Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

9. Moliant i Fwrog

golygwyd gan Eurig Salisbury

Rhagymadrodd

Canwyd y cywydd hwn gan Ruffudd Nannau yn sgil carcharu Ithel a Rhys, dau o feibion Ieuan Fychan o Bengwern ger Llangollen. Cymar i’r gerdd hon, i bob diben, yw cywydd anolygedig a ganodd Rhys Goch Glyndyfrdwy ar yr un pwnc. Argraffwyd testun Llst 122, 308 (c.1644–8) o’r gerdd honno gan Bowen (1953–4: 120), ond dyfynir isod o destun cynharach LlGC 3049D, 498 (c.1585–1636). Anfonodd Rhys Goch y lleuad i chwilio am y ddau frawd:

imwybod ai byw meibion
bleidiav mawr a blodav mon⁠
ysbied chwilied yn chwyrn
gesdyll lloegr gosd dwyll llvgyrn.

Mae’r bardd yn llawn gobaith fod y ddau’n fyw ac, yn null y canu brud, fe broffwyda eu dychweliad buan o’r Dre-wen ger Croesoswallt:

dvw a ddwg in di ddigiaw
dav vnben or drewen draw.

Cyfeirir yn gyffredinol at allu Duw i wneud y ddwyblaid yn vn ac at ddod â rhyw gynddrygedd ‘anghydfod’ i ben.

Yng nghywydd Gruffudd Nannau, rhoir y dasg o ddod o hyd i’r ddau frawd yng ngofal Mwrog, sant y cysegrwyd iddo eglwysi yn y gogledd-ddwyrain ac ym Môn, dwy ardal a gysylltid â theulu Ieuan Fychan, a oedd yn ddisgynnydd i deulu Penmynydd ar ochr ei fam (cf. dav flaenawr maelawr a mon⁠ yng nghywydd Rhys Goch; cf. hefyd y pwysigrwydd a roir i Fwrog mewn awdl gan Ddafydd Nanmor i Harri Tudur, DN XVII.1, 76). Ond y tebyg yw mai’r prif reswm y gelwir ar Fwrog yma, fel y nododd Johnston (LlU 216, 312), yw’r ffaith ei fod yn enwog am adfer golwg y deillion ac y gallai, o ganlyniad, ddod â’r ddau frawd i’r golwg. Molir y sant ar ddechrau’r gerdd mewn cyswllt â Rhuthun, gan fod eglwys Llanfwrog ar gyrion y dref, cyn cyfeirio at ei allu i iacháu deillion a phobl fethedig (llau. 1–18). Yna mynegir hiraeth poenus y bardd am Ithel a Rhys, a guddiwyd rhagddo gan ryw ddichellwyr (19–40). Fel Rhys Goch yntau, mae Gruffudd yn obeithiol y deuan’ o’r daith ond, yn wahanol i Rys mewn cyswllt â’r lleuad, ni ofyna Gruffudd yn benodol i Fwrog chwilio am y ddau frawd, dim ond eu rhyddhau. Yn wir, deil Gruffudd fod Mwrog yn gwybod ym mhle y maent, sef Mewn castell ym machell môr, a gelwir arno i ddinistrio’r castell hwnnw er mwyn galluogi i’r ddau frawd ddychwelyd o Wlad yr Haf⁠ (41–8). O gyflawni’r dasg, medd Gruffudd yn y llinellau olaf, fe fydd Mwrog yn sicr o dderbyn llawer o glod a gweddïau (49–56).

Fel y gwelir, ni cheir yn y ddwy gerdd ond briwsion gwybodaeth am yr hanes sy’n gefndir iddynt. Teflir ychydig mwy o oleuni ar dynged Ithel a Rhys gan ddyrnaid o nodiadau yn y llawysgrifau. Ceir wrth frig testun LlGC 17113E o gywydd Rhys Goch, sef y testun cynharaf (canol yr 16g. (<1547)), y teitl hwn: I feibion Ifan fychan ap Ifan ap adda oedd ynghassdell y dre wen yngharchar drwy roi o Rys’ trefor ap edward dd … davyd ap dynyved gam (ceir yr un wybodaeth yn LlGC 3027E, LlGC 3037B, Llst 122 a LlGC 8497B, eithr drwy waith Risiart Trevor a geir yn yr olaf). Mae’n arwyddocaol fod y gŵr a gopïodd y teitl hwnnw a thestun y gerdd yn LlGC 17113E, Siôn ap Wiliam ap Siôn, yn byw yn Ysgeifiog yn sir y Fflint, ryw hanner ffordd rhwng Llanfwrog a stad sylweddol Mostyn, a ddaeth i feddiant Ieuan Fychan drwy ei wraig, Angharad ferch Hywel, ar ddechrau’r 1430au. Roedd Siôn yn achyddwr yn ogystal, a chyfeiriodd Gruffudd Hiraethog at un o’i lyfrau achau coll fel ffynhonnell yn Pen 177, 198 (1544–61; cf. Bartrum 1989: 5). Ar waelod y ddalen nesaf yn y llawysgrif honno, ceir nodyn digyswllt yn llaw Gruffudd Hiraethog sy’n ategu’r wybodaeth a geir yn LlGC 17113E ynghylch carchariad y brodyr yn y Dre-wen, ac yn ychwanegu ati ddyddiadau manwl, eithr ni cheir sôn am Risiart Trefor: Ithel a Rh meibion Ienn’ vychan ap Ienn’ ap athant [sic] I gastell ydrewen ddvw gwener gwyl gadwaladr y xii ved dydd or gayaf ac a vvant yno hyd difie kyn awst oed krist 1457 nev val hynn AD CCCC lvii. Y tebyg yw mai Siôn ap Wiliam oedd ffynhonnell yr wybodaeth honno hefyd ac, fel y sylwodd Carr (1976: 37), mae’r ffaith mai dydd Gwener oedd 12 Tachwedd 1456 yn rhoi rhywfaint o hygrededd i’r cofnod. Ymddengys mai’r hyn a gredai Siôn yn ei gyfanrwydd oedd bod Rhisiart Trefor wedi carcharu’r ddau frawd yn y Dre-wen o ddydd Gwener 12 Tachwedd 1456 hyd ddydd Iau 29 Gorffennaf 1457.

Ceir yr unig gyfeiriad sicr at farwolaeth y ddau frawd ar frig copi Huw Machno o gywydd Rhys Goch yn LlGC 3049D, 498 (c.1585–1636), lle dywedir bod y gerdd wedi ei chanu i feibion Ieuan Fychan a fwrdawyd yn i karchar, ond ni ddywedir ym mhle roedd y carchar hwnnw. Ceir copi arall o’r gerdd yn LlGC 8497B, 190v (1590au), yn llaw copïydd anhysbys (a elwir X128 yn RepWM) a gofnododd hefyd gopi o gywydd mawl gan Guto’r Glyn i Ieuan ab Einion o’r Cryniarth a’i dylwyth (GG.net cerdd 48) yn LlGC 3051D, 150 (c.1579–1677). Wrth ymyl y testun hwnnw ceir nodyn yn llaw’r copïydd yn honni bod Ieuan Fychan wedi ei gythruddo gan yr hyn a ddywedodd Guto yn llinellau 37–8, a bod Guto, o ganlyniad, wedi canu cywydd i gymodi ag Ieuan Fychan (ibid. cerdd 106). At hynny, ceir wrth destun Llst 30, 150 (c.1610–20) o’r gerdd i Ieuan ab Einion, mewn nodyn tebyg gan law wahanol i’r llaw a gofnododd y gerdd, gyfeiriad penodol at linell 38 Aeth eraill i’w merthyru: yr eraill hynny oedd froder Ienn’ fychan ap Ie’ ap Addaf (ceir yr un nodyn, i bob diben, wrth destun y gerdd yn Pen 152, 161). Tebyg nad [b]roder Ienn’ fychan a feddylir, eithr dau frawd a oedd yn feibion iddo (gall fod a wnelo’r dryswch â’r ffaith fod gan y tad a’i dad yntau yr un enw). Ni ellir profi’r cyswllt rhwng cywydd Guto i Ieuan ab Einion a’i gywydd cymod i Ieuan Fychan – yn wir, ymddengys yn bur annhebygol – ond mae’r nodiadau uchod yn tystio i’r gred fod meibion Ieuan Fychan wedi eu llofruddio. Darn bach arall o dystiolaeth sy’n ateg i’r gred honno yw nodyn gan Edward ap Roger yn Pen 128, 186r (c.1560–85), lle dywedir bod nai i’r ddau frawd, Tomas ap Wiliam, wedi lladd xii o wyr o ddial am Ithel a Rys i Ewythrydd meibion Ienn’ vychn’.

Ni cheir unrhyw gofnod sy’n cysylltu’n ddiamwys farwolaeth Ithel a Rhys â’u carchariad yn y Dre-wen. Yn wir, os llofruddiwyd y ddau frawd yn y castell hwnnw mewn gwirionedd, mae’n syndod nad yw hynny’n cael ei nodi yn y cofnod yn Pen 177, yn lle’r gosodiad niwtral a vvant yno. Ymddengys mai yn HPF iv, 147 (1881–7) y cysylltir y ddeubeth am y tro cyntaf, a diau bod yr wybodaeth a geir yno wedi ei lloffa o rai o’r llawysgrifau a drafodir uchod: ‘Ithel ab Ieuan Fychan was slain at Whittington Castle on the last Thursday in July 1457 … Rhys ab Ieuan Fychan … was slain at Whittington Castle, together with his brother Ithel ab Ieuan, in 1457.’ Honnir yn Lloyd-Mostyn and Glenn (1925: 50) fod y ddau frawd wedi eu lladd ‘at the siege of Whittington Castle’ yn 1457, a nodir y cofnod yn HPF fel ffynhonnell yr wybodaeth honno. Ni cheir sôn am warchae yn HPF ac, fel y dywed Carr (1982b: 25), ni cheir unrhyw dystiolaeth arall i’r perwyl hwnnw (noder bod y drafodaeth yn Lloyd-Mostyn and Glenn 1925: 50–4 yn frith o gamdybiaethau, megis bod Gruffudd Nannau yn llefaru ym mhersona Ieuan Fychan yn ei gerdd).

Y ddadl gryfaf o blaid dilysrwydd yr wybodaeth am gyfnod carcharu Ithel a Rhys yn Pen 177 yw ei fanylder. Tebyg bod gan Siôn ap Wiliam neu gopïydd arall ffynhonnell a oedd yn dyddio’r digwyddiad ac yn ei gysylltu â Rhisiart Trefor. Gwyddys bod Rhisiart yn gwnstabl castell y Dre-wen yn 1468 (LlGC Castell y Waun F 9878). Dywed Guto’r Glyn, mewn cywydd mawl i frawd Rhisiart, Robert Trefor, fod ei noddwr wedi gwasanaethu Rhisiart, dug Iorc (GG.net 105.67–8), a’r tebyg yw mai Iorcydd oedd Rhisiart yntau. Ac yntau’n gyfyrder i Edmwnd Tudur, tad Harri Tudur, diau mai Lancastriad oedd Ieuan Fychan ac, fel yr awgrymwyd yn gyntaf yn Lloyd-Mostyn and Glenn (1925: 50; cf. Charles 1966: 78; Carr 1976: 39–40; Griffiths 2013: 80), mae’n bosibl mai yn sgil yr elyniaeth rhwng y ddwy garfan, ynghyd â rhaniadau teuluol, y carcharwyd ei feibion gan Risiart Trefor. Efallai mai yng ngoleuni’r rhaniad hwnnw y dylid deall cyfeiriadau Rhys Goch at uno’r ddwyblaid a rhoi terfyn ar ryw gynddrygedd, fel yr awgrymir gan y ffaith fod Huw Machno wedi cofnodi’r ddwy gerdd i Ithel a Rhys ar ôl cywydd carcharu gan Wilym ab Ieuan Hen (GDID cerdd XVI), cerdd y gellir yn hawdd ei chysylltu â Rhyfeloedd y Rhosynnau, yn LlGC 3049D.

Ni waeth beth oedd achos y gynnen mewn gwirionedd, nid yw’n eglur pam fod Rhys Goch, os gwyddai eisoes fod y ddau frawd yng ngharchar y Dre-wen, wedi galw am gymorth y lleuad i chwilio amdanynt drwy gesdyll lloegr⁠. Ai consêt yw’r cyfan? Neu ynteu ai ailadrodd si a wnaeth Rhys mai yn y Dre-wen, yn ôl pob tebyg, yr oedd y ddau? Yr hyn sy’n eglur yw bod gan Ruffudd Nannau syniad gwahanol am leoliad y ddau frawd, sef mewn castell ger y môr, efallai yng Ngwlad yr Haf. Y lleoliad amlycaf yw castell Dunster ger Minehead ond, fel y nododd Williams (2001: 567 n413), rheolid y castell hwnnw gan y Lancastriaid. Bu farw’r perchennog, Syr James Luttrell, yn ail frwydr St Albans yn 1461, a rhoddwyd ei eiddo yng ngofal Wiliam Herbert o Raglan ac, yn ddiweddarach, ei fab, a elwid yn Arglwydd Dunster (Maxwell 1909, i: 118–28; Evans 1995: 81, 92, 95–6; Thomas 1994: 24, 29–30; cf. GLGC 112.42; GHS 6.3–4n; ymhellach, gw. ll. 48n ⁠Gwlad yr Haf⁠). Hyd nes y daw mwy o wybodaeth i’r amlwg, ni ellir ond awgrymu bod y ddau frawd wedi eu symud yng Ngorffennaf 1457 o gastell y Dre-wen i ryw leoliad arall. Tybed a fyddai Rhisiart Trefor mewn gwirionedd wedi caniatáu llofruddio Ithel a Rhys mewn gwaed oer, a hwythau’n wyrion i’w gyfyrder?

(Seiliwyd yr achres hon ar WG1Marchudd’ 11, 12, 13, ‘Tudur Trefor’ 13, 14; WG2Bleddyn ap Cynfyn’ 11C, ‘Marchudd’ 13A, ‘Tudur Trefor’ 13C1. Nodir mewn print trwm y rheini a enwir yn y drafodaeth uchod.)

Dyddiad
Yn fuan wedi Gorffennaf 1457, gw. y drafodaeth uchod.

Golygiad blaenorol
ap Huw 2001: cerdd XXI; ceir cyfieithiad ansicr o destun C 3.37 gan ‘Mr. Ifano Jones, the Welsh Librarian, Cardiff’ yn Lloyd-Mostyn and Glenn 1925: 52–4; atgynhyrchwyd testun Llst 167 yn LBS iv, 435.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 56 llinell. Cynghanedd: croes 30% (17 ll.), traws 29% (16 ll.), sain 23% (13 ll.), llusg 18% (10 ll.). Ystyrir ll. 44 yn gynghanedd sain gadwynog, ond gellid hefyd ei hystyried yn gynghanedd groes o gyfrif f- yn llafarog. Noder bod nifer y cynganeddion llusg yn uchel iawn, ac ystyried mor fyr yw’r gerdd.