Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

14. Moliant i seintiau Morgannwg

golygwyd gan Eurig Salisbury

Rhagymadrodd

Ychydig iawn y gellir ei ddweud i sicrwydd am y cywydd hwn gan Risiart ap Rhys. Cyferchir Curig yn uniongyrchol yn chwe llinell gyntaf y gerdd, gan ddwyn i’w sylw enw da’r noddwr. Roedd Curig yn fabsant i’r noddwr hwnnw, nas enwir yn y gerdd. A dilyn y cyfeiriadau at lefydd ym Morgannwg yn nes ymlaen yn y gerdd, efallai fod y noddwr yn byw yng nghyffiniau eglwys Llanilid, a gysegrwyd i Gurig a’i fam, ger Pen-coed, ond mae lleoliadau eraill ym Morgannwg ym bosibl. Daw tro annisgwyl yn llinellau 7–10, gyda sôn am wewyr tri o ddynion anhysbys, sef Einion, Gronwy ac Owain, a chyfeiriad annelwig at ddau ŵr arall anhysbys, Cynwrig a Chadrod. Sonnir wedyn am helyntion y noddwr yn Llundain, lle bu’n dwyn arfau, yn gloddesta gyda Beirdd breiniol bwrdd y brenin ac, yn fwyaf diddorol, yn diogelu Harri VII a’r frenhines Elisabeth pan ddinistriwyd palas Sheen gan dân ar 23 Rhagfyr 1497 (11–20). Mae’n bosibl fod y noddwr yn un o nifer o Gymry a wasanaethodd yng ngard personol y brenin (gw. ll. 15n). Bu un o Iwmyn y Gard, John Thomas (fl. c.1485–c.1531), yn rhysyfwr Ogwr ac mae’n bosibl iddo fyw am gyfnod yn y Bont-faen ond, yn anffodus, ni cheir unrhyw wybodaeth arall i’w gysylltu’n bendant â’r gerdd hon (Hewerdine 2012: 207–9). Posibilrwydd arall yw mai bardd-delynor ydoedd a fu’n diddanu’r teulu brenhinol (gw. llau. 57–8n).

Sonnir wedyn am ddioddefaint corfforol y noddwr mewn cyd-destun dwyfol, gan ei gymharu ag Antwn (llau. 21–8n). Yna enwir wyth o ffigyrau crefyddol yn llinellau 29–40, gyda’r nod o alw ar eu cymorth i iacháu’r noddwr. Y cyntaf yw Crist, ar ffurf y grog enwog a geid yng Nghaer, ond gellir lleoli chwech o’r saith arall ym Morgannwg: Mair ar ffurf delw enwog ym Mhen-rhys, Cadog yn Llancarfan, Teilo yn Llandaf, Tyfodwg yn Llandyfodwg ac Ystradyfodwg, Barwg yn y Barri a Bedwas, ac Ellteyrn yn Llanilltern. Gellir lleoli un arall, Derfel, yn Llandderfel ger Cwm-brân yng Ngwent.

Os cywir tybio mai at y noddwr y cyfeirir yn llinellau 41–8 (gw. llau. 41–2n, 43–8n), roedd yn byw gerllaw lle o’r enw y Groes Wen⁠ (gw. ll. 48n). Gelwir wedyn ar ddwy santes o Fro Morgannwg, Sanwyr a Cheinwyr, i wella anaf y noddwr (49–52). Ymddengys oddi wrth y llinellau nesaf (53–4, 57‒8) fod a wnelo’r anaf hwnnw â’r torso, a’r fraich yn arbennig, efallai (cf. y sôn am law’r noddwr yn llau. 11–14, ac at ei fynwes yn ll. 26). Deuir â’r gerdd i ben ar nodyn herfeiddiol, drwy fynnu na fydd yr anaf yn cael y gorau ar y noddwr (59–62). Herciog, ar y gorau, yw arddull y gerdd ac, yn wahanol i arfer nifer o feirdd mwyaf blaenllaw’r cyfnod, ni thrafferthodd Rhisiart ap Rhys i ddarparu cyd-destun ehangach i’r digwyddiadau a ddisgrifir ynddi. Tybed na feddyliodd erioed y byddai ei gerdd yn dod i sylw neb na wyddai eisoes yr hanes a oedd yn gefndir iddi?

Dyddiad
Rywbryd rhwng Nadolig 1497 a diwedd cyfnod blodeuo Rhisiart ap Rhys, c.1515 (GRhB viii). Os cafodd y noddwr anaf wrth gynorthwyo’r brenin a’r frenhines rhag y tân yn Sheen yn 1497, gall fod lle i gredu mai yn 1502 y canwyd y gerdd, a dilyn y cyfeiriad yn llinell 24 at bum mlynedd.

Golygiad blaenorol
GRhB cerdd 8.

Mesur a chynghanedd
Cywydd 62 llinell. Cynghanedd: croes o gyswllt 3% (2 l.), croes 56% (35 ll.), traws 27% (17 ll.), sain 3% (2 l.), llusg 9% (6 ll.). Noder bod nifer y cynganeddion sain yn rhyfeddol o isel. Ystyrir llinellau 7 a 59 yn gynghaneddion croes, ond gellid hefyd eu trin fel cynganeddion llusg. Ystyrir llinell 30 yn gynghanedd groes, ond gellir hefyd ei hystyried yn gynghanedd sain.