Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

24. Moliant i Bedr o Rosyr

golygwyd gan Eurig Salisbury

Cywydd moliant gan Lewys Daron i Bedr o Rosyr ym Môn. Dyddiad c.1495–c.1530.

Am yr un sant mawr yw’n sôn⁠1 yw’n sôn Gellid dilyn C 2.114 yw son, a chael n berfeddgoll yn hanner cyntaf y ll., ac felly hefyd yn achos LlGC 3048D yw /r/ sôn, gydag un r yn ateb dwy. Ond mae darlleniad y golygiad, a geir yn C 4.110 a LlGC 21248D, yn taro’n well. Tybed a oedd y rhagenw’n absennol yn y gynsail?
 mwg aur1 mwg aur Am y cyfuniad, gw. GPC Ar Lein d.g. mwg ‘nimbus, halo’. am ei goron.2 coron Mae ‘corun y pen’ yn bosibl (GPC Ar Lein d.g. coron (c)), ond y tebyg yw mai coron driphlyg y pab a feddylir yma.
A ganwyf i, o gwnaf fawl,⁠2 gwnaf fawl Collwyd yr -f gyntaf yng nghesail yr ail yn narlleniad y llawysgrifau, gwna fawl.
Hyn â i Bedr hen, wybodawl.3 Bedr … wybodawl Ceir yr un cyfuniad cynganeddol yng nghywydd Iolo Goch, ‘I’r Deuddeg Apostol a’r Farn’, GIG XXVII.2 I Bedr ddoeth wybodawl.
5Pab4 pab Adlewyrchir y gred mai Pedr oedd y pab cyntaf, a weinyddodd yn Rhufain yn ystod pum mlynedd ar hugain olaf ei fywyd, gw. ODCC 1269–70; cf. llau. 49, 53, 60. a edwyn pawb ydwyd,
Parth â’r nef, porthor ynn wyd;
Gorau⁠3 Gorau Cf. C 2.114 a LlGC 3048D gore, ffurf dafodieithol, o bosibl, ond y tebyg yw mai gorev a geid yn y gynsail a bod -v wedi ei cholli yng nghesail y gair nesaf, vn. un gair o’i eni,
Gŵr o stad dan Grist wyt ti.5 Gŵr o stad dan Grist wyt ti Daw’r orffwysfa ar ôl dan. Ar yr arfer o roi’r brif acen ar arddodiaid a mân eiriau tebyg, gw. CD 266–8. O ran y trawiad cynganeddol yn y ll. hon, ynghyd â’r cyfuniad gŵr o stad, cf. GHS 29.19 Gŵr o stad i Grist ydoedd.

Y rhodwyr oedd⁠4 oedd Gthg. darlleniad cynganeddol lwgr C 2.114 draw. a’r⁠5 a’r Ni cheir y fannod yn LlGC 3048D, yn ôl pob tebyg yn sgil ei cholli yng nghesail y gair nesaf, rhai, ac ni cheir y cysylltair yn C 4.110 y. Dilynir C 2.114 a LlGC 21248D. Mae’r defnydd o’r fannod ar ddechrau’r ll. yn cryfhau’r achos dros ei darllen yma hefyd. rhai drwg
10Iso’n⁠6 Iso’n Tebyg mai C 2.114 isso yn sydd agosaf at yr hyn a geid yn y gynsail, a bod y sillgolli angenrheidiol i’w weld yn LlGC 21248D iso /n/. Hawdd gweld sut y cafwyd o’r rhain y darlleniadau llwgr C 4.110 Sôn yn a LlGC 3048D ison yn. dal Iesu ’n d’olwg.
Cyfa lân6 cyfa lân Awgrymir mai cyfuniad ydyw o fath, cf. cyfa gwbl ‘hollol gyfan a chyflawn’, gw. GPC Ar Lein d.g. cyfan gwbl. yn cyflowni
’Wyllys⁠7 ’Wyllys Tebyg mai ywyllys a geid yn y gynsail, fel y gwelir yn C 2.114 y wyllys a LlGC 3048D ywyllys, lle ceir ll. wythsill. Fe’i talfyrrwyd yn LlGC 21248D wllys, nas nodir fel ffurf ar ewyllys yn GPC Ar Lein, a bernir mai’r ffurf dalfyredig ’wyllys a fwriedid gan y bardd. Yn C 4.110 ceir Ewyllys, ac yno yn unig yr hepgorwyd a yn ail hanner y ll. er mwyn ei chwtogi. Duw a ellaist di.
Er gwadu’r Iesu rasol,
Mynd a wnaud, myn Duw, ’n Ei ôl.
15Ofnad⁠8 Ofnad Ceir camrannu yn LlGC 21248D ofn nad. at fwriad7 bwriad Gw. GPC Ar Lein d.g. bwriad2 1 (c) ‘cynllwyn, bradwriaeth’. yt fu
– Ne’ i’th⁠9 Ne’ i’th Diau mai neith, sef darlleniad C 2.114 (er gwaethaf y ffaith fod llythyren gyntaf y gair yn anodd i’w darllen) a LlGC 3048D, a geid yn y gynsail. Ceir neith (adffurfiad posibl o neithior) yn GPC Ar Lein d.g. neith1 ‘cred, ffydd’, ystyr a weddai yma, eithr fe ddigwydd gyntaf yn Archaeologia Britannica Edward Lhuyd yn 1707 ac mewn ffynonellau geiriadurol yn unig o hynny ymlaen. Dilynir darlleniad LlGC 21248D ne ith, lle rhannwyd darlleniad y gynsail (er bod camrannu yn y ll. flaenorol, gw. ll. 15n Ofnad), a chymryd bod y ddau air yn cywasgu’n unsill, fel yr awgrymai darlleniad y gynsail, cf. GSDT 4.90 A ne’ i Owain wineuwyn. Tebyg mai symleiddiad o ddarlleniad anodd y gynsail a geir yn C 4.110 I’th. hoedl – a wnaeth Ei wadu.8 Llau. 9–16. Am hanes Crist yn rhagfynegi y byddai Pedr yn ei wadu deirgwaith, a hanes Pedr yn mynd ar ôl Crist a’r milwyr, gan gadw ei bellter, gw. Mathew 26.31–5, 57–8, 69–75; Marc 14.27–31, 53–4, 66–72; Luc 22.31–4, 54–62; Ioan 13.36–8, 18.15–18, 25–7.
I garchar (difar y doeth)
Herodr9 Herodr Ffurf anarferol ar enw brenin Jwdea, dan ddylanwad herodr (gw. GPC Ar Lein d.g. herod ‘swyddog y mae olrhain a chofnodi achau yn rhan o’i waith’), a ddefnyddir er mwyn cwblhau’r gyfatebiaeth gytseiniol (caledir -d- gan h- yn y gair hen, gw. CD 206). hen yr aud drannoeth.
Pedwor o’i gyngor⁠10 Pedwor o’i gyngor Ymddengys mai ansicrwydd ynghylch pedwor, ffurf amrywiol anarferol ar pedwar (gw. GPC Ar Lein d.g.; cf. BeunoRhGE ll.55 Gweles bedwor, cerddor cain), a welir yn C 4.110 Pedwar i garchar a LlGC 21248D pedwar oi gyfar. Dilynir C 2.114 a LlGC 3048D. a gaid
20Yn dy wely’n dy wyliaid.
Er cau’r drysau ’r diraswyr,10 ’r diraswyr Cywesgir o’r diraswyr, gyda’r goddrych dan reolaeth yr arddodiad o.11 Er cau’r drysau ’r diraswyr Bernir mai’r darlleniad hwn, a geir yn LlGC 3048D, a geid yn y gynsail, ac a ddiwygiwyd yn C 2.114 er kavr dryssav or dirasswyr. Hepgorwyd y fannod gyntaf yn C 4.110 a LlGC 21248D. Tebyg bod y bardd wedi cywasgu o’r diraswyr er mwyn sicrhau ll. seithsill a chreu odl fewnol soniarus rhwng cau’r a drysau ’r.
Ni bu ry gall neb o’r gwŷr.
Duw a yrrodd i dorri
Galon y tŵr glân i ti.11 Llau 23–4. Bernir nad oes gwrthrych i’r ferf gyrrodd yma, ac mai ffurf luosog gâl ‘gelyn’ yw galon, sef milwyr Herod, gw. GPC Ar Lein d.g. gâl1. Cawsant eu dienyddio gan Herod pan ddarganfuwyd fod Pedr wedi dianc. Nid ymddengys fod tŵr glân yn arbennig o synhwyrol, ac ystyried agwedd gyffredinol negyddol y bardd tuag at garchar Herod, ond gall mai cyfeiriad ydyw at y ffaith fod Pedr wedi llwyddo i ddianc oddi yno’n wyrthiol heb dorri drws na wal, gw. llau. 17–28n. Posibilrwydd arall yw mai gwrthrych y ferf yw’r galon, sef trosiad am yr angel a ddaeth i ryddhau Pedr o’r carchar, ond digon trofaus yw’r ystyr o ganlyniad, cf. GG.net 6.27–8 Calon nid aeth, winfaeth wen, / Erioed uwch i Rydychen⁠ ‘Nid aeth calon foneddicach erioed i Rydychen, un wen wedi ei magu ar win’ (trosiad am yr Abad Rhys o Ystrad-fflur).
25I’th gyrchu (da fu dy fod)
Y dôi angel Duw yngod.
O bur eglur beryglau,
Aeth arwydd Hwn i’th ryddhau.12 Llau. 17–28. Am hanes carcharu Pedr gan Herod a’i ryddhau gan angel, gw. Actau 12.1–19. Yn ôl y Beibl, penododd Herod ‘bedwar pedwariad o filwyr’ i warchod Pedr, eithr pedwar yn unig a nodir yn ll. 19.

E fu’r Iesu farw isod,
30E godai i fyw gwedi’i fod,
A rhoi ’n ôl Ei farwolaeth
Drws nef⁠12 Drws nef Ceir y fannod o flaen nef, a ll. wythsill yn ei sgil, yn C 2.114 a LlGC 3048D. yn dy ras a wnaeth,
Ac i’r un man, Gŵr a’n medd,
Y trôi goriad trugaredd.
35Pennaeth⁠13 Pennaeth Gellid hefyd C 2.114 pen aeth (hynny yw, Pan aeth), ond bernir bod Pennaeth yn fwy tebygol. yn llyfodraeth llu,
Porthor trysor tŵr Iesu.13 Llau. 29–36. Gw. geiriau Crist wrth Bedr, a geir yn Mathew 16.18–19 yn unig: ‘Ac ’rwyf i’n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau angau y trechaf arni. Rhoddaf iti allweddau teyrnas nefoedd’ (cf. Marc 8.27–30 a Luc 9.18–21).

A geisio pob neges pur,
Aed ar frys i dref Rosyr!
Mewn dy gôr, myn di gweiriaw,14 … Rosyr! / Mewn dy gôr … Gellid goferu’r ystyr ar hyd y ddau gwpled (… i dref Rosyr / Mewn dy gôr ‘i dref Rhosyr i fewn i’th gangell’), ond bernir bod mwy o ergyd i’r cwpled cyntaf ar ei ben ei hun.
40Sy Rufain dros sir Fôn draw.
Pob iach ynn, pawb, a’ch enwai,
Pob afiach yn iach a wnai.15 gwnai Ffurf ail unigol presennol y ferf gwneuthur (heddiw gwnei), cf. GG.net 25.28. Gellid hefyd y ffurf trydydd unigol amherffaith, [g]wnâi, ond sylwer bod Lewys Daron yn cyfarch Pedr yn ddieithriad yn yr ail berson yn y rhan hon o’r gerdd.
Dyn gŵyl, ufydd⁠14 ufydd Diau mai’r ffurf hon ar y gair a geid yn y gynsail, gw. GPC Ar Lein d.g. ufudd. Fe’i camgopïwyd yn C 4.110 a LlGC 3048D a fydd. dan glefyd
Fai ’n y boen fwya’ ’n y byd,
45Gŵr iach fydd, gyrrwch foddion,
Gweryd fry aur gar dy fron.
O delai⁠15 O delai Cf. LlGC 3048D od elai. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. i’th gôr dylwyth gwan,
Maent wellwell yn mynd allan.16 Maent wellwell yn mynd allan Diau mai sain -d a glywid ar ddiwedd maent pan berfformiai Lewys Daron y gerdd, er mwyn cwblhau’r gyfatebiaeth gytseiniol, cf. maend yn narlleniadau’r llawysgrifau; GG.net 94.12 A’i rent ef i’r un Dafydd.
Pab a rydd pawb ar weddi,
50Paradwys yw d’eglwys di,
A’th gôr ac aur a’th gŵyr gwych,
A’th gareglau a’th groywglych.
Pob enaid, y pab union,
I’r tu de17 i’r tu de Dehonglwyd y geiriau hyn yn GLD 28.54 (gw. yr eirfa ar dudalen 137) fel fersiwn cryno o eiriau cyntaf emyn Lladin adnabyddus i Dduw ac i Grist, Te Deum laudamus ‘O Dduw, addolwn di’, cf. GSDT 14.15–16 Dywawd canu Te Deum; gw. ODCC 1592–3 (am gyfieithiad Cymraeg Canol o’r emyn, gw. GM). Fodd bynnag, gan na cheir enghraifft arall o’r ffurf anarferol Tu De, mae’n fwy tebygol fod Lewys Daron yn cyfeirio at ddeheulaw Duw, cf. Lewys Môn mewn marwnad i Ieuan ap Llywelyn, GLM XXV.85–6 Trefnu mae’r Iesu ei ran / o’r tu de i’r Tad, Ieuan. Fel y dengys y dyfyniad o waith Lewys Môn, ar ddeheulaw Duw yr eistedda Crist yn y nefoedd, ac felly hefyd ar ddeheulaw Crist y bydd y rhai cyfiawn yn eistedd, gw. Marc 16.19; Mathew 25.31–46. Ergyd y cwpled hwn gan Lewys Daron yw bod Pedr yn medru galluogi pobl i ymuno â Christ yn y nefoedd. erot ti dôn’.
55Gŵr mwya’ a wnaeth⁠16 mwya’ a wnaeth Bernir mai’r darlleniad hwn, a geir yn LlGC 21248D, a geid yn y gynsail, a bod diwygio wedi digwydd yn C 2.114 mwyn aeth, C 4.110 mwya nerth a LlGC 3048D mwy a naeth. grymio’n wych⁠17 grymio’n wych Awgrym pob darlleniad ac eithrio LlGC 3048D grym ion yw mai’r ferf grymio ‘ffynnu’ a geir yma, gw. GPC Ar Lein d.g. grymiaf. Ar wrthsefyll treiglad ar ôl gwnaeth, gw. TC 186.
O’r deuddeg, er Duw, oeddych.
Grasol oedd y gwir Iesu,
Gwarant dy feddiant di fu.
Porthor i’m Iôr yma wyd,
60Pab a thad pob iaith ydwyd.
Ffynnaist, ystynnaist dy stad,⁠18 dy stad Ceir ystad ym mhob llawysgrif ac eithrio LlGC 3048D y stad. Bernir bod y rhagenw, sy’n synhwyrol yma, wedi ei golli ar ddiwedd y gair blaenorol, ystynnaist, ac mai stad a geid ar ddiwedd y ll., cf. ll. 8 Gŵr o stad.
Ffyniant i’r tenant18 [y] tenant Y pab yn Rhufain, o bosibl, ond mae’n fwy tebygol, ac ystyried cyd-destun y rhan hon o’r gerdd, mai at offeiriad eglwys Pedr yn Niwbwrch y cyfeirir yma. tanad!
Tref Rosyr, tyrfa wresawg,
Teiroes Duw rhoed trosti rhawg!
65Ni chaut ŵr na chaterwen
Na bair iach hwnt, Niwbwrch⁠19 Niwbwrch Sylwer ar y ffurfiau: C 2.114 a LlGC 3048D ⁠niobwrch⁠, C 4.110 ⁠Newbwrch⁠, LlGC 21248D ⁠nvwbwrch⁠. wen.19 Llau. 65–6. Fel yr esbonnir yn y nodyn testunol ar y ll. hon, y tebyg yw fod y bardd yn cyfarch offeiriad yr eglwys yma, sef y tenant y cyfeirir ato yn ll. 62 (gw. y nodyn), ond gall hefyd ei fod yn cyfarch ⁠Niwbwrch wen. Pedr yw goddrych y ferf yn yr ail linell.20 Llau. 65–6. Deil C 4.110 a LlGC 3048D mai Na bai’r iach a geir yn ll. 66, eithr ni rydd y darlleniad hwnnw ystyr foddhaol ac eithrio o gymryd mai iach ‘ach, llinach’ a olygir, hynny yw ‘Ni fyddet yn dod o hyd i ŵr o fri … na fyddai o’r llinach acw’, cf. y cyfeiriad at waed da trigolion Niwbwrch yn ll. 68, gw. GPC Ar Lein d.g. ach5. Ceir gwell ystyr o gymryd bod y bardd yn cyfarch offeiriad yr eglwys yn ll. 65 (sef y tenant y cyfeirir ato yn ll. 62) wrth gyfeirio yn ll. 66 at Bedr yn gofalu am iechyd ei thrigolion. Gall hefyd mai ⁠Niwbwrch wen a gyferchir.
Lle caid bwrdeisiaid dwysir,20 dwysir Sir Fôn a sir Gaernarfon, yn ôl pob tebyg, cf. ll. 40 sir Fôn⁠. Posibilrwydd arall yw bod Lewys Daron yn cyfeirio’n ôl at hanes adleoli trigolion Llan-faes yn Niwbwrch yn dilyn y goncwest, pan ddygwyd pobl ynghyd o ddwy ran o’r ynys, sef cymydau Menai a Dindaethwy, gw. WATU 6–7, 233 (map).
Llyna waed da’n llenwi’n tir:⁠21 llenwi’n tir Ni cheir y rhagenw yn C 4.110 a LlGC 21248D, ond sylwer ar y defnydd o’r person cyntaf lluosog mewn mannau eraill yn y gerdd hon.
Morynion gwchion a gwŷr,
70Mowredd gwragedd goreugwyr.21 Mowredd gwragedd goreugwyr Cf. GG.net 88.21 Diwedd gwragedd goreugwyr.
Penaethiaid, adeiliaid⁠22 adeiliaid Gellid a deiliaid, fel y ceir yn LlGC 21248D, ond mae darlleniadau C 2.114 a LlGC 3048D ydeiliaid, ynghyd ag C 4.110 adeiliaid, yn awgrymu mai adeiliaid ‘dinasyddion’ a olygir, er na cheir enghraifft cyn 1567 yn GPC Ar Lein d.g. adeiliad2. oedd,
Pedr yn eu helpu ydoedd.
Y goriadau⁠23 Y goriadau Tebyg mai ygoriadav a geid yn y gynsail, a bod C 4.110 Agoriadau ac yn LlGC 21248D egoriadav wedi dehongli hynny fel ffurf luosog ar ygoriad (amrywiad ar agoriad), cf. GG.net 73.29 Ygoriad i’n gwlad i glêr. Dehonglwyd y llythyren gyntaf fel y fannod yn C 2.114 a LlGC 3048D, a hynny sydd fwyaf tebygol, cf. ll. 34 goriad. a gredwn
A roes ein Tad i’r sant hwn;⁠24 A roes ein Tad i’r sant hwn Ailwampiwyd y ll. hon yn C 4.110 Moes ein Tâd am un sant hwn (sylwer bod un sant yn adleisio ll. gyntaf y gerdd), efallai yn sgil traul yn X1 neu yn y gynsail.
75Dyro⁠25 Dyro Ar y ffurf doro, a geir yn LlGC 3048D, gw. G 437–8 d.g. dyroddi. i’r llu dorau ar lled⁠26 dorau ar lled Tebyg bod clust ambell gopïydd wedi clywed y ll. hon yn hir o sillaf, ac wedi dewis ei chwtogi yma: C 4.110 dôr ar lled, LlGC 21248D draw ar lled. Dilynir C 2.114 a LlGC 3048D, a chymryd bod Dyro i’r yn hanner cyntaf y ll. yn cywasgu’n ddeusill.
I nef wen i ni fyned!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mawr yw’n sôn am yr un sant
ag eurgylch o amgylch ei goron.
Yr hyn a ganaf i, os lluniaf fawl,
fe â i’r hen Bedr doeth.
5Pab wyt sy’n adnabod pawb,
ein porthor wyt tuag at y nef;
y bri gorau oll ers ei eni,
gŵr o sylwedd dan Grist wyt ti.

Roedd y crwydrwyr a’r rhai drwg
10yn dal Iesu isod o flaen dy lygaid.
Cyflawni’n gyfan gwbl
ewyllys Duw a lwyddaist ti.
Er gwadu’r Iesu tirion,
myn Duw, fe aethost i’w ddilyn.
15Bu i ti, a’i gwadodd Ef,
ofn rhag brad – nef i’th fywyd.
Fe aethost drannoeth
(daeth yn addfwyn) i garchar Herod hen.
Cafwyd pedwar drwy ei gyngor
20i’th wylio yn dy orweddfa.
Er i’r dihirod gau’r drysau,
ni bu’r un o’r gwŷr yn ddoeth iawn.
Duw a anfonodd atat er mwyn difa
gelynion y tŵr dilychwin.
25Fe ddaeth angel Duw yno i’th gyrchu
(ffodus oedd dy gyflwr).
O beryglau pur amlwg,
aeth Ei arwydd i’th ryddhau.

Bu farw’r Iesu isod,
30fe gododd yn fyw ar ôl bod yno,
ac ar ôl Ei farwolaeth fe roddodd
ddrws y nef yn dy ras,
ac i’r un lle hefyd y rhoddodd
allwedd trugaredd, Duw hollalluog.
35Pennaeth yn llywodraethu llu [nefol],
porthor trysor tŵr Iesu.

A fynno bob neges bur,
boed iddo fynd ar frys i dref Rhosyr!
Mynna di gadw trefn yn dy gangell,
40sy’n [ail] Rufain dros sir Fôn acw.
Pob un iach, pawb, a roddai eich enw i ni,
rwyt yn iacháu pob un gwael ei iechyd.
Y dyn gwylaidd, duwiol yn dioddef o glefyd
ac a fai yn y boen fwyaf yn y byd,
45bydd yn ŵr iach, anfonwch ffafrau,
mae aur o’th flaen uchod yn adfer iechyd.
Pe bai tylwyth gwan yn dod i’th gangell,
byddant yn teimlo’n well ac yn well wrth ymadael.
Pab sy’n peri pawb i weddïo,
50paradwys yw dy eglwys di,
a’th gangell ac aur a’th gŵyr gwych,
a’th gwpanau cymun a’th glychau pêr.
Fe â pob enaid, y gwir bab,
i’r ochr dde [i Dduw] o’th herwydd di.
55Y gŵr mwyaf o’r deuddeg oeddych,
myn Duw, a ffynnodd yn wych.
Roedd yr Iesu cyfiawn yn dirion,
roedd dy awdurdod di’n gadarnhad.
Porthor wyt yma i’m Harglwydd,
60Pab a thad pob cenedl wyt.
Ffynnaist, estynnaist dy statws,
ffyniant i’r tenant oddi tanat!
Tref Rhosyr, tyrfa selog,
boed i Dduw roi iddi dair oes am byth!
65Ni fyddet yn dod o hyd i ŵr o fri nac uchelwr cadarn
na fyddai’n peri iddynt fod yn iach acw, Niwbwrch fendigaid.
Lle roedd bwrdeisiaid dwy sir,
dacw waed da’n llenwi’n tir:
morynion a gwŷr gwychion,
70ysblander gwragedd y gwŷr gorau.
Roedd penaethiaid a dinasyddion,
roedd Pedr yn eu helpu.
Ein cred yw bod ein Tad
wedi rhoi’r allweddi i’r sant hwn;
75agor i’r llu y drysau ar led
i nef fendigaid er mwyn i ni fynd!

1 mwg aur Am y cyfuniad, gw. GPC Ar Lein d.g. mwg ‘nimbus, halo’.

2 coron Mae ‘corun y pen’ yn bosibl (GPC Ar Lein d.g. coron (c)), ond y tebyg yw mai coron driphlyg y pab a feddylir yma.

3 Bedr … wybodawl Ceir yr un cyfuniad cynganeddol yng nghywydd Iolo Goch, ‘I’r Deuddeg Apostol a’r Farn’, GIG XXVII.2 I Bedr ddoeth wybodawl.

4 pab Adlewyrchir y gred mai Pedr oedd y pab cyntaf, a weinyddodd yn Rhufain yn ystod pum mlynedd ar hugain olaf ei fywyd, gw. ODCC 1269–70; cf. llau. 49, 53, 60.

5 Gŵr o stad dan Grist wyt ti Daw’r orffwysfa ar ôl dan. Ar yr arfer o roi’r brif acen ar arddodiaid a mân eiriau tebyg, gw. CD 266–8. O ran y trawiad cynganeddol yn y ll. hon, ynghyd â’r cyfuniad gŵr o stad, cf. GHS 29.19 Gŵr o stad i Grist ydoedd.

6 cyfa lân Awgrymir mai cyfuniad ydyw o fath, cf. cyfa gwbl ‘hollol gyfan a chyflawn’, gw. GPC Ar Lein d.g. cyfan gwbl.

7 bwriad Gw. GPC Ar Lein d.g. bwriad2 1 (c) ‘cynllwyn, bradwriaeth’.

8 Llau. 9–16. Am hanes Crist yn rhagfynegi y byddai Pedr yn ei wadu deirgwaith, a hanes Pedr yn mynd ar ôl Crist a’r milwyr, gan gadw ei bellter, gw. Mathew 26.31–5, 57–8, 69–75; Marc 14.27–31, 53–4, 66–72; Luc 22.31–4, 54–62; Ioan 13.36–8, 18.15–18, 25–7.

9 Herodr Ffurf anarferol ar enw brenin Jwdea, dan ddylanwad herodr (gw. GPC Ar Lein d.g. herod ‘swyddog y mae olrhain a chofnodi achau yn rhan o’i waith’), a ddefnyddir er mwyn cwblhau’r gyfatebiaeth gytseiniol (caledir -d- gan h- yn y gair hen, gw. CD 206).

10 ’r diraswyr Cywesgir o’r diraswyr, gyda’r goddrych dan reolaeth yr arddodiad o.

11 Llau 23–4. Bernir nad oes gwrthrych i’r ferf gyrrodd yma, ac mai ffurf luosog gâl ‘gelyn’ yw galon, sef milwyr Herod, gw. GPC Ar Lein d.g. gâl1. Cawsant eu dienyddio gan Herod pan ddarganfuwyd fod Pedr wedi dianc. Nid ymddengys fod tŵr glân yn arbennig o synhwyrol, ac ystyried agwedd gyffredinol negyddol y bardd tuag at garchar Herod, ond gall mai cyfeiriad ydyw at y ffaith fod Pedr wedi llwyddo i ddianc oddi yno’n wyrthiol heb dorri drws na wal, gw. llau. 17–28n. Posibilrwydd arall yw mai gwrthrych y ferf yw’r galon, sef trosiad am yr angel a ddaeth i ryddhau Pedr o’r carchar, ond digon trofaus yw’r ystyr o ganlyniad, cf. GG.net 6.27–8 Calon nid aeth, winfaeth wen, / Erioed uwch i Rydychen⁠ ‘Nid aeth calon foneddicach erioed i Rydychen, un wen wedi ei magu ar win’ (trosiad am yr Abad Rhys o Ystrad-fflur).

12 Llau. 17–28. Am hanes carcharu Pedr gan Herod a’i ryddhau gan angel, gw. Actau 12.1–19. Yn ôl y Beibl, penododd Herod ‘bedwar pedwariad o filwyr’ i warchod Pedr, eithr pedwar yn unig a nodir yn ll. 19.

13 Llau. 29–36. Gw. geiriau Crist wrth Bedr, a geir yn Mathew 16.18–19 yn unig: ‘Ac ’rwyf i’n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau angau y trechaf arni. Rhoddaf iti allweddau teyrnas nefoedd’ (cf. Marc 8.27–30 a Luc 9.18–21).

14 … Rosyr! / Mewn dy gôr … Gellid goferu’r ystyr ar hyd y ddau gwpled (… i dref Rosyr / Mewn dy gôr ‘i dref Rhosyr i fewn i’th gangell’), ond bernir bod mwy o ergyd i’r cwpled cyntaf ar ei ben ei hun.

15 gwnai Ffurf ail unigol presennol y ferf gwneuthur (heddiw gwnei), cf. GG.net 25.28. Gellid hefyd y ffurf trydydd unigol amherffaith, [g]wnâi, ond sylwer bod Lewys Daron yn cyfarch Pedr yn ddieithriad yn yr ail berson yn y rhan hon o’r gerdd.

16 Maent wellwell yn mynd allan Diau mai sain -d a glywid ar ddiwedd maent pan berfformiai Lewys Daron y gerdd, er mwyn cwblhau’r gyfatebiaeth gytseiniol, cf. maend yn narlleniadau’r llawysgrifau; GG.net 94.12 A’i rent ef i’r un Dafydd.

17 i’r tu de Dehonglwyd y geiriau hyn yn GLD 28.54 (gw. yr eirfa ar dudalen 137) fel fersiwn cryno o eiriau cyntaf emyn Lladin adnabyddus i Dduw ac i Grist, Te Deum laudamus ‘O Dduw, addolwn di’, cf. GSDT 14.15–16 Dywawd canu Te Deum; gw. ODCC 1592–3 (am gyfieithiad Cymraeg Canol o’r emyn, gw. GM). Fodd bynnag, gan na cheir enghraifft arall o’r ffurf anarferol Tu De, mae’n fwy tebygol fod Lewys Daron yn cyfeirio at ddeheulaw Duw, cf. Lewys Môn mewn marwnad i Ieuan ap Llywelyn, GLM XXV.85–6 Trefnu mae’r Iesu ei ran / o’r tu de i’r Tad, Ieuan. Fel y dengys y dyfyniad o waith Lewys Môn, ar ddeheulaw Duw yr eistedda Crist yn y nefoedd, ac felly hefyd ar ddeheulaw Crist y bydd y rhai cyfiawn yn eistedd, gw. Marc 16.19; Mathew 25.31–46. Ergyd y cwpled hwn gan Lewys Daron yw bod Pedr yn medru galluogi pobl i ymuno â Christ yn y nefoedd.

18 [y] tenant Y pab yn Rhufain, o bosibl, ond mae’n fwy tebygol, ac ystyried cyd-destun y rhan hon o’r gerdd, mai at offeiriad eglwys Pedr yn Niwbwrch y cyfeirir yma.

19 Llau. 65–6. Fel yr esbonnir yn y nodyn testunol ar y ll. hon, y tebyg yw fod y bardd yn cyfarch offeiriad yr eglwys yma, sef y tenant y cyfeirir ato yn ll. 62 (gw. y nodyn), ond gall hefyd ei fod yn cyfarch ⁠Niwbwrch wen. Pedr yw goddrych y ferf yn yr ail linell.

20 dwysir Sir Fôn a sir Gaernarfon, yn ôl pob tebyg, cf. ll. 40 sir Fôn⁠. Posibilrwydd arall yw bod Lewys Daron yn cyfeirio’n ôl at hanes adleoli trigolion Llan-faes yn Niwbwrch yn dilyn y goncwest, pan ddygwyd pobl ynghyd o ddwy ran o’r ynys, sef cymydau Menai a Dindaethwy, gw. WATU 6–7, 233 (map).

21 Mowredd gwragedd goreugwyr Cf. GG.net 88.21 Diwedd gwragedd goreugwyr.

1 yw’n sôn Gellid dilyn C 2.114 yw son, a chael n berfeddgoll yn hanner cyntaf y ll., ac felly hefyd yn achos LlGC 3048D yw /r/ sôn, gydag un r yn ateb dwy. Ond mae darlleniad y golygiad, a geir yn C 4.110 a LlGC 21248D, yn taro’n well. Tybed a oedd y rhagenw’n absennol yn y gynsail?

2 gwnaf fawl Collwyd yr -f gyntaf yng nghesail yr ail yn narlleniad y llawysgrifau, gwna fawl.

3 Gorau Cf. C 2.114 a LlGC 3048D gore, ffurf dafodieithol, o bosibl, ond y tebyg yw mai gorev a geid yn y gynsail a bod -v wedi ei cholli yng nghesail y gair nesaf, vn.

4 oedd Gthg. darlleniad cynganeddol lwgr C 2.114 draw.

5 a’r Ni cheir y fannod yn LlGC 3048D, yn ôl pob tebyg yn sgil ei cholli yng nghesail y gair nesaf, rhai, ac ni cheir y cysylltair yn C 4.110 y. Dilynir C 2.114 a LlGC 21248D. Mae’r defnydd o’r fannod ar ddechrau’r ll. yn cryfhau’r achos dros ei darllen yma hefyd.

6 Iso’n Tebyg mai C 2.114 isso yn sydd agosaf at yr hyn a geid yn y gynsail, a bod y sillgolli angenrheidiol i’w weld yn LlGC 21248D iso /n/. Hawdd gweld sut y cafwyd o’r rhain y darlleniadau llwgr C 4.110 Sôn yn a LlGC 3048D ison yn.

7 ’Wyllys Tebyg mai ywyllys a geid yn y gynsail, fel y gwelir yn C 2.114 y wyllys a LlGC 3048D ywyllys, lle ceir ll. wythsill. Fe’i talfyrrwyd yn LlGC 21248D wllys, nas nodir fel ffurf ar ewyllys yn GPC Ar Lein, a bernir mai’r ffurf dalfyredig ’wyllys a fwriedid gan y bardd. Yn C 4.110 ceir Ewyllys, ac yno yn unig yr hepgorwyd a yn ail hanner y ll. er mwyn ei chwtogi.

8 Ofnad Ceir camrannu yn LlGC 21248D ofn nad.

9 Ne’ i’th Diau mai neith, sef darlleniad C 2.114 (er gwaethaf y ffaith fod llythyren gyntaf y gair yn anodd i’w darllen) a LlGC 3048D, a geid yn y gynsail. Ceir neith (adffurfiad posibl o neithior) yn GPC Ar Lein d.g. neith1 ‘cred, ffydd’, ystyr a weddai yma, eithr fe ddigwydd gyntaf yn Archaeologia Britannica Edward Lhuyd yn 1707 ac mewn ffynonellau geiriadurol yn unig o hynny ymlaen. Dilynir darlleniad LlGC 21248D ne ith, lle rhannwyd darlleniad y gynsail (er bod camrannu yn y ll. flaenorol, gw. ll. 15n Ofnad), a chymryd bod y ddau air yn cywasgu’n unsill, fel yr awgrymai darlleniad y gynsail, cf. GSDT 4.90 A ne’ i Owain wineuwyn. Tebyg mai symleiddiad o ddarlleniad anodd y gynsail a geir yn C 4.110 I’th.

10 Pedwor o’i gyngor Ymddengys mai ansicrwydd ynghylch pedwor, ffurf amrywiol anarferol ar pedwar (gw. GPC Ar Lein d.g.; cf. BeunoRhGE ll.55 Gweles bedwor, cerddor cain), a welir yn C 4.110 Pedwar i garchar a LlGC 21248D pedwar oi gyfar. Dilynir C 2.114 a LlGC 3048D.

11 Er cau’r drysau ’r diraswyr Bernir mai’r darlleniad hwn, a geir yn LlGC 3048D, a geid yn y gynsail, ac a ddiwygiwyd yn C 2.114 er kavr dryssav or dirasswyr. Hepgorwyd y fannod gyntaf yn C 4.110 a LlGC 21248D. Tebyg bod y bardd wedi cywasgu o’r diraswyr er mwyn sicrhau ll. seithsill a chreu odl fewnol soniarus rhwng cau’r a drysau ’r.

12 Drws nef Ceir y fannod o flaen nef, a ll. wythsill yn ei sgil, yn C 2.114 a LlGC 3048D.

13 Pennaeth Gellid hefyd C 2.114 pen aeth (hynny yw, Pan aeth), ond bernir bod Pennaeth yn fwy tebygol.

14 ufydd Diau mai’r ffurf hon ar y gair a geid yn y gynsail, gw. GPC Ar Lein d.g. ufudd. Fe’i camgopïwyd yn C 4.110 a LlGC 3048D a fydd.

15 O delai Cf. LlGC 3048D od elai. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.

16 mwya’ a wnaeth Bernir mai’r darlleniad hwn, a geir yn LlGC 21248D, a geid yn y gynsail, a bod diwygio wedi digwydd yn C 2.114 mwyn aeth, C 4.110 mwya nerth a LlGC 3048D mwy a naeth.

17 grymio’n wych Awgrym pob darlleniad ac eithrio LlGC 3048D grym ion yw mai’r ferf grymio ‘ffynnu’ a geir yma, gw. GPC Ar Lein d.g. grymiaf. Ar wrthsefyll treiglad ar ôl gwnaeth, gw. TC 186.

18 dy stad Ceir ystad ym mhob llawysgrif ac eithrio LlGC 3048D y stad. Bernir bod y rhagenw, sy’n synhwyrol yma, wedi ei golli ar ddiwedd y gair blaenorol, ystynnaist, ac mai stad a geid ar ddiwedd y ll., cf. ll. 8 Gŵr o stad.

19 Niwbwrch Sylwer ar y ffurfiau: C 2.114 a LlGC 3048D ⁠niobwrch⁠, C 4.110 ⁠Newbwrch⁠, LlGC 21248D ⁠nvwbwrch⁠.

20 Llau. 65–6. Deil C 4.110 a LlGC 3048D mai Na bai’r iach a geir yn ll. 66, eithr ni rydd y darlleniad hwnnw ystyr foddhaol ac eithrio o gymryd mai iach ‘ach, llinach’ a olygir, hynny yw ‘Ni fyddet yn dod o hyd i ŵr o fri … na fyddai o’r llinach acw’, cf. y cyfeiriad at waed da trigolion Niwbwrch yn ll. 68, gw. GPC Ar Lein d.g. ach5. Ceir gwell ystyr o gymryd bod y bardd yn cyfarch offeiriad yr eglwys yn ll. 65 (sef y tenant y cyfeirir ato yn ll. 62) wrth gyfeirio yn ll. 66 at Bedr yn gofalu am iechyd ei thrigolion. Gall hefyd mai ⁠Niwbwrch wen a gyferchir.

21 llenwi’n tir Ni cheir y rhagenw yn C 4.110 a LlGC 21248D, ond sylwer ar y defnydd o’r person cyntaf lluosog mewn mannau eraill yn y gerdd hon.

22 adeiliaid Gellid a deiliaid, fel y ceir yn LlGC 21248D, ond mae darlleniadau C 2.114 a LlGC 3048D ydeiliaid, ynghyd ag C 4.110 adeiliaid, yn awgrymu mai adeiliaid ‘dinasyddion’ a olygir, er na cheir enghraifft cyn 1567 yn GPC Ar Lein d.g. adeiliad2.

23 Y goriadau Tebyg mai ygoriadav a geid yn y gynsail, a bod C 4.110 Agoriadau ac yn LlGC 21248D egoriadav wedi dehongli hynny fel ffurf luosog ar ygoriad (amrywiad ar agoriad), cf. GG.net 73.29 Ygoriad i’n gwlad i glêr. Dehonglwyd y llythyren gyntaf fel y fannod yn C 2.114 a LlGC 3048D, a hynny sydd fwyaf tebygol, cf. ll. 34 goriad.

24 A roes ein Tad i’r sant hwn Ailwampiwyd y ll. hon yn C 4.110 Moes ein Tâd am un sant hwn (sylwer bod un sant yn adleisio ll. gyntaf y gerdd), efallai yn sgil traul yn X1 neu yn y gynsail.

25 Dyro Ar y ffurf doro, a geir yn LlGC 3048D, gw. G 437–8 d.g. dyroddi.

26 dorau ar lled Tebyg bod clust ambell gopïydd wedi clywed y ll. hon yn hir o sillaf, ac wedi dewis ei chwtogi yma: C 4.110 dôr ar lled, LlGC 21248D draw ar lled. Dilynir C 2.114 a LlGC 3048D, a chymryd bod Dyro i’r yn hanner cyntaf y ll. yn cywasgu’n ddeusill.