag yr ysbaid o wres.

Pan ddaw dial Duw ar yr un marwol,
pa werth yw dyn?
Poenydio gŵr heb liw na ffurf,
nam fel anaf am bum mlynedd.
25Fe wnaeth Duw sant o Antwn,
fe wna sant ar gyfrif mynwes y gŵr hwn!
Os byr fyddai’r nos, nid yw’n darfod,
pe bai [ond] rhyw bwl, nid byr mo’r dydd.

Y Gŵr wedi ei liwio o Gaer
30ar ôl i waywffon gael ei gwthio drwy ei fron fry,
mae delw ym Mhen-rhys y datgenir ymhell amdano
ar gyfer y gŵr main a thal;
Cadog yn amlwg a wnaeth
foddion i gannoedd o wŷr,
35Teilo ym mhob tŷ gwyngalchog,
Tyfodwg ar gyfer meudwy bendigaid;
nesaf, Sant Barwg ewyllysgar,
nid yw’n goddef dolur treisgar, drwg;
Derfel â chorff bywiog mewn arfwisg ddur
40ac Ellteyrn ill dau.

Mynd heb rodd, anfadwaith eithafol,
myfyrio ar Dduw eilwaith.
Dyn wyf o dan y nefoedd,
dilyn gŵr, bonheddig oedd.
45Sôn dros win a medd am ŵr
a fu farw yw fy ffolineb,
gŵr a fu’n gryf ei awen,
gŵr a sant, wrth y Groes Wen.
Merch deg, mae aur a chwyr
50a roddai i Sanwyr yn gyfnewid am fendithio;
mae Ceinwyr yn bwriadu
gwella ac adfer ei gyflwr,
un byr ei fraich yng nghornel fach y fron,
brad poenus halbard a choron.
55Os yw ei dalcen yn arddangos dolur,
nid dyn dibwys a wnâi hynny â’i ddur.
Chwithig yw’r afael ar delyn,
chwerw yw tant a chariad dyn.
Ni chela arf Achiles o’r oes hon
60fyth anffawd fwy;
ni bu neb harddach mewn ffwr o Loegr,
[ac] ni bydd os bydd yn iach o’i boen.

1 Curig Fe’i cysylltir yn bennaf â Llangurig a Chapel Curig, ond y tebyg yw mai yn sgil cysegru eglwys Llanilid ger Pen-coed iddo ef ac i’w fam, Ilid, y cyfeirir ato yma, yn unol â’r ffaith mai seintiau a gysylltir ag eglwysi ym Morgannwg a’r cyffiniau a enwir yn nes ymlaen yn y gerdd.

2 lle plyco arian Y ferf plygu a geir yma, yn hytrach na plycio, gyda’r calediad arferol i gytsain bôn berf ddibynnol, gw. GMW 128. Roedd yn arfer gan bererinion blygu darnau o arian wrth eu hoffrymu i ganolfan eglwysig, gw. Finucane 1977: 94–5; cf. CawrdafHRh llau. 25–6.

3 dwyn coron Gw. GPC Ar Lein d.g. coron 2 ‘dernyn o arian bath’; cf. ll. 2n, ll. 54n halbert a choron; GRhB 29.5. Diddorol nodi defnydd o’r un cyfuniad o eiriau mewn cywydd mawl gan Guto’r Glyn i Ddafydd Mathau o Landaf, lle cymherir meibion y noddwr i geirw cryfion, gw. GG.net 17.41–2 Fal na bydd na blaen na bôn, / Addwyn ceirw, heb ddwyn coron. Ymddengys mai trosiad am ‘dyfu cyrn’ yw dwyn coron yn y gerdd honno, gyda’r ystyr mai gwŷr ar eu prifiant oedd meibion Dafydd. Posibilrwydd arall yw bod y bardd o’r farn na fu’r un brenin yn well na’i noddwr fel rhyfelwr.

4 pwys llaw a ffon Cf. GIG XXVI.45–6 Rhoi pwys y ffon ar honno / Ar hyd ei phen – bu rhaid ffo. Dangos grym corfforol y noddwr yw’r nod yn y cwpled hwn.

5 Llau. 7–8. Ni ellir ond dyfalu pwy oedd Einion a Gronwy / Ac Owain. Ai aelodau o deulu’r noddwr, ei frodyr neu ei feibion?

6 Llau. 9–10. Nid yw’n eglur pwy oedd Cynwrig … / A Chadrod. Mae’r ffaith fod Cadrod yn enw anghyffredin yn awgrymu nad gwŷr cyffredin a oedd yn galaru dros y noddwr (fel y tri gŵr uchod, efallai) yw’r ddau ŵr hyn, eithr dau enwogyn. Ond, os felly, nid enwogion mohonynt erbyn heddiw. Ni ellir ond dyfalu pwy oedd Cynwrig, ac ni ellir ond awgrymu mai Cadrod Calchfynydd oedd y llall, sef mab yng nghyfraith i Frychan Brycheiniog, gw. GRhGE 23–4n. Nid oes dim yn hysbys am Gadrod sy’n fodd i oleuo’r cyfeiriad yma, ond y tebyg yw ei fod ef a Chynwrig yn arwyr o’r gorffennol, a bod y bardd yn taeru y byddai ei noddwr cystal â hwy pe câi fywyd hirach.

7 Amlyn Cymeriad o’r chwedl Kedymdeithyas Amlyn ac Amic, a geir yn Llyfr Coch Hergest ac a seiliwyd ar y testun Lladin, Vita Sanctorum Amici et Amelii. Roedd Amlyn a’i gyfaill, Amig, yn nodedig am eu cyfeillgarwch, ac fe’u lladdwyd gyda’i gilydd mewn brwydr, gw. KAA2.

8 dwyn bwyd a gwin Os ‘cario’ yw ystyr dwyn yma, ymddengys fod y noddwr wedi gweini ar y teulu brenhinol, yn ôl pob tebyg ym mhalas Sheen (gw. ll. 18n). Ac ystyried y cyfeiriadau ato’n dwyn arfau yn llau. 11–14 (cf. llau. 51–6), bu’n gwasanaethu fel milwr hefyd, a gall mai un o Iwmyn y Gard ydoedd, gw. y nodyn cefndir. Fel arall, gall mai ‘cymryd’ yw ystyr dwyn, a bod y noddwr wedi cydwledda gyda Beirdd breiniol bwrdd y brenin, efallai fel bardd ei hunan neu ynteu fel telynor, onid y ddau, gw. llau. 57–8n.

9 tân y Sin Dinistrwyd hen balas brenhinol Sheen yn Llundain gan dân ar 23 Rhagfyr 1497. Yn fuan wedyn, achubodd Harri VII ar y cyfle i ailadeiladu palas ysblennydd ar y safle, ar lan afon Tafwys yn Richmond. Roedd y safle’n adfail erbyn yr 17g. Am yr hanes, gw. Thurley 1993: 27–32.

10 ffortenus Yr enghraifft gynharaf o’r ffurf amrywiol ar yr ansoddair ffortunus, nas nodir yn GPC Ar Lein d.g.

11 Llau. 19–20. Harri VII (1457–1509) ac Elisabeth o Efrog (1466–1503).

12 [y] tŵr Tŵr Llundain, efallai, ond gall hefyd mai prif dŵr carreg palas Sheen ydoedd, a oroesodd y tân yn 1497, gw. ll. 18n tân y Sin⁠; Thurley 1993: 28–9.

13 y pen melyn Nid ymddengys mai’r noddwr yw hwn, eithr y diafol, gw. GPC Ar Lein d.g. melyn (b) ‘o liw melyn gwrthun (yn enw. am angau wedi ei bersonoli), marwol, anghymodlon, annymunol’; llau. 21–8n. Am enghreifftiau cynnar nas nodir yn GPC, gw. GIRh 9.48; CYSDT 16.37, 18.57n; ac, o bosibl, GPB 11.1.

14 Llau. 23‒4. Gellid hefyd drin bai fel berf: ‘Poenydio gŵr heb liw na ffurf / fyddai hyn fel anaf am bum mlynedd.’

15 Antwn Sant o’r Aifft ac un o feudwyaid enwocaf y byd Cristnogol, gw. y nodyn uchod.

16 Fe wna sant o fynwes hwn Gall mai ‘enaid’ yw ystyr mynwes yma, ond ni cheir enghraifft yn yr ystyr honno cyn 1574 yn GPC Ar Lein d.g. mynwes (c). Awgrymir bod y bardd yn honni y byddai’r boen ym mynwes ei noddwr yn ei buro.

17 Bei ber fai’r nos, ni dderfydd Cynghanedd lusg gysylltben (gw. CD 174–5), a defnydd anarferol o’r ansoddair benywaidd yn y traethiad er ei fwyn.

18 Llau. 21–8. Ymddengys y dylid ystyried y llau. hyn yng ngoleuni’r cyfeiriad yn ll. 25 at Antwn, sant o feudwy a oedd yn enwog am gael ei demtio yn yr anialwch gan y diafol ar ffurf ellyllon ac anifeiliaid gwyllt. Yn un o’r hanesion enwocaf amdano, dywedir ei fod wedi ymladd ag ellyllon mewn ogof cyn i’w ddilynwyr, ac yntau ar farw, gludo ei gorff i ddiogelwch. Pan ddaeth ato’i hun, mynnodd ddychwelyd i’r ogof i frwydro â’r ellyllon yr eildro, ond cyn iddynt fedru ymosod arno fe ddisgleiriodd goleuni arnynt ac fe ffoasant. Sylweddolodd Antwn fod Duw wedi ei achub, a gofynnodd wrtho pam nad oedd wedi ei gynorthwyo ynghynt. Atebodd Duw ei bod yn dda ganddo weld Antwn yn brwydro’r ellyllon ac yn byddai, yn sgil gwrhydri’r sant, yn peri iddo fod yn enwog ar draws y byd. Tebyg mai’r hyn a wna’r bardd yn llau. 21–2 yw darlunio diymadferthedd dyn, fel Antwn gynt, yn wyneb y frwydr oesol rhwng Duw a’r diafol, gan gyplysu dioddefaint dyn â dioddefaint y noddwr yn llau. 23–8. Anodd gwneud pen na chynffon o llau. 27‒8, ac eithrio fel disgrifiad o ddioddefaint y noddwr, sy’n gweld y nos a’r dydd fel ei gilydd yn hir a blinderus. Gellid hefyd, wrth newid yr atalnodi, gynnig aralleiriad gwahanol: ‘Pe bai’r nos nad yw’n darfod yn fyr, / pe bai’r diwrnod yn bwl heb fod yn fyr.’

19 Gŵr lliwiog o Gaerlleon Delw enwog o Grist ar ffurf crog yn eglwys Ioan yng Nghaer, y grog enwocaf i Gymry’r Oesoedd Canol. Roedd wedi ei haddurno ag aur a gemau gwerthfawr, ac ychydig o arian hefyd, efallai, gw. Lewis 2005b: 20.

20 Gwedy rhoi fry gwayw drwy’i fron Am hanes y milwr yn trywanu ystlys Iesu wedi iddo farw ar y groes, gw. Ioan 19.31–7.

21 Llau. 31–2. Yn ôl y gred, darganfuwyd delw o’r Forwyn Fair mewn derwen ger ffynnon a gysegrwyd i Fair ym Mhen-rhys, a hynny ar fryncyn rhwng cymoedd Rhondda Fawr a Rhondda Fach. Am gywydd mawl gan Risiart ap Rhys i Fair ym Mhen-rhys, gw. GRhB cerdd 5.

22 [y] meinwr hir Ac ystyried y cyfeiriad digon digyswllt at grog Caer yn y cwpled blaenorol, gall mai Crist ydyw, ond y tebyg yw mai at y noddwr y cyfeirir yma.

23 Catwg Nawddsant Llancarfan ym Mro Morgannwg. Canodd Rhisiart ap Rhys ddau gywydd mawl iddo, gw. CadogRhRh1 a MWPSS cerdd 24. Ymddengys fod Catwg yn ffurf ar enw’r sant a ddefnyddid yn y de-ddwyrain yn benodol, gw. ibid. 327.

24 feddeginaeth Ffurf dreigledig amrywiol, efallai, ar meddyginiaeth, nas nodir yn GPC Ar Lein d.g.

25 Teilo Sant a gysylltir yn bennaf â Llandeilo Fawr yn nyffryn Tywi, ond diau mai yn sgil cysegru eglwys Llandaf iddo ef a dau sant arall y’i enwir yma.

26 tŷ aelwyn Eglwys wedi ei gwyngalchu.

27 Tyfodwg Sant a goffeir yn Ystradyfodwg, plwyf yng nghwm Rhondda Fawr, ac yn Llandyfodwg i’r gorllewin o Donyrefail, sef Glynogwr heddiw, lle cysegrwyd eglwys iddo.

28 meudwy gwyn Disgrifiad o ŵr crefyddol delfrydol, mae’n debyg, ond gall hefyd mai canmoliaeth ydyw i’r noddwr.

29 Nesaf, barod Sain Barwg Coffeir Barwg yn enw tref y Barri ym Mro Morgannwg a chysegrwyd iddo eglwys Bedwas ger Caerffili, a safai ar lwybr y pererinion o abaty Llantarnam i Ben-rhys; Gray 1996: 23. Ceir bai camosodiad yn y ll. hon.

30 Ni ddeily ar draws ddolur drwg Gw. GPC Ar Lein d.g. daliaf a’r cyfuniad dal ar (iii) ‘to observe, mark, give heed to, attend to, notice, consider, regard’ (perthyn yr enghraifft gynharaf yno i 1547). Estynnir rhywfaint ar yr ystyr yn y golygiad hwn, gyda’r ergyd nad yw Barwg yn ‘goddef’ trais. Ystyrir [t]raws yn ansoddair i ddisgrifio [d]olur.

31 Derfel Sant a gysylltir yn bennaf â Llandderfel ym Meirionnydd, ond diau mai yn sgil cysegru iddo eglwys goll Llandderfel ger Cwm-brân y’i henwir yma, ynghyd â’r ffaith ei fod, fel noddwr y gerdd, yn enwog am ryfela, cf. ll. 39n isod. Safai’r eglwys goll honno ar lwybr y pererinion o abaty Llantarnam i Ben-rhys, gw. Gray 1996: 21.

32 durfael Sef dur + mael ‘arfwisg fetel’. Nis ceir yn GPC Ar Lein, ond gw. d.g. mael3; cf. GLMorg 14.5–6 Bedd Maelgwn Gwynedd neu Gynan – durfael, / Bedd Derfel neu Frychan; GSC 17.28 Durfael pawl onn Derfel plaid.

33 Elltëyrn Cyfeiriad unigryw, fe ymddengys, at nawddsant Llanilltern (neu Gapel Llanilltern) ym Morgannwg, ger Pen-tyrch ar gyrion Caerdydd; WATU 132.

34 Llau. 41–2. Anodd gwybod beth yn union yw ystyr y cwpled hwn. Dyfelir mai’r noddwr yw’r un sydd wedi myned heb rodd, hynny yw bod ei weddïau ar y seintiau a enwir uchod heb eu hateb, ac yntau’n wael ei iechyd o hyd. Ymddengys mai disgrifiad o’r cyflwr hwnnw yw gormodd gwaith ‘anfadwaith eithafol’, cf. yr un cyfuniad o eiriau yn DG.net 152.19 i ddigrifio Jiwdas yn bradychu Crist. Yr ateb, yn ôl y bardd, yw dal ati i fyfyrio ar Dduw, ac efallai mai i’r diben hwnnw y cyfeirir at ddwy santes arall yn llau. 50 a 51, gw. y nodiadau.

35 i dan ‘O dan’, gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. i4.

36 f’oferedd Tebyg y llinierir rhywfaint o effaith negyddol y disgrifiad hwn yn sgil y defnydd a wnaed o oferfardd ac oferwr i ddynodi beirdd crwydrol yn gyffredinol, gw. GPC Ar Lein d.g.

37 y Groes Wen Ceir o leiaf dri lle o’r enw hwn ym Morgannwg, a safai’r tri ar lwybrau’r pererinion i Ben-rhys. Roedd un ym Margam, ar y llwybr i Ben-rhys drwy Langynwyd, ac fe’i coffeir yno heddiw yn enwau dwy stryd wedi eu lleoli rhwng cyffyrdd 39 a 40 yr M4. Ceir un arall, mwy adnabyddus, yn y Groes Wen i’r gorllewin i Gaerffili, ar y llwybr o abaty Llantarnam i Ben-rhys, gw. Gray 1996: 26. Safai’r trydydd ar y llwybr o Landaf i Ben-rhys, ar gyrion Radur (A. Cook, gohebiaeth bersonol a Twixt Chain and Gorge www.radyr.org.uk 47–50, 79–80, 84, 99 (map)). Diau bod mwy. Yr unig un o’r tri lle hyn a saif o fewn tafliad carreg i dŷ nawdd y gellir ei gysylltu â Rhisiart yw’r Groes Wen ger Radur, nid nepell o gartref teulu Mathau. Cyfeiriodd Rhisiart at [g]weryl Cing Harri mewn cywydd mawl i Syr Wiliam Mathau ap Tomas Mathau, ŵyr i Ddafydd Mathau, un o noddwyr Guto’r Glyn, a urddwyd yn farchog ar faes Bosworth, gw. GRhB 28.14; GG.net cerdd 17. Fodd bynnag, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth i’w glymu wrth gynnwys y gerdd hon. Mae’r defnydd o’r fannod yn awgrymu mai enw priod a geir yma, ond nid yw’n amhosibl ychwaith mai cyfeiriad cyffredinol ydyw at y groes sanctaidd, cf. BeunoRhGE ll. 39; GLl 1.17; GLMorg 30.52. Ymhellach, gw. llau. 43–8n.

38 Llau. 43–8. Mae’n bur eglur mai at y noddwr y cyfeiria’r ferf rhôi yn ll. 50, sy’n awgrymu’n gryf mai ato ef hefyd y cyfeirir yn y llau. hyn fel gŵr bonheddig yr oedd Rhisiart ap Rhys yn ei ddilyn yn ffyddlon ac a ddisgrifir ganddo fel sant, cf. llau. 25–6. Fodd bynnag, cyfeirir at yr un person fel gŵr a fu farw yn ll. 46, er ei bod yn eglur fod y noddwr ar dir y byw. Tybed ai gormodiaith ryfedd yw sôn am dranc y noddwr yma? Neu ynteu a oedd y bardd wedi honni ar gam (hynny yw, yn ofer, gw. y nodyn nesaf) fod ei noddwr wedi marw?

39 merch wen Sef Sanwyr, gw. ll. 50n.

40 Sanwyr Cyfeiriad unigryw, fe ymddengys, at nawddsantes Llansanwyr ym Morgannwg, i’r gogledd o’r Bont-faen; WATU 139.

41 Ceinwyr Cyfeiriad unigryw arall, fe ymddengys, y tro hwn at nawddsantes Llangeinwyr ym Morgannwg, i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr; WATU 126.

42 Llau. 51–2. Anodd esbonio’r treiglad ar ddechrau ail l. y cwpled, amcanu / Wellhau, ac eithrio drwy golli’r arddodiad i o ddechrau’r ll. neu yn sgil gwyrdroi’r arfer o beidio treiglo yn y safle hwnnw (am yr arfer, gw. TC 196). O ran y cyfuniad gwellhau pwynt ‘gwella cyflwr’, cf. DE 30 yr vn ym a ran amwynt / a all am hyn wellav ymhwynt.

43 Breichfyr yng nghwr bach y fron Disgrifiad o anaf y noddwr, fe ymddengys, ond niwlog yw’r ystyr. A oedd y fraich mewn sling? Neu ynteu a yw breichfyr yn gyfeiriad at ran o’r arf a roes anaf i’r noddwr, a dilyn y cyfeiriad yn y llinell nesaf at halbert, arf a chanddo fachyn byr yn ogystal â llafn mawr? Deellir bach yn ansoddair, ond gall mai enw ydyw ar ran o’r torso, fel y gesail, gw. GPC Ar Lein d.g. bach2 (a) ‘gafaelfach’ (hynny yw, ‘hook’), (b) ‘colyn’, (c) ‘cilfach, congl’; cf. llau. 57–8n. Ceir y bai camosodiad yn y ll. hon a’r tebyg yw mai ar ôl yng y rhoesai’r bardd yr orffwysfa, a dilyn ei hoffter o roi’r acen ar arddodiaid a mân eiriau tebyg, cf. ll. 36; CadogRhRh1 ll. 64; GRhB 28.20, 44, 53, 29.26, 29; ar yr arfer, gw. CD 266–8.

44 brad chwerw Caledir -d dan effaith ch-, cf. CD 211–2.

45 halbert a choron Ffurf ar halbard yw halbert, gw. GPC Ar Lein d.g. ‘Bwyell ryfel ac iddi goes hir fel gwaywffon a phigyn blaenllym yn ymestyn yn uwch na’r llafn’. Ac ystyried y gallai’r noddwr fod wedi bod yn rhan o gard Harri VII (gw. y nodyn cefndir), diddorol nodi bod yr halbard yn un o brif arfau’r gwarchodlu hwnnw, gw. Hewerdine 2012: 54–5, 57–8. Nid yw ystyr coron lawn mor eglur. Yn ll. 5, fe’i defnyddir yn yr ystyr ‘darn o arian bath’ (gw. y nodyn), ond gall mai coron yn yr ystyr gyffredin heddiw ydyw yn y ll. hon. Darlunnid halbardiaid a choronau ar arfwisgoedd, ond ni ddaethpwyd o hyd i gyfuniad a fedrai daflu goleuni ar y ll. hon, gw. DWH iii. Fel arall, tybed ai pen y noddwr a feddylir, neu rwymyn a wisgai o’i amgylch, a chymryd ei fod wedi dioddef anaf iddo, gw. ll. 55 Os ei dâl sy â dolur; GPC Ar Lein d.g. coron 1 (a), (c).

46 Os ei dâl sy â dolur Y tebyg yw fod tuedd i dalcen y noddwr grychu mewn poen. Noder hefyd y gred fod ysgrifen ar dalcen pawb ar Ddydd y Farn yn amlygu cyflwr ei enaid, gw. Rowlands 1956‒7.

47 Llau. 57–8. Gall mai disgrifiad a geir yn y cwpled hwn o’r bardd yn cael hwyl ddrwg ar ganu’r delyn gan fod ei noddwr yn wael, yn unol ag arfer y beirdd o fynnu eu bod yn dioddef gyda’u noddwyr. Fel arall, os oedd y noddwr yn dioddef o anaf i’w fraich, tybed ai ato ef y cyfeirir yma fel un a gâi anhawster i ganu’r delyn? Ceir enghreifftiau lu o noddwyr yn ymddiddori yng nghrefft cerdd dafod a cherdd dant, a cf. y sôn am y noddwr ym mwynhau bwyd a gwin / Beirdd breiniol bwrdd y brenin yn llau. 15–16, a’r disgrifiad ohono fel Gŵr fu yn gryf ei awen yn ll. 47.

48 Ni chêl arf Achelarwy Cynghanedd drychben, o bosibl, ond efallai fod y bardd wedi anwybyddu f led-lafarog ac, os felly, gall mai cynghanedd lusg ydyw, gw. CD 155–6, 199–200. Ar Achiles, prif arwr y Groegiaid yn erbyn gwŷr Troea, gw. OCD 1213. Ar y ffurf, gw. G 435 d.g. Echel1.

49 grysyn Ffurf amrywiol ar gresyn, gw. GPC Ar Lein d.g. ‘trueni; poen, gofid; anffawd, aflwydd’; cf. Llst 164, 192 Rosser pam nad oedd ryssynn / amdy gorff roi amdo gwynn (cf. GRhB 24.21).

50 Llau. 59–60. Ac ystyried y cyfeiriadau at fraich a llaw glwyfedig y noddwr (gw. ll. 53n), ymddengys mai’r arf y cyfeirir ato yn y cwpled hwn yw tarian Achiles, a ddisgrifir mewn cryn fanylder yn yr Iliad. Ni cheir sôn am y darian yn Ystoria Dared, ond gallai fod yn hysbys i’r bardd drwy’r Ilias Latina, fersiwn Ladin o’r chwedl a oedd yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol, gw. Rhŷs and Evans 1890: 1–39; Miles 2011: 107‒9.

1 Cei Gan mor anghyson yw orgraff testunau Richard Turbeville yn y llawysgrif, nid yw’n eglur beth a ddynodir gan ddarlleniad y llawysgrif, Cev. Ceir dau bosibil¬rwydd, a’r ddau gystal â’i gilydd o ran ystyr. Yn GRhB 8.1, ceir Cau, sef ffurf ail berson unigol orchmynnol y ferf cau, gyda’r ystyr ‘amddiffynna, diogela’, gw. GPC Ar Lein d.g. caeaf (b). Sylwer ar y defnydd o’r un ffurf ar y ferf synnu yn ll. 3. Defnyddiodd Rhisiart ffurf fwy cyffredin ar y ferf cau, yn yr un ystyr, mewn cerdd arall, gw. GRhB 10.39.40 A gwŷr Ffrainc … / … yn cau’r Eidal⁠; cf. TA III.4 yn cau’r ffydd. O ran yr orgraff, cf. GRhB 38.54, 56, sef dwy l. yn rhan olaf y cywydd a gofnodwyd o flaen y cywydd hwn yn y llawysgrif, lle ceir y ffurfiau lluosog pvnnev a donnav. Yr ail bosibilrwydd yw mai ffurf ail berson unigol bresennol y ferf cael a geir yma, sef cei. O ran orgraff, cf. cav a geu am y gair hwnnw ar dudalennau 156 ac 181 yn y llawysgrif, yn y drefn honno (gw. GRhB 38.60, 20.51; cf. gav am gâi ar dudalen 171, sef GRhB 10.43). Gan mai prin iawn yw’r enghreifftiau o’r ffurf ail berson unigol orchmynnol y ferf cau (gw. G 97 d.g. kaeu), bernir yn betrus mai cei a ddynodir gan ddarlleniad y llawysgrif.

2 gwayw yn Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, gwaew’n, er mwyn ymestyn hyd y ll. Gellid gwneud yr un peth i Llaw’n ar ddechrau’r ll., ond bernir mai gwell fyddai gwneud hynny yn yr orffwysfa.

3 Pan ddaeth i’r pen ydd athoedd Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, pan davth ir penn i dathoedd.

4 Gwedy Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, gwed, er mwyn yr ystyr a hyd y ll.

5 ym mhob Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, ’mhob, er mwyn estyn hyd y ll.

6 Nesaf, barod Sain Barwg Dilynir darlleniad y llawysgrif, ond gellid diwygio i Nesâ’n barod, Sain Barwg ‘tyrd yn agosach yn ewyllysgar, Sant Barwg’, ac ystyried pa mor debyg yw n ac v neu u yn orgraff rhai llawysgrifau.

7 Wellhau’i bwynt a’i rhoi lle bu Dilynir darlleniad y llawysgrif, rhoi. Bernir bod y ferf yn cyfeirio at [p]wynt ‘cyflwr’ fel enw benywaidd, gw. GPC Ar Lein d.g. pwynt1 (e).

8 Breichfyr Unwyd y ddau air a geir yn narlleniad y llawysgrif, breuch fyr, cf. nisgwn ai am nis gwnâi yn ll. 56; GPC Ar Lein d.g. breichfawr, breichfras.

9 halbert Diwygir darlleniad y llawysgrif, halfbert, sydd efallai’n deillio o gamddeall tarddiad y gair, gw. OED Online d.g. halberd.

10 Achelarwy Diwygir darlleniad y llawysgrif, vwel arwy, gan ddilyn GRhB 8.59, cf. A chael awr Achelarwy mewn cywydd a briodolir i Dudur Aled ac i Lewys Morgannwg, TA CXXIII.45; GLMorg Atodiad ii.45 (a cf. yr amrywiadau ar y ll. honno ar dudalen 530). Tybed a oedd y ffurf Gymraeg ar enw Achiles yn aneglur yn y gynsail? Ar y llaw arall, cf. GRhB 10.36, lle diwygiwyd ai sdemor i Antenor, sef un o gynghorwyr Priam, brenin Troea. Tybed a oedd Richard Turbeville yn anghyfarwydd â’r ffurfiau hyn ar enwau arwyr y chwedl Roegaidd?

11 mhân Gthg. darlleniad y llawysgrif, mhann. Gan fod orgraff y testun yn parchu’r hen sillafiad -nn mewn sillaf drom (cf. ll. 48 wenn), bu’n rhaid diwygio’r darlleniad er mwyn yr ystyr ac i osgoi’r bai trwm ac ysgafn, cf. CD 232‒5.