Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

24. Moliant i Bedr o Rosyr

golygwyd gan Eurig Salisbury

⁠C 2.114, 760–2

Nodiadau
Casgliad o gerddi a ysgrifennwyd yn llys Roland Meyrick, esgob Bangor, ar gyfer Richard ap Gruffudd, ficer Woking, mewn llaw anhysbys a elwir X51 gan Daniel Huws (RepWM). Gwnaeth bum mân gywiriad i’w destun, efallai wrth iddo godi’r testun hwnnw (gw. llau. 48, 57, 66, 72 a 73). Nid ymddengys fod y cerddi wedi eu cofnodi mewn unrhyw drefn arbennig.

760
kowydd moliant i bedyr o rossvr
am yrvn sant mawr yw son
a mwg avr am i goron
a ganwy fi o gwna fawl
hyn a i bedyr hen wybodawl
5pab a edwyn pawb ydwyd
parth or nef porthor yn wyd
gore vn gair oi eni
gwr o sdad dan grisd wyt ti
y rrodwyr draw ar rrai drwg
10isso yn dal iesv yn dolwg
kyfa lan yn kyflowni
y wyllys duw a ellaisd di
er gwadv yr iesv rassol
mynd a navd myn duw yniol
15ofnad at fwriad yt fv
neith hoedyl anaeth i wadv
i garchar difar i doeth
herottyr hen i ravt tranoeth
pedwor oi gyngor agaid
20yn dy wely yn dy wiliaid
er kavr dryssav or dirasswyr
ni bv ry gall neb or gwyr

761
Duw a yrodd i dori
galon ytwr glan i ti
25ith gyrchv da fv dyfod
i doe angel duw yngod
o bvr eglvr byryglav
aeth arwydd hwn ith ryddhav
e fvr iesv farw issod
30e godai yn fyw gwedi fod
a rroi yn ol i farfolaeth
drws ynef yn dy ras awnaeth
ag i rvn man gwr an medd
y troi goriad trugaredd
35pen aeth yn llyfodraeth llv
porthor tryssor twr iesv
a geissio pob neges pvr
aed ar frys i dref rossvr
mewn dy gor myn dy gweiriaw
40sy rvfain dros sir fon draw
pob iach yn pawb achenwai
pob afiach yn iach awnai
dyn gwyl vfvdd dan glefyd
fain yboen fwya yn y byd
45gwr iach fydd gyrwch foddion
gweryd fry avr ger dy fron
o delai ith gor dylwyth gwan
maendt well well y mynd allan
pab a rydd pawb ar weddi
50pyradwys yw deglwys di
ath gor ag avr ath gwyr gwych
ath gereglav ath groywglych
pob enaid y pab vnion
ir tv de ero ti don

762
55gwr mwyn aeth grymion wych
or devddeg er duw oeddych
grassol oedd iy gwir iesv
gwarant ty feddiant ti fv
porthor im ior yma wyd
60pab a thad pob iaith ydwyd
ffynaisd ysdynaisd ysdad
ffyniant ir tenant tanad
tref rossvr tyrfa wressawg
teiroes duw rroed trosdi rrawg
65ni chavt wr na chaterwen
na bair iach hwnt niobwrch hen wen
lle kaid bwrdeissiaid dwyssir
llyna waed ta yn llenwi yn tir
morynion gwchion a gwyr
70mowredd gwragedd gorevgwyr
penaethiaid ydeiliaid oedd
peder iyn i helpv ydoedd
y goriadav a gredwn
a roes yn tad ir sant hwn
75dyro ir llv dorav ar lled
i nef wen i ni fyned

Lewys Daron ai kant