Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

13. Moliant i Feuno

golygwyd gan Eurig Salisbury

Moliant i Feuno. Dyddiad c.1475‒c.1525.

Trwy aml nawdd, troi ymlaen neb⁠1 ⁠Trwy aml nawdd, troi ymlaen neb Cf. darlleniad y llawysgrif, Trwy amlal nawdd troi ’mlaen neb. Y tebyg yw bod Wiliam Bodwrda wedi newid aml yn amal ar ôl sylweddoli bod y ll. hon sillaf yn fyr. Mae’n annhebygol iawn mai’r ffurf lafar amal a geid gan y bardd. Mwy priodol yw adfer y sillgoll ddiangen a geir yn y darlleniad ’mlaen, a chymryd bod y- wedi ei cholli ar ddiwedd y gair blaenorol, troi. Ond gall hefyd fod y sillgoll yn rhan o’r testun gwreiddiol ac y cyfrifid y ll. yn seithsill yn sgil ystyried aml yn ddeusill.
Ar Feuno1 ⁠Beuno Ymhellach ar y sant, gw. LBS i, 208–21, Sims-Williams 2018:1–88. yr wyf f’wyneb.⁠2 ⁠wyf f’wyneb Gellid dilyn darlleniad y llawysgrif, wy f’wyneb, a darllen wy’, ond mae’n fwy tebygol fod Wiliam Bodwrda wedi ysgrifennu un f am ddwy.
Iacháu cyrff, mynych y caid
Beuno, a chadw pob enaid.2 Llau. 3–4. Ar hepgor yr yn berfenwol lle rhagosodir y berfenw ar ddechrau cymal, cf. GHDafi 48.55 Cynyddu Cymru y’i caid. Gellid hefyd drin mynych fel ansoddair sy’n cyfeirio at y cyrff y byddai Beuno’n eu hiacháu, hynny yw ‘Yn iacháu cyrff niferus y ceid Beuno’.
5Mab geirwir ym mhob gwarant
I Binsi yw Beuno Sant,3 ⁠mab … / i Binsi Llau. 5‒6. Y ffurf ar enw tad Beuno a geir yn y fuchedd yw Bugi, gw. VSB2 16, 22, ar nodyn ar dudalen 345. Dengys y ffaith fod yr enw priod yma – ffurf a ddilysir gan y gynghanedd – yn dilyn yr arddodiad i mai Pinsi yw’r ffurf gysefin, cf. llau. 8 i Lawdden, 22 i Feuno; TA LXXIII.63–4 Bendigiad i dad ydoedd, / Beuno Sant ar binsi oedd. Ceir y ffurf honno mewn rhai fersiynau o Fonedd y Saint, eithr ni cheir y ffurfiau Pinsi a Llawdden Lueddawg (gw. llau. 7‒8n ŵyr … / … i Lawdden Lueddawg) yn yr un testun mewn unrhyw fersiwn hysbys. Ceir y gyfatebiaeth agosaf yn fersiwn Pen 127 o’r Bonedd (lle ceir y ffurfiau cysefin Binsi a Llawdden Lueddawg) yn llaw Thomas ab Ieuan ap Deicws o Faelor, a ysgrifennwyd rhwng 1510 ac 1523. Nid yw’n amhosibl fod y ffurfiau ar yr enwau a geir yn y gerdd yn deillio o’r fersiwn hwnnw o’r Bonedd (noder bod yr holl destunau o’r Bonedd a ddeilliodd o Pen 127 yn ddiweddarach na chyfnod tybiedig canu’r gerdd). Cf. hefyd ap pinsi mewn testunau o’r Bonedd (megis Pen 128) sy’n deillio yn y pen draw o gynsail gyffredin â Pen 127, ond yn y rhain fe geir lewdwn lvyddoc neu ffurfiau tebyg. Tebyg bod y fersiwn hwn o’r Bonedd yn cylchredeg yn eang iawn yn yr 16g., ond ni ellir rhoi dyddiad pendant i’r gynsail heblaw ei fod cyn c.1510. Ymhellach, gw. TWS 74–5.
Ac ŵyr â’r⁠3 ⁠â’r Ychwanegwyd y fannod, nas ceir yn narlleniad y llawysgrif (gallai’n hawdd fod wedi ei lyncu gan r- ar ddechrau’r gair nesaf, cf. ll. 2n wyf f’wyneb), er mwyn hwyluso’r ystyr. rhyw gorau rhawg
Yw i Lawdden Lueddawg.4 ⁠ŵyr … / … i Lawdden Lueddawg Llau. 7‒8. Yn ôl y fuchedd, enw mam Beuno oedd [P]eren verch Lawdden, gw. VSB2 16. Ar y ffurf ar enw’r taid ym Monedd y Saint, gw. llau. 5‒6n mab … / i Binsi. Ar yr epithet, gw. GPC Ar Lein d.g. lluyddog ‘A chanddo lu o ymladdwyr, byddinog’.
Abad oedd a bedyddiwr,5 ⁠bedyddiwr Ni welwyd unrhyw gyfeiriad penodol arall at allu Beuno fel bedyddiwr.
10A’i fryd oedd ar fara a dŵr,
A chael nef am ei grefydd
Y mae, a pharch am ei ffydd.
Un adeilwr i’n dwywlad6 ⁠dwywlad Yn ôl y fuchedd, adeiladodd Beuno nifer fawr o eglwysi ar hyd y gororau ac yn y gogledd, a gall mai at Wynedd a Phowys y cyfeirir yma. Ond gan fod Clynnog Fawr, yr eglwys enwocaf a gysylltir â Beuno, yng Ngwynedd Uwch Conwy, gall hefyd mai’r ardal honno ynghyd â Gwynedd Is Conwy a oedd ym meddwl y bardd. Yr awgrym yw bod y bardd yn cyfansoddi i gynulleidfa mewn man arall neu i gynulleidfa gymysg, neu ei fod yn dod o ardal arall ond yn canu yn Uwch Conwy (neu’r gwrthwyneb).
A oedd, a’i dai i Dduw Dad;
15Duwiolaidd yw’r adeilwr,⁠4 ⁠adeilwr Cywirir darlleniad y llawysgrif, adelwr, cf. ll. 13 adeilwr.
Dilesg oedd yn dal oes gŵr.7 ⁠Dilesg oedd yn dal oes gŵr Cyfeirir yn gyffredinol at y gynhaliaeth a roes Beuno i rai mewn angen. Gall hefyd fod y bardd yn cyfeirio at allu cyffredinol Beuno i iacháu. Dywedir yn y fuchedd i Feuno atgyfodi tri pherson, yn cynnwys Gwyddel a goffeir ym mhentref Gwyddelwern i’r gogledd o Gorwen, gw. VSB2 17 a’r nodyn ar dudalennau 351–2 (am draddodiadau eraill ynghylch gallu Beuno i iacháu, gw. Henken 1991 184).
Cnau⁠5 ⁠Cnau A dilyn darlleniad y llawysgrif, cynav, gellid sillgolli yn a chael Cynnau’n firagl i’w fagl fu ond, fel y dangosir yn y nodyn esboniadol ar y ll. hon, diau mai cnau yw’r darlleniad cywir. Ar y llafariad ymwthiol, gw. GMW 12–13. yn firagl i’w fagl fu,8 ⁠Cnau yn firagl i’w fagl fu Rhoir mymryn mwy o groen ar esgyrn yr hanes hwn, nas ceir yn y fuchedd, mewn cywydd mawl gan Dudur Aled i’r Abad Siôn ap Dafydd Llwyd o Lyn-y-groes, gw. TA XXVIII.49–52 Fy Nuw, ar ffon Feuno’r ffydd, / Y rhoes gnau a rhisg newydd; / Yr un dail îr yn dy law, / Unben, dwg i’n bendigaw. Tebyg mai’r un hanes sy’n gefndir i fawl Lewys Môn i’r Abad Dafydd ab Owain o Aberconwy, gw. llau. 19–20n. Cf. achos tebyg iawn ynghylch ffon Cybi, nas ceir ym muchedd y sant eithr mewn cywydd gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn, GDLl 18.3–4 Cnau a dail, cnwd a welynt, / Gwisgi ar ffon Gybi gynt. Am achosion eraill tebyg, gw. Henken 1991 171.
Sy’n tywysaw9 ⁠sy’n tywysaw Y goddrych yw’r fagl yn y ll. flaenorol. Ac ystyried gallu gwyrthiol y fagl i dyfu fel planhigyn, tybed ai mwysair yw tywysaw yma, gyda thywys ‘ŷd newydd yn tyfu ar goesyn’ yn ystyr gudd? saint Iesu;
A’r ail gwyrth: ar ei ôl10 ⁠ar ei ôl At Feuno ei hun y cyfeiria’r rhagenw, a arweiniodd y ffordd i’w ddilynwyr gyda’i fagl. gynt
20Sarn oedd a’u siwrnai iddynt;11 ⁠iddynt Cyfeirir at y saint yn ll. 18. 12 Llau. 19–20. Ymddengys fod y bardd yn dal i gyfeirio yn y cwpled hwn at fagl Beuno (gw. ll. 17n), a dilyn yr hyn a ddywed Lewys Môn mewn cywydd mawl i’r Abad Dafydd ab Owain o Aberconwy, gw. GLM LXV.5–10 Arwain ffon Aron, a’i ffydd, / iti tyf, y tad Dafydd: / dy fagl ar bendefigion, / dêl y rhisg a’r dail ar hon: / ym mrig Enlli, môr gwynllwyd, / bu yn ei law, Beuno lwyd. Hynny yw, gwyrth gyntaf y fagl oedd dwyn ffrwyth, a’r ail gwyrth oedd darparu sarn y medrai dilynwyr Beuno ei chroesi’n ddiogel. Mae’n bosibl mai at yr un hanes y cyfeirir yng nghywydd mawl Ieuan ap Maredudd Hir i Feuno, gw. BeunoMH llau. 15‒16. Awgrym cywydd Lewys Môn yw mai rhwng y tir mawr ac Ynys Enlli y digwyddodd y wyrth honno – gwyrth na cheir sôn amdani ym muchedd Beuno – ond gall fod cyfeiriad arall at y sarn mewn cywydd mawl gan Siôn Brwynog i Rydderch ap Rhys o Dregaean ym Môn yn sail i’w chysylltu â’r ynys honno, gw. Kerr 1960: 74 (llau. 35–6) Sinsur a brig, sens aur bro, / Siwrnai fynych Sarn Feuno⁠. Cf. sôn am Gored Beuno ar arfordir Clynnog Fawr, a’r gred y gellid cerdded oddi yno i Fôn un tro, yn Thomas (1863: 58; ar y ffurf gysefin ar yr enw, Gored Beuno, gw. GPC Ar Lein d.g. cored) a stori gan Rhŷs (1901: 219) am Feuno’n teithio ar droed o Glynnog i Landdwyn ym Môn. Cf. hefyd y sarn a ymddangosodd yn wyrthiol er mwyn galluogi Mordeyrn (ar gefn march) a’i ddilynwyr i groesi i Enlli yn ôl cywydd mawl Dafydd ap Llywelyn i’r sant hwnnw, MWPSS 6.13‒30 (am enghreifftiau eraill o gysylltu sant â sarn wyrthiol, gw. Henken 1991 153).
A’r man y rhoddes fesen,
I Feuno, praff fu fôn pren,⁠6 ⁠fôn pren Diwygir darlleniad y llawysgrif, fôn bren, er mwyn yr ystyr a’r gynghanedd.
Ac yna rhai byganiaid13 ⁠rhai byganiaid Ni ddisgwylid treiglad ar ôl rhai, ond cf. IGE2 272 (ll. 20) Rhai boenau, rhyfawr benyd. Am y llafariad -y-, gw. hefyd GPC Ar Lein d.g. pagan, lle nodir y ffurf amrywiol, pygan.
Dan frig hon14 ⁠dan frig hon Cyfeiria’r rhagenw benywaidd at y dderwen (gw. llau. 21‒4n), er bod y bardd yn defnyddio’r enw gwrywaidd pren wrth sôn amdani. doe yn feirw⁠7 ⁠doe yn feirw A dilyn y sillgoll ’n yn narlleniad y llawysgrif, rhaid trin feirw yn ddeusill, ond gthg. cadw fel gair unsill yn ll. 4. Adferir y sillaf a chyfrif feirw yn unsill, cf. ll. 1n. caid.15 Llau. 21–4. Ceir yr hanes hwn yn y fuchedd, gw. VSB2 17 Gwedy hynny Beuno a drigyawd ar dref y dat, ac a adeilawd eglwys yno, ac ae kyssegrawd yn enw yr arglwyd Grist, ac a blannawd vessen yn ystlys bed y dat, a honno a dyfawd yno yn derwen diruawr y huchet ae frasset. Ac ar vric y prenn hwnnw ef a wrthtyfawd keing hyt y llawr, ac or llawr dracheuen yn ogyuuch a bric y prenn, a thrigyaw elin yr geing ar y llawr. Ac velle y mae yn w[a]stat. Ac od a Seis yrwng yr elin honno a bon y prenn, yn diannot y byd marw. Ac os Kymro a a yno, ny henuyd gwaeth. Sylwer ar y defnydd o’r ansoddair praff yn y fuchedd ac yn y gerdd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn sgil trugaredd mynych, troi fy wyneb
at Feuno yr wyf yn anad neb.
Ceid Beuno’n aml yn iacháu cyrff
ac yn achub pob enaid.
5Mab cywir ei air ym mhob addewid
i Binsi yw Beuno Sant,
ac ŵyr gyda’r wehelyth orau am byth
yw i Lawdden Lluyddog.
Abad oedd a bedyddiwr,
10a’i fryd oedd ar fara a dŵr,
a chael nef y mae am ei ddefosiwn,
a pharch am ei ffydd.
Roedd un adeiladwr i’n dwy wlad,
a’i dai ar gyfer Duw Dad;
15duwiol yw’r adeiladwr,
dyfal oedd wrth gynnal oes dyn.
Cnau a fu’n wyrth ar ei fagl,
sy’n arwain saint Iesu;
a’r ail wyrth: ar ei ôl gynt
20roedd sarn iddynt a’u siwrnai;
a’r fan lle plannodd fesen,
i Feuno, bôn pren a fu’n braff,
ac yno rhai paganiaid
dan ganghennau hon ddoe a geid yn farw.

1 ⁠Beuno Ymhellach ar y sant, gw. LBS i, 208–21, Sims-Williams 2018:1–88.

2 Llau. 3–4. Ar hepgor yr yn berfenwol lle rhagosodir y berfenw ar ddechrau cymal, cf. GHDafi 48.55 Cynyddu Cymru y’i caid. Gellid hefyd drin mynych fel ansoddair sy’n cyfeirio at y cyrff y byddai Beuno’n eu hiacháu, hynny yw ‘Yn iacháu cyrff niferus y ceid Beuno’.

3 ⁠mab … / i Binsi Llau. 5‒6. Y ffurf ar enw tad Beuno a geir yn y fuchedd yw Bugi, gw. VSB2 16, 22, ar nodyn ar dudalen 345. Dengys y ffaith fod yr enw priod yma – ffurf a ddilysir gan y gynghanedd – yn dilyn yr arddodiad i mai Pinsi yw’r ffurf gysefin, cf. llau. 8 i Lawdden, 22 i Feuno; TA LXXIII.63–4 Bendigiad i dad ydoedd, / Beuno Sant ar binsi oedd. Ceir y ffurf honno mewn rhai fersiynau o Fonedd y Saint, eithr ni cheir y ffurfiau Pinsi a Llawdden Lueddawg (gw. llau. 7‒8n ŵyr … / … i Lawdden Lueddawg) yn yr un testun mewn unrhyw fersiwn hysbys. Ceir y gyfatebiaeth agosaf yn fersiwn Pen 127 o’r Bonedd (lle ceir y ffurfiau cysefin Binsi a Llawdden Lueddawg) yn llaw Thomas ab Ieuan ap Deicws o Faelor, a ysgrifennwyd rhwng 1510 ac 1523. Nid yw’n amhosibl fod y ffurfiau ar yr enwau a geir yn y gerdd yn deillio o’r fersiwn hwnnw o’r Bonedd (noder bod yr holl destunau o’r Bonedd a ddeilliodd o Pen 127 yn ddiweddarach na chyfnod tybiedig canu’r gerdd). Cf. hefyd ap pinsi mewn testunau o’r Bonedd (megis Pen 128) sy’n deillio yn y pen draw o gynsail gyffredin â Pen 127, ond yn y rhain fe geir lewdwn lvyddoc neu ffurfiau tebyg. Tebyg bod y fersiwn hwn o’r Bonedd yn cylchredeg yn eang iawn yn yr 16g., ond ni ellir rhoi dyddiad pendant i’r gynsail heblaw ei fod cyn c.1510. Ymhellach, gw. TWS 74–5.

4 ⁠ŵyr … / … i Lawdden Lueddawg Llau. 7‒8. Yn ôl y fuchedd, enw mam Beuno oedd [P]eren verch Lawdden, gw. VSB2 16. Ar y ffurf ar enw’r taid ym Monedd y Saint, gw. llau. 5‒6n mab … / i Binsi. Ar yr epithet, gw. GPC Ar Lein d.g. lluyddog ‘A chanddo lu o ymladdwyr, byddinog’.

5 ⁠bedyddiwr Ni welwyd unrhyw gyfeiriad penodol arall at allu Beuno fel bedyddiwr.

6 ⁠dwywlad Yn ôl y fuchedd, adeiladodd Beuno nifer fawr o eglwysi ar hyd y gororau ac yn y gogledd, a gall mai at Wynedd a Phowys y cyfeirir yma. Ond gan fod Clynnog Fawr, yr eglwys enwocaf a gysylltir â Beuno, yng Ngwynedd Uwch Conwy, gall hefyd mai’r ardal honno ynghyd â Gwynedd Is Conwy a oedd ym meddwl y bardd. Yr awgrym yw bod y bardd yn cyfansoddi i gynulleidfa mewn man arall neu i gynulleidfa gymysg, neu ei fod yn dod o ardal arall ond yn canu yn Uwch Conwy (neu’r gwrthwyneb).

7 ⁠Dilesg oedd yn dal oes gŵr Cyfeirir yn gyffredinol at y gynhaliaeth a roes Beuno i rai mewn angen. Gall hefyd fod y bardd yn cyfeirio at allu cyffredinol Beuno i iacháu. Dywedir yn y fuchedd i Feuno atgyfodi tri pherson, yn cynnwys Gwyddel a goffeir ym mhentref Gwyddelwern i’r gogledd o Gorwen, gw. VSB2 17 a’r nodyn ar dudalennau 351–2 (am draddodiadau eraill ynghylch gallu Beuno i iacháu, gw. Henken 1991 184).

8 ⁠Cnau yn firagl i’w fagl fu Rhoir mymryn mwy o groen ar esgyrn yr hanes hwn, nas ceir yn y fuchedd, mewn cywydd mawl gan Dudur Aled i’r Abad Siôn ap Dafydd Llwyd o Lyn-y-groes, gw. TA XXVIII.49–52 Fy Nuw, ar ffon Feuno’r ffydd, / Y rhoes gnau a rhisg newydd; / Yr un dail îr yn dy law, / Unben, dwg i’n bendigaw. Tebyg mai’r un hanes sy’n gefndir i fawl Lewys Môn i’r Abad Dafydd ab Owain o Aberconwy, gw. llau. 19–20n. Cf. achos tebyg iawn ynghylch ffon Cybi, nas ceir ym muchedd y sant eithr mewn cywydd gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn, GDLl 18.3–4 Cnau a dail, cnwd a welynt, / Gwisgi ar ffon Gybi gynt. Am achosion eraill tebyg, gw. Henken 1991 171.

9 ⁠sy’n tywysaw Y goddrych yw’r fagl yn y ll. flaenorol. Ac ystyried gallu gwyrthiol y fagl i dyfu fel planhigyn, tybed ai mwysair yw tywysaw yma, gyda thywys ‘ŷd newydd yn tyfu ar goesyn’ yn ystyr gudd?

10 ⁠ar ei ôl At Feuno ei hun y cyfeiria’r rhagenw, a arweiniodd y ffordd i’w ddilynwyr gyda’i fagl.

11 ⁠iddynt Cyfeirir at y saint yn ll. 18.

12 Llau. 19–20. Ymddengys fod y bardd yn dal i gyfeirio yn y cwpled hwn at fagl Beuno (gw. ll. 17n), a dilyn yr hyn a ddywed Lewys Môn mewn cywydd mawl i’r Abad Dafydd ab Owain o Aberconwy, gw. GLM LXV.5–10 Arwain ffon Aron, a’i ffydd, / iti tyf, y tad Dafydd: / dy fagl ar bendefigion, / dêl y rhisg a’r dail ar hon: / ym mrig Enlli, môr gwynllwyd, / bu yn ei law, Beuno lwyd. Hynny yw, gwyrth gyntaf y fagl oedd dwyn ffrwyth, a’r ail gwyrth oedd darparu sarn y medrai dilynwyr Beuno ei chroesi’n ddiogel. Mae’n bosibl mai at yr un hanes y cyfeirir yng nghywydd mawl Ieuan ap Maredudd Hir i Feuno, gw. BeunoMH llau. 15‒16. Awgrym cywydd Lewys Môn yw mai rhwng y tir mawr ac Ynys Enlli y digwyddodd y wyrth honno – gwyrth na cheir sôn amdani ym muchedd Beuno – ond gall fod cyfeiriad arall at y sarn mewn cywydd mawl gan Siôn Brwynog i Rydderch ap Rhys o Dregaean ym Môn yn sail i’w chysylltu â’r ynys honno, gw. Kerr 1960: 74 (llau. 35–6) Sinsur a brig, sens aur bro, / Siwrnai fynych Sarn Feuno⁠. Cf. sôn am Gored Beuno ar arfordir Clynnog Fawr, a’r gred y gellid cerdded oddi yno i Fôn un tro, yn Thomas (1863: 58; ar y ffurf gysefin ar yr enw, Gored Beuno, gw. GPC Ar Lein d.g. cored) a stori gan Rhŷs (1901: 219) am Feuno’n teithio ar droed o Glynnog i Landdwyn ym Môn. Cf. hefyd y sarn a ymddangosodd yn wyrthiol er mwyn galluogi Mordeyrn (ar gefn march) a’i ddilynwyr i groesi i Enlli yn ôl cywydd mawl Dafydd ap Llywelyn i’r sant hwnnw, MWPSS 6.13‒30 (am enghreifftiau eraill o gysylltu sant â sarn wyrthiol, gw. Henken 1991 153).

13 ⁠rhai byganiaid Ni ddisgwylid treiglad ar ôl rhai, ond cf. IGE2 272 (ll. 20) Rhai boenau, rhyfawr benyd. Am y llafariad -y-, gw. hefyd GPC Ar Lein d.g. pagan, lle nodir y ffurf amrywiol, pygan.

14 ⁠dan frig hon Cyfeiria’r rhagenw benywaidd at y dderwen (gw. llau. 21‒4n), er bod y bardd yn defnyddio’r enw gwrywaidd pren wrth sôn amdani.

15 Llau. 21–4. Ceir yr hanes hwn yn y fuchedd, gw. VSB2 17 Gwedy hynny Beuno a drigyawd ar dref y dat, ac a adeilawd eglwys yno, ac ae kyssegrawd yn enw yr arglwyd Grist, ac a blannawd vessen yn ystlys bed y dat, a honno a dyfawd yno yn derwen diruawr y huchet ae frasset. Ac ar vric y prenn hwnnw ef a wrthtyfawd keing hyt y llawr, ac or llawr dracheuen yn ogyuuch a bric y prenn, a thrigyaw elin yr geing ar y llawr. Ac velle y mae yn w[a]stat. Ac od a Seis yrwng yr elin honno a bon y prenn, yn diannot y byd marw. Ac os Kymro a a yno, ny henuyd gwaeth. Sylwer ar y defnydd o’r ansoddair praff yn y fuchedd ac yn y gerdd.

1 ⁠Trwy aml nawdd, troi ymlaen neb Cf. darlleniad y llawysgrif, Trwy amlal nawdd troi ’mlaen neb. Y tebyg yw bod Wiliam Bodwrda wedi newid aml yn amal ar ôl sylweddoli bod y ll. hon sillaf yn fyr. Mae’n annhebygol iawn mai’r ffurf lafar amal a geid gan y bardd. Mwy priodol yw adfer y sillgoll ddiangen a geir yn y darlleniad ’mlaen, a chymryd bod y- wedi ei cholli ar ddiwedd y gair blaenorol, troi. Ond gall hefyd fod y sillgoll yn rhan o’r testun gwreiddiol ac y cyfrifid y ll. yn seithsill yn sgil ystyried aml yn ddeusill.

2 ⁠wyf f’wyneb Gellid dilyn darlleniad y llawysgrif, wy f’wyneb, a darllen wy’, ond mae’n fwy tebygol fod Wiliam Bodwrda wedi ysgrifennu un f am ddwy.

3 ⁠â’r Ychwanegwyd y fannod, nas ceir yn narlleniad y llawysgrif (gallai’n hawdd fod wedi ei lyncu gan r- ar ddechrau’r gair nesaf, cf. ll. 2n wyf f’wyneb), er mwyn hwyluso’r ystyr.

4 ⁠adeilwr Cywirir darlleniad y llawysgrif, adelwr, cf. ll. 13 adeilwr.

5 ⁠Cnau A dilyn darlleniad y llawysgrif, cynav, gellid sillgolli yn a chael Cynnau’n firagl i’w fagl fu ond, fel y dangosir yn y nodyn esboniadol ar y ll. hon, diau mai cnau yw’r darlleniad cywir. Ar y llafariad ymwthiol, gw. GMW 12–13.

6 ⁠fôn pren Diwygir darlleniad y llawysgrif, fôn bren, er mwyn yr ystyr a’r gynghanedd.

7 ⁠doe yn feirw A dilyn y sillgoll ’n yn narlleniad y llawysgrif, rhaid trin feirw yn ddeusill, ond gthg. cadw fel gair unsill yn ll. 4. Adferir y sillaf a chyfrif feirw yn unsill, cf. ll. 1n.