Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

9. Moliant i seintiau Brycheiniog

golygwyd gan Eurig Salisbury

Rhagymadrodd

Enwir yn y cywydd hwn gyfanswm o 42 o seintiau a chanddynt gysylltiad â Brycheiniog, gyda’r nod o ofyn eu bendith ar bererindod Huw Cae Llwyd i Rufain yn 1475. Cyhoeddodd y Pab Sixtus IV (1471–84) y flwyddyn honno’n flwyddyn jiwbilî, gan ddilyn traddodiad o gynnal jiwbilïau yn Rhufain yn ysbeidiol ers 1300, er mwyn eithrio pechaduriaid a ymwelai â nifer penodol o eglwysi yn Rhufain o gosbedigaeth y purdan. Canodd Huw gywydd arall yn disgrifio’r eglwysi yr ymwelodd â hwy yn Rhufain, yn ogystal â chywydd mawl i’w noddwr, Ieuan ap Gwilym o’r Peutun ger Aberhonddu, tra oedd yn Rhufain (MWPSS cerdd 16; HCLl cerdd XXX). Ni fanylir ar union berthynas Ieuan (a enwir yn y ddwy gerdd) â phererindod Huw, ond y tebyg yw fod Huw wedi ymweld â Rhufain ar ran ei noddwr, yn ogystal ag er ei les ei hun, yn debyg i’r modd yr aeth Lewys Glyn Cothi ar bererindod i Rufain ar ran Wiliam Fychan ap Gwatgyn Fychan o Rydhelig yng ngogledd swydd Henffordd (GLGC cerdd 90). Nid enwir Ieuan yn y cywydd hwn eithr geilw Huw’n gynnil ar holl uchelwyr Brycheiniog am nawdd i ymgymryd â’r daith fel lladmerydd ar eu rhan.

Dwg y gerdd i gof gerddi mawl i Frycheiniog gan Siôn Cent, Llawdden a Hywel Dafi (IGE2 cerdd LXXXIX; GLl cerdd 18; GHDafi cerdd 59), ond saif fymryn ar wahân i’r cerddi hynny o ran ei chyd-destun penodol a’i phwyslais ar y seintiau. Ar ôl moli Brycheiniog yn llinellau cyntaf y gerdd, pennir ffiniau’r fro, fel y gwelai Huw hi, yn llinellau 5–12. Cynrychiolir tri o bwyntiau’r cwmpawd gan bedair afon: y dwyrain gan nant Baedan ger y Fenni, y de gan flaenau afon Cynon a’r gogledd gan afonydd Irfon a Gwy (ni roir sylw i’r ffin orllewinol). Enwir dau o gantrefi Brycheiniog, Cantref Selyf a Chantref Talgarth, ynghyd â chwmwd Ystrad Yw (yng Nghantref Talgarth) a phlwyf y Glyn yn y Cantref Mawr. Anwybyddir Cantref Buellt, sy’n amherthnasol, i raddau helaeth, o ran lleoli cysegrfannau’r seintiau a enwir yn nes ymlaen yn y gerdd. Ond ni ellir ei anwybyddu’n llwyr, oherwydd, fel y gwelwyd, defnyddia Huw afon Irfon fel ffin ac, os felly, roedd stribed helaeth o dir yn ne Cantref Buellt, rhwng afon Irfon a ffin ogleddol Cantref Selyf, yn rhan o’i Frycheiniog ef (am fap defnyddiol, gw. Lewis 1960: 38). Ceir yn y stribed hwnnw o dir eglwysi wedi eu cysegru i Gynog (ll. 20n) ac i Fair (ll. 23n Mair).

Gwelir camp Huw yn y gerdd hon yn y modd y llwyddodd i enwi dros ddeugain o seintiau mewn deg o gwpledi (19–38). Cysegrwyd eglwys, capel neu allor i bob un o’r seintiau hyn (23 ohonynt yn seintiau brodorol) ar hyd a lled Brycheiniog, gyda’r clystyrau mwyaf wedi eu lleoli ar hyd dyffryn Wysg ac yn Aberhonddu. Yna molir trigolion Brycheiniog, a fydd, fe obeithir, yn darparu nerth, onid nawdd, i Huw deithio i Rufain (39–46). Ac er mwyn dwyn perswâd arnynt, deil Huw y bydd yn gweddïo ar eu rhan ac y dylai pawb ystyried arwyddocâd y ffaith mai Duw yw Tad y ddynoliaeth (47–70).

Dyddiad
Yn fuan cyn i Huw Cae Llwyd fynd ar bererindod i Rufain yn 1475.

Golygiad blaenorol
HCLl cerdd XLV.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 70 llinell. Cynghanedd: croes o gyswllt 20% (14 ll.), croes 43% (30 ll.), traws 9% (6 ll.), sain 17% (12 ll.), llusg 11% (8 ll.).