Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

23. Moliant i Dydecho

golygwyd gan Eurig Salisbury

Llawysgrifau

Ceir 30 o gopïau o’r gerdd hon yn y llawysgrifau, a gellir eu rhannu’n ddau brif ddosbarth sy’n deillio o ddau destun coll, sef X1 ac X2 (stema). Roedd y testun a geid yn X2 yn rhagori, ar y cyfan, ar y testun a geid yn X1. Perthyn y saith llawysgrif a ddefnyddiwyd i lunio testun y golygiad hwn i’r ganrif rhwng 1575 ac 1675.

Er bod darlleniad X1 ar gyfer llinell 91 yn rhagori ar ddarlleniad X2, ac felly hefyd, fe ymddengys, o ran llinellau 16 a 48, ceid pedwar darlleniad amlwg wallus yn nhestun X1 – llinellau 28, 50, 84 a 92 – a’r tebyg yw fod darlleniadau’r testun hwnnw yn llinellau 17, 22, 59, 61, 73, 78 a 97 yn ddiffygiol hefyd (gw. y nodiadau). Cynigir bod o leiaf un gynsail goll (a elwir X3) yn deillio o X1, ond gall fod cynsail neu gynseiliau eraill coll rhwng X1 a dwy o’r llawysgrifau mwyaf diweddar a drafodir yma, sef LlGC 6499B a CM 21 (gw. nodiadau llinellau 10, 17, 54, 84). Copïwyd y naill destun gan gopïydd anhysbys (a elwir X156 yn RepWM) ar ran Owen Salusbury o Rug c.1654–5, a’r llall gan Edward Davies o Riwlas ger Llansilin yn 1672, sy’n awgrymu bod eu ffynhonnell neu ffynonellau yn cylchredeg yn ardal y Berwyn erbyn trydydd chwarter yr 17g. Ymddengys fod X3 ym meddiant y geiriadurwr mawr o Drefriw, Thomas Wiliems, pan gododd y testun hwnnw i Pen 225 rywdro rhwng 1594 ac 1610. Pan fu farw Thomas Wiliems c.1622, gall fod X3 ymysg y llawysgrifau o’i eiddo a drosglwyddwyd i feddiant John Wynn o Wydir, ac efallai fod Robert Davies o Wysanau wedi gweld y ffynhonnell honno yng Ngwydir pan fu’n cyfrannu at un o lawysgrifau John Wynn, sef C 4.101, rywdro rhwng c.1600 ac 1634. Ceir copi o’r gerdd i Dydecho yn llaw cynorthwyydd anhysbys Robert Davies (a elwir X2 yn RepWM) yn J 140 (c.1630).

Ymddengys fod X2 yn cylchredeg yng nghyffiniau Rhuthun yn Nyffryn Clwyd erbyn chwarter olaf yr 17g. Codwyd y testun hwnnw i Pen 86 gan Richard ap Siôn (c.1572–1620) o Sgorlegan ym mhlwyf Llangynhafal, a’r copi hwnnw o’r gerdd yw’r gorau ar glawr. Codwyd yr un testun, fe dybir, i ffynhonnell goll a elwir X4, a chodwyd y testun hwnnw, yn ei dro, i BL 14866 (1586–7) gan David Johns o Lanfair Dyffryn Clwyd. (Mae’r ffaith fod Richard ap Siôn yn dyfynnu David Johns mewn nodyn yn llawysgrif J 15 yn dyst i’r cyswllt rhyngddynt.) Yn negawdau cynnar yr 17g., bernir bod X4 wedi dod i sylw Wmffre Dafis o Ddarowen ger Machynlleth, a gododd y testun hwnnw i Llst 118 (1612–35), llawysgrif a elwid yn ddiweddarach y (llyfr) Carpiog o Aberllefenni. Y llawysgrif honno yw’r gynharaf y gellir ei chysylltu ag ardal y gerdd, er yr ymddengys mai o ffynhonnell a ddaeth yn wreiddiol o Ddyffryn Clwyd, fel y nodwyd, y codwyd ei thestun, ac nid o Fawddwy.

Teitl
Teitlau digon moel a geir yn y llawysgrifau sy’n deillio o X1 (cf. Pen 225 Cywydh Tydecho Sanct), ond noder yr ychwanegiad yn CM 21 kowydd tydecho o fowthwy . Os ceid teitl yn Pen 86, fe’i collwyd yn sgil rhwygo’r ddalen. O’r gerdd ei hun y daeth yr wybodaeth a geir yn nheitl BL 14866 Cywydd i dydecho sant a llawer o storiae yntho yn amser maelgwyn Gwynedd, a cheir fersiwn tebyg o’r un teitl yn Llst 118, eithr ceir gair mwy parchus yn lle storiae, efallai am fod y llawysgrif wedi ei hysgrifennu yn ardal Mawddwy: Cowydd i dydecho a llawer o wrthiae yntho. Noder hefyd yr wybodaeth a godwyd o’r gerdd gan John Jones Gellilyfdy yn nheitl Pen 112 kowydd moliant i Dydecho sant fab[gadawyd bwlch] yr hwnn oedd yn amser maelgwn Gwynedd ac yn krefyddu y mowddwy ac a ddoethoedd yno o lan Dydoch yn ol digyfor mor.

Y llawysgrifau
BL 14866, 28r–9v (David Johns, 1586–7)
BL 14901, 45r (X106, hanner cyntaf y 18g., nid cyn 1705)
BL 31085, 65r (Owain Myfyr ac eraill, 18g./19g.)
C 2.40, 85 (John Morgan, c.1714)
CM 21, 12–15 (Edward Davies, 1672)
CM 204, 62r (William Morgan, 1670au–1719)
CM 206, 7 (Cadwaladr Dafydd, 1730–49)
CM 930, 110 (Thomas Richards, 18g./19g.)
Gwyn 3, 21v (Jaspar Gryffyth, c.1600)
J 140, 494–7 (X2, c.1630)
LlGC 668C, 35 (William Jones, 19g.)
LlGC 671D, 9 (William Jones, 19g.)
LlGC 2014B, 15 (Evan Evans, c.1775–85)
LlGC 2288B, 16 (Gwallter Mechain, 1791)
LlGC 3056D, 500 (Wmffre Dafis, 16g./17g., nid cyn 1593)
LlGC 5269B, 503r (Rhys Cadwaladr, c.1666–88)
LlGC 6499B, 656–60 (X156, c.1654–5)
LlGC 8330B, 185 (Lewis Maurice, c.1634–47)
LlGC 10251B, 18 (anh., ail hanner y 18g., cyn 1777)
LlGC 19907B, 232r (Robert Vaughan, hanner cyntaf yr 17g.)
LlGC 21291E, 8r (X106, 18g., nid cyn 1706)
LlGC Mân Adnau 55B, 344 (David Ellis, c.1788)
Llst 118, 349–51 (Wmffre Dafis, 1612–35)
Llst 133, 51r (Samuel Williams, c.1712)
Llst 167, 327 (Siôn Dafydd Laes, ail hanner yr 17g.)
Pen 86, 305–7 (Richard ap Siôn, c.1572–1620)
Pen 100, 550 (X5, c.1620)
Pen 112, 668 (John Jones Gellilyfdy, 1619–21)
Pen 120, 595r (William Jones, c.1696–7)
Pen 225, 165–8 (Thomas Wiliems, 1594–1610)