Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

9. Moliant i seintiau Brycheiniog

golygwyd gan Eurig Salisbury

Llawysgrifau

Ceir yr unig gopi o’r gerdd hon yn Pen 54, a hynny, yn ôl pob tebyg, yn llaw’r bardd ei hun, Huw Cae Llwyd. Yn y llawysgrif honno y ceir y casgliad mawr cynharaf o gerddi’r Cywyddwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â’r de-ddwyrain (a Brycheiniog yn benodol) ac wedi eu cofnodi c.1480 gan y beirdd eu hunain, yn eu plith Ddafydd Epynt, Ieuan Deulwyn a Hywel Swrdwal. Ac eithrio rhai llinellau (gw. y nodiadau testunol), mae’r testun yn ddi-fai.

Trefn y llinellau: 1–51, 51, 52–70.

Y llawysgrif
Pen 54, cyf. 1, 141–5 (Huw Cae Llwyd, c.1480)