Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

43. Moliant i Ddeiniol (Syr Dafydd Trefor)

golygwyd gan Eurig Salisbury

⁠C 2.114, 686‒9

Nodiadau
Casgliad mawr o gerddi a gofnodwyd gan gopïydd anhysbys (a elwir X51 yn RepWM) ar gyfer Richard ap Gruffudd, ficar Woking, yn llys Rowland Meyrick (1505–66), esgob Bangor (arno, gw. ByCy Ar Lein s.n. Meyrick (Teulu), Bodorgan ). Ceir nifer o gywyddau eraill gan Syr Dafydd Trefor yn y llawysgrif, megis y farwnad seciwlar a gofnodwyd o flaen y cywydd i Ddeiniol (GSDT cerdd 4), ond ni cheir casgliad unedig o’i waith. Ni welir arwyddocâd yn safle’r gerdd yn y llawysgrif, lle rhagflaena gasgliad o gerddi crefyddol i Grist (am y tair cyntaf, yn eu trefn, gw. ID cerdd LI; DG.net cerdd 152; GGM cerdd 1). Gwnaeth y copïydd dri ychwanegiad i’w destun, efallai wrth iddo wirio’r gwaith ochr yn ochr â’i ffynhonnell (gw. llau. 25, 54, 60). Mae’n bosibl iddo hefyd ychwanegu i yn y darlleniad daedifodd yn llinell 10, gan mor gyson yw ei ddefnydd o fylchau rhwng geiriau yng ngweddill y testun.

686
llyma gowydd i ddeiniel bangor
a wnaed pen ydeiliadwyd yr ysgobty
yn oedran krisd 1527

687
Mae y mangor dryssor a drig
yn gadarn fyndigedig
ag vn or saith gefnder gwyn
santeiddia saith saint oeddyn
5deiniel ni wnaeth o dineb
fo fynnai na nai neb
mevdwy ydoedd medwydy
pen f r v ar fraich penfro fry
duw iesv ai dewissodd
10yn dad i fil daedifodd
ag ni wyddiad yn tad ta
ladiniaith o lvd yna
ni a dwaenai garai oi gob
oni wisgwyd e yn esgob
15dwad kanv ti dewm
i gaerav krisd ar gwr krwm
gwr mvl a gae rymadeg
bigail duw yn dwyn bagal deg
mae /n/ falsomwm ne flas mel
20son dynion am sain deiniel
amyl iewn yn fymlaen i
wrthiav hwn wrth i henwi
ychen gwar i gyfarwr
lladron ai dvgon or dwr
25deiniel yn lle reidionav
a roes y keirw ir iav
rroir lladron brychion i brig
akkw i orwedd fal kerrig
a bvn gwedi chwyddo i bol

688
30gan wenwyn drwg gwenwynol
o ras y sant pen roes hon
yn i ffen ddwr oi ffynon
afrifed bryfed heb wres
beiriog oi chorff a boeres
35galwn bawb rrag yn gelyn
deiniel sant dy ras yn
kodi ris kadair iesv
toi reglwys fawr tir glas fv
fy swydd dan lythyr a sel
40karv dynion kor deiniel
organ ber kan y fferen
klych bangor ail winssor wen
kantorion gwchion ar gan
pob irgaink pibav organ
45tomas ddvlas a ddilid
eidionav duw dan i did
kanv a nan akkw yn iol
osber adar ysbrydol
apla sens palis a sel
50apla dynion plwy deiniel
ai heglwys byradwys i bro
mae tomas yw mintimio
ni bv am waith ni beiwn
ysgafn tal ysgefinitwn
55kosdiodd avr lonaid kisd dda
gisd tomas fvr gosd tyma
seiri a bwyd sy ar y bar
a llaw esgob wllysgar

689
Bwav vchel ai breichiav
60or koed ar i brigav yn kav
a simwr hon os mawr hi
a glyw drwsd ygylaw drosdi
kisd drom yrargylwydd domas
yn rroi kap plwm rrag klaw ir plas
65da i kad yn y deiliadwr
daed ywr gwaith da duw ir gwr
ysdod fawr yw i sdad fo
i oes deiniel ai ysdyno
nes kael ar fawr afael fry
70klych i vchder y klochdy
oed tuw gwyn yt yw gynal
pan roe y pen ar ywal
pvmthegkant gwarant dan go
hvgain gida saith hygo
75Sir dauid Trefor p’son llan
allgo yn y kyfamser ai kant