Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

43. Moliant i Ddeiniol (Syr Dafydd Trefor)

golygwyd gan Eurig Salisbury

Rhagymadrodd

Canodd Syr Dafydd Trefor y cywydd mawl hwn ar achlysur adnewyddu’r eglwys a’r esgopty ym Mangor dan nawdd yr esgob, Tomas Ysgefintẃn (Thomas Skevington). Mae ychydig llai na hanner y gerdd yn fawl i Ddeiniol, nawddsant yr eglwys, ac yn gofnod gwerthfawr o draddodiadau’n ymwneud â’r sant.

Lleolir Deiniol ym Mangor ar ddechrau’r gerdd cyn rhoi sylw byr i’w dras (llau. 1–4). Yn wahanol i nifer o gerddi eraill i saint unigol (cf. DewiRhRh llau. 1–6), ni chyfeirir at rieni Deiniol eithr at y ffaith ei fod yn un o saith cefnder a oedd oll yn saint. Ar ôl sôn am Ddeiniol yn ymwrthod â godineb fe adroddir hanes ei fywyd (llau. 5–18). Roedd yn feudwy ym Mhenfro pan ddewiswyd ef gan Dduw i fod yn esgob ym Mangor, ond nid oedd Deiniol yn medru Lladin ac roedd yn anghyfarwydd â gwaith esgob hyd oni chanodd emyn Te Deum laudamus wrth allor yr eglwys, ac yn y fan a’r lle fe ddaeth yr holl ddysg eglwysig yn hysbys iddo.

Mae rhan nesaf y gerdd yn ymwneud â’r gwyrthiau a gyflawnodd Deiniol (19–36). Dywedir eu bod yn niferus iawn, ond dwy stori’n unig a adroddir yma, sef stori’r sant yn troi lladron a geisiodd ddwyn ei ychen yn garreg (nodir hefyd iddo roi ceirw i wneud gwaith yr ychen a ddygwyd), a stori amdano’n iacháu merch a wenwynwyd gan drychfilod drwy ganiatáu iddi yfed dŵr o’i ffynnon. Daw’r rhan hon o’r gerdd i ben gydag anogaeth i gynulleidfa’r gerdd alw ar Ddeiniol i’w hamddiffyn hwythau yn yr un modd.

Mae’r adrannau hyn o’r gerdd sy’n ymdrin â Deiniol yn benodol, er mor denau yw’r wybodaeth ynddynt, yn aml yn cyd-fynd yn agos â’r unig ffynhonnell gynnar arall a geir am y sant. Ni oroesodd buchedd i Ddeiniol, dim ond cyfres o naw lectio Lladin, sef llithoedd cryno yn adrodd ei hanes, a gopïwyd o hen lawysgrif goll yn 1602 gan Thomas Wiliems yn llawysgrif Pen 225, 155–60 (ceir cyfieithiad Cymraeg yn Williams 1949: 126–35, a chyfieithiadau Saesneg yn LBS iv 390–2; Harris 1955: 9–14). Mae’r llithoedd yn ategu’r hyn a ddywed Syr Dafydd Trefor am feudwyaeth gynnar Deiniol ym Mhenfro a’i esgobaeth ym Mangor (gw. nodiadau llau. 7–8, 9–12, 15–18), ac am ei alluoedd gwyrthiol niferus a’r ddwy wyrth, gyda rhai mân wahaniaethau (gw. nodiadau llau. 21–2, 23–8, 29–34). Honnir yn WCD 191 fod yr hyn a geir yn y gerdd yn seiliedig ar y llithoedd, ond ymddengys yn fwy tebygol fod y ddwy ffynhonnell yn deillio yn y pen draw o fuchedd goll, eithr bod mwy o wybodaeth, er mor gryno ydynt, wedi ei diogelu yn y llithoedd, sy’n cynrychioli orau’r fuchedd wreiddiol (cf. Harris 1955: 14), a bod cynnwys y gerdd hefyd yn adlewyrchu traddodiadau llafar am y sant yn sir Gaernarfon.

Canolbwyntir yn ail ran y gerdd ar ganmol y gwaith adeiladu a ariannwyd gan Domas Ysgefintẃn, a benodwyd yn esgob Bangor yn 1509 (arno, gw. ODNB s.n. Thomas Skevington). Rhoir sylw brysiog i’r gwaith hwn yn llinellau 37–8 er mwyn gosod cyd-destun, fe dybir, i’r llinellau nesaf, lle disgrifir gwaith y comisiynwyd y bardd yntau i’w wneud ochr yn ochr â’r gwaith adeiladu, sef moli dynion côr Deiniel (39–44). Molir eu gallu i ganu’n bersain gyda nodau’r organ a’r clychau. Yna fe folir yr esgob ei hun, yn gyntaf mewn cyswllt â’i glerigwyr soniarus (45–8) ac yna yn sgil ei ofal am ei eglwys fawreddog (49–52). Yn ôl Syr Dafydd Trefor, talodd yr esgob yn hael am y gwaith adnewyddu (53–6), ond ni fanylir ar ddim ac eithrio’r gwaith o doi’r eglwys a’r esgopty (57–64). Wrth ddymuno hir oes i’r esgob ar ddiwedd y gerdd, ceir awgrym fod y gwaith o adeiladu’r clochdy wedi dechrau (65–70), a gobaith y bardd yw y caiff weld cwblhau’r gwaith hwnnw ym mlwyddyn canu’r gerdd, fe dybir, sef 1527, dyddiad a fydryddir (nid heb drafferth) yn y llinellau olaf (71–4).

Yn anffodus, ni chafodd yr Esgob Ysgefintẃn weld cwblhau’r gwaith. Yn yr ewyllys a luniodd ar 10 Mai 1533, lle ceir cyfarwyddiadau i’w galon gael ei chladdu yn yr eglwys ‘before the Pictour of Saint Daniell’, dymuna i’r gwaith ar y clochdy gael ei orffen fel a ganlyn (Willis 1721: 246):

I will that the Steeple and Lofte of Bangor Churche where the Bells doo hange be fynished, and the three Bells hanged up, and a furthe Belle agreeable to them be providid and hangid there, and that the Roofe of that Steple to be well made, coverid with Leade, and the Windowe in the said Steple over the Doore to be well barride with Yron and glased.

Ymddengys mai’r bwriad gwreiddiol oedd codi tŵr dwywaith y maint, ond pan fu farw’r esgob ar 16 neu 17 Awst 1533, ‘his Executors immediately cover’d it, and so left it, as ’tis reported’ (ibid. 21–2). Mae’n debyg fod y penderfyniad hwnnw wedi ei wneud cyn iddo farw, gan mai 1532 yw’r flwyddyn a nodir ar y garreg a osodwyd ar fur y tŵr i goffáu gwaith yr esgob yno (ibid. 21; RCAHM(Crn), ii, 6; nodir y flwyddyn anghywir, 1529, yn Williams 1976: 310). Ceid ei enw gynt ar fur yr esgopty hefyd, a’r tebyg yw mai ef a fu’n gyfrifol am gwblhau’r gwaith ar yr adeilad hwnnw (Willis 1721: 41, 97; RCAHM(Crn), ii, 10). Dylid nodi, fodd bynnag, mai’r hyn a wnaeth yr Esgob Ysgefintẃn oedd parhau â’r gwaith adeiladu ac adnewyddu a ddechreuwyd ym Mangor gan ei ragflaenwyr, sef Henry Deane (a fu’n esgob 1494–6) a Rhisiart Cyffin (a fu’n ddeon 1470/8–92), o bosibl yn sgil difrodi’r eglwys yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr. Tystir i weithgarwch Rhisiart yn yr eglwys a’r esgopty yng ngwaith Tudur Aled ac, yn bennaf, yng ngwaith Guto’r Glyn (Salisbury 2011: 82–5; GG.net 58.7‒12; 59.3‒14).

Yn y gerdd hon yn unig y cyfeirir yn benodol at Ysgefintẃn yn toi’r eglwys, ond y tebyg yw fod y gwaith hwnnw’n ddealledig yn yr hyn a ddywed Willis (1721: 97) am yr esgob yn adeiladu ‘[the] entire Body of the Church, from the Choir downwards to the West End.’ Ymddengys fod llinell 38 Toi’r eglwys fawr, tir glas fu yn ategu hynny. Ceir gwybodaeth fanylach yn Williams (1976: 432) a RCAHM(Crn), ii, 3 (ond sylwer fod dyddiad y cywydd yn anghywir yno, 9n16). Diau y gallai’r Esgob Ysgefintẃn ysgwyddo cost fawr yr adeiladu, ac yntau wedi ei ddisgrifio gan un o’i elynion fel ‘y mynach mwyaf cefnog yn Lloegr’ (Williams 1976: 306). Deil Willis (1721: 97) iddo dreulio’r rhan fwyaf o’i amser yn abaty Beaulieu yn Hampshire, lle roedd yn abad, ond gan ei fod yn ‘Man of a generous Spirit, and to attone for his Neglect at Bangor, he became a most magnificent Benefactor thereto.’ Fodd bynnag, dirprwyodd y rhan fwyaf o’r gwaith o ofalu am ei esgobaeth i’w ficer cyffredinol, Wiliam Glyn, gŵr arall y canodd Syr Dafydd Trefor iddo gerdd o fawl (GSDT cerdd 1).

Dyddiad
1527.

Golygiadau blaenorol
ap Huw 2001: cerdd VI; GSDT cerdd 14; at hynny, atgynhyrchwyd llinellau 1–36 o destun C 2.114 yn LBS iv 393.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 74 llinell. Cynghanedd: croes o gyswllt 1% (1 ll.), croes 47% (35 ll.), traws 28% (21 ll.), sain 18% (13 ll.), llusg 6% (4 ll.).