Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

23. Buchedd Martin

golygwyd gan Jenny Day

Llawysgrifau

Ceir y copi cynharaf o’r fuchedd yn llawysgrif LlGC 3026C (Mostyn 88) a ysgrifennwyd gan Gutun Owain rhwng 1487 a 1489 (RepWM). Yn ôl coloffon sy’n dilyn y testun, fe’i copïwyd yn 1488 gan Gvttvn Owain a’r cyfieithydd oedd John Trevor, sef, yn ôl pob tebyg, Siôn Trefor o Bentrecynfrig ym mhlwyf Llanfarthin, ger y Waun (gw. y Rhagymadrodd). Credir bod y llawysgrif wedi ei chreu ar gyfer Siôn Edward o Wernosbynt, y Waun (RepWM d.e. Edward(s), John, I; Owen 2003: 351–2). Nid oes bucheddau seintiau eraill ynddi; yn hytrach, ceir deunydd achyddol, astrolegol, meddygol a chalendraidd (RepWM; Owen 2003).

Lluniwyd dau gopi o Fuchedd Martin yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ysgrifennwyd y cynharaf gan law anhysbys tua chanol y ganrif yn BL Add 14967 (Llyfr Edward ap Roger o Riwabon) ac mae’n debygol mai testun Gutun Owain yn LlGC 3026C oedd y gynsail (RepWM). Atgynhyrchir yn BL Add 14967 nifer o ddarlleniadau gwallus neu ansafonol a geir yn LlGC 3026C; gweler yn arbennig n. 14 (testunol) (ar yn [yr] amser [hwnnw] kr[eff]t); hefyd n. 8 (testunol) (a roes i vryd [ar] gyvarvod), n. 15 (testunol) (a[’r] rhai hynaf), n. 21 (testunol) (kan [n]a allai; cf. n. 53 (testunol)), n. 29 (testunol) (Titradius), n. 54 (testunol) (yr wy[f] vi), n. 57 (testunol) (Y bu ryvedd), n. 58 (testunol) (gyda[’r] rhai), n. 23 (wedy wisgo) ac efallai n. 52 (testunol) (d[y]st), n. 70 (y llieiniav o’r elor).

Ar y llaw arall, ceir llawer mwy o achosion lle’r ymddengys fod darlleniad BL Add 14967 yn fwy cywir neu’n fwy safonol nag eiddo LlGC 3026C; er enghraifft, yn BL Add 14967 ceir Marthin yn lle Marth yn §11; yn myned yn lle y myned yn §29; a ddylent yn hytrach na ddyent yn §54 (gw. n. 3 (testunol), n. 34 (testunol), n. 63 (testunol); tynnir sylw at achosion niferus eraill mewn nodiadau testunol eraill). Fodd bynnag, gallai’r darlleniadau hyn fod yn ffrwyth ymdrechion ysgrifydd BL Add 14967 i gywiro neu safoni testun LlGC 3026C wrth ei gopïo. Cymharer hefyd y darlleniadau siamb a siamr yn y ddwy lawysgrif (§36; n. 50 (testunol)); mae’n bosibl yn yr achos hwn fod ysgrifydd BL Add 14967 wedi bwriadu cywiro’r gair yn siambr ond iddo hepgor llythyren arall drwy amryfusedd.

Yn yr un modd, gallai kymer yn §26 fod wedi ei ‘gywiro’ yn kymrud yn BL Add 14967, er ei bod yn bosibl yn yr achos hwn mai berfenw gwahanol, kymell, a geid yn y cyfieithiad gwreiddiol (n. 31 (testunol)). Ceir achosion eraill o anghytundeb rhwng y ddau destun: cymharer y noeth ac yn oeth (§12; n. 6 (testunol)), gri a griddvan (§15; n. 11 (testunol)), ac A ni ellid ac oni ellid (§25; n. 28 (testunol)); ond yma hefyd gellid deall y gwahaniaethau yn ffrwyth ailddehongli, dryswch neu ‘gywiro’ ar ran ysgrifydd BL Add 14967. Ymddengys, felly, nad oes rheswm cryf dros amau nad yw’r testun hwnnw yn gopi o destun LlGC 3026C.

Yn achos yr ail destun o’r unfed ganrif ar bymtheg, sef yr un a gopïwyd yn CM 530 gan Roger Morris o Goed-y-talwrn, Llanfair Dyffryn Clwyd, yn 1582, nodir yn benodol iddo gael ei ysgrifennu ụrth gopi Güttün (RWM ii, 369). Bu copi Roger Morris yn gynsail, yn ei dro, i’r testun a ysgrifennodd John Jones, Gellilyfdy, yn Pen 217 (1608–11), fel y nodir mewn coloffon (RepWM).

Mae fersiwn byr iawn o fuchedd Martin wedi ei gadw yn Llst 34, llawysgrif arall a ysgrifennwyd gan Roger Morris (1580x1600), ond nid ymddengys fod y testun hwn yn tarddu o destun Siôn Trefor (gw. y Rhagymadrodd). Fe’i copïwyd i Card 2.633 gan John Jones, Gellilyfdy, yn 1609, ac i Llst 104 gan gynorthwyydd Moses Williams rhwng c.1710 a 1715 (gw. RepWM).

Rhestr o lawysgrifau

Fersiwn hir
BL Add 14967 (Llyfr Edward ap Roger), ff. 129–39 (canol y 16g., ar ôl 1527)
CM 530, 107–49 (Roger Morris, 1582)
LlGC 3026C (Mostyn 88), 37–62 (Gutun Owain, 1487–9, a’r fuchedd wedi ei hysgrifennu yn 1488 yn ôl y coloffon)
Pen 217, 206–302 (John Jones, Gellilyfdy, 1608–11)

Fersiwn byr
Card 2.633, 465–9 (John Jones, Gellilyfdy, 1604–10, a’r fuchedd wedi ei hysgrifennu yn 1609 yn ôl y coloffon)
Llst 34, 321–2 (Roger Morris, 1580x1600)
Llst 104, 366–8 (X27, cynorthwyydd Moses Williams, c.1710x1715)