Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

9. Moliant i Fwrog

golygwyd gan Eurig Salisbury

Gweddi ar Fwrog gan Ruffudd Nannau i ryddhau Ithel a Rhys, meibion Ieuan Fychan o Bengwern, o’r carchar. Dyddiad yn fuan ar ôl Gorffennaf 1457.

Mawr yw dy wrthiau’r awron,
Mwrog Sant,1 Mwrog Sant Arno, gw. LBS iii, 505–6. mae⁠1 mae Cf. Gwyn 3 mawr, sef diwygiad, yn ôl pob tebyg, dan ddylanwad yr un gair yn y ll. flaenorol. rhywiog sôn,
Bugail y côr baglog, gwyn,
Benrhaith, ail Beuno2 Beuno Ar y sant, gw. LBS i, 208–21, Sims-Williams 2018: 1–88. Rhuthun.3 Rhuthun Saif eglwys Llanfwrog ar fryn bychan ar gyrion gorllewinol Rhuthun.
5Duw a roes (pand da yr aeth?)4 Duw a roes (pand da yr aeth?) Disgwylid i’r ddwy d yn ail hanner y llinell galedu a chreu sain t (cf. ll. 3, lle caledir dwy g er mwyn ateb c), ond sylwer mai d yw’r gytsain gyferbyniol yn hanner cyntaf y llinell.
Iwch ragor, wych rywogaeth:
Gwrthiau – mawr Ei gywerthydd5 mawr Ei gywerthydd Gan fod Gruffudd Nannau’n cyfarch Mwrog yn uniongyrchol o ddechrau’r gerdd i’w diwedd, mae’n annhebygol mai at y sant y cyfeiria yma yn y trydydd person, eithr at Dduw, a enwir yn ll. 5. –⁠2 Gwrthiau – mawr Ei gywerthydd Dilynir, yn betrus, ddarlleniad Gwyn 3, sydd fel pe bai’n cyfleu’r ystyr yn fwy boddhaol na darlleniad tebygol X2 Y gwrthiau – mawr Ei g’werthydd.
Yn dy feddiant, sant, y sydd.
Pob claf a phob dyn afiach
10Heb fost a wnaethost yn iach;⁠3 Llau. 9–10. Yn Gwyn 3 yn unig y ceir y cwpled hwn. Ymhellach, gw. llau. 13–14n.
Y deilliaid ger bron⁠4 ger bron Dilynir, yn betrus, ddarlleniad Gwyn 3, gthg. X2 o fewn. Os ceid o fewn d’allor yn y gynsail, gallai’r darlleniad hwnnw fod wedi ei newid yn y traddodiad llafar sy’n sail, yn ôl pob tebyg, i destun Gwyn 3, yn sgil y ffaith fod o fewn dy yn y ll. nesaf, gan na ddisgwylid ailadrodd yr un cyfuniad o eiriau o fewn yr un cwpled. Os felly, gall fod allor y sant yn Llanfwrog yn cynnwys blychau lle gellid gwthio llaw neu fraich, neu hyd rhyw ofod y gellid cropian i mewn iddo, er mwyn gofyn am gymorth y sant. Fodd bynnag, bernir ei bod yn fwy tebygol mai ger bron a geid yn y gynsail, a bod darlleniad y ll. nesaf wedi dylanwadu ar y llinell hon yn X2. d’allor
Yn dy gylch o fewn dy gôr,
Gwnaethost iddyn’ yn unawr6 yn unawr Nid yn llythrennol ‘mewn un awr’, ond ‘ar amrantiad’, cf. GGLl 15.28 I lawr ar unawr yna ‘I lawr mewn eiliad yna’; MWPSS 24.34 Wrth unawr yr aeth yno; GG.net 17.31 yn yr unawr ‘ar yr untro’.
Gweled mil goleuad mawr;⁠5 Llau. 13–14. Yn Gwyn 3 yn unig y ceir y cwpled hwn, yn ogystal â llau. 9–10. Diau bod y cwpled hwn yn gymar synhwyrol i lau. 11–12, yn debyg i’r modd y mae llau. 15–16 ac 17–18 yn gymheiriad naturiol. Hawdd gweld sut y gallai’r cwpled fod wedi ei golli o X2 wrth i lygad y copïydd neidio o Gwnaethost ar ddechrau ll. 13 i’r un gair ar ddechrau ll. 15. Derbynnir llau. 9–10 fel rhai dilys yn sgil hynny, er nad yw’n eglur sut aeth y llau. hynny ar goll yn X2, ac eithrio oherwydd eu bod yn rhan o restr ystrydebol o wyrthiau ac felly’n haws i’w hanghofio.
15Gwnaethost dithau, gwn, wythwaith,7 wythwaith Gall fod arwyddocâd penodol i’r rhif hwn ond, yn absenoldeb unrhyw gyfeiriadau eraill at rif wyth mewn cyswllt â seintiau eraill, tebyg mai ‘llawer’ yw’r ystyr yma, gw. Henken 1991 180–1.6 Gwnaethost dithau, gwn, wythwaith Bernir bod elfen lafar yn narlleniad Gwyn 3 A gwneuthur mi a’i gwnn ŵyth-waith, lle gofera’r frawddeg o’r cwpled blaenorol, cf. darlleniadau’r llawysgrif ar gyfer llau. 26–7. Ceir llinell fach gysylltiol o dan y geiriau mi a’i (o bosibl yn llaw’r copïydd, Jaspar Gryffyth), yn ôl pob tebyg er mwyn dangos bod y ddau air yn cywasgu’n unsill, ond go brin fod hynny’n tycio mewn gwirionedd. At hynny, yr hyn sy’n esbonio orau pam fod y cwpled blaenorol wedi ei golli o X2 yw’r ffaith mai Gwnaethost a geid yn wreiddiol ar ddechrau’r llinell hon, gw. llau. 13‒14n.
I’r rhai⁠7 I’r rhai Ni cheir y fannod yn C 3.37 a Gwyn 3. Sylwer ar y defnydd o’r fannod yn ll. 11 Y deilliaid. ni cherddai8 ni cherddai Ar y treiglad, gw. TC 358. ychwaith
Redeg ar dy waredydd9 ar dy waredydd Sef ar lethrau’r bryn lle saif eglwys Llanfwrog ger Rhuthun, gw. GPC Ar Lein d.g. gwaered ‘llethr, llechwedd’; cf. ll. 23n.
Heb un ffon, Mwrog ben ffydd.

Dof i’th orsedd10 gorsedd Mae ‘trigfan’ yn bosibl, ond cf. y cyfuniad gorseddfa sant ‘cysegrfan sant’, gw. GPC Ar Lein d.g. gorsedd1 1 (c), gorseddfa. fucheddol,
20Dyn wyf â’i neges da⁠8 da Nis ceir yn Gwyn 3, lle difethir y gynghanedd. ’n ôl;11 Dyn wyf â’i neges da ’n ôl Mae ‘dyn a chanddo neges dda heb ei chyflawni’ yn bosibl, ond tebyg bod ‘dyn â’i neges dda yn ei ganlyn’ yn fwy priodol, gw. GPC Ar Lein d.g. ôl1 a’r cyfuniad yn ôl (i), (xi).
Clyw o Wynedd⁠12 Gwynedd Roedd Dyffryn Clwyd (gw. ll. 4n ⁠Rhuthun⁠) yng Ngwynedd Is Conwy (gw. WATU 85) ond, ac ystyried fod Gruffudd Nannau yn ŵr o Nannau ger Dolgellau, gall mai sôn y mae yma am ei daith i Lanfwrog o Wynedd Uwch Conwy. fy ngweddi,
Clwyfus ofalus wyf i.
Gŵyr fy nghalon ar fron fry13 fy nghalon ar fron fry Bernir mai at y bryn lle saif eglwys Llanfwrog ger Rhuthun y cyfeirir yma, cf. ll. 17n. Posibilrwydd arall yw mai mynwes y bardd yw’r fron fry, hynny yw ‘fy nghalon a’r fynwes uwchben [y galon]’.
Gwayw hiraeth, gwae a’i hery!14 Gwayw hiraeth, gwae a’i hery Cf. GGGr 7.8 Gwe hirerw (gwae a’i hery!); GHS 24.27 Â gwayw hir gwae a’i hery. Am ery, ffurf trydydd unigol presennol y ferf aros, gw. GPC Ar Lein d.g. arhosaf (d) ‘dioddef (yn amyneddgar), goddef’.
25Nid hiraeth, annwyd hoywryw,
Ac nid serch ar ferch yn fyw –
Hiraeth meibion maeth y medd⁠9 Hiraeth meibion maeth y medd Ni cheir y fannod yn C 3.37, lle ceir ll. chwesill, ac mae’r fannod yn absennol hefyd yn Gwyn 3, lle ceir Ond ar ddechrau’r ll. Mae’n bosibl fod y fannod yn absennol yn y gynsail ac yn X2, a bod yr anhawster ynghylch hyd y ll. wedi ei ddatrus drwy ychwanegu Ond yn nhraddodiad llafar Gwyn 3 ac ychwanegu’r fannod yn X3. Ceir y cyfuniad maeth a medd gyda’r fannod a hebddi yng ngwaith beirdd eraill, cf. GIRh 3.1 Hywel a wnaeth, mab maeth medd; GDEp 7.45 Rhoi a wnaeth, mab maeth y medd. Dilynir X3 am fod enghraifft debyg yn Gwyn 3 o ddiwygio wrth oferu’r frawddeg rhwng dau gwpled, gw. ll. 15n.
A’m gyr i farw o’m gorwedd.
Am Ithel mi a euthum,
30Meddai⁠10 Meddai Gthg. ffurf lafar yn Gwyn 3 medde. bawb, o’r modd y bûm.
Gwn i bryderi dyrys,
Gŵyr ’y mron gwewyr15 gŵyr ’y mron gwewyr Rhwystrir y treiglad gan yr orffwysfa, gw. TC 196. am Rys.16 Llau. 29–32 Ithel … / … / … / … Rhys Am y ddau frawd, gw. y nodyn cefndir. Fe’u henwir eto, yn yr un drefn, yn llau. 45–8, sy’n awgrymu, o bosibl, mai Ithel oedd yr hynaf, cf. cywyddau mawl Guto’r Glyn i feibion Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn ac i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt, a enwir yn nhrefn eu hoedran, yn ôl pob tebyg, GG.net cerddi 63 a 103.
Meibion Ifan,⁠11 Ifan Dyma’r ffurf ar geir ym mhob llawysgrif, ond defnyddir y ffurf Ieuan yn nheitl y golygiad yn unol â chywydd cymod Guto’r Glyn i Ieuan Fychan, gw. GG.net cerdd 106. Wrth drafod y defnydd o Ifan ac o Ieuan yn nhestunau cerdd Guto, nodir nad oedd yn anghyffredin i feirdd ddefnyddio dwy ffurf ar yr un enw, weithiau o fewn yr un gerdd, gw. ibid. 106.11n (testunol). Yn achos y rhan fwyaf o’r enghreifftiau yng ngherdd Guto, nid yw’r gynghanedd o gymorth wrth bennu’r ffurf, ond mae’r defnydd o Ieuan mewn un llinell o gynghanedd lusg wyrdro yn awgrymu’n gryf mai’r ffurf honno a geir yno ac, o bosibl, yng ngweddill y gerdd, gw. ibid. 106.37 Yr oedd gampau ar Ieuan. Nid yw’r gynghanedd o gymorth yn y llinell hon gan Ruffudd Nannau, nac ychwaith (yn groes i’r hyn a honnir yn GMRh 6) mewn dwy gerdd gan Faredudd ap Rhys lle cyferchir Ieuan Fychan, gw. ibid. 10.18 Wneuthur o Ifan, lân lais, 21 A phe Ifan Fychan fai, 62 Yn hoyw am Ifan huawdl, 12.9 Ifan Fychan lân, haelioni – Ifor (yr unig eithriad yw 10.55 Naw’ Duw rhag myned Ieuan, ond gall mai Ifan a geid yno hefyd, gydag -f- lafarog). mae ’m obaith,
Fychan,17 Llau. 33–4 Ifan … / Fychan Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern (fl. c.1432–m. 1476/7), gw. GG.net 106. Ar y ffurf hon ar ei enw, gw. ll. 33n (testunol). y deuan’ o’r daith.
35O chuddiwyd gwŷr, awch addwyn,
Cant o rianedd a’u cwyn.⁠12 Llau. 35‒6. Yn Gwyn 3, daw’r cwpled hwn, lle disgrifir galar cant o rianedd am y ddau frawd, ar ôl ll. 28, lle sonia’r bardd am effaith andwyol carchariad y brodyr ar ei iechyd ef ei hun. Yn y golygiad, dilynir y drefn a geid yn X2, lle dilynir ll. 28 gan dri chwpled lle pery’r bardd i ddisgrifio effaith y carchariad yn y person cyntaf, cyn troi wedyn i sôn am ymateb y merched. Bernir bod y newid hwn yn nhrefn y llinellau yn Gwyn 3 yn adlewyrchu traddodiad llafar.
Och allel⁠13 Och allel Mae darlleniad Gwyn 3 Er gallel yn difetha’r gynghanedd. o ddichellwyr
Roi llen gêl ar ieirll ein⁠14 ein Cf. Gwyn 3 iw, a’r tebyg yw bod n berfeddgoll yn hanner cyntaf y ll. yno. Dilynir X2 yn unol â’r dybiaeth fod Gwyn 3 yn deillio o draddodiad llafar lle diwygiwyd y testun yma a thraw. gwŷr!
Mwrog, gwna ynn ymwared
40Am ddau o ben creiriau Cred!
Gwyddost lle mae dau flaenor⁠15 Gwyddost lle mae dau flaenor Nid yw’n eglur beth a geid yn X3: C 4.101 lle mae/n ddav flaenawor; LlGC 3049D lle mae n dav flaenor dav. Mae’r cyntaf yn bur amheus o ran ystyr, a gall mai ymgais i wella’r darlleniad hwnnw a geir yn yr ail. Ond nid yw’n amhosibl fod Huw Machno wedi camrannu maenddav, ac mai maen’ (maent) a fwriedid yno, sy’n llawer mwy ystyrlon. Fodd bynnag, mae’r ffaith mai darlleniad y golygiad a geir yn C 3.37 a Gwyn 3 yn awgrymu’n gryf fod yr un darlleniad yn X2 ac yn y gynsail, ac mai ymgais i ddiwygio’r darlleniad hwnnw a geid yn X3, a hynny er mwyn cryfhau’r gynghanedd lusg wyrdro drwy ateb yr odl -aen yn llawn. Odl gyflawn a ddisgwylid, yn sicr (cf. GG.net 23.39 O rhoed Siarlmaen yn flaenawr), ond nodir dwy enghraifft o odli’n anghyflawn mewn cynghanedd lusg wyrdro ac mewn cynghanedd lusg arferol yn CD 177 troednodyn 1. Ceir y gyntaf yn y testun cynharaf o gywydd gan Ieuan Brydydd Hir yn llawysgrif Pen 53 (c.1484), rac cleddeu y … deheubarth⁠ (RWM i 408; dilynwyd darlleniad diweddarach yng ngolygiad GIBH 4.45 Rhag cleddau’r Deau diwarth), a daw’r ail o’r testun cynharaf o gywydd a dadogwyd ar Ddafydd ap Gwilym yn C 4.330 (c.1574), Euraid ffriw, at Fair wiwgoeth (DGA 36.39; DGG2 XXVII.39). Yn wahanol i l. Gruffudd Nannau, ceir gair cyfansawdd yn safle’r brifodl yn y ddwy enghraifft hyn, sy’n cyfiawnhau peidio ag ateb y gytsain ar ddechrau’r ail air yn y cyfuniad. Fodd bynnag, fe ddilynir, yn betrus, ddarlleniad tebygol y gynsail.
Mewn castell ym machell môr.18 castell ym machell môr Am drafodaeth, gw. y nodyn cefndir a ll. 48n ⁠Gwlad yr Haf⁠. O ran ym machell môr, dilynir GPC Ar Lein d.g. bachell (b) ‘bae, cilfach fôr’, ond mae (a) ‘cilfach, congl’ ac (c) ‘magl … crafanc, gafael’ yn bosibl.
Cyfod⁠16 Cyfod Ceir diwygiad gan Huw Machno yn C 4.101 kvr ath, dan ddylanwad y llinell nesaf, mae’n debyg. dy fagl yn draglew,
Cur frig⁠17 frig Nis ceir yn Gwyn 3, lle difethir y gynghanedd. y tŵr cerrig tew;
45Dwg er fy⁠18 Dwg er fy Cf. Gwyn 3 Tyn er dy. Tebyg mai camgopïo a geir yn C 4.101 dvg. mendith19 dwg er fy mendith Hynny yw, mae Gruffudd Nannau am i Fwrog ryddhau’r brodyr yn gyfnewid am y mawl a rydd iddo yn y gerdd hon, er y gallai’r [f]endith gyfeirio at weithred Mwrog yn eu rhyddhau. Ithael
O’r⁠19 O’r Gthg. X3 oi. tyrau hwnt, ŵr tra hael;
Unwaith, gwna help i’n ynys20 ynys Ac ystyried bod Gruffudd Nannau yn sôn am Wynedd (llau. 21n, 53n), bernir mai ‘tir, bro, ardal’ yw’r ystyr sy’n gweddu orau yma, ond mae ‘ynys’ yn bosibl hefyd, naill ai fel cyfeiriad at Fôn (ll. 54n) neu at Brydain, gw. GPC Ar Lein d.g. ynys.20 Unwaith, gwna help i’n ynys Bernir bod ôl ailwampio deallus ar y ll. hon yn Gwyn 3 par vn-waith help i’r Ynys, cf. ll. 50n.
O Wlad yr Haf⁠21 Gwlad yr Haf A dilyn rhediad llau. 41–8, rhesymol yw tybio bod y castell ym machell môr (ll. 42n) rywle yng Ngwlad yr Haf ond, fel y trafodir yn y nodyn cefndir, ni cheir lleoliad addas yn yr ardal honno. Nodir yn GILlF 4.16n mai prin yw’r cyfeiriadau at Wlad yr Haf yng ngwaith y beirdd ‘ac eithrio mewn cyd-destun brudiol’, gan gyfeirio at ddwy enghraifft yng ngwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn. Er mor astrus yw delweddaeth y canu brud yn gyffredinol, gellir bod yn bur hyderus mai at dras Harri Tudur y cyfeirir yn y ddwy enghraifft, sef y ffaith fod ei fam, Margaret Beaufort, yn ferch i John Beaufort, dug Somerset, gw. GDLl 16.15–16 Taer yw draig, tarw a dragwn, / Gwlad yr Haf gwylied ar hwn, 18.39–40 Rhos cochion a goronir / O Wlad yr Haf, baladr hir. Ceir cyfeiriadau eraill posibl at yr un cyswllt teuluol mewn cerddi mawl gan Ddafydd Epynt a Lewys Morgannwg, gw. GDEp 12.19n; GLMorg 3.48n. A chymryd bod a wnelo hanes carcharu Ithel a Rhys o leiaf rywbeth â Rhyfeloedd y Rhosynnau (gw. y nodyn cefndir), tybed ai fel un o gadarnleoedd y Lancastriaid yn unig y cyfeirir at Wlad yr Haf yma? Os felly, mae’r cwestiwn ynghylch lleoliad y castell ym machell môr yn benagored.21 O Wlad yr Haf Gthg. Gwyn 3 i wlad yr haf. Awgrymodd Williams (2001: 567 n413) mai’r hyn a fwriedid yn Gwyn 3 oedd I’w wlad, yr haf, ‘i.e. a wish that Rhys should return to his land by summer’, darlleniad a fyddai’n dileu’r anhawster ynghylch lleoli’r castell yng Ngwlad yr Haf, gw. ll. 48n ⁠Gwlad yr Haf⁠ (esboniadol). Fodd bynnag, nid ymddengys Gwlad yr Haf yn anaddas mewn cyswllt â’r cyfeiriad at gastell ym machell môr (gw. ll. 42n (esboniadol)), er gwaethaf y ffaith na ellir lleoli’r castell hwnnw yno. Ac ystyried cyflwr digon ffwrdd-â-hi’r testun yn Gwyn 3, bernir mai llurguniad yw i wlad yr haf⁠, efallai o dan ddylanwad i yn y ll. flaenorol, cf. ll. 47n. weled Rhys.22 O Wlad yr Haf weled Rhys Byddai weled Rys yn gweddu’n well o ran y gynghanedd, ond ni threiglid ‘gwrthrych’ berfenw, gw. TC 231–2. Tebyg bod y calediad arferol (d > t o flaen rh) yn cael ei anwybyddu yma, cf. ll. 5n.
Minnau a wnaf, myn y nef,23 Minnau a wnaf, myn y nef Ceir proest i’r odl yn y llinell hon, ond diau na chyfrifai Gruffudd Nannau hynny’n fai, fel nifer o feirdd eraill y 15g., gw. CD 255–7.
50Yn ddidro⁠22 ddidro Dilynir X2, lle ceid naill ai’r bai camosodiad neu (yn fwy tebygol) n berfeddgoll. Bernir mai diwygiad deallus yn deillio o’r anhawster hwnnw a geir yn narlleniad cynganeddol gywir Gwyn 3 ddinidir, sef di-nidr ‘rhwydd, rhydd, heb ddim yn ei rwystro’, gw. GPC Ar Lein d.g. dinidr. pan ddôn’ adref
Rhoi eu dau lun24 eu dau lun Gall fod Gruffudd Nannau’n ymrwymo i gyflwyno Ithel a Rhys ger bron Mwrog yn y cnawd ond, ac ystyried y geiriad yma, mae’n fwy tebygol ei fod am gyflwyno rhodd o gŵyr i’r sant ar ffurf y ddau frawd, cf. MWPSS 23.69 I’m llaw’n cau iawn mae llun cwyr (Lewys Morgannwg i Fair o Ben-rhys, lle cyflwynir i’r santes ddelw ohoni mewn cwyr, fe ymddengys); GTP 34.15‒16 Llun march i Illtud Farchog / O gŵyr a rown, myn y grog. gar dy law,25 gar dy law Tebyg bod delw neu ddelwedd o’r sant yn eglwys Llanfwrog, cf. GLGC 129.63 myn delw Fwrog – wyn.23 Rhoi eu dau lun gar dy law Diau bod y gynghanedd yn y ll. hon yn wallus yn y gynsail, fel y dengys Gwyn 3 Roddi dau lun ar dy law a darlleniad tebygol X2 Rhoddi’u dau lun gar dy law. Mae diwygiad Huw Machno yn C 4.101 rhoi i dav lvn ar dy law yn taro deuddeg, a bernir mai’r darlleniad hwnnw a gafwyd yn wreiddiol gan y bardd, cf. ll. 54n Ac ym Môn, ti a gai mwy. Fodd bynnag, cedwir gar o X2 am ei bod yn fwy tebygol y collid g- o’r gynsail na’i hychwanegu.
Ac aur er ei gywiraw.26 aur er ei gywiraw Ymddengys fod y rhagenw’n cyfeirio’n amhenodol at ddychweliad Ithel a Rhys, sef yr hyn a ddisgrifir yn llau. 49–51. Hynny yw, bydd Gruffudd Nannau’n cyflwyno aur yn rhodd i Fwrog er mwyn cwblhau’r fargen. Ar y cysyniad o wneud dêl gyda sant, gw. Duffy 1992: 184–6.
Cai fendithion Uwch Conwy,27 Uwch Conwy Sef Gwynedd i’r gorllewin o afon Conwy, gw. WATU 85.
Ac ym Môn,28 Môn Roedd Ithel a Rhys yn perthyn i deulu Penmynydd ym Môn, gw. y nodyn cefndir. ti a gai mwy;⁠24 Ac ym Môn, ti a gai mwy Dilynir Gwyn 3. Pur anargyhoeddiadol yw’r gynghanedd gytsain a geid yn X2 Ac ym Môn, cai a fo mwy, sy’n cynnwys f lafarog ac sy’n ateb -c yn Ac gydag c, yn groes i’r arfer o’i hateb ag g (cf. ll. 52 Ac aur er ei gywiraw). Yn C 4.101 ceir ag ymon di a gei mwy, lle bernir bod Huw Machno wedi mynd ati i ddiwygio’r ll., ac yntau yn llygad ei le, cf. ll. 51n Rhoi eu dau lun gar dy law.
55Cai lawer o baderau,⁠25 baderau Ymddengys fod y gynsail yn wallus, lle ceid padereuau, ffurf luosog dwbl ar pader sy’n difetha’r gynghanedd, gw. GPC Ar Lein d.g. Dengys y gynghanedd lusg mai baderau, fel y sylwodd Huw Machno yn C 4.101, yw’r darlleniad cywir. At hynny, gall mai Jasper Gryffyth a danlinellodd rai llythrennau yn y gair hwn yn ei destun yn Gwyn 3 badreuau, yn ôl pob tebyg er mwyn nodi anghywirdeb y gynghanedd.
Cai glod am ddyfod â’r ddau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mawr yw dy wyrthiau yn awr,
Mwrog Sant, mae sôn gwych [amdanynt],
bugail baglog, sanctaidd y gangell,
arglwydd, ail Feuno i Ruthun.
5Rhoddodd Duw ragoriaeth i chi, llinach urddasol
(onid aeth hynny yn dda?):
gwyrthiau – mawr yw Ei werth –
sydd yn dy feddiant, sant.
Pob claf a phob dyn gwael ei iechyd
10yn ddiymffrost a wnaethost yn iach;
y deilliaid ger bron dy allor
o’th amgylch yn dy gangell,
ar amrantiad fe beraist iddynt
weld mil o oleuadau mawr;
15ti hefyd, fe wn, wyth o weithiau, a barodd
i’r rhai na allent gerdded ychwaith
redeg ar dy lethrau
heb ffon, Mwrog bennaeth ffydd.

Dof at dy gysegrfa rinweddol,
20dyn wyf â’i neges dda yn ei ganlyn;
clyw o Wynedd fy ngweddi,
rwy’n glwyfus bryderus.
Fe ŵyr fy nghalon ar lechwedd fry
boen hiraeth, gwae’r sawl sy’n ei ddioddef!
25Nid hiraeth, teimlad cryf,
ac nid serch at ferch sy’n fyw –
hiraeth am feibion maeth y medd
sy’n fy ngyrru i farwolaeth o’m gorwedd.
O achos Ithel, meddai pawb,
30fe adewais fy nghyflwr blaenorol.
Fe wn i am bryder dwys,
fe ŵyr fy nghalon boen o achos Rhys.
Mae gobaith gennyf y bydd meibion Ieuan Fychan
yn dychwelyd o’r daith.
35Os cuddiwyd gwŷr, awch teilwng,
bydd cant o rianedd yn galaru ar eu hôl.
Och bod cynllwynwyr wedi llwyddo
i roi gorchudd dros ieirll ein gwŷr!
Mwrog, dyro gymorth i ni
40yn achos dau o brif drysorau’r byd Cristnogol!
Fe wyddost ym mhle mae dau arweinydd
mewn castell mewn cilfach fôr.
Cwyd dy fagl yn ddewr iawn,
cura ben y tŵr cerrig trwchus;
45yn gyfnewid am fy mendith dwg Ithel
o’r tyrau acw, ŵr hael iawn;
yn yr un modd, cynorthwya [bobl] ein tir
i weld Rhys [yn dychwelyd] o Wlad yr Haf.
Pan ddônt adref, yn enw’r nef,
50fe rof innau ar f’union
eu dau ffigur ger dy law,
ac aur yn gyfnewid am ei gyflawni.
Fe gei fendithion yn Uwch Conwy,
ac ym Môn, fe gei di fwy;
55fe gei lawer o weddïau,
fe gei glod am ddod â’r ddau.

1 Mwrog Sant Arno, gw. LBS iii, 505–6.

2 Beuno Ar y sant, gw. LBS i, 208–21, Sims-Williams 2018: 1–88.

3 Rhuthun Saif eglwys Llanfwrog ar fryn bychan ar gyrion gorllewinol Rhuthun.

4 Duw a roes (pand da yr aeth?) Disgwylid i’r ddwy d yn ail hanner y llinell galedu a chreu sain t (cf. ll. 3, lle caledir dwy g er mwyn ateb c), ond sylwer mai d yw’r gytsain gyferbyniol yn hanner cyntaf y llinell.

5 mawr Ei gywerthydd Gan fod Gruffudd Nannau’n cyfarch Mwrog yn uniongyrchol o ddechrau’r gerdd i’w diwedd, mae’n annhebygol mai at y sant y cyfeiria yma yn y trydydd person, eithr at Dduw, a enwir yn ll. 5.

6 yn unawr Nid yn llythrennol ‘mewn un awr’, ond ‘ar amrantiad’, cf. GGLl 15.28 I lawr ar unawr yna ‘I lawr mewn eiliad yna’; MWPSS 24.34 Wrth unawr yr aeth yno; GG.net 17.31 yn yr unawr ‘ar yr untro’.

7 wythwaith Gall fod arwyddocâd penodol i’r rhif hwn ond, yn absenoldeb unrhyw gyfeiriadau eraill at rif wyth mewn cyswllt â seintiau eraill, tebyg mai ‘llawer’ yw’r ystyr yma, gw. Henken 1991 180–1.

8 ni cherddai Ar y treiglad, gw. TC 358.

9 ar dy waredydd Sef ar lethrau’r bryn lle saif eglwys Llanfwrog ger Rhuthun, gw. GPC Ar Lein d.g. gwaered ‘llethr, llechwedd’; cf. ll. 23n.

10 gorsedd Mae ‘trigfan’ yn bosibl, ond cf. y cyfuniad gorseddfa sant ‘cysegrfan sant’, gw. GPC Ar Lein d.g. gorsedd1 1 (c), gorseddfa.

11 Dyn wyf â’i neges da ’n ôl Mae ‘dyn a chanddo neges dda heb ei chyflawni’ yn bosibl, ond tebyg bod ‘dyn â’i neges dda yn ei ganlyn’ yn fwy priodol, gw. GPC Ar Lein d.g. ôl1 a’r cyfuniad yn ôl (i), (xi).

12 Gwynedd Roedd Dyffryn Clwyd (gw. ll. 4n ⁠Rhuthun⁠) yng Ngwynedd Is Conwy (gw. WATU 85) ond, ac ystyried fod Gruffudd Nannau yn ŵr o Nannau ger Dolgellau, gall mai sôn y mae yma am ei daith i Lanfwrog o Wynedd Uwch Conwy.

13 fy nghalon ar fron fry Bernir mai at y bryn lle saif eglwys Llanfwrog ger Rhuthun y cyfeirir yma, cf. ll. 17n. Posibilrwydd arall yw mai mynwes y bardd yw’r fron fry, hynny yw ‘fy nghalon a’r fynwes uwchben [y galon]’.

14 Gwayw hiraeth, gwae a’i hery Cf. GGGr 7.8 Gwe hirerw (gwae a’i hery!); GHS 24.27 Â gwayw hir gwae a’i hery. Am ery, ffurf trydydd unigol presennol y ferf aros, gw. GPC Ar Lein d.g. arhosaf (d) ‘dioddef (yn amyneddgar), goddef’.

15 gŵyr ’y mron gwewyr Rhwystrir y treiglad gan yr orffwysfa, gw. TC 196.

16 Llau. 29–32 Ithel … / … / … / … Rhys Am y ddau frawd, gw. y nodyn cefndir. Fe’u henwir eto, yn yr un drefn, yn llau. 45–8, sy’n awgrymu, o bosibl, mai Ithel oedd yr hynaf, cf. cywyddau mawl Guto’r Glyn i feibion Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn ac i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt, a enwir yn nhrefn eu hoedran, yn ôl pob tebyg, GG.net cerddi 63 a 103.

17 Llau. 33–4 Ifan … / Fychan Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern (fl. c.1432–m. 1476/7), gw. GG.net 106. Ar y ffurf hon ar ei enw, gw. ll. 33n (testunol).

18 castell ym machell môr Am drafodaeth, gw. y nodyn cefndir a ll. 48n ⁠Gwlad yr Haf⁠. O ran ym machell môr, dilynir GPC Ar Lein d.g. bachell (b) ‘bae, cilfach fôr’, ond mae (a) ‘cilfach, congl’ ac (c) ‘magl … crafanc, gafael’ yn bosibl.

19 dwg er fy mendith Hynny yw, mae Gruffudd Nannau am i Fwrog ryddhau’r brodyr yn gyfnewid am y mawl a rydd iddo yn y gerdd hon, er y gallai’r [f]endith gyfeirio at weithred Mwrog yn eu rhyddhau.

20 ynys Ac ystyried bod Gruffudd Nannau yn sôn am Wynedd (llau. 21n, 53n), bernir mai ‘tir, bro, ardal’ yw’r ystyr sy’n gweddu orau yma, ond mae ‘ynys’ yn bosibl hefyd, naill ai fel cyfeiriad at Fôn (ll. 54n) neu at Brydain, gw. GPC Ar Lein d.g. ynys.

21 Gwlad yr Haf A dilyn rhediad llau. 41–8, rhesymol yw tybio bod y castell ym machell môr (ll. 42n) rywle yng Ngwlad yr Haf ond, fel y trafodir yn y nodyn cefndir, ni cheir lleoliad addas yn yr ardal honno. Nodir yn GILlF 4.16n mai prin yw’r cyfeiriadau at Wlad yr Haf yng ngwaith y beirdd ‘ac eithrio mewn cyd-destun brudiol’, gan gyfeirio at ddwy enghraifft yng ngwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn. Er mor astrus yw delweddaeth y canu brud yn gyffredinol, gellir bod yn bur hyderus mai at dras Harri Tudur y cyfeirir yn y ddwy enghraifft, sef y ffaith fod ei fam, Margaret Beaufort, yn ferch i John Beaufort, dug Somerset, gw. GDLl 16.15–16 Taer yw draig, tarw a dragwn, / Gwlad yr Haf gwylied ar hwn, 18.39–40 Rhos cochion a goronir / O Wlad yr Haf, baladr hir. Ceir cyfeiriadau eraill posibl at yr un cyswllt teuluol mewn cerddi mawl gan Ddafydd Epynt a Lewys Morgannwg, gw. GDEp 12.19n; GLMorg 3.48n. A chymryd bod a wnelo hanes carcharu Ithel a Rhys o leiaf rywbeth â Rhyfeloedd y Rhosynnau (gw. y nodyn cefndir), tybed ai fel un o gadarnleoedd y Lancastriaid yn unig y cyfeirir at Wlad yr Haf yma? Os felly, mae’r cwestiwn ynghylch lleoliad y castell ym machell môr yn benagored.

22 O Wlad yr Haf weled Rhys Byddai weled Rys yn gweddu’n well o ran y gynghanedd, ond ni threiglid ‘gwrthrych’ berfenw, gw. TC 231–2. Tebyg bod y calediad arferol (d > t o flaen rh) yn cael ei anwybyddu yma, cf. ll. 5n.

23 Minnau a wnaf, myn y nef Ceir proest i’r odl yn y llinell hon, ond diau na chyfrifai Gruffudd Nannau hynny’n fai, fel nifer o feirdd eraill y 15g., gw. CD 255–7.

24 eu dau lun Gall fod Gruffudd Nannau’n ymrwymo i gyflwyno Ithel a Rhys ger bron Mwrog yn y cnawd ond, ac ystyried y geiriad yma, mae’n fwy tebygol ei fod am gyflwyno rhodd o gŵyr i’r sant ar ffurf y ddau frawd, cf. MWPSS 23.69 I’m llaw’n cau iawn mae llun cwyr (Lewys Morgannwg i Fair o Ben-rhys, lle cyflwynir i’r santes ddelw ohoni mewn cwyr, fe ymddengys); GTP 34.15‒16 Llun march i Illtud Farchog / O gŵyr a rown, myn y grog.

25 gar dy law Tebyg bod delw neu ddelwedd o’r sant yn eglwys Llanfwrog, cf. GLGC 129.63 myn delw Fwrog – wyn.

26 aur er ei gywiraw Ymddengys fod y rhagenw’n cyfeirio’n amhenodol at ddychweliad Ithel a Rhys, sef yr hyn a ddisgrifir yn llau. 49–51. Hynny yw, bydd Gruffudd Nannau’n cyflwyno aur yn rhodd i Fwrog er mwyn cwblhau’r fargen. Ar y cysyniad o wneud dêl gyda sant, gw. Duffy 1992: 184–6.

27 Uwch Conwy Sef Gwynedd i’r gorllewin o afon Conwy, gw. WATU 85.

28 Môn Roedd Ithel a Rhys yn perthyn i deulu Penmynydd ym Môn, gw. y nodyn cefndir.

1 mae Cf. Gwyn 3 mawr, sef diwygiad, yn ôl pob tebyg, dan ddylanwad yr un gair yn y ll. flaenorol.

2 Gwrthiau – mawr Ei gywerthydd Dilynir, yn betrus, ddarlleniad Gwyn 3, sydd fel pe bai’n cyfleu’r ystyr yn fwy boddhaol na darlleniad tebygol X2 Y gwrthiau – mawr Ei g’werthydd.

3 Llau. 9–10. Yn Gwyn 3 yn unig y ceir y cwpled hwn. Ymhellach, gw. llau. 13–14n.

4 ger bron Dilynir, yn betrus, ddarlleniad Gwyn 3, gthg. X2 o fewn. Os ceid o fewn d’allor yn y gynsail, gallai’r darlleniad hwnnw fod wedi ei newid yn y traddodiad llafar sy’n sail, yn ôl pob tebyg, i destun Gwyn 3, yn sgil y ffaith fod o fewn dy yn y ll. nesaf, gan na ddisgwylid ailadrodd yr un cyfuniad o eiriau o fewn yr un cwpled. Os felly, gall fod allor y sant yn Llanfwrog yn cynnwys blychau lle gellid gwthio llaw neu fraich, neu hyd rhyw ofod y gellid cropian i mewn iddo, er mwyn gofyn am gymorth y sant. Fodd bynnag, bernir ei bod yn fwy tebygol mai ger bron a geid yn y gynsail, a bod darlleniad y ll. nesaf wedi dylanwadu ar y llinell hon yn X2.

5 Llau. 13–14. Yn Gwyn 3 yn unig y ceir y cwpled hwn, yn ogystal â llau. 9–10. Diau bod y cwpled hwn yn gymar synhwyrol i lau. 11–12, yn debyg i’r modd y mae llau. 15–16 ac 17–18 yn gymheiriad naturiol. Hawdd gweld sut y gallai’r cwpled fod wedi ei golli o X2 wrth i lygad y copïydd neidio o Gwnaethost ar ddechrau ll. 13 i’r un gair ar ddechrau ll. 15. Derbynnir llau. 9–10 fel rhai dilys yn sgil hynny, er nad yw’n eglur sut aeth y llau. hynny ar goll yn X2, ac eithrio oherwydd eu bod yn rhan o restr ystrydebol o wyrthiau ac felly’n haws i’w hanghofio.

6 Gwnaethost dithau, gwn, wythwaith Bernir bod elfen lafar yn narlleniad Gwyn 3 A gwneuthur mi a’i gwnn ŵyth-waith, lle gofera’r frawddeg o’r cwpled blaenorol, cf. darlleniadau’r llawysgrif ar gyfer llau. 26–7. Ceir llinell fach gysylltiol o dan y geiriau mi a’i (o bosibl yn llaw’r copïydd, Jaspar Gryffyth), yn ôl pob tebyg er mwyn dangos bod y ddau air yn cywasgu’n unsill, ond go brin fod hynny’n tycio mewn gwirionedd. At hynny, yr hyn sy’n esbonio orau pam fod y cwpled blaenorol wedi ei golli o X2 yw’r ffaith mai Gwnaethost a geid yn wreiddiol ar ddechrau’r llinell hon, gw. llau. 13‒14n.

7 I’r rhai Ni cheir y fannod yn C 3.37 a Gwyn 3. Sylwer ar y defnydd o’r fannod yn ll. 11 Y deilliaid.

8 da Nis ceir yn Gwyn 3, lle difethir y gynghanedd.

9 Hiraeth meibion maeth y medd Ni cheir y fannod yn C 3.37, lle ceir ll. chwesill, ac mae’r fannod yn absennol hefyd yn Gwyn 3, lle ceir Ond ar ddechrau’r ll. Mae’n bosibl fod y fannod yn absennol yn y gynsail ac yn X2, a bod yr anhawster ynghylch hyd y ll. wedi ei ddatrus drwy ychwanegu Ond yn nhraddodiad llafar Gwyn 3 ac ychwanegu’r fannod yn X3. Ceir y cyfuniad maeth a medd gyda’r fannod a hebddi yng ngwaith beirdd eraill, cf. GIRh 3.1 Hywel a wnaeth, mab maeth medd; GDEp 7.45 Rhoi a wnaeth, mab maeth y medd. Dilynir X3 am fod enghraifft debyg yn Gwyn 3 o ddiwygio wrth oferu’r frawddeg rhwng dau gwpled, gw. ll. 15n.

10 Meddai Gthg. ffurf lafar yn Gwyn 3 medde.

11 Ifan Dyma’r ffurf ar geir ym mhob llawysgrif, ond defnyddir y ffurf Ieuan yn nheitl y golygiad yn unol â chywydd cymod Guto’r Glyn i Ieuan Fychan, gw. GG.net cerdd 106. Wrth drafod y defnydd o Ifan ac o Ieuan yn nhestunau cerdd Guto, nodir nad oedd yn anghyffredin i feirdd ddefnyddio dwy ffurf ar yr un enw, weithiau o fewn yr un gerdd, gw. ibid. 106.11n (testunol). Yn achos y rhan fwyaf o’r enghreifftiau yng ngherdd Guto, nid yw’r gynghanedd o gymorth wrth bennu’r ffurf, ond mae’r defnydd o Ieuan mewn un llinell o gynghanedd lusg wyrdro yn awgrymu’n gryf mai’r ffurf honno a geir yno ac, o bosibl, yng ngweddill y gerdd, gw. ibid. 106.37 Yr oedd gampau ar Ieuan. Nid yw’r gynghanedd o gymorth yn y llinell hon gan Ruffudd Nannau, nac ychwaith (yn groes i’r hyn a honnir yn GMRh 6) mewn dwy gerdd gan Faredudd ap Rhys lle cyferchir Ieuan Fychan, gw. ibid. 10.18 Wneuthur o Ifan, lân lais, 21 A phe Ifan Fychan fai, 62 Yn hoyw am Ifan huawdl, 12.9 Ifan Fychan lân, haelioni – Ifor (yr unig eithriad yw 10.55 Naw’ Duw rhag myned Ieuan, ond gall mai Ifan a geid yno hefyd, gydag -f- lafarog).

12 Llau. 35‒6. Yn Gwyn 3, daw’r cwpled hwn, lle disgrifir galar cant o rianedd am y ddau frawd, ar ôl ll. 28, lle sonia’r bardd am effaith andwyol carchariad y brodyr ar ei iechyd ef ei hun. Yn y golygiad, dilynir y drefn a geid yn X2, lle dilynir ll. 28 gan dri chwpled lle pery’r bardd i ddisgrifio effaith y carchariad yn y person cyntaf, cyn troi wedyn i sôn am ymateb y merched. Bernir bod y newid hwn yn nhrefn y llinellau yn Gwyn 3 yn adlewyrchu traddodiad llafar.

13 Och allel Mae darlleniad Gwyn 3 Er gallel yn difetha’r gynghanedd.

14 ein Cf. Gwyn 3 iw, a’r tebyg yw bod n berfeddgoll yn hanner cyntaf y ll. yno. Dilynir X2 yn unol â’r dybiaeth fod Gwyn 3 yn deillio o draddodiad llafar lle diwygiwyd y testun yma a thraw.

15 Gwyddost lle mae dau flaenor Nid yw’n eglur beth a geid yn X3: C 4.101 lle mae/n ddav flaenawor; LlGC 3049D lle mae n dav flaenor dav. Mae’r cyntaf yn bur amheus o ran ystyr, a gall mai ymgais i wella’r darlleniad hwnnw a geir yn yr ail. Ond nid yw’n amhosibl fod Huw Machno wedi camrannu maenddav, ac mai maen’ (maent) a fwriedid yno, sy’n llawer mwy ystyrlon. Fodd bynnag, mae’r ffaith mai darlleniad y golygiad a geir yn C 3.37 a Gwyn 3 yn awgrymu’n gryf fod yr un darlleniad yn X2 ac yn y gynsail, ac mai ymgais i ddiwygio’r darlleniad hwnnw a geid yn X3, a hynny er mwyn cryfhau’r gynghanedd lusg wyrdro drwy ateb yr odl -aen yn llawn. Odl gyflawn a ddisgwylid, yn sicr (cf. GG.net 23.39 O rhoed Siarlmaen yn flaenawr), ond nodir dwy enghraifft o odli’n anghyflawn mewn cynghanedd lusg wyrdro ac mewn cynghanedd lusg arferol yn CD 177 troednodyn 1. Ceir y gyntaf yn y testun cynharaf o gywydd gan Ieuan Brydydd Hir yn llawysgrif Pen 53 (c.1484), rac cleddeu y … deheubarth⁠ (RWM i 408; dilynwyd darlleniad diweddarach yng ngolygiad GIBH 4.45 Rhag cleddau’r Deau diwarth), a daw’r ail o’r testun cynharaf o gywydd a dadogwyd ar Ddafydd ap Gwilym yn C 4.330 (c.1574), Euraid ffriw, at Fair wiwgoeth (DGA 36.39; DGG2 XXVII.39). Yn wahanol i l. Gruffudd Nannau, ceir gair cyfansawdd yn safle’r brifodl yn y ddwy enghraifft hyn, sy’n cyfiawnhau peidio ag ateb y gytsain ar ddechrau’r ail air yn y cyfuniad. Fodd bynnag, fe ddilynir, yn betrus, ddarlleniad tebygol y gynsail.

16 Cyfod Ceir diwygiad gan Huw Machno yn C 4.101 kvr ath, dan ddylanwad y llinell nesaf, mae’n debyg.

17 frig Nis ceir yn Gwyn 3, lle difethir y gynghanedd.

18 Dwg er fy Cf. Gwyn 3 Tyn er dy. Tebyg mai camgopïo a geir yn C 4.101 dvg.

19 O’r Gthg. X3 oi.

20 Unwaith, gwna help i’n ynys Bernir bod ôl ailwampio deallus ar y ll. hon yn Gwyn 3 par vn-waith help i’r Ynys, cf. ll. 50n.

21 O Wlad yr Haf Gthg. Gwyn 3 i wlad yr haf. Awgrymodd Williams (2001: 567 n413) mai’r hyn a fwriedid yn Gwyn 3 oedd I’w wlad, yr haf, ‘i.e. a wish that Rhys should return to his land by summer’, darlleniad a fyddai’n dileu’r anhawster ynghylch lleoli’r castell yng Ngwlad yr Haf, gw. ll. 48n ⁠Gwlad yr Haf⁠ (esboniadol). Fodd bynnag, nid ymddengys Gwlad yr Haf yn anaddas mewn cyswllt â’r cyfeiriad at gastell ym machell môr (gw. ll. 42n (esboniadol)), er gwaethaf y ffaith na ellir lleoli’r castell hwnnw yno. Ac ystyried cyflwr digon ffwrdd-â-hi’r testun yn Gwyn 3, bernir mai llurguniad yw i wlad yr haf⁠, efallai o dan ddylanwad i yn y ll. flaenorol, cf. ll. 47n.

22 ddidro Dilynir X2, lle ceid naill ai’r bai camosodiad neu (yn fwy tebygol) n berfeddgoll. Bernir mai diwygiad deallus yn deillio o’r anhawster hwnnw a geir yn narlleniad cynganeddol gywir Gwyn 3 ddinidir, sef di-nidr ‘rhwydd, rhydd, heb ddim yn ei rwystro’, gw. GPC Ar Lein d.g. dinidr.

23 Rhoi eu dau lun gar dy law Diau bod y gynghanedd yn y ll. hon yn wallus yn y gynsail, fel y dengys Gwyn 3 Roddi dau lun ar dy law a darlleniad tebygol X2 Rhoddi’u dau lun gar dy law. Mae diwygiad Huw Machno yn C 4.101 rhoi i dav lvn ar dy law yn taro deuddeg, a bernir mai’r darlleniad hwnnw a gafwyd yn wreiddiol gan y bardd, cf. ll. 54n Ac ym Môn, ti a gai mwy. Fodd bynnag, cedwir gar o X2 am ei bod yn fwy tebygol y collid g- o’r gynsail na’i hychwanegu.

24 Ac ym Môn, ti a gai mwy Dilynir Gwyn 3. Pur anargyhoeddiadol yw’r gynghanedd gytsain a geid yn X2 Ac ym Môn, cai a fo mwy, sy’n cynnwys f lafarog ac sy’n ateb -c yn Ac gydag c, yn groes i’r arfer o’i hateb ag g (cf. ll. 52 Ac aur er ei gywiraw). Yn C 4.101 ceir ag ymon di a gei mwy, lle bernir bod Huw Machno wedi mynd ati i ddiwygio’r ll., ac yntau yn llygad ei le, cf. ll. 51n Rhoi eu dau lun gar dy law.

25 baderau Ymddengys fod y gynsail yn wallus, lle ceid padereuau, ffurf luosog dwbl ar pader sy’n difetha’r gynghanedd, gw. GPC Ar Lein d.g. Dengys y gynghanedd lusg mai baderau, fel y sylwodd Huw Machno yn C 4.101, yw’r darlleniad cywir. At hynny, gall mai Jasper Gryffyth a danlinellodd rai llythrennau yn y gair hwn yn ei destun yn Gwyn 3 badreuau, yn ôl pob tebyg er mwyn nodi anghywirdeb y gynghanedd.