Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

13. Moliant i Feuno

golygwyd gan Eurig Salisbury

⁠Llst 125, 414‒15

Nodiadau
Casgliad o gywyddau amrywiol yn llaw Wiliam Bodwrda a’i gynorthwyydd anhysbys. Copïwyd testun y gerdd hon gan Wiliam ei hun. Nid ymddengys fod y cerddi, sy’n waith beirdd o’r gogledd yn bennaf, wedi eu copïo mewn unrhyw drefn arbennig. Gwnaeth Wiliam dri chywiriad wrth iddo godi’r testun (gw. llau. 1, 8 a 17).


414
Cyw’ i Feuno
Trwy amlal nawdd troi ’mlaen neb
ar Feuno ir wy f’wyneb
iachav cyrff mynych i caid
Beuno a chadw pob enaid
5mab geirwir ymhob gwarant
i Binsi yw Beuno sant
ag wyr a rhyw gorav ’rhawg
yw i lLowdden lveddawg
Abad oedd a bydyddiwr
10ai fryd oedd ar fara a dwr
a chael nef am ei grefydd
y mae a ffarch am ei ffydd
vn adeilwr in dwywlad
a oedd ai dai i ddvw dad
15dvwiolaidd yw ’r adelwr
dilesg oedd yn dal oes gwr
cy cynav yn firagl yw fagl fv
sy n tywysaw Saint Iesu

415
ar ail gwyrth ar ei ol gynt
20sarn oedd ai siwrnai iddynt
ar mann i rhoddes fesen
i Feuno praff fv fôn bren
ag yna rhai byganiaid
dan frig hon doe ’n feirw caid