Mawl i Ddewi Sant
golygwyd gan Dafydd Johnston
Mawl i Ddewi Sant gan Iolo Goch. Dyddiad c.1380 × c.1400.
                                 Dymuno da i’m enaid,
                                 Heneiddio’r wyf, hyn oedd raid,
                                 Myned i’r lle croged Crist
                                    
                                 Cyd boed y ddeudroed ddudrist1
                                          
                                             ddudrist
                                              Cymerir mai dyma a gynrychiolir gan Pen 53
                                          ddydrist (cf. ryvein yn ll. 24 a vyr yn ll. 40). Gwannach o ran synnwyr yw ddidrist
                                          BL 14967. Cf. GIG I.55 A’r Iddewdref arw ddudrist.
                                    
                                 5Mewn trygyff yma’n trigaw,
                                 Ni myn y traed myned draw.
                                 Cystal ymofal ym yw
                                 Fyned deirgwaith i Fynyw
                                    
                                 Â myned, cymyrred2
                                          
                                             cymyrred
                                              Ffurf amrywiol ar cymyrredd, ‘bri, anrhydedd’, cf. DG.net 31.4. Hwn yw darlleniad BL
                                          14967 (cymyred), ond cf. cynired ‘ymweliad’ yn LlGC 19904B. cain,3 Cwpled hollol wahanol a geir yma yn Pen 53: Och vineu
                                             na chaf einoes / Y vyned or gred lle mayr groes. Mae’r dyhead am gael mynd i Jerwsalem yn ailadrodd yr hyn a ddywedir yn y frawddeg gyntaf, a chymerir mai
                                          cwpled yw hwn a luniwyd i lenwi bwlch am fod ail ran y frawddeg am werth pererindodau i Fynyw wedi mynd yn angof.
                                    
                                 10Yr hafoedd hyd yn Rhufain.1 Ystyrid tri phererindod i Dyddewi yn gyfwerth ag un i Jerwsalem fel
                                          arfer, a dau yn gyfwerth ag un i Rufain, gw. DewiIRh llau. 115–22, ac StDW 103, 213. Gan fod sôn am fynd lle
                                             croged Crist ar ddechrau’r gerdd gellir cymryd mai pererindod i Jerwsalem a olygir yma mewn gwirionedd.
                                    
                                 Gwyddwn lle mynnwn fy mod,
                                 Ys deddfol yw’r eisteddfod,4 Mae llau. 11–12 yn eisiau yn Pen 53.
                                    
                                 Ym maenol Ddewi
                                    Mynyw,
                                 Mangre gain, myn y grog, yw.
                                 15Yng Nglyn Rhosyn mae’r iesin,
                                 Ac olewydd a gwŷdd gwin
                                 Ac edmig musig a moes
                                 A gwrle gwŷr ac orloes
                                 A chytgerdd hoyw, loyw lewych,
                                 20Rhwng organ achlân a chlych,
                                 A thrwblwm5
                                          
                                             thrwblwm
                                              Benthyciad o’r Lladin t(h)ūribulum, gw. GPC d.g. trwblwm. Ar gyfer llafariad y sillaf gyntaf
                                          dilynir Pen 53; cf. BL 14967
                                          trvblwm. Y ffurf a geir gan Ieuan ap Rhydderch yw thryblwm (DewiIRh ll.
                                          104). aur trwm tramawr
                                 Yn bwrw sens i beri sawr.
                                 Nef nefoedd yn6
                                          
                                             yn
                                              Ni cheir hwn yn Pen 53 na BL 14967. Derbyniwyd diwygiad Robert
                                             Vaughan yn LlGC 19904B er mwyn adfer saith sillaf. gyhoedd gain,
                                 Ys da dref ystad Rufain,
                                 25Paradwys Gymru lwys lefn,
                                 Pôr dewistref p’radwystrefn.
                                 
                              
                                 Petrus fu gan Sain Patrig2 Yn ôl y fuchedd anfonwyd angel i rybuddio Padrig i ymadael â Glyn
                                          Rhosyn ddeng mlynedd ar hugain cyn geni Dewi, ac i ddangos Iwerddon iddo o Eisteddfa Badrig, gw.
                                          BDe 2.
                                    
                                 Am sorri Duw, amser dig,
                                 Am erchi hyn, amarch oedd,
                                 30Iddo o’r lle a wnaddoedd,7
                                          
                                             wnaddoedd
                                              Un o ffurfiau amrywiol trydydd unigol gorberffaith gwneuthur, gw. GMW 131. Dilynir Pen 53
                                          naddoedd, ond mae BL 14967
                                          wnaeddoedd hefyd yn bosibl.
                                    
                                 Fyned ymaith o Fynyw
                                    
                                 Cyn geni Dewi, da yw.
                                 Sant oedd ef o nef i ni
                                 Cynhwynol cyn ei eni;8 Mae llau. 33–4 yn eisiau yn Pen 53, ond maent yn amlwg yn ffurfio uned
                                          gyda’r cwpled dilynol.
                                    
                                 35Sant glân oedd ef pan aned
                                 Am hollti’r maen,3 Yn ôl y fuchedd holltodd carreg yn ddau hanner ger pen Non pan aned
                                          Dewi, gw. BDe 4. graen ei gred.
                                 Eilwaith y rhoes ei olwg4 Ceir yr hanes yn y fuchedd am adfer golwg dyn dall a oedd yn dal Dewi i’w fedyddio, gw.
                                          BDe 4; DewiGB llau. 158–61n(e). Yn ôl Rhygyfarch enw’r tad bedydd oedd St Mobi o
                                          Glasnevin (Mobi Clarainech
                                              yn yr Wyddeleg, gair sy’n cyfateb i wynepglawr).
                                    
                                 I’r claf drem rhag clefyd drwg,
                                 Ei dad bedydd, dud bydawl,
                                 40Dall wynepglawr, mawr fu’r mawl.9 Mae llau. 37–40 yn eisiau yn BL 14967.
                                    
                                 
                                    Sant ei dad,5
                                          Sant ap Ceredig oedd tad Dewi. diymwad oedd
                                 Penadur saint10
                                          
                                             saint
                                              Ceir byd yn Pen 53, efallai o dan ddylanwad GIG VI.82 Penadur byd
                                             pan ydoedd. pan ydoedd;
                                 Santes gydles lygadlon
                                 Ei fam dda ddi-nam oedd Non
                                    
                                 45Ferch Ynyr fawr ei chenedl,6 Ni roddir ach Non yn y fuchedd, ond yn ôl Bonedd y Saint
                                          Cynyr oedd enw ei thad (EWGT 54), cf. DewiIRh ll. 18.
                                    
                                 Lleian wiw, gwych11
                                          
                                             gwych
                                              Dilynir Pen 53, ond gellid darllen uwch ar sail BL
                                          14967
                                          vwch. ydiw’r chwedl.
                                 Un bwyd a aeth yn ei ben,
                                 Bara oer a beryren
                                 A dwfr du tra fu fyw,
                                 50Waneg anrheg, o’r unrhyw12 Mae llau. 49–50 yn eisiau yn BL 14967.
                                    
                                 Ag13
                                          
                                             Ag
                                              Ni cheir hwn yn Pen 53 na BL 14967, a derbyniwyd diwygiad Robert
                                             Vaughan yn LlGC 19904B er mwyn y synnwyr a hyd y llinell. aeth ym mhen Non wen wiw
                                 Er pan gad, penaig ydiw.7 Dywedir yn y fuchedd mai bara a dŵr yn unig a fwytaodd Non o’r amser y beichiogodd, a bod
                                          Dewi wedi gwneud yr un peth ar hyd ei fywyd (BDe 3), ond sonnir am ferwr hefyd yn y farddoniaeth, DewiIRh ll.
                                          21, DewiLGC1 ll. 21.
                                    
                                 
                              
                                 Holl saint y byd, gyd gerrynt,
                                 A ddoeth i’r senedd goeth gynt8 Un o uchafbwyntiau’r fuchedd yw senedd y saint yn Llanddewibrefi a hanes y bryn yn codi
                                          dan draed Dewi pan oedd yn pregethu, gw. BDe 15–18; DewiIRh llau. 79–86.
                                    
                                 55I wrando yn yr undydd
                                 Ei bregeth a pheth o’i ffydd.14 Mae llau. 53–6 yn eisiau yn Pen 53.
                                    
                                 Cyfodes, nid oedd resyn,15
                                          
                                             resyn
                                             
                                          Pen 53
                                          ryssin. Rhaid adfer ffurf y testun er mwyn y gynghanedd lusg; cf. BL 14967
                                          iessyn sy’n gywir o ran cynghanedd ond yn groes i’r synnwyr disgwyliedig.
                                    
                                 Dan draed Dewi
                                    Frefi fryn
                                 Lle dysgodd llu dewisgoeth,
                                 60Lle bu yn pregethu’n goeth,
                                 Chwemil, saith ugeinmil saint9 Ni nodir nifer y seintiau yn y fuchedd, ond ceir yr un rhif gan Wynfardd Brycheiniog, DewiGB ll. 28n(e) (lle awgrymir bod Iolo Goch efallai wedi gweld testun awdl Gwynfardd Brycheiniog
                                          yn Llawysgrif Hendregadredd) a chan Ieuan ap Rhydderch
                                           DewiIRh llau. 81–2.
                                    
                                 Ac unfil, wi o’r genfaint.
                                 Rhoed iddo fod, glod glendyd,10 Yn ôl y fuchedd cytunwyd yn y senedd y uot ef yn tywyssawc ar seint Ynys Brydein,
                                          BDe 18.
                                    
                                 Yn ben ar holl saint y byd.16 Mae llau. 63–4 yn eisiau yn Pen 53.
                                    
                                 65Ef yn deg a fendigawdd,
                                 Cantref17
                                          
                                             cantref
                                              Mae fersiwn Pen 53, Ac ef o nef yw y nawdd, hefyd yn bosibl, ond bernir mai darlleniad BL 14967 yw’r darlleniad anos. o nef oedd ei nawdd,
                                 Yr ennaint twymn18
                                          
                                             twymn
                                             
                                          BL 14967
                                          twymyn, cf. BDe 6 yr Enneint Twymyn. wyrennig,
                                 Ni dderfydd, tragywydd trig.11 Mae’r fuchedd yn adrodd hanes Dewi’n bendithio ffynnon o ddŵr twym yng
                                          Nghaerfaddon, BDe 6; am gyfeiriadau eraill yn y farddoniaeth gw. TWS 43–5.
                                    
                                 Hydr y gwnaeth ef genhiadu,
                                 70Gras da y Garawys du,
                                 I’r Brytaniaid, brut wyneb,
                                 Y gwynad yn anad neb.12 Ni sonnir am hyn yn y bucheddau Lladin na Chymraeg, ond yn DewiIRh
                                          llau. 49–50 dywedir i Ddewi ryddhau lluniaeth y wlad adeg y Grawys trwy ganiatáu bwyta’r gwyniad, sef ysgadenyn mae’n debyg.
                                    
                                 
                                    Duw a rithiawdd,19 Fersiwn carbwl o’r stori hon a geir yn Pen 53, heb egluro bod
                                          Duw wedi troi’r ddeuwr yn fleiddiaid yn y lle cyntaf. dygngawdd dig,
                                 Ddeuflaidd anian ddieflig,
                                 75Deuwr hen oedd o dir hud,
                                 
                                    Gwydre Astrus ac Odrud,13 Ni cheir y wyrth hon yn unman arall, gw. TWS 64, ond cyfeirir at deu geneu Gast
                                             Rymhi, Gwydrut a Gwyden (llsgr. gwydneu) Astrus yn chwedl Culhwch ac Olwen (CO llau. 315–16.) Mae’r syniad o droi pobl yn
                                          anifeiliaid yn gosb am eu pechodau yn dwyn i gof stori Gwydion a Gilfaethwy ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi.
                                    
                                 Am wneuthur, drygantur20
                                          
                                             drygantur
                                              Dau air ar wahân a geir yn Pen 53, dryc antur, ond awgryma llafariad y gair cyntaf mai gair
                                          cyfansawdd a fwriedid. Ni nodir y gair hwn yn GPC, ond cf. geiriau fel dryganian. Mae drvd
                                          BL 14967 yn anfoddhaol o ran cynghanedd. gynt,
                                 Ryw bechod a rybuchynt;
                                 A’u mam – baham y bai hi? –
                                 80Yn fleiddiast, oerfel iddi;
                                 A Dewi goeth21
                                          
                                             goeth
                                              Mae darlleniad BL 14967, geth, yn anfoddhaol, a dilynwyd diwygiad Robert
                                             Vaughan yn LlGC 19904B (cf. ll. 60). Ond dylid ystyried hefyd gerth, ‘iawn, gwir, cywir, sicr’, gw.
                                          GPC, a cf. GGGr 2.9 Iorwerth ab Iorwerth gerth, goeth, a GGLl 19.86 A’r Tad a’r Ysbryd cyd
                                             certh. a’u dug wynt22 Mae llau. 81–2 yn eisiau yn Pen 53.
                                    
                                 O’u hirboen yn eu herwbwynt.23 Mae’r llinell hon yn garbwl yn BL 14967: Oi hir
                                             ben yni evr bwynt, a derbyniwyd diwygiad rhesymol Robert Vaughan yn LlGC 19904B.
                                    
                                 Diwallodd Duw ei allawr,
                                 Ei fagl a wnaeth miragl mawr;
                                 85Yr adar gwyllt o’r hedeg
                                 A yrrai i’r tai, fy iôr teg;14 Nid oes sôn am hyn yn y bucheddau Lladin na Chymraeg, ond ceir cyfeiriadau cyffelyb at wyrth yn ymwneud ag adar
                                          yn awdl Gwynfardd Brycheiniog a dwy o gerddi Lewys Glyn Cothi, gw. DewiGB llau. 168–75n(e);
                                          DewiLGC1 llau. 19–20n(e).
                                    
                                 A’r ceirw osglgyrn chwyrn chwai,24 Mae’r llinell hon ddwy sillaf yn fyr yn Pen 53 a BL 14967, gan fod ceirw yn unsill fel rheol yn y cyfnod hwn. Ychwanegodd Robert Vaughan sillaf yn LlGC 19904B trwy ddarllen A’r, sydd hefyd yn gwella rhediad y darn.
                                    
                                 Gweision uthr, a’i gwasnaethai.15 Nid oes sôn am y wyrth hon ychwaith yn y bucheddau Lladin na Chymraeg, ond sonia Lewys Glyn
                                             Cothi am Ddewi’n cynnull ceirw, gw. DewiLGC1 n4(e) a cf. DewiGB ll. 18n(e).
                                    
                                 
                              
                                 Dyw Mawrth Galan Mawrth ym medd
                                 90I farw’r aeth ef i orwedd.
                                 Bu ar ei fedd, diwedd da,
                                 Cain glêr yn canu gloria,
                                 Engylion nef yng nglan nant
                                 Ar ôl bod ei arwyliant.16 Sonnir yn y fuchedd am farwolaeth Dewi ar ddydd Mawrth, diwrnod cyntaf mis Mawrth, ac am
                                          ei enaid yn cael ei dywys i’r nefoedd gan Iesu Grist a llu o angylion, ond ni ddisgrifir ei angladd fel y cyfryw.
                                    
                                 95I bwll uffern ni fernir
                                 Enaid dyn, yn anad tir,
                                 A gladder, diofer yw,
                                 Ym mynwent Ddewi
                                    Mynyw;17 Ar y gred na fyddai neb a gleddid ym mynwent Dewi yn mynd i uffern, gw. TWS
                                          65 a DewiGB llau. 166–7n(e).
                                    
                                 Ni saing cythraul brycheulyd
                                 100Ar ei dir byth er da’r byd.
                                 
                              
                                 Pebai mewn llyfr o’r pabir
                                 Beunydd mal ar hafddydd hir25 Mae llau. 102 a 103 yn eisiau yn Pen 53, ac o ganlyniad cywasgwyd
                                          dau gwpled yn un ac mae’r odl rhwng pabir a dur yn wallus.
                                    
                                 Noter pyblig18
                                          
                                             Noter pyblig
                                              Mae’r ymadrodd hwn yn gyfaddasiad o’r Eingl-Normaneg notaire public, ‘clerc cyhoeddus’, gw. GPC d.g. noter a AND d.g. notaire. un natur26 Ymddengys fod hyn wedi’i ddeall fel cyfeiriad at Beblig Sant yn BL 14967 a LlGC 19904B: Noter a ffeblic vn natur. Iolo Morganwg yn BL 14970 oedd yr unig gopïydd a welodd fod angen hepgor yr a er mwyn hyd y llinell a’r synnwyr.
                                    
                                 Â phin a du â phen dur
                                 105Yn ysgrifennu, bu budd,
                                 Ei fuchedd ef ddiachudd,27 Mae llau. 105–6 yn eisiau yn Pen 53.
                                    
                                 Odid fyth, er däed fai,
                                 Ennyd yr ysgrifennai
                                 Dridiau a blwyddyn drydoll
                                 110A wnaeth ef o wyniaith oll.
                                 
                                    [Pen 53 →]
                                    
                                 
                              
                                 Gan ddymuno lles i’m henaid,
                                 heneiddio yr wyf, dyma oedd raid ei wneud,
                                 mynd i’r lle y croeshoeliwyd Crist
                                 er bod y ddau droed du a thruenus
                                 5yn gaeth mewn cyffion yma,
                                 nid yw’r traed am fynd yno.
                                 Llawn mor llesol i mi yw
                                 mynd deirgwaith i Fynyw
                                 â mynd, anrhydedd gwych,
                                 10dros yr hafau hyd Rufain.
    
                                 Gwyddwn lle mynnwn fy mod,
                                 rhinweddol yw’r drigfan,
                                 ym maenor Dewi o Fynyw,
                                 llecyn hyfryd ydyw, myn y groes.
                                 15Yng Nglyn Rhosyn mae’r lle hardd,
                                 ac olewydd a gwinwydd
                                 a rhagoriaeth cerddoriaeth a moesau
                                 a sain dynion a chloc
                                 a chyseinedd bywiog, llewyrch disglair,
                                 20cyflawn rhwng organ a chlychau,
                                 a thuser aur trwm enfawr
                                 yn gwasgaru arogldarth i greu aroglau da.
                                 Nef y nefoedd yn gyhoeddus braf,
                                 tref dda yw yr un fath â Rhufain,
                                 25paradwys Cymru hardd a llyfn,
                                 tref ddethol bendefigaidd ar ddull paradwys.
                                 
                              
                                 Ansicr fu Sant Padrig
                                 oherwydd anfodlonrwydd Duw, amser dig,
                                 oherwydd gorchymyn hyn, sarhad oedd,
                                 30iddo fynd o’r lle a wnaethai,
                                 i ffwrdd o Fynyw
                                 cyn geni Dewi, da yw ef.
                                 Sant oedd ef o nef i ni
                                 yn gynhenid cyn iddo gael ei eni;
                                 35sant pur ydoedd pan aned ef
                                 oherwydd hollti’r maen, rhyfeddol oedd ei ffydd.
                                 Adferodd olwg
                                 i’r llygaid sâl rhag clefyd drwg,
                                 ei dad bedydd, tylwyth bydol,
                                 40dyn heb lygaid na thrwyn, mawr fu’r mawl.
                                 Sant oedd ei dad, roedd yn ffaith ddiymwad
                                 mai pennaeth y seintiau ydoedd;
                                 santes lesol a llon ei llygaid
                                 oedd Non ei fam dda ddi-nam,
                                 45ferch Ynyr o dylwyth bonheddig,
                                 lleian dda, gwych yw’r hanes.
                                 Un bwyd a aeth yn ei geg,
                                 bara oer a berwr
                                 a dŵr du tra bu fyw,
                                 50ar ffurf rhodd, o’r un math
                                 ag a aeth yng ngheg Non wen dda
                                 ers iddo gael ei genhedlu, pennaeth ydyw.
                                 
                              
                                 Daeth holl seintiau’r byd, yn cyd-deithio,
                                 i’r senedd wych gynt
                                 55ar yr un diwrnod i wrando
                                 ar ei bregeth a rhywfaint o’i ffydd.
                                 Cododd bryn, nid peth gwael ydoedd,
                                 dan draed Dewi o Frefi
                                 lle dysgodd dorf ddethol a gwych,
                                 60lle bu’n pregethu’n goeth,
                                 chwe mil, saith ugeinmil o seintiau
                                 ac un fil, am gynulliad!
                                 Caniatawyd iddo fod yn bennaeth
                                 ar holl seintiau’r byd, anrhydedd purdeb.
                                 65Cantref o nef oedd ei nawdd,
                                 ef yn deg a fendithiodd
                                 y baddon twym byrlymus
                                 a fydd yn parhau yn dragwyddol heb ddarfod.
                                 Yn gadarn y caniataodd ef
                                 70y gwyniad i’r Brythoniaid
                                 yn arbennig, anrhydedd y brut,
                                 gras da y Grawys du.
                                 Trawsffurfiodd Duw, dicter llym,
                                 ddau flaidd o natur ddieflig,
                                 75sef dau hen ŵr a oedd o dir hud,
                                 Gwydre Cyfrwys ac Odrud,
                                 yn gosb am gyflawni rhyw bechod
                                 a chwenychent, helynt ddrwg gynt;
                                 a’u mam – paham y byddai hi? –
                                 80a drowyd yn flaidd benyw, melltith arni;
                                 a Dewi gwych a’u rhyddhaodd hwy
                                 o’u cosb hir yn eu halltudiaeth.
                                 Cyflenwodd Duw ei allor,
                                 gwnaeth ei ffon wyrth fawr;
                                 85gyrrodd adar gwyllt o’r awyr
                                 i’r tai, fy arglwydd teg;
                                 a’r ceirw bywiog a chwim â chyrn canghennog
                                 a’i gwasanaethai, gweision rhyfeddol.
                                 
                              
                                 Ar Dydd Mawrth y diwrnod cyntaf o fis Mawrth
                                 90yr aeth ef i orwedd mewn bedd i farw.
                                 Bu clerigwyr hardd ar lan ei fedd
                                 yn canu gloria, diwedd da,
                                 angylion y nef ar lan nant
                                 ar ôl cynnal ei gynhebrwng.
                                 95Ni fernir i bwll uffern
                                 enaid unrhyw ddyn a gleddir
                                 ym mynwent Dewi o Fynyw
                                 yn anad un tir arall, mae’n werthfawr iawn;
                                 ni fydd cythraul brwnt yn sathru
                                 100ar ei dir byth er holl gyfoeth y byd.
                                 
                              
                                 Pe bai un o’r un anian ag ysgrifydd cyhoeddus
                                 wrthi bob dydd fel ar ddiwrnod hir o haf
                                 yn ysgrifennu ei fuchedd enwog ef
                                 mewn llyfr o bapur
                                 105gydag inc a phin ac iddo ben dur,
                                 roedd yn fuddiol iawn,
                                 prin byth, ni waeth pa mor fedrus fyddai,
                                 y gallai ysgrifennu
                                 mewn blwyddyn gyfan a thri diwrnod
                                 110yr holl wyrthiau a gyflawnodd ef.
                                 
                              
1 ddudrist Cymerir mai dyma a gynrychiolir gan Pen 53 ddydrist (cf. ryvein yn ll. 24 a vyr yn ll. 40). Gwannach o ran synnwyr yw ddidrist BL 14967. Cf. GIG I.55 A’r Iddewdref arw ddudrist.
2 cymyrred Ffurf amrywiol ar cymyrredd, ‘bri, anrhydedd’, cf. DG.net 31.4. Hwn yw darlleniad BL 14967 (cymyred), ond cf. cynired ‘ymweliad’ yn LlGC 19904B.
3 Cwpled hollol wahanol a geir yma yn Pen 53: Och vineu na chaf einoes / Y vyned or gred lle mayr groes. Mae’r dyhead am gael mynd i Jerwsalem yn ailadrodd yr hyn a ddywedir yn y frawddeg gyntaf, a chymerir mai cwpled yw hwn a luniwyd i lenwi bwlch am fod ail ran y frawddeg am werth pererindodau i Fynyw wedi mynd yn angof.
4 Mae llau. 11–12 yn eisiau yn Pen 53.
5 thrwblwm Benthyciad o’r Lladin t(h)ūribulum, gw. GPC d.g. trwblwm. Ar gyfer llafariad y sillaf gyntaf dilynir Pen 53; cf. BL 14967 trvblwm. Y ffurf a geir gan Ieuan ap Rhydderch yw thryblwm (DewiIRh ll. 104).
6 yn Ni cheir hwn yn Pen 53 na BL 14967. Derbyniwyd diwygiad Robert Vaughan yn LlGC 19904B er mwyn adfer saith sillaf.
7 wnaddoedd Un o ffurfiau amrywiol trydydd unigol gorberffaith gwneuthur, gw. GMW 131. Dilynir Pen 53 naddoedd, ond mae BL 14967 wnaeddoedd hefyd yn bosibl.
8 Mae llau. 33–4 yn eisiau yn Pen 53, ond maent yn amlwg yn ffurfio uned gyda’r cwpled dilynol.
9 Mae llau. 37–40 yn eisiau yn BL 14967.
10 saint Ceir byd yn Pen 53, efallai o dan ddylanwad GIG VI.82 Penadur byd pan ydoedd.
11 gwych Dilynir Pen 53, ond gellid darllen uwch ar sail BL 14967 vwch.
12 Mae llau. 49–50 yn eisiau yn BL 14967.
13 Ag Ni cheir hwn yn Pen 53 na BL 14967, a derbyniwyd diwygiad Robert Vaughan yn LlGC 19904B er mwyn y synnwyr a hyd y llinell.
14 Mae llau. 53–6 yn eisiau yn Pen 53.
15 resyn Pen 53 ryssin. Rhaid adfer ffurf y testun er mwyn y gynghanedd lusg; cf. BL 14967 iessyn sy’n gywir o ran cynghanedd ond yn groes i’r synnwyr disgwyliedig.
16 Mae llau. 63–4 yn eisiau yn Pen 53.
17 cantref Mae fersiwn Pen 53, Ac ef o nef yw y nawdd, hefyd yn bosibl, ond bernir mai darlleniad BL 14967 yw’r darlleniad anos.
18 twymn BL 14967 twymyn, cf. BDe 6 yr Enneint Twymyn.
19 Fersiwn carbwl o’r stori hon a geir yn Pen 53, heb egluro bod Duw wedi troi’r ddeuwr yn fleiddiaid yn y lle cyntaf.
20 drygantur Dau air ar wahân a geir yn Pen 53, dryc antur, ond awgryma llafariad y gair cyntaf mai gair cyfansawdd a fwriedid. Ni nodir y gair hwn yn GPC, ond cf. geiriau fel dryganian. Mae drvd BL 14967 yn anfoddhaol o ran cynghanedd.
21 goeth Mae darlleniad BL 14967, geth, yn anfoddhaol, a dilynwyd diwygiad Robert Vaughan yn LlGC 19904B (cf. ll. 60). Ond dylid ystyried hefyd gerth, ‘iawn, gwir, cywir, sicr’, gw. GPC, a cf. GGGr 2.9 Iorwerth ab Iorwerth gerth, goeth, a GGLl 19.86 A’r Tad a’r Ysbryd cyd certh.
22 Mae llau. 81–2 yn eisiau yn Pen 53.
23 Mae’r llinell hon yn garbwl yn BL 14967: Oi hir ben yni evr bwynt, a derbyniwyd diwygiad rhesymol Robert Vaughan yn LlGC 19904B.
24 Mae’r llinell hon ddwy sillaf yn fyr yn Pen 53 a BL 14967, gan fod ceirw yn unsill fel rheol yn y cyfnod hwn. Ychwanegodd Robert Vaughan sillaf yn LlGC 19904B trwy ddarllen A’r, sydd hefyd yn gwella rhediad y darn.
25 Mae llau. 102 a 103 yn eisiau yn Pen 53, ac o ganlyniad cywasgwyd dau gwpled yn un ac mae’r odl rhwng pabir a dur yn wallus.
26 Ymddengys fod hyn wedi’i ddeall fel cyfeiriad at Beblig Sant yn BL 14967 a LlGC 19904B: Noter a ffeblic vn natur. Iolo Morganwg yn BL 14970 oedd yr unig gopïydd a welodd fod angen hepgor yr a er mwyn hyd y llinell a’r synnwyr.
27 Mae llau. 105–6 yn eisiau yn Pen 53.
1 Ystyrid tri phererindod i Dyddewi yn gyfwerth ag un i Jerwsalem fel arfer, a dau yn gyfwerth ag un i Rufain, gw. DewiIRh llau. 115–22, ac StDW 103, 213. Gan fod sôn am fynd lle croged Crist ar ddechrau’r gerdd gellir cymryd mai pererindod i Jerwsalem a olygir yma mewn gwirionedd.
2 Yn ôl y fuchedd anfonwyd angel i rybuddio Padrig i ymadael â Glyn Rhosyn ddeng mlynedd ar hugain cyn geni Dewi, ac i ddangos Iwerddon iddo o Eisteddfa Badrig, gw. BDe 2.
3 Yn ôl y fuchedd holltodd carreg yn ddau hanner ger pen Non pan aned Dewi, gw. BDe 4.
4 Ceir yr hanes yn y fuchedd am adfer golwg dyn dall a oedd yn dal Dewi i’w fedyddio, gw. BDe 4; DewiGB llau. 158–61n(e). Yn ôl Rhygyfarch enw’r tad bedydd oedd St Mobi o Glasnevin (Mobi Clarainech yn yr Wyddeleg, gair sy’n cyfateb i wynepglawr).
5 Sant ap Ceredig oedd tad Dewi.
6 Ni roddir ach Non yn y fuchedd, ond yn ôl Bonedd y Saint Cynyr oedd enw ei thad (EWGT 54), cf. DewiIRh ll. 18.
7 Dywedir yn y fuchedd mai bara a dŵr yn unig a fwytaodd Non o’r amser y beichiogodd, a bod Dewi wedi gwneud yr un peth ar hyd ei fywyd (BDe 3), ond sonnir am ferwr hefyd yn y farddoniaeth, DewiIRh ll. 21, DewiLGC1 ll. 21.
8 Un o uchafbwyntiau’r fuchedd yw senedd y saint yn Llanddewibrefi a hanes y bryn yn codi dan draed Dewi pan oedd yn pregethu, gw. BDe 15–18; DewiIRh llau. 79–86.
9 Ni nodir nifer y seintiau yn y fuchedd, ond ceir yr un rhif gan Wynfardd Brycheiniog, DewiGB ll. 28n(e) (lle awgrymir bod Iolo Goch efallai wedi gweld testun awdl Gwynfardd Brycheiniog yn Llawysgrif Hendregadredd) a chan Ieuan ap Rhydderch DewiIRh llau. 81–2.
10 Yn ôl y fuchedd cytunwyd yn y senedd y uot ef yn tywyssawc ar seint Ynys Brydein, BDe 18.
11 Mae’r fuchedd yn adrodd hanes Dewi’n bendithio ffynnon o ddŵr twym yng Nghaerfaddon, BDe 6; am gyfeiriadau eraill yn y farddoniaeth gw. TWS 43–5.
12 Ni sonnir am hyn yn y bucheddau Lladin na Chymraeg, ond yn DewiIRh llau. 49–50 dywedir i Ddewi ryddhau lluniaeth y wlad adeg y Grawys trwy ganiatáu bwyta’r gwyniad, sef ysgadenyn mae’n debyg.
13 Ni cheir y wyrth hon yn unman arall, gw. TWS 64, ond cyfeirir at deu geneu Gast Rymhi, Gwydrut a Gwyden (llsgr. gwydneu) Astrus yn chwedl Culhwch ac Olwen (CO llau. 315–16.) Mae’r syniad o droi pobl yn anifeiliaid yn gosb am eu pechodau yn dwyn i gof stori Gwydion a Gilfaethwy ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi.
14 Nid oes sôn am hyn yn y bucheddau Lladin na Chymraeg, ond ceir cyfeiriadau cyffelyb at wyrth yn ymwneud ag adar yn awdl Gwynfardd Brycheiniog a dwy o gerddi Lewys Glyn Cothi, gw. DewiGB llau. 168–75n(e); DewiLGC1 llau. 19–20n(e).
15 Nid oes sôn am y wyrth hon ychwaith yn y bucheddau Lladin na Chymraeg, ond sonia Lewys Glyn Cothi am Ddewi’n cynnull ceirw, gw. DewiLGC1 n4(e) a cf. DewiGB ll. 18n(e).
16 Sonnir yn y fuchedd am farwolaeth Dewi ar ddydd Mawrth, diwrnod cyntaf mis Mawrth, ac am ei enaid yn cael ei dywys i’r nefoedd gan Iesu Grist a llu o angylion, ond ni ddisgrifir ei angladd fel y cyfryw.
17 Ar y gred na fyddai neb a gleddid ym mynwent Dewi yn mynd i uffern, gw. TWS 65 a DewiGB llau. 166–7n(e).
18 Noter pyblig Mae’r ymadrodd hwn yn gyfaddasiad o’r Eingl-Normaneg notaire public, ‘clerc cyhoeddus’, gw. GPC d.g. noter a AND d.g. notaire.


