Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

4. Mawl i Ddewi Sant

golygwyd gan Dafydd Johnston

Llawysgrifau

Dau fersiwn o’r cywydd hwn a ddiogelwyd, y naill yn Pen 53 o ddiwedd y bymthegfed ganrif, a’r llall yn BL 14967 o ail chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r saith copi diweddarach yn tarddu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o un o’r ddwy lawysgrif hyn, sef Llst 120 a Llst 54 o Pen 53, LlGC 19904B a BL 31063 o BL 14967, a LlGC 2026B, LlGC Mân Adnau 55B a BL 14970 o LlGC 19904B. Seiliwyd y testun golygedig ar Pen 53 a BL 14967. Gwnaeth Robert Vaughan nifer o welliannau synhwyrol i’w gopi ef yn LlGC 19904B, ond nid oes lle i gredu bod ganddo ffynhonnell annibynnol ar eu cyfer. Derbyniwyd y rhan fwyaf ohonynt yn y testun golygedig (gw. nodiadau testunol).

Mae’r ddau fersiwn yn bur wahanol i’w gilydd o ran nifer a threfn llinellau, ac o ran darlleniadau mewn sawl llinell. Mae un ar bymtheg o linellau yn eisiau yn Pen 53, a chwech yn BL 14967. Ceir hefyd gwpled ychwanegol yn Pen 53 a ymddengys yn ymgais i lenwi bwlch yn sgil colli diwedd y frawddeg am y pererindod (gw. n3(t)). O ran trefn llinellau anodd yw barnu pa drefn sy’n gywir mewn mannau gan fod modd trawsosod hanesion heb amharu ar rediad y gerdd (e.e. y cwpledi am yr adar a’r ceirw, llau. 85–8, a’r darn am y Grawys, llau. 69–72). Yr argraff a geir yw bod y ddau fersiwn yn ffrwyth cyfnod o drosglwyddiad llafar, a bod arddull gymhleth y gerdd wreiddiol wedi ei symleiddio rywfaint yn y proses, yn enwedig yn Pen 53. Dim ond trwy dynnu ar y ddau fersiwn yn eu tro y gellir gobeithio ail-greu testun y bardd.

Trefn y llinellau: BL 14967 1–36, [37–40], 41–8, [49–50], 51–6, 59–64, 57–8, 65–8, 73–100, 69–72, 101–10; Pen 53 1–8, [+ cwpled, gw. nodiadau testunol], [9–12], 13–22, 25–6, 23–4, 33–4, 27–32, 35–52, [53–6], 57–62, [63–4], 65–76, 79–80, 77–8, [81–2], 83–4, 87–8, 85–6, 99–100, 95–8, 89–94, 101, [102, 103], 104, [105–6], 107–10.

Teitl
Nid oes teitl i’r gerdd yn Pen 53 na BL 14967.

Rhestr o lawysgrifau
BL 14967, 202–3 (llaw anh., ar ôl 1527)
BL 14970, 58r (Edward Williams ‘Iolo Morganwg’, c.1800)
BL 31063, 110v (Owen Jones ‘Owain Myfyr’, 18g.)
LlGC 2026B, 90 (Evan Evans ‘Ieuan Fardd’, 1764)
LlGC 19904B, 49v (Robert Vaughan, canol yr 17g.)
LlGC Mân Adnau 55B, 317 (David Ellis, c.1788)
Llst 54, 190 (cynorthwyydd Moses Williams, hanner cyntaf y 18g.)
Llst 120, 181 (Jasper Gryffyth, c.1597 × 1607)
Pen 53, 91–6 (llaw anh., c.1484)