Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

19. Moliant i Ddewi

golygwyd gan Eurig Salisbury

Cywydd moliant i Ddewi gan Risiart ap Rhys a chais i Syr Rhys ap Tomas ddial marwolaeth Gwilym. Dyddiad yn fuan wedi 17 Mehefin 1497.

Swrn o dir a siwrnai dyn,
Sain Dafydd,1 ⁠Dafydd Ffurf ar enw’r sant a ddefnyddir ar y cyd â’r ffurf Dewi yn y fuchedd Gymraeg, gw. WLSD; cf. GIRh 8.97. y sy’n⁠1 ⁠y sy’n Diwygir darlleniad y llawysgrif a sy’n. Ceid ansicrwydd weithiau ynghylch union natur y llafariad yn y sillaf cyn y brif acen, gydag y am a yn digwydd yn aml, ond a am y yn anfynych. d’ofyn.2 Llau. 1–2 Cwpled digyswllt, braidd, nad yw’n gwneud rhyw lawer o synnwyr yma ac eithrio yng ngoleuni diweddglo’r gerdd. Gofynna’r bardd am help Dewi ar ran Deheubarth ac er mwyn hwyluso taith Syr Rhys ap Tomas i ddial marwolaeth Gwilym, gw. llau. 57–60n.
Tri deg oedd dy antur di
Gan y dynion gyn3 ⁠gyn Ffurf amrywiol ar cyn, gw. GPC Ar Lein d.g. cyn1. d’eni:4 Llau. 3–4. Yn ôl y bucheddau, rhybuddiwyd Padrig gan angel i beidio ag ymsefydlu yn y lle y byddai Tyddewi’n sefyll yn nes ymlaen, gan fod y lle hwnnw wedi ei neilltuo ar gyfer mab a fyddai’n cael ei eni ymhen deng mlynedd ar hugain, gw. StDW 110–13; WLSD 1–2 a’r nodyn ar dudalen 25. Deil y fuchedd a ysgrifennodd Rhigyfarch fod tad Dewi, Sant, yntau wedi ei rybuddio am ddyfodiad ei fab, gw. StDW 108–9. Cymerir mai rhieni Dewi, a enwir yn y cwpled nesaf, yw’r dynion yma. Chwithig braidd yw mynegiant y cwpled hwn, gydag antur yn air annisgwyl yn y cyd-destun. Dilynir GPC Ar Lein d.g. antur (a) ‘gorchest’, ond gellid hefyd gynnig aralleiriad gwahanol: ‘Tri deg [o flynyddoedd] oedd yr amcangyfrif amdanat / gan y dynion’.
5Dy dad, Sant⁠,5 ⁠Sant Tad Dewi,. gariad gwirion,
Da fo ym nerth dy fam, Non.6 ⁠Non Mam Dewi. 7 Llau. 5–6. Gellid atalnodi’r wahanol yma, a chymryd da fo ym nerth yn sangiad: Dy dad, Sant, gariad gwirion, / Da fo ym nerth, dy fam, Non.
Dŵr ffons a gaed ar8 ⁠ar Gw. GPC Ar Lein d.g. ar1 6 ‘drwy (gyfrwng) … o ganlyniad i’. y ffydd,
Dwyn golwg i’r dyn gweilydd.9 Llau. 7–8. Yn ôl y bucheddau, ymddangosodd ffynnon wyrthiol o’r ddaear pan fedyddiwyd Dewi, a fu’n fodd i adfer golwg y sawl a ddaliai Dewi wrth iddo gael ei fedyddio, gw. StDW 116–17; WLSD 3. Ef yw’r dyn gweilydd yma, sef sant o Wyddel, Mobí, yn ôl Rhygyfarch, a anwyd heb drwyn na llygaid ac a ddisgrifir fel wynepglawr yng ngherddi Gwynfardd Brycheiniog ac Iolo Goch i Ddewi, gw. WLSD 33–4; GLlF 26.158–61 ac ibid. n.; DewiIG llau. 37‒40. Fodd bynnag, nid yw union ystyr gweilydd yn eglur, gw. GPC Ar Lein d.g. ‘gwag, disylwedd … diofal, dihidio, dibryder … rhydd, parod’; cf. dwy engraifft gan Risiart ap Rhys a Hywel Dafi lle’i defnyddir fel enw, GRhB 21.37–8 Hen fu Ifor, a hŷn fu Ofydd, / a Mathusalem, moethus weilydd; GHDafi 3.6n Nid un gwlm a dynn gweilydd. Gall mai ‘diffygiol’ yw’r ystyr sy’n gweddu orau yma.
Ceirw a’r adar, o’u cerrynt,
10Di-led,10 ⁠di-led Nodir y gair yn GPC Ar Lein d.g. di-led, a chyfeirio at lled1 fel yr ail elfen, eithr tywyll yw’r ystyr. A dilyn y ffaith fod sôn am gaethiwo’r ceirw a’r adar yn y cwpled hwn, gall mai’r ystyr yw na allai’r anifeiliaid ledu ar draws y wlad, hynny yw ‘caeth, cyfyngedig’. Posibilrwydd arall yw mai ansoddair yw lled yma, gw. ibid. d.g. lled3 ‘hanner, (yn) hanerog, (yn) rhannol’. Hynny yw, roedd y ceirw a’r adar yn ‘ddi-nam’. gwâr, y’u delid gynt.11 Llau. 9–10. Mae amddiffyn cnydau rhag adar a rheoli ceirw gwyllt yn hanesion lled gyffredin ym mucheddau’r saint (gw. Henken 1991 158), ond nis ceir yn achos bucheddau Dewi eithr yng ngherddi’r beirdd yn unig. Cyfeirir at yr adar yn DewiGB llau. 168–75 (Gwynfardd Brycheiniog) a MWPSS 13.15‒16 (Lewys Glyn Cothi), ac at yr adar a’r ceirw yn DewiIG llau. 83‒8 (Iolo Goch) a DewiLGC1 llau. 15‒20 (Lewys Glyn Cothi).
Mab marw a’i fam ’n ei arwain
A wnaed yn fyw i’n dyn fain.12 ⁠i’n dyn fain Awgrym y cwpled ar ei hyd yw bod Duw wedi atgyfodi mab y weddw (gw. ll. 11–12n) ar ran Dewi, ac mai at Ddewi y cyfeirir yma fel ‘ein dyn main’. Fodd bynnag, mae’n amlwg mai enw benywaidd yw dyn yma, sy’n awgrymu mai cyfeiriad ydyw at y weddw, ‘ein merch fain’. At hynny, cyferchir Dewi yn yr ail berson drwy gydol y gerdd. 13 Llau. 11–12. Yn ôl y bucheddau, atgyfododd Dewi fab i weddw pan oedd ar ei ffordd i’r senedd yn Llanddewibrefi, gw. StDW 144–5; WLSD 9–10.
Pulput14 ⁠pulput Ffurf ar pulpud, gw. GPC Ar Lein d.g. lle na symutir⁠2 ⁠Pulput … symutir Dilynir, yn betrus, ddarlleniad y llawysgrif. Nodir pulput fel ffurf ar pulpud yn GPC Ar Lein d.g. O ran symutir, ym môn berf ddibynnol yn unig y ceid tuedd i galedu’r gytsain (gw. GMW 128), ond gall mai ffurf dafodieithol yw symutir yma, cf. gwetws am ‘dywedodd’ (at hynny, nodir y ffurf amrywiol ymsuto yn GPC Ar Lein d.g. symudaf). Nid ymddengys fod enghreifftiau o roi t am d yn orgraff y llawysgrif.
O rad Duw yt ar y tir.15 Llau. 13–14. Yn Henken 1991 113, 194, cysylltir y cwpled hwn â’r cwpled nesaf, gan eu dehongli fel ateg i gyfeiriad yng ngherdd Gwynfardd Brycheiniog i Ddewi at allor a anfonwyd ato o’r nefoedd na allai neb edrych arni, gw. GLlF 26.180–3 ac ibid. n.; cf. DewiIG ll. 83. Fodd bynnag, y gair allweddol yma yw pulput, sy’n awgrymu’n gryf mai at yr hanes am y tir yn codi o dan draed Dewi y cyfeirir, pan oedd yn pregethu yn y senedd yn Llanddewibrefi, gw. StDW 144–7; WLSD 10–11.
15Ni alloedd16 ⁠alloedd Ar y terfyniad -oedd yn lle -odd yn ffurfiau gorffennol y ferf, yn arbennig mewn testunau a gysylltir â Morgannwg, gw. GLMorg 10.42n; cf. SeintiauRhRh ll. 17. un oll âi i’i ddwyn⁠3 ⁠âi i’i ddwyn Addesir darlleniad y llawysgrif, ae ddwyn, a chymryd mai’r [g]wenwyn yn y ll. nesaf yw gwrthrych y ferf.
Fry â chan fwrw ywch wenwyn.17 Llau. 15–16. Cyfeiriad at hanes o’r bucheddau sy’n adrodd sut y ceisiodd tri o fynachod Dewi ei ladd gyda bara gwenwynig. Rhwystrwyd y cynllwyn gan un o ddisgyblion Dewi a deithiodd i Gymru o Iwerddon ar gefn anghenfil o’r môr er mwyn ei rybuddio, gw. StDW 132–5; WLSD 6–8.
Gwisg wen pawb o’th garennydd,18 ⁠Gwisg wen pawb o’th garennydd Sonnir am seintiau eraill y tybid bod Dewi’n perthyn iddynt, fel Afan, Teilo, Dogfael a Thysul, gw. Bonedd y Saint.
Gŵr sy’n rhoi’r Grawys yn rhydd;19 ⁠Gŵr sy’n rhoi’r Grawys yn rhydd Gan y beirdd yn unig y ceir sôn am yr hanes sy’n gefndir i’r ll. hon, sef mai Dewi a sicrhaodd gan Dduw ganiatâd i fwyta’r gwyniad yn ystod ympryd y Grawys, gw. DewiIG llau. 69‒72; MWPSS 18.49‒50.
I’th dir ni ddaeth ederyn20 ⁠ederyn Ar y ffurf, gw. GPC Ar Lein d.g. adar.
20A wna twyll i enaid dyn.21 Llau. 19–20. Hanesyn nas ceir yn y bucheddau nac yn y cerddi eraill i Ddewi, os hanesyn hefyd, oherwydd gall mai cyfeirio’n gyffredinol a wneir at sancteiddrwydd y golomen a fu’n addysgu Dewi ac (yn ôl Rhigyfarch) a laniodd ar ei ysgwydd wrth iddo bregethu yn y senedd, gw. StDW 116–17, 144–5; WLSD 3. Cf. hefyd draddodiadau diweddarach am Ddewi’n erlid aderyn am i’w gân amharu ar ei fyfyrdod, gw. Henken 1991 156.
Dyw22 ⁠dyw Ar y ffurf, gw. GPC Ar Lein d.g. dyw1. Mawrth a fydd da i mi
Y troes Duw yt ras, Dewi.23 Llau. 21–2. Yn ôl y bucheddau, bu farw Dewi ar ddydd Mawrth, gw. StDW 148–51; WLSD 13–14. Bwriad y bardd yw ymweld â Thyddewi ar ddydd Mawrth, neu hyd yn oed ar 1 Mawrth, neu ynteu y dymuna ddilyn Dewi i’r nefoedd ar ddydd Mawrth tebyg.
Dof innau hyd dy faenol,24 ⁠Dof innau hyd dy faenol Anwybyddir y calediad rhwng hyd dy, cf. ll. 26n; gthg. ll. 20. Ymhellach, gw. y nodyn testunol ar y ll. hon.4 ⁠dy faenol Diwygir darlleniad y llawysgrif, dyf waenol, sef ffrwyth camddarllen dyvaenol, yn ôl pob tebyg. Gellid diwygio ymhellach i y faenol, er mwyn osgoi anwybyddu’r calediad rhwng hyd dy, ond cf. anwybyddu calediad rhwng dwg hyd yn ll. 26.
Oddyno i⁠5 ⁠i Nis ceir yn y llawysgrif, ond yn sicr fe’i disgwylid yn amser Rhisiart ap Rhys.Dduw yn d’ôl.

25 Dy gob sy dros d’esgobaeth;
Dwg hyd nef (dy gadw a wnaeth)25 ⁠Dwg hyd nef – dy gadw a wnaeth Anwybyddir y calediad rhwng dwg hyd, cf. ll. 23n.
Dy gennad,26 ⁠dy gennad Gelwir Gwilym yn negesydd i Ddewi, yn syml, efallai, am fod Gwilym (gw. ll. 35n) yn Gymro, ac felly’n dilyn nawddsant Cymru, ond hefyd am ei fod yn byw yn ardal Dinefwr yn esgobaeth Tyddewi. diwag winwydd;
Dy ras yn fwy dros un27 ⁠dy ras yn fwy dros un Tebyg mai at Syr Rhys ap Tomas y cyfeirir yma (gw. ll. 57n). Hynny yw, bu Dewi’n gofalu am Wilym gynt, ond bydd ganddo fwy o ofal am Syr Rhys, ac yntau ar dir y byw o hyd. fydd.
Aeth i Harri wneuthuriad,28 ⁠Aeth i Harri wneuthuriad Tebyg mai Syr Rhys ap Tomas yw’r [g]wneuthuriad yma, gw. GPC Ar Lein d.g. gwneuthuriad2 ‘gwneuthurwr, crëwr’; ll. 57n. Dwg i gof yr enw ‘kingmaker’ a roed i Richard Neville, Iarll Warwick, yn amser Harri VI ac Edward IV, gw. OED Online d.g. Gall fod cyfeiriad yma at y rhan allweddol a chwaraeodd Syr Rhys ym muddugoliaeth Harri Tudur (1485–1509) ym mrwydr Bosworth yn 1485, yn ogystal â brwydr Blackheath.
30Aeth lu29 ⁠aeth lu O ran y treiglad annisgwyl, cf. GHDafi 11.16 Nid aeth ŵr heb dŷ ei thad, 62.16 Aeth olud Io i’th law di. yn ôl un o’th wlad.30 ⁠un o’th wlad Naill ai Gwilym, os oedd ganddo swyddogaeth arweinyddol yn y fyddin yn Blackheath; Harri VII (gw. ll. 29n), a aned yng nghastell Penfro; neu’n fwy tebygol, Syr Rhys ap Tomas (gw. llau. 29n, 57n).
Brig glyn⁠6 ⁠glyn Diwygir darlleniad y llawysgrif, clyn, a allai fod yn ffurf ddiweddar ar clun ‘gwaun’ dan ddylanwad glyn (gw. GPC Ar Lein d.g. clun2), ond mae’n fwy tebygol mai’r calediad a welir yn y darlleniad, cf. ll. 20 eneid tyn. y bu’r celanedd,
Boea lu caith,31 ⁠Boea lu caith Darlunnir y gwrthryfelwyr o Gernyw ym mrwydr Blackheath yn rhith ymladdwyr un o elynion pennaf Dewi, sef Boea, pennaeth o Wyddel a geisiodd lofruddio’r sant am iddo ymsefydlu ar ei diroedd. Wrth geisio ymosod ar Ddewi, cafodd Boea a’i ddilynwyr eu taro gan y cryd, gw. StDW 120–5 (lle ceir y ffurf Baia); WLSD 4–6. Y tebyg yw fod Boea yn cynrychioli un o arweinwyr y gwrthryfelwyr, fel Michael An Gof neu Farwn Audley, gw. ll. 38n.7 ⁠caith Dilynir diwygiad Richard Turbeville, caeith. y Blac Hedd.32 ⁠y Blac Hedd ⁠Blackheath⁠, ardal o rostir agored ar gyrion dwyreiniol Llundain, cf. GLGC 223.41 ⁠y Blac Hedd⁠; GLM VIII.8 ⁠y Blac Hieth⁠; GLMorg 34.74 Ym Mlac-heth⁠; TA IV.5 ⁠Blac Hêth⁠, VII.56 ⁠Y Blac Hêth⁠; GSDT 5.58 ⁠y Blac-heth⁠.
Dewi, dy ras, peth di-dro,
Dros un mewn derw sy yno,
35Mur Gwilym,33 ⁠Gwilym Ansicr, ond gall mai Gwilym ap Tomas o Dre-gib ydyw, gw. y nodyn cefndir. irwayw golas,
Merthyr sant34 ⁠merthyr sant Ymddengys fel cyfuniad, ond nis ceir yn GPC Ar Lein ac ni cheir enghraifft o martyr-saint cyn 1718 yn yr OED Online d.g. martyr. Tebyg mai ansoddair yw sant ‘sanctaidd’ (gw. GPC Ar Lein d.g.), ond nid yw’n amhosibl mai cyfarchiad ydyw i Ddewi, cf. y ll. flaenorol, lle’i gelwir mur Gwilym ‘amddiffynnwr Gwilym’. Gwilym yw’r merthyr yma (yn ei henaint y bu farw Dewi). am orthoi’r⁠8 ⁠orthoi’r Ni lwyddwyd i ddod o hyd i unrhyw ystyr yn narlleniad y llawysgrif, orthy’r. Gall mai camddarlleniad ydyw am orthir, sef gorthir ‘ucheldir … goror, cyffiniau, ardal, brodir, gwlad’, gw. GPC Ar Lein d.g. Ond bernir bod gwell ystyr o ddarllen orthoi’r, sef gorthoi ‘gorchuddio’, gyda’r ystyr bod corff Gwilym wedi ‘gorchuddio [maes] y frwydr’, gw. ibid. d.g. gorthoaf. sias.
Ennill y maes yn llew main
Ar lindys35 ⁠lindys Yn ôl GPC Ar Lein d.g. llinys, ffurf amrywiol ar y gair hwnnw a geir yma, sef llindys ‘llinach, gwehelyth; hiliogaeth; hil’, a’r ystyr honno a roir i lindys (ffurf gysefin) mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi lle molir Afan, gw. GLGC 139.12. Fe weddai’r un ystyr yma, ond ceir yr un trawiad cynganeddol mewn cywydd gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn i felltithio Richard III am ladd ei ddau nai ifanc, gw. GDLl 25.43–4 Cael ymdroi mewn cwlwm drain / Bu’r lindys byr o Lundain⁠. Mae’r cyd-destun yn awgrymu’n gryf mai ‘caterpillar’ a olygir fel disgrifiad difrïol o Richard, er na cheir yr enghraifft honno yn GPC Ar Lein d.g. lindys1 (perthyn yr enghraifft gynharaf yno i 1567), cf. Williams 1986: 28; Evans 1997: 267. Ceir lindys yn fersiwn Pen 27 (ail hanner y 15g.) o ‘Proffwydoliaeth yr Eryr’, ond ceir Linx yn lle’r gair hwnnw yn nhestun cynnar Llyfr Coch Hergest o’r un broffwydoliaeth (ceir achos tebyg yn fersiwn Llst 119 o gerdd broffwydol a geir yn y Llyfr Coch), sef ffrwyth camddarllen yn ôl EVW 146 (cf. y ffurf amrywiol lingus, gw. GPC Ar Lein d.g. lincs). Gwyddai Dafydd Llwyd yn iawn am ‘Proffwydoliaeth yr Eryr’ (GDLl 18.13–16), ac nid yw’n annhebygol iddo godi’r gair o fersiwn diweddar ohoni a chymryd mai ‘caterpillar’ oedd ei ystyr. Hawdd credu hefyd mai o gerdd Dafydd Llwyd y cododd Rhisiart ap Rhys y trawiad cynganeddol rhwng lindys a ⁠Lundain⁠, ond mai at un arall o elynion Harri VII y cyfeiriai ef. Roedd gan y gwrthryfelwyr yn Blackheath dri arweinydd, sef Michael An Gof (neu Michael Joseph), Thomas Flamank a James Tuchet, Barwn Audley. Yr uchaf ei dras oedd Audley, a’r tebyg yw mai ato ef y cyfeirir yma. Ymddengys i Syr Rhys ap Tomas (gw. ll. 57n) chwarae rhan allweddol yn y gwaith o’i ddal ar faes y gad (Griffiths 2014: 48), ac fe’i dienyddiwyd maes o law drwy dorri ei ben. daear Lundain.
Rhôi ynys Harri unwaith,
40A marw a wnâi ’mron ei waith.
Bedydd cyn bedyddio’i caf,36 ⁠Bedydd cyn bedyddio’i caf Ll. ryfedd, braidd, a ddehonglir yma fel dihareb o fath, gyda’r ystyr bod Gwilym wedi marw cyn ei bryd, cf. ll. 40. Posibilrwydd arall yw bod yma gyfeiriad, a dilyn ail linell y cwpled (gw. ll. 42n meibion Briaf), at feibion Priaf fel paganiaid rhinweddol, hynny yw, arwyr a anwyd cyn dyfodiad Crist ac na chawsant erioed eu bedyddio, ond a oedd, serch hynny, yn ddigon teilwng i fod yn y nefoedd, cf. y Nawyr Teilwng, GG.net 75.2n (esboniadol). Ac eto, nid yw hynny’n fodd i egluro ystyr y cwpled fel y mae, a gall mai darlleniad llwgr ydyw.
Ben brau fel meibion Briaf.37 ⁠meibion Briaf Roedd gan Briaf, brenin Troea yn chwedlau Groeg, nifer o feibion, a’r enwocaf o’u plith oedd yr ymladdwr hynod, Hector.
Beth gorau’i alw,⁠9 ⁠gorau’i alw Addesir darlleniad y llawysgrif, gorav alw, er mwyn yr ystyr. bath greulawn,38 ⁠Beth gorau’i alw, bath greulawn Ll. bendrom, gan na ddylai’r orffwysfa syrthio ymhellach na’r drydedd sillaf mewn cynghanedd gytseiniol anghytbwys ddisgynedig, gw. CD 272.
Gorau lad,39 ⁠gorau lad Dilynir GPC Ar Lein d.g. llad1 ‘anrheg; gras, budd, lles’, ond nid yw’n amhosibl fod lad yn ffurf gysefin ac yn fenthyciad o’r Saesneg ‘lad’, sef ‘llanc’, eithr ni cheir lad yn ibid. ar gweryl iawn.40 Llau. 43–4. Cwpled niwlog iawn. Gall fod cwestiwn yma, Beth gorau’i alw ‘Beth orau i’w alw?’, gyda bath greulawn yn un ateb posibl, eithr bod yr ateb cywir yn ail l. y cwpled, sef gorau lad. Fodd bynnag, fe ddisgwylid treiglad ar ôl beth, cf. ASCent 2.78 Beth orau byth a erys; GHDafi 77.1 Beth orau ’n y Deau dir. Bernir, yn betrus, mai peth ‘person, creadur (yn aml yn ddifr., ond hefyd i gyfleu anwyldeb)’ a geir yma (GPC Ar Lein d.g. peth 1 (b)), gyda [c]weryl iawn yn ddisgrifiad o’r frwydr. Yr awgrym yw bod Gwilym wedi marw dros achos cyfiawn.
45Ni rôi Gaer-ludd⁠41 ⁠Caer-ludd Llundain, gw. CLlLl 10, 15; CLlLl2 1. anhuddad,42 ⁠anhuddad Ffurf dafodieithol, mae’n debyg, ar anhudded, gw. GPC Ar Lein d.g.
Gronwy lwyth,43 ⁠Gronwy lwyth Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd grymusaf ardal Dinefwr, yn cynnwys teulu Syr Rhys ap Tomas (gw. ll. 57n), yn disgyn o Ronwy ab Einion, gw. y nodyn cefndir. Prin, fodd bynnag, yw cyfeiriadau’r beirdd ato, gw. Griffiths 2014: 8. er grwn o’i wlad.44 Llau. 45–6. Yr ergyd yw na wnâi bedd yn Llundain y tro i Gymro pybyr fel Gwilym.

Dinefwr⁠45 ⁠Dinefwr Castell sylweddol ar grib uwchben afon Tywi ger Llandeilo, a phrif lys tywysogion Deheubarth. Gall fod yn arwyddocaol fod capel wedi ei gysegru i Ddewi yn y castell, gw. Griffiths 1994: 259. waed i nef fry,
Dewi, enaid, a dynny.
Tyn hen genfigen (gwan fydd)
50A thylodion46 ⁠tylodion Ffurf luosog tylawd, sef ffurf ar tlawd gyda’r llafariad lusg, gw. GPC Ar Lein d.g.; cf. GG.net 8.77. o’th wledydd;
Ias chwerw, fel rhisg y dderwen,47 ⁠Ias chwerw, fel rhisg y dderwen Ai at feddyginiaeth annymunol, rhyw fath o buredigaeth, y cyfeirir yma yn ymwneud â rhisgl pren derw? Cysylltid y rhisgl hwnnw’n gyffredinol â’r proses o greu lledr mewn tanerdy (gw. Linnard 1982: 39, 87–94), ond nid ymddengys fod hynny’n berthnasol yn y cyswllt hwn. Cf. yr hanes ym Muchedd Gwenfrewy am grydd a felltithiwyd pan geisiodd risglo derwen gerllaw ffynnon y santes.
A iachâ⁠10 ⁠iachâ Bernir mai’r ferf a geir yn narlleniad y llawysgrif, iach a, yn unol â’r defnydd o ferfau eraill yn llau. 49, 53, 55 a 56, yn hytrach nag iach â. bawb uwch ei ben;48 ⁠uwch ei ben Tebyg bod y rhagenw’n cyfeirio at yr ias chwerw yn y llinell flaenorol.
Dwg yn un â thi’th hunan⁠11 ⁠â thi’th hunan Diwygir darlleniad y llawysgrif, ath ehvnan, er mwyn y gystrawen.
Dalaith fraisg, dolwyth49 ⁠tolwyth Ffurf amrywiol ar tylwyth, gw. GPC Ar Lein d.g. y frân;50 ⁠Dalaith fraisg, dolwyth y frân Cwmwd Maenordeilo yw’r dalaith, efallai, neu’r Cantref Mawr, neu hyd yn oed hen deyrnas Deheubarth. Yn wir, roedd dylanwad Syr Rhys ap Tomas (gw. ll. 57n) a’i deulu’n ymestyn ar hyd y de-orllewin, a’r frân (neu dair brân) oedd symbol enwog y teulu, oherwydd y gred fod y teulu’n disgyn o Urien Rheged, gw. DWH i: 98–100, 117–18, 244; DWH ii: 498–9; Griffiths 2014: 8–9. Sylwer mai’r frân, o bosibl, oedd symbol ewythr Gwilym ap Tomas (gw. ll. 35n), Rhys ap Gwilym, gw. DWH ii: 197.
55Dod aliwns ar dud elawr,
Dod er mwyn rhadau dewr mawr.
Od â Syr Rys,51 ⁠Syr Rys Syr Rhys ap Tomas, un o gefnogwyr pennaf Harri VII yng Nghymru a chwaraeodd ran allweddol ym muddugoliaeth y goron ym mrwydr Blackheath yn 1497. Arno, gw. Griffiths 2014; DNB Online s.n. Sir Rhys ap Thomas. Ar y ffurf dreigledig Syr Rys, cf. y nodyn ar y bardd, Syr Rhys, yn GG.net. dwyswr52 ⁠twyswr Yr enghraifft gynharaf o ffurf amrywiol ar tywyswr (perthyn yr enghraifft gynharaf yn GPC Ar Lein d.g. i 1631). iaith,
Law greulon, i Loegr eilwaith,
Dug neu iarll, pen digon ym,
60Daw lawlaw, dial Wilym!53 ⁠Gwilym Gw. 35n. 54 Llau. 57–60. Y brif frawddeg yw Od â Syr Rys … / … i Loegr eilwaith, / … / … dial Wilym. Fel yng ngweddill y gerdd, Dewi ei hun a gyferchir yma, y tro hwn er mwyn erfyn arno i gynorthwyo’r dial. Nid yw’r isgymal Dug neu iarll … / Daw lawlaw lawn mor eglur. Gall mai rhag-weld brwydro lawlaw â phwysigion a wneir, neu ynteu frwydro ysgwydd wrth ysgwydd â hwy, fel y gwnaeth Syr Rhys ym mrwydr Blackheath gydag ieirll a barwniaid blaenllaw Lloegr.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llawer o dir a siwrnai dyn
sy’n ymbil arnat, Sant Dafydd.
Tri deg [o flynyddoedd] oedd [cyfnod creu] dy orchest di
cyn dy eni i’r bobl:
5dy dad, Sant, anwylyd di-fai,
boed nerth dy fam, Non, yn lles i mi.
Dŵr ffynnon a gafwyd drwy gyfrwng ffydd,
adfer golwg y dyn diffygiol.
Y ceirw a’r adar caeth, dof,
10o’u cwrs y cawsant eu dal gynt.
Mab marw a’i fam yn ei gario
a atgyfodwyd er mwyn ein merch fain.
Pulpud i ti drwy ras Duw
ar y tir mewn man na ellir ei symud.
15Ni fedrodd neb a aeth ati i’w gludo i gyd
eich gwenwyno fry â bara gwyn.
Gwisg wen [sydd gan] bob un o’th berthnasau,
gŵr sy’n peri i’r Grawys fod yn rhydd;
ni ddaeth aderyn i’th dir
20a dwylla enaid dyn.
Y dydd Mawrth pan roddodd Duw ras i ti, Dewi
a fydd yn lles i mi.
Fe ddof innau hyd at dy faenol,
oddi yno i dŷ Dduw ar dy ôl.

25Dy fantell eglwysig sydd dros dy esgobaeth;
cluda i’r nefoedd (dy gadw a wnaeth)
dy negesydd, tylwyth bonheddig toreithiog;
bydd dy ras yn fwy dros un gŵr.
Aeth i Harri wneuthurwr,
30aeth byddin ar ôl gŵr o’th wlad.
Ar ben ystrad Blackheath
y bu’r celanedd, byddin o rai gwasaidd Boea.
Dewi, boed dy ras, peth diwyro,
dros un sydd mewn cist dderw yno,
35amddiffynnwr Gwilym, [un a chanddo] waywffon fywiog, lwydlas,
merthyr sanctaidd am orchuddio [maes] y frwydr.
Ennill y maes yn llew main
dros lindys daear Llundain.
Sicrhaodd deyrnas Harri yn yr un modd,
40a bu farw o fewn ychydig i [gyflawni] ei waith.
Bedydd cyn bedyddio yw hyn i mi,
arweinydd hael fel meibion Priaf.
Yr un gorau ei alwad, tebygrwydd creulon,
yr anrheg orau, mewn achos cyfiawn.
45Ni fedrai Llundain gynnig gorchudd [iddo]
yn lle bedd yn ei wlad [ei hun], llwyth Gronwy.

Rwyt yn tynnu gwaed Dinefwr, Dewi,
anwylyd, i’r nefoedd fry.
Tyn ymaith hen genfigen (bydd yn wan)
50a thlodion o’th wledydd;
bydd poen chwerw, fel rhisgl y dderwen,
yn iacháu pob un uwch ei ben;
gwna’n un â thi dy hunan
y dalaith rymus, tylwyth y frân;
55rho estroniaid ar glawr elor,
gwna hynny er mwyn bendithion gŵr dewr mawr.
Os â Syr Rhys, arweinydd gwlad,
law greulon, eilwaith i Loegr,
dug neu iarll, boddhad i mi,
60fe â i ymladd [ag ef], boed iti ddial Gwilym!

1 ⁠Dafydd Ffurf ar enw’r sant a ddefnyddir ar y cyd â’r ffurf Dewi yn y fuchedd Gymraeg, gw. WLSD; cf. GIRh 8.97.

2 Llau. 1–2 Cwpled digyswllt, braidd, nad yw’n gwneud rhyw lawer o synnwyr yma ac eithrio yng ngoleuni diweddglo’r gerdd. Gofynna’r bardd am help Dewi ar ran Deheubarth ac er mwyn hwyluso taith Syr Rhys ap Tomas i ddial marwolaeth Gwilym, gw. llau. 57–60n.

3 ⁠gyn Ffurf amrywiol ar cyn, gw. GPC Ar Lein d.g. cyn1.

4 Llau. 3–4. Yn ôl y bucheddau, rhybuddiwyd Padrig gan angel i beidio ag ymsefydlu yn y lle y byddai Tyddewi’n sefyll yn nes ymlaen, gan fod y lle hwnnw wedi ei neilltuo ar gyfer mab a fyddai’n cael ei eni ymhen deng mlynedd ar hugain, gw. StDW 110–13; WLSD 1–2 a’r nodyn ar dudalen 25. Deil y fuchedd a ysgrifennodd Rhigyfarch fod tad Dewi, Sant, yntau wedi ei rybuddio am ddyfodiad ei fab, gw. StDW 108–9. Cymerir mai rhieni Dewi, a enwir yn y cwpled nesaf, yw’r dynion yma. Chwithig braidd yw mynegiant y cwpled hwn, gydag antur yn air annisgwyl yn y cyd-destun. Dilynir GPC Ar Lein d.g. antur (a) ‘gorchest’, ond gellid hefyd gynnig aralleiriad gwahanol: ‘Tri deg [o flynyddoedd] oedd yr amcangyfrif amdanat / gan y dynion’.

5 ⁠Sant Tad Dewi,.

6 ⁠Non Mam Dewi.

7 Llau. 5–6. Gellid atalnodi’r wahanol yma, a chymryd da fo ym nerth yn sangiad: Dy dad, Sant, gariad gwirion, / Da fo ym nerth, dy fam, Non.

8 ⁠ar Gw. GPC Ar Lein d.g. ar1 6 ‘drwy (gyfrwng) … o ganlyniad i’.

9 Llau. 7–8. Yn ôl y bucheddau, ymddangosodd ffynnon wyrthiol o’r ddaear pan fedyddiwyd Dewi, a fu’n fodd i adfer golwg y sawl a ddaliai Dewi wrth iddo gael ei fedyddio, gw. StDW 116–17; WLSD 3. Ef yw’r dyn gweilydd yma, sef sant o Wyddel, Mobí, yn ôl Rhygyfarch, a anwyd heb drwyn na llygaid ac a ddisgrifir fel wynepglawr yng ngherddi Gwynfardd Brycheiniog ac Iolo Goch i Ddewi, gw. WLSD 33–4; GLlF 26.158–61 ac ibid. n.; DewiIG llau. 37‒40. Fodd bynnag, nid yw union ystyr gweilydd yn eglur, gw. GPC Ar Lein d.g. ‘gwag, disylwedd … diofal, dihidio, dibryder … rhydd, parod’; cf. dwy engraifft gan Risiart ap Rhys a Hywel Dafi lle’i defnyddir fel enw, GRhB 21.37–8 Hen fu Ifor, a hŷn fu Ofydd, / a Mathusalem, moethus weilydd; GHDafi 3.6n Nid un gwlm a dynn gweilydd. Gall mai ‘diffygiol’ yw’r ystyr sy’n gweddu orau yma.

10 ⁠di-led Nodir y gair yn GPC Ar Lein d.g. di-led, a chyfeirio at lled1 fel yr ail elfen, eithr tywyll yw’r ystyr. A dilyn y ffaith fod sôn am gaethiwo’r ceirw a’r adar yn y cwpled hwn, gall mai’r ystyr yw na allai’r anifeiliaid ledu ar draws y wlad, hynny yw ‘caeth, cyfyngedig’. Posibilrwydd arall yw mai ansoddair yw lled yma, gw. ibid. d.g. lled3 ‘hanner, (yn) hanerog, (yn) rhannol’. Hynny yw, roedd y ceirw a’r adar yn ‘ddi-nam’.

11 Llau. 9–10. Mae amddiffyn cnydau rhag adar a rheoli ceirw gwyllt yn hanesion lled gyffredin ym mucheddau’r saint (gw. Henken 1991 158), ond nis ceir yn achos bucheddau Dewi eithr yng ngherddi’r beirdd yn unig. Cyfeirir at yr adar yn DewiGB llau. 168–75 (Gwynfardd Brycheiniog) a MWPSS 13.15‒16 (Lewys Glyn Cothi), ac at yr adar a’r ceirw yn DewiIG llau. 83‒8 (Iolo Goch) a DewiLGC1 llau. 15‒20 (Lewys Glyn Cothi).

12 ⁠i’n dyn fain Awgrym y cwpled ar ei hyd yw bod Duw wedi atgyfodi mab y weddw (gw. ll. 11–12n) ar ran Dewi, ac mai at Ddewi y cyfeirir yma fel ‘ein dyn main’. Fodd bynnag, mae’n amlwg mai enw benywaidd yw dyn yma, sy’n awgrymu mai cyfeiriad ydyw at y weddw, ‘ein merch fain’. At hynny, cyferchir Dewi yn yr ail berson drwy gydol y gerdd.

13 Llau. 11–12. Yn ôl y bucheddau, atgyfododd Dewi fab i weddw pan oedd ar ei ffordd i’r senedd yn Llanddewibrefi, gw. StDW 144–5; WLSD 9–10.

14 ⁠pulput Ffurf ar pulpud, gw. GPC Ar Lein d.g.

15 Llau. 13–14. Yn Henken 1991 113, 194, cysylltir y cwpled hwn â’r cwpled nesaf, gan eu dehongli fel ateg i gyfeiriad yng ngherdd Gwynfardd Brycheiniog i Ddewi at allor a anfonwyd ato o’r nefoedd na allai neb edrych arni, gw. GLlF 26.180–3 ac ibid. n.; cf. DewiIG ll. 83. Fodd bynnag, y gair allweddol yma yw pulput, sy’n awgrymu’n gryf mai at yr hanes am y tir yn codi o dan draed Dewi y cyfeirir, pan oedd yn pregethu yn y senedd yn Llanddewibrefi, gw. StDW 144–7; WLSD 10–11.

16 ⁠alloedd Ar y terfyniad -oedd yn lle -odd yn ffurfiau gorffennol y ferf, yn arbennig mewn testunau a gysylltir â Morgannwg, gw. GLMorg 10.42n; cf. SeintiauRhRh ll. 17.

17 Llau. 15–16. Cyfeiriad at hanes o’r bucheddau sy’n adrodd sut y ceisiodd tri o fynachod Dewi ei ladd gyda bara gwenwynig. Rhwystrwyd y cynllwyn gan un o ddisgyblion Dewi a deithiodd i Gymru o Iwerddon ar gefn anghenfil o’r môr er mwyn ei rybuddio, gw. StDW 132–5; WLSD 6–8.

18 ⁠Gwisg wen pawb o’th garennydd Sonnir am seintiau eraill y tybid bod Dewi’n perthyn iddynt, fel Afan, Teilo, Dogfael a Thysul, gw. Bonedd y Saint.

19 ⁠Gŵr sy’n rhoi’r Grawys yn rhydd Gan y beirdd yn unig y ceir sôn am yr hanes sy’n gefndir i’r ll. hon, sef mai Dewi a sicrhaodd gan Dduw ganiatâd i fwyta’r gwyniad yn ystod ympryd y Grawys, gw. DewiIG llau. 69‒72; MWPSS 18.49‒50.

20 ⁠ederyn Ar y ffurf, gw. GPC Ar Lein d.g. adar.

21 Llau. 19–20. Hanesyn nas ceir yn y bucheddau nac yn y cerddi eraill i Ddewi, os hanesyn hefyd, oherwydd gall mai cyfeirio’n gyffredinol a wneir at sancteiddrwydd y golomen a fu’n addysgu Dewi ac (yn ôl Rhigyfarch) a laniodd ar ei ysgwydd wrth iddo bregethu yn y senedd, gw. StDW 116–17, 144–5; WLSD 3. Cf. hefyd draddodiadau diweddarach am Ddewi’n erlid aderyn am i’w gân amharu ar ei fyfyrdod, gw. Henken 1991 156.

22 ⁠dyw Ar y ffurf, gw. GPC Ar Lein d.g. dyw1.

23 Llau. 21–2. Yn ôl y bucheddau, bu farw Dewi ar ddydd Mawrth, gw. StDW 148–51; WLSD 13–14. Bwriad y bardd yw ymweld â Thyddewi ar ddydd Mawrth, neu hyd yn oed ar 1 Mawrth, neu ynteu y dymuna ddilyn Dewi i’r nefoedd ar ddydd Mawrth tebyg.

24 ⁠Dof innau hyd dy faenol Anwybyddir y calediad rhwng hyd dy, cf. ll. 26n; gthg. ll. 20. Ymhellach, gw. y nodyn testunol ar y ll. hon.

25 ⁠Dwg hyd nef – dy gadw a wnaeth Anwybyddir y calediad rhwng dwg hyd, cf. ll. 23n.

26 ⁠dy gennad Gelwir Gwilym yn negesydd i Ddewi, yn syml, efallai, am fod Gwilym (gw. ll. 35n) yn Gymro, ac felly’n dilyn nawddsant Cymru, ond hefyd am ei fod yn byw yn ardal Dinefwr yn esgobaeth Tyddewi.

27 ⁠dy ras yn fwy dros un Tebyg mai at Syr Rhys ap Tomas y cyfeirir yma (gw. ll. 57n). Hynny yw, bu Dewi’n gofalu am Wilym gynt, ond bydd ganddo fwy o ofal am Syr Rhys, ac yntau ar dir y byw o hyd.

28 ⁠Aeth i Harri wneuthuriad Tebyg mai Syr Rhys ap Tomas yw’r [g]wneuthuriad yma, gw. GPC Ar Lein d.g. gwneuthuriad2 ‘gwneuthurwr, crëwr’; ll. 57n. Dwg i gof yr enw ‘kingmaker’ a roed i Richard Neville, Iarll Warwick, yn amser Harri VI ac Edward IV, gw. OED Online d.g. Gall fod cyfeiriad yma at y rhan allweddol a chwaraeodd Syr Rhys ym muddugoliaeth Harri Tudur (1485–1509) ym mrwydr Bosworth yn 1485, yn ogystal â brwydr Blackheath.

29 ⁠aeth lu O ran y treiglad annisgwyl, cf. GHDafi 11.16 Nid aeth ŵr heb dŷ ei thad, 62.16 Aeth olud Io i’th law di.

30 ⁠un o’th wlad Naill ai Gwilym, os oedd ganddo swyddogaeth arweinyddol yn y fyddin yn Blackheath; Harri VII (gw. ll. 29n), a aned yng nghastell Penfro; neu’n fwy tebygol, Syr Rhys ap Tomas (gw. llau. 29n, 57n).

31 ⁠Boea lu caith Darlunnir y gwrthryfelwyr o Gernyw ym mrwydr Blackheath yn rhith ymladdwyr un o elynion pennaf Dewi, sef Boea, pennaeth o Wyddel a geisiodd lofruddio’r sant am iddo ymsefydlu ar ei diroedd. Wrth geisio ymosod ar Ddewi, cafodd Boea a’i ddilynwyr eu taro gan y cryd, gw. StDW 120–5 (lle ceir y ffurf Baia); WLSD 4–6. Y tebyg yw fod Boea yn cynrychioli un o arweinwyr y gwrthryfelwyr, fel Michael An Gof neu Farwn Audley, gw. ll. 38n.

32 ⁠y Blac Hedd ⁠Blackheath⁠, ardal o rostir agored ar gyrion dwyreiniol Llundain, cf. GLGC 223.41 ⁠y Blac Hedd⁠; GLM VIII.8 ⁠y Blac Hieth⁠; GLMorg 34.74 Ym Mlac-heth⁠; TA IV.5 ⁠Blac Hêth⁠, VII.56 ⁠Y Blac Hêth⁠; GSDT 5.58 ⁠y Blac-heth⁠.

33 ⁠Gwilym Ansicr, ond gall mai Gwilym ap Tomas o Dre-gib ydyw, gw. y nodyn cefndir.

34 ⁠merthyr sant Ymddengys fel cyfuniad, ond nis ceir yn GPC Ar Lein ac ni cheir enghraifft o martyr-saint cyn 1718 yn yr OED Online d.g. martyr. Tebyg mai ansoddair yw sant ‘sanctaidd’ (gw. GPC Ar Lein d.g.), ond nid yw’n amhosibl mai cyfarchiad ydyw i Ddewi, cf. y ll. flaenorol, lle’i gelwir mur Gwilym ‘amddiffynnwr Gwilym’. Gwilym yw’r merthyr yma (yn ei henaint y bu farw Dewi).

35 ⁠lindys Yn ôl GPC Ar Lein d.g. llinys, ffurf amrywiol ar y gair hwnnw a geir yma, sef llindys ‘llinach, gwehelyth; hiliogaeth; hil’, a’r ystyr honno a roir i lindys (ffurf gysefin) mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi lle molir Afan, gw. GLGC 139.12. Fe weddai’r un ystyr yma, ond ceir yr un trawiad cynganeddol mewn cywydd gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn i felltithio Richard III am ladd ei ddau nai ifanc, gw. GDLl 25.43–4 Cael ymdroi mewn cwlwm drain / Bu’r lindys byr o Lundain⁠. Mae’r cyd-destun yn awgrymu’n gryf mai ‘caterpillar’ a olygir fel disgrifiad difrïol o Richard, er na cheir yr enghraifft honno yn GPC Ar Lein d.g. lindys1 (perthyn yr enghraifft gynharaf yno i 1567), cf. Williams 1986: 28; Evans 1997: 267. Ceir lindys yn fersiwn Pen 27 (ail hanner y 15g.) o ‘Proffwydoliaeth yr Eryr’, ond ceir Linx yn lle’r gair hwnnw yn nhestun cynnar Llyfr Coch Hergest o’r un broffwydoliaeth (ceir achos tebyg yn fersiwn Llst 119 o gerdd broffwydol a geir yn y Llyfr Coch), sef ffrwyth camddarllen yn ôl EVW 146 (cf. y ffurf amrywiol lingus, gw. GPC Ar Lein d.g. lincs). Gwyddai Dafydd Llwyd yn iawn am ‘Proffwydoliaeth yr Eryr’ (GDLl 18.13–16), ac nid yw’n annhebygol iddo godi’r gair o fersiwn diweddar ohoni a chymryd mai ‘caterpillar’ oedd ei ystyr. Hawdd credu hefyd mai o gerdd Dafydd Llwyd y cododd Rhisiart ap Rhys y trawiad cynganeddol rhwng lindys a ⁠Lundain⁠, ond mai at un arall o elynion Harri VII y cyfeiriai ef. Roedd gan y gwrthryfelwyr yn Blackheath dri arweinydd, sef Michael An Gof (neu Michael Joseph), Thomas Flamank a James Tuchet, Barwn Audley. Yr uchaf ei dras oedd Audley, a’r tebyg yw mai ato ef y cyfeirir yma. Ymddengys i Syr Rhys ap Tomas (gw. ll. 57n) chwarae rhan allweddol yn y gwaith o’i ddal ar faes y gad (Griffiths 2014: 48), ac fe’i dienyddiwyd maes o law drwy dorri ei ben.

36 ⁠Bedydd cyn bedyddio’i caf Ll. ryfedd, braidd, a ddehonglir yma fel dihareb o fath, gyda’r ystyr bod Gwilym wedi marw cyn ei bryd, cf. ll. 40. Posibilrwydd arall yw bod yma gyfeiriad, a dilyn ail linell y cwpled (gw. ll. 42n meibion Briaf), at feibion Priaf fel paganiaid rhinweddol, hynny yw, arwyr a anwyd cyn dyfodiad Crist ac na chawsant erioed eu bedyddio, ond a oedd, serch hynny, yn ddigon teilwng i fod yn y nefoedd, cf. y Nawyr Teilwng, GG.net 75.2n (esboniadol). Ac eto, nid yw hynny’n fodd i egluro ystyr y cwpled fel y mae, a gall mai darlleniad llwgr ydyw.

37 ⁠meibion Briaf Roedd gan Briaf, brenin Troea yn chwedlau Groeg, nifer o feibion, a’r enwocaf o’u plith oedd yr ymladdwr hynod, Hector.

38 ⁠Beth gorau’i alw, bath greulawn Ll. bendrom, gan na ddylai’r orffwysfa syrthio ymhellach na’r drydedd sillaf mewn cynghanedd gytseiniol anghytbwys ddisgynedig, gw. CD 272.

39 ⁠gorau lad Dilynir GPC Ar Lein d.g. llad1 ‘anrheg; gras, budd, lles’, ond nid yw’n amhosibl fod lad yn ffurf gysefin ac yn fenthyciad o’r Saesneg ‘lad’, sef ‘llanc’, eithr ni cheir lad yn ibid.

40 Llau. 43–4. Cwpled niwlog iawn. Gall fod cwestiwn yma, Beth gorau’i alw ‘Beth orau i’w alw?’, gyda bath greulawn yn un ateb posibl, eithr bod yr ateb cywir yn ail l. y cwpled, sef gorau lad. Fodd bynnag, fe ddisgwylid treiglad ar ôl beth, cf. ASCent 2.78 Beth orau byth a erys; GHDafi 77.1 Beth orau ’n y Deau dir. Bernir, yn betrus, mai peth ‘person, creadur (yn aml yn ddifr., ond hefyd i gyfleu anwyldeb)’ a geir yma (GPC Ar Lein d.g. peth 1 (b)), gyda [c]weryl iawn yn ddisgrifiad o’r frwydr. Yr awgrym yw bod Gwilym wedi marw dros achos cyfiawn.

41 ⁠Caer-ludd Llundain, gw. CLlLl 10, 15; CLlLl2 1.

42 ⁠anhuddad Ffurf dafodieithol, mae’n debyg, ar anhudded, gw. GPC Ar Lein d.g.

43 ⁠Gronwy lwyth Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd grymusaf ardal Dinefwr, yn cynnwys teulu Syr Rhys ap Tomas (gw. ll. 57n), yn disgyn o Ronwy ab Einion, gw. y nodyn cefndir. Prin, fodd bynnag, yw cyfeiriadau’r beirdd ato, gw. Griffiths 2014: 8.

44 Llau. 45–6. Yr ergyd yw na wnâi bedd yn Llundain y tro i Gymro pybyr fel Gwilym.

45 ⁠Dinefwr Castell sylweddol ar grib uwchben afon Tywi ger Llandeilo, a phrif lys tywysogion Deheubarth. Gall fod yn arwyddocaol fod capel wedi ei gysegru i Ddewi yn y castell, gw. Griffiths 1994: 259.

46 ⁠tylodion Ffurf luosog tylawd, sef ffurf ar tlawd gyda’r llafariad lusg, gw. GPC Ar Lein d.g.; cf. GG.net 8.77.

47 ⁠Ias chwerw, fel rhisg y dderwen Ai at feddyginiaeth annymunol, rhyw fath o buredigaeth, y cyfeirir yma yn ymwneud â rhisgl pren derw? Cysylltid y rhisgl hwnnw’n gyffredinol â’r proses o greu lledr mewn tanerdy (gw. Linnard 1982: 39, 87–94), ond nid ymddengys fod hynny’n berthnasol yn y cyswllt hwn. Cf. yr hanes ym Muchedd Gwenfrewy am grydd a felltithiwyd pan geisiodd risglo derwen gerllaw ffynnon y santes.

48 ⁠uwch ei ben Tebyg bod y rhagenw’n cyfeirio at yr ias chwerw yn y llinell flaenorol.

49 ⁠tolwyth Ffurf amrywiol ar tylwyth, gw. GPC Ar Lein d.g.

50 ⁠Dalaith fraisg, dolwyth y frân Cwmwd Maenordeilo yw’r dalaith, efallai, neu’r Cantref Mawr, neu hyd yn oed hen deyrnas Deheubarth. Yn wir, roedd dylanwad Syr Rhys ap Tomas (gw. ll. 57n) a’i deulu’n ymestyn ar hyd y de-orllewin, a’r frân (neu dair brân) oedd symbol enwog y teulu, oherwydd y gred fod y teulu’n disgyn o Urien Rheged, gw. DWH i: 98–100, 117–18, 244; DWH ii: 498–9; Griffiths 2014: 8–9. Sylwer mai’r frân, o bosibl, oedd symbol ewythr Gwilym ap Tomas (gw. ll. 35n), Rhys ap Gwilym, gw. DWH ii: 197.

51 ⁠Syr Rys Syr Rhys ap Tomas, un o gefnogwyr pennaf Harri VII yng Nghymru a chwaraeodd ran allweddol ym muddugoliaeth y goron ym mrwydr Blackheath yn 1497. Arno, gw. Griffiths 2014; DNB Online s.n. Sir Rhys ap Thomas. Ar y ffurf dreigledig Syr Rys, cf. y nodyn ar y bardd, Syr Rhys, yn GG.net.

52 ⁠twyswr Yr enghraifft gynharaf o ffurf amrywiol ar tywyswr (perthyn yr enghraifft gynharaf yn GPC Ar Lein d.g. i 1631).

53 ⁠Gwilym Gw. 35n.

54 Llau. 57–60. Y brif frawddeg yw Od â Syr Rys … / … i Loegr eilwaith, / … / … dial Wilym. Fel yng ngweddill y gerdd, Dewi ei hun a gyferchir yma, y tro hwn er mwyn erfyn arno i gynorthwyo’r dial. Nid yw’r isgymal Dug neu iarll … / Daw lawlaw lawn mor eglur. Gall mai rhag-weld brwydro lawlaw â phwysigion a wneir, neu ynteu frwydro ysgwydd wrth ysgwydd â hwy, fel y gwnaeth Syr Rhys ym mrwydr Blackheath gydag ieirll a barwniaid blaenllaw Lloegr.

1 ⁠y sy’n Diwygir darlleniad y llawysgrif a sy’n. Ceid ansicrwydd weithiau ynghylch union natur y llafariad yn y sillaf cyn y brif acen, gydag y am a yn digwydd yn aml, ond a am y yn anfynych.

2 ⁠Pulput … symutir Dilynir, yn betrus, ddarlleniad y llawysgrif. Nodir pulput fel ffurf ar pulpud yn GPC Ar Lein d.g. O ran symutir, ym môn berf ddibynnol yn unig y ceid tuedd i galedu’r gytsain (gw. GMW 128), ond gall mai ffurf dafodieithol yw symutir yma, cf. gwetws am ‘dywedodd’ (at hynny, nodir y ffurf amrywiol ymsuto yn GPC Ar Lein d.g. symudaf). Nid ymddengys fod enghreifftiau o roi t am d yn orgraff y llawysgrif.

3 ⁠âi i’i ddwyn Addesir darlleniad y llawysgrif, ae ddwyn, a chymryd mai’r [g]wenwyn yn y ll. nesaf yw gwrthrych y ferf.

4 ⁠dy faenol Diwygir darlleniad y llawysgrif, dyf waenol, sef ffrwyth camddarllen dyvaenol, yn ôl pob tebyg. Gellid diwygio ymhellach i y faenol, er mwyn osgoi anwybyddu’r calediad rhwng hyd dy, ond cf. anwybyddu calediad rhwng dwg hyd yn ll. 26.

5 ⁠i Nis ceir yn y llawysgrif, ond yn sicr fe’i disgwylid yn amser Rhisiart ap Rhys.

6 ⁠glyn Diwygir darlleniad y llawysgrif, clyn, a allai fod yn ffurf ddiweddar ar clun ‘gwaun’ dan ddylanwad glyn (gw. GPC Ar Lein d.g. clun2), ond mae’n fwy tebygol mai’r calediad a welir yn y darlleniad, cf. ll. 20 eneid tyn.

7 ⁠caith Dilynir diwygiad Richard Turbeville, caeith.

8 ⁠orthoi’r Ni lwyddwyd i ddod o hyd i unrhyw ystyr yn narlleniad y llawysgrif, orthy’r. Gall mai camddarlleniad ydyw am orthir, sef gorthir ‘ucheldir … goror, cyffiniau, ardal, brodir, gwlad’, gw. GPC Ar Lein d.g. Ond bernir bod gwell ystyr o ddarllen orthoi’r, sef gorthoi ‘gorchuddio’, gyda’r ystyr bod corff Gwilym wedi ‘gorchuddio [maes] y frwydr’, gw. ibid. d.g. gorthoaf.

9 ⁠gorau’i alw Addesir darlleniad y llawysgrif, gorav alw, er mwyn yr ystyr.

10 ⁠iachâ Bernir mai’r ferf a geir yn narlleniad y llawysgrif, iach a, yn unol â’r defnydd o ferfau eraill yn llau. 49, 53, 55 a 56, yn hytrach nag iach â.

11 ⁠â thi’th hunan Diwygir darlleniad y llawysgrif, ath ehvnan, er mwyn y gystrawen.