Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

9. Moliant i seintiau Brycheiniog

golygwyd gan Eurig Salisbury

Gweddi ar seintiau Brycheiniog gan Huw Cae Llwyd cyn iddo fynd ar bererindod i Rufain. Dyddiad yn fuan cyn 1475.

[Peniarth 54 →]

Dy dir a gred i dŷ’r Grog,1 tŷ’r Grog Eglwys priordy Aberhonddu, efallai, gw. llau. 22n, 26n Byneddig⁠; yr Eglwys yn gyffredinol fel corff Crist, gw. GPC Ar Lein d.g. eglwys (b); neu’r nefoedd, hyd yn oed.
Da fro y’ch2 fro y’ch Cywesgir yn unsill. enwid, Frycheiniog!
Dy Gymry nis dwg amraint,
Dlyedus wyd, wlad y saint.
5Dygaf rhwng pedair afon,
Dy led a hyd, y wlad hon:4 Dy led a hyd, y wlad hon Ystyrir Dy led a hyd yn sangiad, er gwaethaf y ffaith mai a’th hyd a ddisgwylid. Fel arall, gellid hepgor y sangiad a darllen a hyd y wlad hon. Noder bod -d a h- yn cael eu cyfrif fel cytseiniaid annibynnol yn y gynghanedd gytsain hon, gan anwybyddu’r calediad disgwyliedig rhwng wlad a hon.
Baedan⁠5 Baedan Nant fach a lif i afon Wysg ger Gofilon, ychydig i’r gorllewin o’r Fenni, sy’n dynodi yma ran o ffin ddwyreiniol Brycheiniog, gw. EANC 38; Morgan and Powell 1999: 33. o’r fan6 [y] fan Gall mai ffurf dreigledig ar man ‘lle’ ydyw, ond rhydd ystyr well fel ffurf dreigledig ar ban, gw. GPC Ar Lein d.g. ban1 (a) ‘uchelfan’. i ar Fynwy,7 i ar Fynwy O ran y cyfuniad i ar, a gywesgir yn unsill yma, tebyg mai’r ystyr sy’n gweddu orau yw ‘uwchben’, gw. GPC Ar Lein d.g. i4; Williams 1950: 6. Fodd bynnag, annisgwyl yw sôn yma am Fynwy, ni waeth beth y mae’r enw hwnnw’n ei ddynodi. Os yr arglwyddiaeth ar lan afon Mynwy a gynhwysai’r Tri Chastell, paham y cyfeirir at ardal a oedd gryn bellter i’r dwyrain o Frycheiniog – ai am fod yr ucheldir o gwmpas Crucywel yn wynebu’r ardal honno? Os yr afon ydyw, llifa cwrs honno’n agos at ucheldir Brycheiniog yn y gogledd-ddwyrain eithr yn bell iawn o nant Baedan, gw. ll. 7n Baedan⁠; cf. GLGC 147.21, 178.44.
Cynon⁠8 Cynon Afon a lif i afon Taf ym Morgannwg, ond a dardd nid nepell o ffin ddeheuol Brycheiniog ger Penderyn. ac Irfon⁠9 Irfon Afon a lif i afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt ac sy’n cynrychioli ffin ogledd-orllewinol Brycheiniog yn y cywydd hwn. a Gwy.10 Gwy Afon a lif ar hyd ffin ogledd-ddwyreiniol Brycheiniog.
Tir Selyf,11 tir Selyf Roedd Cantref Selyf yn un o gantrefi Brycheiniog, gw. WATU 29, 421 (map); Lewis 1960: 38 (map). trasau haelion,
10 Ystrad Yw,12 Ystrad Yw Cwmwd yng nghantref Talgarth ym Mrycheiniog, gw. WATU 227, 323 (map). henyw o hon;
Tir y Glyn,13 tir y Glyn Tebyg mai plwyf y Glyn ydyw yng Nghantref Mawr, sef Glyntarell lle croesa’r A470 Fannau Brycheiniog o’r gogledd heddiw, gw. WATU 77. ein treigl ennyd,
Talgarth,14 Talgarth Y mwyaf dwyreiniol o gantrefi Brycheiniog, gw. WATU 201, 421 (map); Lewis 1960: 38 (map). o boparth i’r byd.

Y mae’n rhaid, er mwyn rhadau,
Ym â chwi wers i’m iacháu.15 Llau. 13–14. Try ystyr y cwpled hwn ar golyn y gair [g]wers a’i amrywiol ystyron, gw. GPC Ar Lein d.g. A dilyn y ffaith fod Huw Cae Llwyd yn cyfarch Brycheiniog yn uniongyrchol ar ddechrau’r gerdd, gall mai’r fro honno a gyferchir yma hefyd. Os felly, ‘ysbaid [o amser]’ yw’r ystyr sy’n gweddu orau, ac felly hefyd os yw Huw’n cyfarch trigolion Brycheiniog, fel y gwna yn y cwpled nesaf. Dyma’r ystyr sy’n cyd-fynd orau gydag â chwi, sef cyfnod byr o amser y bwriadai Huw ei dreulio ym Mrycheiniog cyn ymadael i Rufain ar ei bererindod. Mae ystyron eraill yn bosibl, fel ‘gwers’ yn yr ystyr fodern, os yw Huw’n ceisio doethineb a chyngor y fro neu ei thrigolion, ac felly hefyd, i raddau helaeth, os ‘adran o salm neu o gantigl; rhan o wasanaeth crefyddol, gweddi’ yw’r ystyr. Fel arall, mae ‘pennill o farddoniaeth’ yn gweddu fel offrwm (hynny yw, y gerdd ei hun). Nid yw cyfuniad o ystyron yn amhosibl ychwaith.
15Os y Tad a’n cenhiada,16 cenhiada Ffurf 3 unigol presennol y ferf caniadaf, gw. GPC Ar Lein d.g.
Swrn ydd ŷm, ar siwrnai dda,
I eglwys Bedr,17 eglwys Bedr Cysegrwyd tair eglwys ym Mrycheiniog i Bedr, un yn Llanbedr Ystrad Yw i’r gogledd o Grucywel a dwy ar y cyd â seintiau eraill yn Llanhamlach ac yn y Clas-ar-wy, gw. WATU 104. Fodd bynnag, mae’n bur debygol mai at fasilica Sant Pedr yn ninas y Fatican yn Rhufain y cyfeirir yma, lle’r aeth Huw Cae Llwyd ar bererindod yn 1475, gw. MWPSS cerdd 16. os medraf,18 os medraf Gw. GPC Ar Lein d.g. medraf (d), ‘Anelu at, cyrchu, mynd (i), cyrraedd’.
Yn ei ddydd19 ei ddydd Tebyg mai at Bedr y cyfeirir yma, ac mai mynd i eglwys Bedr⁠ ar ddiwrnod ei ŵyl yw’r bwriad, sef 29 Mehefin. Ymddengys mai rhwng Rhagfyr a Mehefin yr ymwelai mwyafrif y pererinion o Gymru â Rhufain, gw. Olson 2008: 28. Posibilrwydd arall yw mai at Dduw y cyfeirir, ac mai ystyr Ei ddydd yw Dydd y Farn, gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. dydd. yno ydd af.
Ceisiaf, ymglywaf o’m gwlad,
20Gan Gynog20 Cynog Sant pwysicaf Brycheiniog, ffaith a ddaw i’r amlwg yma gan mai ef yw’r cyntaf i gael ei enwi. Cysegrwyd iddo chwe eglwys ym Mrycheiniog, ond diau mai’r gysegrfan enwocaf oedd Merthyr Cynog yn y mynydd-dir rhwng Aberhonddu a Llanwrtyd, gw. Evans and Francis 1994: 21. wyn ei ganiad.
Y gwŷr doniog o’r dinas,21 [y] dinas Aberhonddu, sef prif dref Brycheiniog, i bob diben, gw. ll. 22n Ieuan a’r Grog.
Ieuan a’r Grog,22 Ieuan a’r Grog Cysegrwyd eglwys Aberhonddu i Ioan Efengylydd a cheid yno yn yr Oesoedd Canol ddelw enwog o Grist ar ffurf crog, o bosibl yr enwocaf yng Nghymru. Ceir cywydd enwog, eithr ansicr ei awduraeth, i’r grog honno, a allai fod yn waith Huw Cae Llwyd neu, yn fwy tebygol efallai, Ieuan Brydydd Hir, gw. HCLl cerdd XLIV; GIBH cerdd 12. Ceir mawl i’r grog mewn cywyddau eraill gan Ieuan ap Huw Cae Llwyd a Siôn Ceri, gw. HCLl cerdd LI; GSC cerdd 54. Ymhellach ar y grog, gw. Parri 2003; GIBH 12.5n a’r cyfeiriadau yno. ynn yw’r gras;
Mair,23 Mair Cysegrwyd i Fair nifer o eglwysi ym Mrycheiniog, megis ym Mronllys, Crucadarn, Talach-ddu, Llan-y-wern ac Ystradfellte, ond yr unig un o bwys sy’n dwyn ei henw yw Llanfair-ym-Muallt. Ac eithrio’r dref honno, diau mai’r eglwys enwocaf oedd eglwys y Santes Fair yn Aberhonddu, tref y cyfeirir ati’n benodol yn y cwpled blaenorol. Mihangel24 Mihangel Cysegrwyd i’r sant a’r archangel nifer o eglwysi ym Mrycheiniog, megis yng Nghathedin, Llanfihangel Cwm Du, Llanfihangel Fechan, Llanfihangel Nant Brân a Llanfihangel Tal-y-llyn. Ceid rhai eraill i’r gogledd o afon Irfon, ond gw. ll. 8n Irfon⁠. ac Eluw,25 Eluw Ffurf ar Elyw⁠, nawddsantes eglwys Llaneleu i’r dwyrain o Dalgarth.
Mathau26 Mathau Yr Efengylydd, a nawddsant eglwys Llandyfalle i’r gorllewin o Dalgarth. deg, cydymaith Duw;
25 Dewi,27 Dewi Cysegrwyd i nawddsant Cymru chwe eglwys yn neoniaeth Aberhonddu, gw. James 2007: 46, 66 (map). Yr amlycaf yng nghyd-destun y gerdd hon yw eglwys Llanddew i’r gogledd o Aberhonddu (a gysegrwyd i Ddewi a Non, gw. ll. 29n Non⁠), nid nepell o gartref un o brif noddwyr Huw Cae Llwyd, Ieuan ap Gwilym o’r Peutun. Pawl,28 Pawl Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan ym Mrycheiniog y gellir ei chysylltu â’r sant hwn. Ac ystyried y tebygrwydd rhwng Pawl⁠ a Paulinus⁠, y ffurf Ladin ar Peulun⁠ (gw. ll. 25n Peulun⁠), tybed a gredid, drwy amryfusedd, fod yr eglwys yn Llan-gors wedi ei chysegru i Bawl hefyd? da yw Peulun,29 Peulun Ffurf ar Peulin⁠, nawddsant eglwys Llan-gors i’r gogledd o Lyn Syfaddan. At hynny, cf. Llanbeulin ychydig i’r dwyrain o Lan-gors (SO 154 283), sef capel canoloesol sydd wedi diflannu erbyn hyn.
Domnig,30 Domnig Sefydlwyd priordy gan Urdd y Dominiciaid, y Brodyr Duon, yn Aberhonddu yn 1269, gw. ll. 33n Nicolas⁠. Byneddig31 Byneddig Sef Bened. Sefydlodd Urdd y Benedictiaid gell yn Aberhonddu c.1100, a ddaeth yn briordy maes o law ac yn eglwys gadeiriol yn yr ugeinfed ganrif, gw. ll. 22n. yn un;
Teilo,32 Teilo Sant y cysegrwyd iddo ddwy eglwys ym Mrycheiniog, a saif y ddwy i’r dwyrain o Lanymddyfri, y naill yn Llandeilo’r-fân a’r llall (ar y cyd â Dewi a Phadarn) yn Llywel. Ulltud,33 Ulltud Ffurf ar Illtud⁠, nawddsant eglwys Llanilltyd i’r de-orllewin o Aberhonddu ac, ar y cyd â Phedr, eglwys Llanhamlach ar gyrion dwyreiniol Aberhonddu. Saint Elen,34 Saint Elen Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan y gellir ei chysylltu â’r santes hon ym Mrycheiniog. Cysegrwyd iddi eglwys Llanelen i’r de o’r Fenni, ond dengys y cyfeiriad at nant Baedan⁠ yn ll. 7 yn eglur nad oedd y fan honno’n rhan o Frycheiniog.
Tyfaelog35 Tyfaelog Sant y cysegrwyd iddo ddwy eglwys ym Mrycheiniog, y naill yn Llandyfaelog Fach i’r gogledd o Aberhonddu, a’r llall yn Llandyfaelog Tre’r-graig i’r gogledd o Lyn Syfaddan. at36 at Arddodiad sydd, yn ogystal â chwblhau’r gynghanedd, yn cyfleu natur restrol y rhan hon o’r cywydd, gyda’r ystyr ‘o Dyfaelog i Filio’, cf. GG.net 71.15–18. Filo,37 Bilo Ffurf ar Bilio⁠, merch i Frychan a nawddsantes eglwys Llanfilo i’r gorllewin o Dalgarth. Ar y ffurf, gw. ArchifMR s.n. Llanfilo; DPNW 251; Morgan and Powell 1999: 102. Gwen;38 Gwen Merch i Frychan a nawddsantes eglwys Talgarth.
Margred,39 Margred Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan ym Mrycheiniog y gellir ei chysylltu â’r santes hon. Catrin,40 Catrin Merthyres gynnar a nawddsantes capel coll a safai ger porth Stryd Watton ar ochr ddwyreiniol Aberhonddu; Davies 1978: 61. Aeled,41 Aeled Ffurf ar Eiliwedd⁠, merch i Frychan a santes y cysegrwyd iddi eglwys a safai gynt ar fryncyn Slwch ar gyrion Aberhonddu. Ar y ffurf, gw. Morgan and Powell 1999: 134; LBS ii, 418–22. Non,42 Non Ni ellir cysylltu â Non ond un eglwys ym Mrycheiniog, sef eglwys Llanddew i’r gogledd o Aberhonddu, a gysegrwyd i’r santes ac i’w mab, Dewi, gw. James 2007: 66 (map); ll. 25n Dewi⁠.
30 Ffraid,43 Ffraid Santes o Iwerddon a nawddsantes eglwys Llansanffraid-ar-Wysg rhwng Aberhonddu a Chrucywel yn nyffryn Wysg, sef yr unig eglwys a gysegrwyd iddi ym Mrycheiniog, gw. LBS i, 283. Iago,44 Iago Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan y gellir ei chysylltu â’r sant hwn ym Mrycheiniog. Wenffryd,45 Wenffryd Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan ym Mrycheiniog y gellir ei chysylltu â’r santes hon. Sylwer ar y ffurf anghyffredin ar ei henw, sy’n Gymreigiad o’r ffurf Saesneg, Winefrede⁠. Eigion.46 Eigion Nawddsant eglwys Llaneigon i’r de o’r Gelli Gandryll. Ar y ffurf, gw. DPNW 268; Morgan and Powell 1999: 97.
Saint Lidnerth47 Saint Lidnerth Cymreigiad o Leonard⁠ a geir yma, fe ymddengys, sef nawddsant capel a safai gynt yng nghastell Pencelli yn nyffryn Wysg. a’n cyfnertho,
Saint Silin48 Saint Silin Yr unig gyswllt posibl y daethpwyd o hyd iddo rhwng y sant hwn a Brycheiniog yw Gileston (neu Gilestone) ger Tal-y-bont ar Wysg (OS 501 123), gw. Morgan and Powell 1999: 82; WCD 588–9. neu Farthin49 Marthin Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan ym Mrycheiniog y gellir ei chysylltu â Martin. Ef yw nawddsant eglwys Cwm-iou i’r gogledd o’r Fenni, ond ymddengys mai yng ngwmwd Euas y safai ac nid ym Mrycheiniog, er mor agos ydyw i ffin ddwyreiniol y fro honno, a ddilynai afon Grwyne Fawr. fo;
Brynach,50 Brynach Nawddsant eglwys Llanfrynach yn nyffryn Wysg, nid nepell i’r dwyrain o Aberhonddu. Nicolas,51 Nicolas Cysegrwyd iddo briordy Urdd y Dominiciaid yn Aberhonddu, a cheid ar un adeg gapel iddo yng nghastell y dref, gw. Davies 1978: 61; ll. 26n Domnig⁠. Castau,52 Castau Nawddsant eglwys Llangasty Tal-y-llyn ar lan Llyn Syfaddan. Ar y ffurf, gw. Morgan and Powell 1999: 104; ArchifMR s.n. Llangasty⁠; LBS iii, 44. 53 Nicolas, Castau Cynghanedd lusg ‘bengoll’, gw. CD 175–6.
Meugan,54 Meugan Nawddsant eglwys Llanfeugan, a saif mewn cwm bychan i’r de o Bencelli yn nyffryn Wysg. Degeman55 Degeman Ffurf ar Degyman⁠, nawddsant eglwys goll Llanddegyman i’r dwyrain o Dretŵr. Ar y ffurf, gw. ArchifMR s.n. Llanddegyman⁠; DPNW 413 s.n. Rhoscrowther⁠⁠. ill dau;
35Da wŷr, Gynydr56 Cynydr Ffurf ar Cynidr⁠, nawddsant nifer o eglwysi ym Mrycheiniog, ond un yn unig sy’n dwyn ei enw bellach, sef Llangynidr i’r gorllewin o Grucywel, a gysegrwyd iddo ef ac i Fair. a Gweino,57 Gweino Ffurf ar Gwynno⁠, nawddsant eglwys y Faenor ar lan afon Taf i’r gogledd o Ferthyr Tudful; cf. y ffurf Vaynorweyno⁠ yn 1402, DPNW 487; Morgan and Powell 1999: 75.
Detu58 Detu Nawddsant eglwys Llanddeti ar lan afon Wysg i’r gorllewin o Langynidr. fab, da ytiw fo;
Cenau,59 Cenau Nawddsant eglwys Llangenau i’r dwyrain o Grucywel. Elli60 Elli Nawddsant eglwys Llanelli yn nyffryn Wysg, i’r gorllewin o’r Fenni., cain Wallwen,61 cain Wallwen Mae’n demtasiwn darllen Cain⁠, sef un o ferched Brychan, ond mae’n annhebygol y ceid cysegrfan iddi ym Mrycheiniog, gw. LBS ii, 53–4. At hynny, o ddarllen Cain⁠ rhaid esbonio’r ffurf Wallwen⁠ naill ai fel ffurf dreigledig (sy’n hynod annhebygol, ac ystyried y defnydd cyson a wneir yn y cywydd hwn o ffurfiau cysefin ar enwau’r saint wrth eu rhestru) neu fel ffurf gysefin. Mae Capel Callwen yng Nglyntawe, lle’i coffeir (WATU 29), yn awgrymu mai ffurf ar Callwen⁠ a geir yma, sef Gwallwen⁠. Enw arall ar yr ardal un tro oedd Ystradwallwen, gw. y ffurfiau Ystradwallen⁠ (1548), Stradwallen⁠ (1553) ac ystrad wallt twen⁠ (c.1566) yn Morgan and Powell 1999: 51; cf. WCD 307 ‘Gwallwen ferch Afallach’. Dengys TC 105 fod enghreifftiau o dreiglo ac o gadw’r gysefin ar ôl ystrad (cf. Ystradyfodwg, Ystrad Marchell), ac awgryma bod cenedl yr enw’n amrywio o ardal i ardal, gw. GPC Ar Lein d.g. Os felly, diau mai enw benywaidd oedd ystrad yn ardal Ystradwallwen, ac mai Gwallwen⁠ oedd y ffurf gysefin, gan fod Ystradgynlais ac Ystrafellte yn yr un ardal. Pair yr ansoddair cain i’r enw dreiglo yma.
Catwg,62 Catwg Ffurf ar Cadog⁠, sant y cysegrwyd iddo ddwy eglwys ym Mrycheiniog, y naill yn Llangatwg ger Crucywel yn nyffryn Wysg, a’r llall yn Llansbyddyd i’r gorllewin o Aberhonddu. Ymddengys fod Catwg⁠ yn ffurf ar enw’r sant a ddefnyddid yn y de-ddwyrain yn benodol, gw. MWPSS 327. Simwnt,63 Simwnt Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan y gellir ei chysylltu â’r sant hwn ym Mrycheiniog. Edmwnt64 Edmwnt Nawddsant eglwys Crucywel yn nyffryn Wysg. hen.

Henwau saint yw hyn o sôn,
40Oed yw enwi y dynion,
Meistri, rhag fy nodi’n ôl,
Meistresau ym sy drasol,
Cenedl ym cnawdol yma,
Creiriau’r dyn yw carwyr da.
45Ni bo ym gâr heb ym gael
Nerth hyd Rufain wrth drafael!
Doda’ ’n werth eu da dan un
Duwiol weddi’n dâl uddun’.
Da i werin ystyriaid
50Neu ofni’r Hwn a fo’n rhaid:
Pwy a wyddiad ond Tad dyn
Peri Addaf o’r priddyn?
Ni wnâi Dduw (’n ei enwi ’dd oedd)
Ond dwedud: yntau ydoedd.65 Llau. 51–4. Gw. Genesis 2.7 ‘Yna lluniodd yr Arglwydd Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw.’ Adleisia’r sôn am Dduw yn dwedud (ll. 54) enghreifftiau mynych o’r ymadrodd ‘dywedodd Duw’ ym mhenodau cyntaf Genesis (cf. 1.3, 6, 9) eithr nid yn achos hanes creu Addaf. At hynny, ni cheir dim yn Genesis sy’n cyfateb i’r sôn am Dduw yn enwi Addaf (ll. 53) eithr dywedir yn Genesis 3.20 mai Addaf a roes yr enw Efa i’w wraig. Cf. hefyd y darn enwog am Air Duw yn Ioan 1.
55Ple’n tueddir, plant Addaf?
Pŵl oedd ym wybod ple ’dd af.
Daw ynn i’n cadw66 i’n cadw Y tebyg yw mai’r ferf a geir yma, ond nid yw’n amhosibl mai’r enw cadw ‘praidd, diadell’ a fwriedir, cf. i’n bagad yn y ll. nesaf; gw. GPC Ar Lein d.g. cadw1.1 cadw Er bod darlleniad y llawysgrif, kad, yn bosibl (i’n cad, y’n cad), ceir gwell ystyr o’i ddiwygio yn cadw, gw. y nodyn esboniadol ar y ll. hon. Ac ystyried yr w ansillafog, gall fod kad yn ffurf amrywiol ar cadw, ond mae’n fwy tebygol fod yr w ansillafog honno wedi ei cholli o’r testun. Ymddengys fod tuedd gan Huw Cae Llwyd i hepgor llythrennau unigol o dro i dro, cf. llau. 58n, 64n; entv am entru yn ei gywydd i seintiau Rhufain, MWPSS 16.4n; bed⁠ am Bedr⁠ yn ei gywydd hiraethgar i Ieuan ap Gwilym pan oedd yn Rhufain, HCLl XXX.9. Fodd bynnag, o graffu ar y testun, mae’n bosibl fod marc talfyrru ar ddiwedd y gair yn y llawysgrif, sef ll. fach fertigol wrth gynffon -d. Ceir marciau tebyg wrth gynffon -d ar ddiwedd llau., fel ar ddiwedd ydoedd yn ll. 54, ond ymddengys yr enghraifft hon ryw fymryn yn fwy bwriadol. Os marc talfyrru ydyw, tebyg ei fod yn unigryw. Ni ddaethpwyd o hyd i enghraifft arall yn llaw Huw yn y llawysgrif hon. yn un cail,
Daw i’n bagad, un bugail.67 Llau. 57–8. Gw. Ioan 10.11–16 ‘Myfi yw’r bugail da … yr wyf yn adnabod fy nefaid, a’m defaid yn f’adnabod i, yn union fel y mae’r Tad yn f’adnabod i, a minnau’n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid. Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i’r gorlan hon. Rhaid imi ddod â’r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail.’2 bugail Diwygir darlleniad y llawysgrif, bgail.
O Dduw, ieithoedd, ydd aethan’,
60Ato, Dduw, eto ydd ân’.68 Llau. 59–60. Gw. Mathew 25.31–2 ‘Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a’r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr’. Yn yr ystyr honno, sef ‘cenhedloedd’, y dehonglir ieithoedd yma, ond nid yw’n amhosibl mai ‘ieithoedd’ yw’r ystyr, gyda golwg ar hanes Tŵr Babel yn Genesis 11.1–9, gw. GPC Ar Lein d.g. iaith.
I’i ellwng ef i’r nefoedd,
Yn llaw ddyn Ei allwedd oedd.
Os gwir i’n oes agori
Drysau nef, ymdrwsiwn ni.69 Llau. 61–4. Gwrthrych y ferf (sef y rhagenwau ’i ac ef) yn ll. 61 yw’r [d]yn yn y ll. nesaf, sef Pedr, yr hwn y rhoes Iesu iddo ‘allweddau teyrnas nefoedd’, gw. Mathew 16.17–19. Roedd y ddefod o agor Drysau Sanctaidd basilica Sant Pedr yn y Fatican gan y Pab yn rhan allweddol o ddathliadau’r jiwbilî yn Rhufain erbyn 1499, ond ymddengys ei bod yn arfer ers o leiaf 1450, gw. Olson 2008: 31.3 ymdrwsiwn ni Gellid dilyn darlleniad y llawysgrif, ym drỽssywn i, a chymryd mai’r ffurf unigol amherffaith a geir yma, ond mae’r ffurfiau lluosog yn llau. 57, 58 a 63 yn awgrymu mai’r ffurf luosog a geir yma hefyd, a bod n- wedi ei cholli yn nghesail y gair blaenorol.
65Onid ânt o bob cantref,
Eled un dros wlad neu dref.
Ni wna ar ben un o’r byd
Neges da ond gwas diwyd.
Myn Mair, y mae ’n ’y mwriad
70Nad â ’nglŷn eneidiau ’ngwlad!70 Nad â ’nglŷn eneidiau ’ngwlad Ni fynnai Huw Cae Llwyd weld ei gyd-wladwyr yn mynd yn sownd yn uffern.



Mae gan dy dir ffydd yn nhŷ’r Grog,
fe’ch enwyd yn fro ddaionus, Frycheiniog!
Dy Gymry, nid yw anghlod yn eu meddiannu,
rwyt yn deilwng, wlad y saint.
5Olrheiniaf y wlad hon
rhwng pedair afon, dy led a hyd:
Baedan o’r ucheldir uwchben Mynwy,
Cynon ac Irfon a Gwy.
Tir Selyf, Ystrad Yw,
10deillia llinachau pobl hael o’r wlad hon;
tir y Glyn, Talgarth,
ein siwrnai mewn dim o dro o bob rhan o’r byd.

Rhaid i mi, er mwyn [derbyn] bendithion,
dreulio ysbaid gyda chi er mwyn fy achub.
15Os rhydd y Tad ganiatâd i ni,
rydym yn niferus, ar siwrnai dda,
i eglwys Pedr, os cyrhaeddaf yno,
yno’r af ar ei ddydd.
Gofynnaf, synhwyraf o’m gwlad,
20i Gynog sanctaidd am ei ganiatâd.
Y gwŷr bendigaid o’r dref,
Ieuan a’r Grog, yw’r gras i ni;
Mair, Mihangel ac Elyw,
Mathau teg, cydymaith Duw;
25Dewi, Pawl, daionus yw Peulin,
Dominig, Bened yn yr un modd;
Teilo, Illtud, y Santes Elen,
Tyfaelog at Filo, Gwen;
Margred, Catrin, Aeled, Non,
30Ffraid, Iago, Gwenfrewy, Eigion.
Boed i Sant Lidnerth ein cynnal,
boed Sant Silin neu Fartin;
Brynach, Nicolas, Castau,
Meugan a Degyman ill dau;
35Cynidr a Gwynno, gwŷr daionus,
Detu’r llanc, da ydyw yntau;
Cenau, Elli, Callwen wych,
Cadog, Simwnt, Edmwnt hen.

Enwau saint yw hyn o sôn,
40 [nawr] mae’n bryd enwi’r bobl,
meistri, rhag i mi gael fy nodi ar ôl,
fy meistresau o dras bonheddig,
fy nhylwyth cnawdol yma,
trysorau dyn yw perthnasau da.
45Na foed perthynas i mi heb i mi [hefyd] gael
nerth i deithio hyd at Rufain!
Rhoddaf weddi dduwiol yn y fan a’r lle
yn daliad iddynt sy’n gyfwerth â’u daioni.
Peth da i werin yw ystyried
50neu ofni’r Hwn sy’n anghenraid:
pwy ond Tad dyn a wyddai
sut i greu Addaf o’r pridd?
Ni wnaeth Duw (fe’i henwodd ef)
ond llefaru: [ac] yntau oedd.
55I ble’r awn, blant Addaf?
Byddai gwybod i ble’r af yn aneglur i mi.
Daw atom i’n cadw mewn un gorlan,
daw i’n diadell, yr un bugail.
Y cenhedloedd, o Dduw yr aethant,
60ato, Dduw, yr ânt eto.
Er mwyn ei adael i mewn i’r nefoedd,
yn llaw dyn roedd Ei allwedd.
Os yw’n wir yr agorir drysau nef
yn ein hamser ni, ymbaratown ni.
65Onid ânt o bob cantref,
boed i un fynd ar ran gwlad neu dref.
Ni all neb yn y byd hwn ond gwas ffyddlon
gyflawni neges dda.
Myn Mair, fy mwriad yw
70na fydd eneidiau fy ngwlad yn cael eu dal yn gaeth!

1 tŷ’r Grog Eglwys priordy Aberhonddu, efallai, gw. llau. 22n, 26n Byneddig⁠; yr Eglwys yn gyffredinol fel corff Crist, gw. GPC Ar Lein d.g. eglwys (b); neu’r nefoedd, hyd yn oed.

2 fro y’ch Cywesgir yn unsill.

3 Brycheiniog Hen deyrnas a gynhwysai bedwar cantref, Cantref Mawr, Cantref Selyf (ll. 9n), Talgarth (ll. 12n) a Chantref Buellt, gw. WATU 241 (map); Lewis 1960: 38 (map). Fodd bynnag, awgrym cryf y cywydd hwn yw bod talp helaeth o Gantref Buellt y tu allan i Frycheiniog, gw. y nodyn cefndir.

4 Dy led a hyd, y wlad hon Ystyrir Dy led a hyd yn sangiad, er gwaethaf y ffaith mai a’th hyd a ddisgwylid. Fel arall, gellid hepgor y sangiad a darllen a hyd y wlad hon. Noder bod -d a h- yn cael eu cyfrif fel cytseiniaid annibynnol yn y gynghanedd gytsain hon, gan anwybyddu’r calediad disgwyliedig rhwng wlad a hon.

5 Baedan Nant fach a lif i afon Wysg ger Gofilon, ychydig i’r gorllewin o’r Fenni, sy’n dynodi yma ran o ffin ddwyreiniol Brycheiniog, gw. EANC 38; Morgan and Powell 1999: 33.

6 [y] fan Gall mai ffurf dreigledig ar man ‘lle’ ydyw, ond rhydd ystyr well fel ffurf dreigledig ar ban, gw. GPC Ar Lein d.g. ban1 (a) ‘uchelfan’.

7 i ar Fynwy O ran y cyfuniad i ar, a gywesgir yn unsill yma, tebyg mai’r ystyr sy’n gweddu orau yw ‘uwchben’, gw. GPC Ar Lein d.g. i4; Williams 1950: 6. Fodd bynnag, annisgwyl yw sôn yma am Fynwy, ni waeth beth y mae’r enw hwnnw’n ei ddynodi. Os yr arglwyddiaeth ar lan afon Mynwy a gynhwysai’r Tri Chastell, paham y cyfeirir at ardal a oedd gryn bellter i’r dwyrain o Frycheiniog – ai am fod yr ucheldir o gwmpas Crucywel yn wynebu’r ardal honno? Os yr afon ydyw, llifa cwrs honno’n agos at ucheldir Brycheiniog yn y gogledd-ddwyrain eithr yn bell iawn o nant Baedan, gw. ll. 7n Baedan⁠; cf. GLGC 147.21, 178.44.

8 Cynon Afon a lif i afon Taf ym Morgannwg, ond a dardd nid nepell o ffin ddeheuol Brycheiniog ger Penderyn.

9 Irfon Afon a lif i afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt ac sy’n cynrychioli ffin ogledd-orllewinol Brycheiniog yn y cywydd hwn.

10 Gwy Afon a lif ar hyd ffin ogledd-ddwyreiniol Brycheiniog.

11 tir Selyf Roedd Cantref Selyf yn un o gantrefi Brycheiniog, gw. WATU 29, 421 (map); Lewis 1960: 38 (map).

12 Ystrad Yw Cwmwd yng nghantref Talgarth ym Mrycheiniog, gw. WATU 227, 323 (map).

13 tir y Glyn Tebyg mai plwyf y Glyn ydyw yng Nghantref Mawr, sef Glyntarell lle croesa’r A470 Fannau Brycheiniog o’r gogledd heddiw, gw. WATU 77.

14 Talgarth Y mwyaf dwyreiniol o gantrefi Brycheiniog, gw. WATU 201, 421 (map); Lewis 1960: 38 (map).

15 Llau. 13–14. Try ystyr y cwpled hwn ar golyn y gair [g]wers a’i amrywiol ystyron, gw. GPC Ar Lein d.g. A dilyn y ffaith fod Huw Cae Llwyd yn cyfarch Brycheiniog yn uniongyrchol ar ddechrau’r gerdd, gall mai’r fro honno a gyferchir yma hefyd. Os felly, ‘ysbaid [o amser]’ yw’r ystyr sy’n gweddu orau, ac felly hefyd os yw Huw’n cyfarch trigolion Brycheiniog, fel y gwna yn y cwpled nesaf. Dyma’r ystyr sy’n cyd-fynd orau gydag â chwi, sef cyfnod byr o amser y bwriadai Huw ei dreulio ym Mrycheiniog cyn ymadael i Rufain ar ei bererindod. Mae ystyron eraill yn bosibl, fel ‘gwers’ yn yr ystyr fodern, os yw Huw’n ceisio doethineb a chyngor y fro neu ei thrigolion, ac felly hefyd, i raddau helaeth, os ‘adran o salm neu o gantigl; rhan o wasanaeth crefyddol, gweddi’ yw’r ystyr. Fel arall, mae ‘pennill o farddoniaeth’ yn gweddu fel offrwm (hynny yw, y gerdd ei hun). Nid yw cyfuniad o ystyron yn amhosibl ychwaith.

16 cenhiada Ffurf 3 unigol presennol y ferf caniadaf, gw. GPC Ar Lein d.g.

17 eglwys Bedr Cysegrwyd tair eglwys ym Mrycheiniog i Bedr, un yn Llanbedr Ystrad Yw i’r gogledd o Grucywel a dwy ar y cyd â seintiau eraill yn Llanhamlach ac yn y Clas-ar-wy, gw. WATU 104. Fodd bynnag, mae’n bur debygol mai at fasilica Sant Pedr yn ninas y Fatican yn Rhufain y cyfeirir yma, lle’r aeth Huw Cae Llwyd ar bererindod yn 1475, gw. MWPSS cerdd 16.

18 os medraf Gw. GPC Ar Lein d.g. medraf (d), ‘Anelu at, cyrchu, mynd (i), cyrraedd’.

19 ei ddydd Tebyg mai at Bedr y cyfeirir yma, ac mai mynd i eglwys Bedr⁠ ar ddiwrnod ei ŵyl yw’r bwriad, sef 29 Mehefin. Ymddengys mai rhwng Rhagfyr a Mehefin yr ymwelai mwyafrif y pererinion o Gymru â Rhufain, gw. Olson 2008: 28. Posibilrwydd arall yw mai at Dduw y cyfeirir, ac mai ystyr Ei ddydd yw Dydd y Farn, gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. dydd.

20 Cynog Sant pwysicaf Brycheiniog, ffaith a ddaw i’r amlwg yma gan mai ef yw’r cyntaf i gael ei enwi. Cysegrwyd iddo chwe eglwys ym Mrycheiniog, ond diau mai’r gysegrfan enwocaf oedd Merthyr Cynog yn y mynydd-dir rhwng Aberhonddu a Llanwrtyd, gw. Evans and Francis 1994: 21.

21 [y] dinas Aberhonddu, sef prif dref Brycheiniog, i bob diben, gw. ll. 22n Ieuan a’r Grog.

22 Ieuan a’r Grog Cysegrwyd eglwys Aberhonddu i Ioan Efengylydd a cheid yno yn yr Oesoedd Canol ddelw enwog o Grist ar ffurf crog, o bosibl yr enwocaf yng Nghymru. Ceir cywydd enwog, eithr ansicr ei awduraeth, i’r grog honno, a allai fod yn waith Huw Cae Llwyd neu, yn fwy tebygol efallai, Ieuan Brydydd Hir, gw. HCLl cerdd XLIV; GIBH cerdd 12. Ceir mawl i’r grog mewn cywyddau eraill gan Ieuan ap Huw Cae Llwyd a Siôn Ceri, gw. HCLl cerdd LI; GSC cerdd 54. Ymhellach ar y grog, gw. Parri 2003; GIBH 12.5n a’r cyfeiriadau yno.

23 Mair Cysegrwyd i Fair nifer o eglwysi ym Mrycheiniog, megis ym Mronllys, Crucadarn, Talach-ddu, Llan-y-wern ac Ystradfellte, ond yr unig un o bwys sy’n dwyn ei henw yw Llanfair-ym-Muallt. Ac eithrio’r dref honno, diau mai’r eglwys enwocaf oedd eglwys y Santes Fair yn Aberhonddu, tref y cyfeirir ati’n benodol yn y cwpled blaenorol.

24 Mihangel Cysegrwyd i’r sant a’r archangel nifer o eglwysi ym Mrycheiniog, megis yng Nghathedin, Llanfihangel Cwm Du, Llanfihangel Fechan, Llanfihangel Nant Brân a Llanfihangel Tal-y-llyn. Ceid rhai eraill i’r gogledd o afon Irfon, ond gw. ll. 8n Irfon⁠.

25 Eluw Ffurf ar Elyw⁠, nawddsantes eglwys Llaneleu i’r dwyrain o Dalgarth.

26 Mathau Yr Efengylydd, a nawddsant eglwys Llandyfalle i’r gorllewin o Dalgarth.

27 Dewi Cysegrwyd i nawddsant Cymru chwe eglwys yn neoniaeth Aberhonddu, gw. James 2007: 46, 66 (map). Yr amlycaf yng nghyd-destun y gerdd hon yw eglwys Llanddew i’r gogledd o Aberhonddu (a gysegrwyd i Ddewi a Non, gw. ll. 29n Non⁠), nid nepell o gartref un o brif noddwyr Huw Cae Llwyd, Ieuan ap Gwilym o’r Peutun.

28 Pawl Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan ym Mrycheiniog y gellir ei chysylltu â’r sant hwn. Ac ystyried y tebygrwydd rhwng Pawl⁠ a Paulinus⁠, y ffurf Ladin ar Peulun⁠ (gw. ll. 25n Peulun⁠), tybed a gredid, drwy amryfusedd, fod yr eglwys yn Llan-gors wedi ei chysegru i Bawl hefyd?

29 Peulun Ffurf ar Peulin⁠, nawddsant eglwys Llan-gors i’r gogledd o Lyn Syfaddan. At hynny, cf. Llanbeulin ychydig i’r dwyrain o Lan-gors (SO 154 283), sef capel canoloesol sydd wedi diflannu erbyn hyn.

30 Domnig Sefydlwyd priordy gan Urdd y Dominiciaid, y Brodyr Duon, yn Aberhonddu yn 1269, gw. ll. 33n Nicolas⁠.

31 Byneddig Sef Bened. Sefydlodd Urdd y Benedictiaid gell yn Aberhonddu c.1100, a ddaeth yn briordy maes o law ac yn eglwys gadeiriol yn yr ugeinfed ganrif, gw. ll. 22n.

32 Teilo Sant y cysegrwyd iddo ddwy eglwys ym Mrycheiniog, a saif y ddwy i’r dwyrain o Lanymddyfri, y naill yn Llandeilo’r-fân a’r llall (ar y cyd â Dewi a Phadarn) yn Llywel.

33 Ulltud Ffurf ar Illtud⁠, nawddsant eglwys Llanilltyd i’r de-orllewin o Aberhonddu ac, ar y cyd â Phedr, eglwys Llanhamlach ar gyrion dwyreiniol Aberhonddu.

34 Saint Elen Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan y gellir ei chysylltu â’r santes hon ym Mrycheiniog. Cysegrwyd iddi eglwys Llanelen i’r de o’r Fenni, ond dengys y cyfeiriad at nant Baedan⁠ yn ll. 7 yn eglur nad oedd y fan honno’n rhan o Frycheiniog.

35 Tyfaelog Sant y cysegrwyd iddo ddwy eglwys ym Mrycheiniog, y naill yn Llandyfaelog Fach i’r gogledd o Aberhonddu, a’r llall yn Llandyfaelog Tre’r-graig i’r gogledd o Lyn Syfaddan.

36 at Arddodiad sydd, yn ogystal â chwblhau’r gynghanedd, yn cyfleu natur restrol y rhan hon o’r cywydd, gyda’r ystyr ‘o Dyfaelog i Filio’, cf. GG.net 71.15–18.

37 Bilo Ffurf ar Bilio⁠, merch i Frychan a nawddsantes eglwys Llanfilo i’r gorllewin o Dalgarth. Ar y ffurf, gw. ArchifMR s.n. Llanfilo; DPNW 251; Morgan and Powell 1999: 102.

38 Gwen Merch i Frychan a nawddsantes eglwys Talgarth.

39 Margred Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan ym Mrycheiniog y gellir ei chysylltu â’r santes hon.

40 Catrin Merthyres gynnar a nawddsantes capel coll a safai ger porth Stryd Watton ar ochr ddwyreiniol Aberhonddu; Davies 1978: 61.

41 Aeled Ffurf ar Eiliwedd⁠, merch i Frychan a santes y cysegrwyd iddi eglwys a safai gynt ar fryncyn Slwch ar gyrion Aberhonddu. Ar y ffurf, gw. Morgan and Powell 1999: 134; LBS ii, 418–22.

42 Non Ni ellir cysylltu â Non ond un eglwys ym Mrycheiniog, sef eglwys Llanddew i’r gogledd o Aberhonddu, a gysegrwyd i’r santes ac i’w mab, Dewi, gw. James 2007: 66 (map); ll. 25n Dewi⁠.

43 Ffraid Santes o Iwerddon a nawddsantes eglwys Llansanffraid-ar-Wysg rhwng Aberhonddu a Chrucywel yn nyffryn Wysg, sef yr unig eglwys a gysegrwyd iddi ym Mrycheiniog, gw. LBS i, 283.

44 Iago Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan y gellir ei chysylltu â’r sant hwn ym Mrycheiniog.

45 Wenffryd Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan ym Mrycheiniog y gellir ei chysylltu â’r santes hon. Sylwer ar y ffurf anghyffredin ar ei henw, sy’n Gymreigiad o’r ffurf Saesneg, Winefrede⁠.

46 Eigion Nawddsant eglwys Llaneigon i’r de o’r Gelli Gandryll. Ar y ffurf, gw. DPNW 268; Morgan and Powell 1999: 97.

47 Saint Lidnerth Cymreigiad o Leonard⁠ a geir yma, fe ymddengys, sef nawddsant capel a safai gynt yng nghastell Pencelli yn nyffryn Wysg.

48 Saint Silin Yr unig gyswllt posibl y daethpwyd o hyd iddo rhwng y sant hwn a Brycheiniog yw Gileston (neu Gilestone) ger Tal-y-bont ar Wysg (OS 501 123), gw. Morgan and Powell 1999: 82; WCD 588–9.

49 Marthin Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan ym Mrycheiniog y gellir ei chysylltu â Martin. Ef yw nawddsant eglwys Cwm-iou i’r gogledd o’r Fenni, ond ymddengys mai yng ngwmwd Euas y safai ac nid ym Mrycheiniog, er mor agos ydyw i ffin ddwyreiniol y fro honno, a ddilynai afon Grwyne Fawr.

50 Brynach Nawddsant eglwys Llanfrynach yn nyffryn Wysg, nid nepell i’r dwyrain o Aberhonddu.

51 Nicolas Cysegrwyd iddo briordy Urdd y Dominiciaid yn Aberhonddu, a cheid ar un adeg gapel iddo yng nghastell y dref, gw. Davies 1978: 61; ll. 26n Domnig⁠.

52 Castau Nawddsant eglwys Llangasty Tal-y-llyn ar lan Llyn Syfaddan. Ar y ffurf, gw. Morgan and Powell 1999: 104; ArchifMR s.n. Llangasty⁠; LBS iii, 44.

53 Nicolas, Castau Cynghanedd lusg ‘bengoll’, gw. CD 175–6.

54 Meugan Nawddsant eglwys Llanfeugan, a saif mewn cwm bychan i’r de o Bencelli yn nyffryn Wysg.

55 Degeman Ffurf ar Degyman⁠, nawddsant eglwys goll Llanddegyman i’r dwyrain o Dretŵr. Ar y ffurf, gw. ArchifMR s.n. Llanddegyman⁠; DPNW 413 s.n. Rhoscrowther⁠⁠.

56 Cynydr Ffurf ar Cynidr⁠, nawddsant nifer o eglwysi ym Mrycheiniog, ond un yn unig sy’n dwyn ei enw bellach, sef Llangynidr i’r gorllewin o Grucywel, a gysegrwyd iddo ef ac i Fair.

57 Gweino Ffurf ar Gwynno⁠, nawddsant eglwys y Faenor ar lan afon Taf i’r gogledd o Ferthyr Tudful; cf. y ffurf Vaynorweyno⁠ yn 1402, DPNW 487; Morgan and Powell 1999: 75.

58 Detu Nawddsant eglwys Llanddeti ar lan afon Wysg i’r gorllewin o Langynidr.

59 Cenau Nawddsant eglwys Llangenau i’r dwyrain o Grucywel.

60 Elli Nawddsant eglwys Llanelli yn nyffryn Wysg, i’r gorllewin o’r Fenni.

61 cain Wallwen Mae’n demtasiwn darllen Cain⁠, sef un o ferched Brychan, ond mae’n annhebygol y ceid cysegrfan iddi ym Mrycheiniog, gw. LBS ii, 53–4. At hynny, o ddarllen Cain⁠ rhaid esbonio’r ffurf Wallwen⁠ naill ai fel ffurf dreigledig (sy’n hynod annhebygol, ac ystyried y defnydd cyson a wneir yn y cywydd hwn o ffurfiau cysefin ar enwau’r saint wrth eu rhestru) neu fel ffurf gysefin. Mae Capel Callwen yng Nglyntawe, lle’i coffeir (WATU 29), yn awgrymu mai ffurf ar Callwen⁠ a geir yma, sef Gwallwen⁠. Enw arall ar yr ardal un tro oedd Ystradwallwen, gw. y ffurfiau Ystradwallen⁠ (1548), Stradwallen⁠ (1553) ac ystrad wallt twen⁠ (c.1566) yn Morgan and Powell 1999: 51; cf. WCD 307 ‘Gwallwen ferch Afallach’. Dengys TC 105 fod enghreifftiau o dreiglo ac o gadw’r gysefin ar ôl ystrad (cf. Ystradyfodwg, Ystrad Marchell), ac awgryma bod cenedl yr enw’n amrywio o ardal i ardal, gw. GPC Ar Lein d.g. Os felly, diau mai enw benywaidd oedd ystrad yn ardal Ystradwallwen, ac mai Gwallwen⁠ oedd y ffurf gysefin, gan fod Ystradgynlais ac Ystrafellte yn yr un ardal. Pair yr ansoddair cain i’r enw dreiglo yma.

62 Catwg Ffurf ar Cadog⁠, sant y cysegrwyd iddo ddwy eglwys ym Mrycheiniog, y naill yn Llangatwg ger Crucywel yn nyffryn Wysg, a’r llall yn Llansbyddyd i’r gorllewin o Aberhonddu. Ymddengys fod Catwg⁠ yn ffurf ar enw’r sant a ddefnyddid yn y de-ddwyrain yn benodol, gw. MWPSS 327.

63 Simwnt Ni ddaethpwyd o hyd i gysegrfan y gellir ei chysylltu â’r sant hwn ym Mrycheiniog.

64 Edmwnt Nawddsant eglwys Crucywel yn nyffryn Wysg.

65 Llau. 51–4. Gw. Genesis 2.7 ‘Yna lluniodd yr Arglwydd Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw.’ Adleisia’r sôn am Dduw yn dwedud (ll. 54) enghreifftiau mynych o’r ymadrodd ‘dywedodd Duw’ ym mhenodau cyntaf Genesis (cf. 1.3, 6, 9) eithr nid yn achos hanes creu Addaf. At hynny, ni cheir dim yn Genesis sy’n cyfateb i’r sôn am Dduw yn enwi Addaf (ll. 53) eithr dywedir yn Genesis 3.20 mai Addaf a roes yr enw Efa i’w wraig. Cf. hefyd y darn enwog am Air Duw yn Ioan 1.

66 i’n cadw Y tebyg yw mai’r ferf a geir yma, ond nid yw’n amhosibl mai’r enw cadw ‘praidd, diadell’ a fwriedir, cf. i’n bagad yn y ll. nesaf; gw. GPC Ar Lein d.g. cadw1.

67 Llau. 57–8. Gw. Ioan 10.11–16 ‘Myfi yw’r bugail da … yr wyf yn adnabod fy nefaid, a’m defaid yn f’adnabod i, yn union fel y mae’r Tad yn f’adnabod i, a minnau’n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid. Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i’r gorlan hon. Rhaid imi ddod â’r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail.’

68 Llau. 59–60. Gw. Mathew 25.31–2 ‘Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a’r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr’. Yn yr ystyr honno, sef ‘cenhedloedd’, y dehonglir ieithoedd yma, ond nid yw’n amhosibl mai ‘ieithoedd’ yw’r ystyr, gyda golwg ar hanes Tŵr Babel yn Genesis 11.1–9, gw. GPC Ar Lein d.g. iaith.

69 Llau. 61–4. Gwrthrych y ferf (sef y rhagenwau ’i ac ef) yn ll. 61 yw’r [d]yn yn y ll. nesaf, sef Pedr, yr hwn y rhoes Iesu iddo ‘allweddau teyrnas nefoedd’, gw. Mathew 16.17–19. Roedd y ddefod o agor Drysau Sanctaidd basilica Sant Pedr yn y Fatican gan y Pab yn rhan allweddol o ddathliadau’r jiwbilî yn Rhufain erbyn 1499, ond ymddengys ei bod yn arfer ers o leiaf 1450, gw. Olson 2008: 31.

70 Nad â ’nglŷn eneidiau ’ngwlad Ni fynnai Huw Cae Llwyd weld ei gyd-wladwyr yn mynd yn sownd yn uffern.

1 cadw Er bod darlleniad y llawysgrif, kad, yn bosibl (i’n cad, y’n cad), ceir gwell ystyr o’i ddiwygio yn cadw, gw. y nodyn esboniadol ar y ll. hon. Ac ystyried yr w ansillafog, gall fod kad yn ffurf amrywiol ar cadw, ond mae’n fwy tebygol fod yr w ansillafog honno wedi ei cholli o’r testun. Ymddengys fod tuedd gan Huw Cae Llwyd i hepgor llythrennau unigol o dro i dro, cf. llau. 58n, 64n; entv am entru yn ei gywydd i seintiau Rhufain, MWPSS 16.4n; bed⁠ am Bedr⁠ yn ei gywydd hiraethgar i Ieuan ap Gwilym pan oedd yn Rhufain, HCLl XXX.9. Fodd bynnag, o graffu ar y testun, mae’n bosibl fod marc talfyrru ar ddiwedd y gair yn y llawysgrif, sef ll. fach fertigol wrth gynffon -d. Ceir marciau tebyg wrth gynffon -d ar ddiwedd llau., fel ar ddiwedd ydoedd yn ll. 54, ond ymddengys yr enghraifft hon ryw fymryn yn fwy bwriadol. Os marc talfyrru ydyw, tebyg ei fod yn unigryw. Ni ddaethpwyd o hyd i enghraifft arall yn llaw Huw yn y llawysgrif hon.

2 bugail Diwygir darlleniad y llawysgrif, bgail.

3 ymdrwsiwn ni Gellid dilyn darlleniad y llawysgrif, ym drỽssywn i, a chymryd mai’r ffurf unigol amherffaith a geir yma, ond mae’r ffurfiau lluosog yn llau. 57, 58 a 63 yn awgrymu mai’r ffurf luosog a geir yma hefyd, a bod n- wedi ei cholli yn nghesail y gair blaenorol.