Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

5. Awdl-gywydd i Ddewi Sant

golygwyd gan Dafydd Johnston

Rhagymadrodd

Detholiad cryno o’r traddodiadau am Ddewi Sant a geir yn y gerdd fer hon. Canolbwyntir ar Geredigion, a Llanddewibrefi yn arbennig, a dichon mai noddwr o’r ardal honno a gomisiynodd y gerdd. Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a geir yma yn deillio yn y pen draw o’r bucheddau Cymraeg neu Ladin (gweler Rhagymadrodd BDewi), ond sonnir hefyd am wyrthiau yn ymwneud â cheirw ac adar y cyfeirir atynt gan feirdd eraill ond sydd heb fod yn y bucheddau.

Dyddiad
Ni ellir dyddio’r gerdd yn fanylach na chyfnod gweithgarwch Lewys Glyn Cothi, sef c.1447 × c.1489.

Golygiad blaenorol
GLGC cerdd 8.

Mesur a chynghanedd
Awdl-gywydd, 32 llinell. Mesur cymharol anghyffredin oedd yr awdl-gywydd (gweler CD 327–8), a chan ei fod yn fesur unodl roedd cerddi arno yn tueddu i fod dipyn yn fyrrach na’r cywydd deuair hirion. Mae prifodl y gerdd hon yn thematig, gan arwain at uchafbwynt gyda’r enw yn y llinell olaf, Dewi ab Non. Cynghanedd: croes 22% (7 ll.), traws 59% (19 ll.), sain 12.5% (4 ll.), llusg 6% (2 l.).