Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

19. Moliant i Ddewi

golygwyd gan Eurig Salisbury

⁠Llst 164, 168‒9

Nodiadau
Casgliad pwysig o gerddi gan feirdd y de-ddwyrain. Cofnodwyd y gerdd hon gan Richard Turbeville (fl. 1606) fel rhan o gasgliad o waith Rhisiart ap Rhys (tt. 154–200), ond ni ddaethpwyd o hyd i drefn arbennig o fewn y casgliad hwnnw. Ef hefyd a gopïodd gasgliad o waith Lewys Morgannwg (tt. 111–54), mab i Risiart ap Rhys, a chywyddau gan dad y bardd, Rhys Brydydd, a’i ewythr, Gwilym Tew (tt. 200–3), efallai i gyd wedi eu copïo o destunau awtograff. Ychwanegodd Turbeville bedwar cwpled agoriadol amrywiol wrth ochr y pedwar cwpled cyntaf (a barnu wrth y gwahaniaeth yn lliw’r inc, y tebyg yw iddo wneud hynny’n ddiweddarach). Byrdwn y rhain yw rhoi cwpled newydd yn lle’r cyntaf ac mae’r pedwerydd cwpled wedi ei osod o flaen y trydydd. Wrth ymyl llinell gyntaf y testun gwreiddiol, ceir y geiriau hyn mewn llaw ddiweddarach: cymer y pedwar pennill issod yn lle’r pedwar vchod (ymhellach, gw. y nodiadau testunol). Gwnaeth Turbeville wyth cywiriad, yn ôl pob tebyg wrth iddo godi’r testun (gw. llinellau 10, 13, 26, 32, 41, 51, 54, 58). Ymddengys mai blotiau inc bychain, yn hytrach na chywiriadau, a welir mewn ambell air, fel 10 diled, 13 pulput a 26 wnaeth.


168
I Sanct Dewi
Swrn o dir a siwrnau dyn davydd hollwyr crevydd cred
Sain davydd a sy’n dovyn da n vyniw i danfoned
Trideg oedd dy antur di Trideg oedd dy antür di
gyn y dynion gynn deni gan y dynion gyn deni
5dy dad sant gariad gwirion dwr ffons a gaed ar y ffydd
da vo ’ym nerth dy vam Nonn dwyn golwg ir dyn gweilydd
dwr ffons agaed ar y ffydd dy dad sant gariad gwirion
dwyn golwg ir dyn gweilydd da vo ym nerth dy vam Nonn
Ceirw ar Adar oe cerynt
10diled gwar i delyd gynt
mab marw ae vam ni ’arwein
a wnaed yn vyw yn dyn vein
pvlput lle na symutir
o rad duw yt ar y tir
15ni alloedd vn oll ae ddwyn
vry a chann vwrw ywch wenwyn
gwisg wenn pawb oth garennydd
gwr sy’n rhoi’r grawys yn rhydd
yth dir ni ddaeth ederynn
20a wna twyll i eneid tyn
dyw mawrth a vydd da i mi
i troes Düw yt ras Dewi
dof innav hyd dyf waenol
o ddyno dy dduw yn d’ol
25dy gob sy dros d ’esgobaeth
dwg hyd nef dy gadw a wnaeth
dy gennad diwag winwydd
dy ras yn vwy dros vn vydd
aeth i harri wnaethuriad
30aeth lu yn ol vn oth wlad
brig clynn i bv’r cylannedd
Boea lu caeith y blak hedd
dewi dy ras peth di dro
dros vn mewn derw sy yno
35Mur gwilym ir waew golas
merthyr sant am orthy’r sias
enill y maes yn llew mein
ar lindys daear lvndein

169
Roe ynys Harri vnwaith
40a marw a wnai ’mronn i waith
Bedydd cynn bedyddio ’i caf
Benn brau vel maibion Briaf
Beth gorav alw bath greulawnn
gorav lad ar gweryl iawn
45ni roe gar lvdd anhvddad
Gronwy lwyth er grwnn oe wlad
Dinevwr waed y nef vry
Dewi eneid a dynny
Tynn hen genvigen gwann vydd
50a thylodion oth wledydd
iacs chwerw vel risg y dderwenn
a iach a bawb vwch i benn
dwg yn vn ath ehvnan
daleith frx⁠⁠⁠⁠ei⁠⁠sg dolwyth y fran
55dod aliwns ar dud elawr
dod er mwyn radav dewr mawr
o da syr Rys dwyswr ieith
law graelon i loegr eilwx⁠⁠eith
Dvg ne Iarll penn digon ym
60daw lawlaw dial wilym

Risiart ap Rys: 35. C: