Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

13. Moliant i Feuno

golygwyd gan Eurig Salisbury

Rhagymadrodd

Fel yr esbonnir yn y nodiadau testunol ar y gerdd fawl hon i Feuno, dim ond 24 o’i llinellau sydd wedi goroesi a gellir amcangyfrif bod dros hanner y gerdd wedi ei golli, yn ogystal ag enw’r bardd. Cywydd digon confensiynol ydyw – yn ôl yr hyn a ddiogelwyd – sy’n moli tras y sant (llau. 5–8), ei sancteiddrwydd (9–12) a’i waith adeiladu (13–16) cyn rhestru rhai o’r gwyrthiau a gyflawnodd (17–24). Ceir awgrym o’r hyn a ysgogodd y gerdd yn y ddau gwpled cyntaf, sef bwriad y bardd i foli Beuno oherwydd ei ffydd yng ngallu’r sant i iacháu. Tybed a oedd y bardd anhysbys yn dioddef o ryw salwch?

Mae’r gerdd yn werthfawr yn bennaf yn sgil dau gwpled sy’n cyfeirio at wyrthiau a gyflawnodd Beuno, y naill yn ymwneud â’i fagl a’r llall â sarn na ellir ei lleoli, gwyrthiau nas ceir ym muchedd y sant eithr y cyfeirir atynt mewn cerddi eraill (gw. llau. 17n, 19–20n).

Dyddiad
Ni ellir manylu gan na cheir enw’r bardd wrth y gerdd, ond mae’r arddull led syml ac amlder y gynghanedd groes (gw. isod) yn awgrymu’n fras c.1475–c.1525. Efallai fod cyswllt posibl y gerdd â fersiwn Pen 127 o Fonedd y Saint yn awgrym fod y gerdd yn perthyn i’r cyfnod 1510–23 neu’n fuan wedyn (gw. llau. 5–6n).

Golygiadau blaenorol
Jones 1929: 47; ap Huw 2001: cerdd IX.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 24 llinell (anghyflawn). Cynghanedd: croes o gyswllt 0%, croes 75% (18 ll.), traws 13% (3 ll.), sain 4% (1 ll.), llusg 8% (2 l.).