Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

33. Vita S. Asaph

golygwyd gan David Callander

Yn dilyn rhagymadrodd (§§1–2) sy’n egluro awydd yr ysgrifydd i greu testun mewn arddull syml a chryno ynghylch sefydlu cadeirlan Llanelwy (gyda manylion sy’n tarddu o Fuchedd Cyndeyrn neu Kentigern, sy’n destun mwy hirfaith) ac wedyn rhai pethau am Asa Sant ei hun, nad ydynt wedi eu cadw yn y testun sydd gennym, ceir yn VSAsaph hanes Cyndeyrn yn gadael ei Esgobaeth ei hun, sef Glasgow, oherwydd erledigaeth y brenin Morken. Aeth i Dyddewi a chael croeso cynnes yno gan Ddewi Sant ei hunan. Mae dwy ddalen ar goll o’r testun yma. Wrth i’r testun barhau, cawn hanes y brenin Caswallon yn cefnogi Cyndeyrn, a baedd gwyllt gwyn yn ei arwain i’r man lle y dylid sefydlu ei eglwys yn Llanelwy. Wrth i’r gwaith adeiladu ddod yn ei flaen, cyrhaedda’r brenin paganaidd Maelgwn, wedi ffyrnigo. Mae’n gorchymyn dadwneud yr holl waith, ond caiff ei amddifadu o’i olwg. Wedyn mae’n troi at Gristnogaeth a chael ei fedyddio, gan ddiddymu ei orchmynion cynharach a chynorthwyo Cyndeyrn, a datblyga mynachlog y sant yn gymuned grefyddol ffyniannus. Dywed Cyndeyrn yr hoffai farw yno, ond daw neges angylaidd i’w orchymyn i ddychwelyd i Glasgow. Daw’r testun i ben yn annisgwyl wrth i Gyndeyrn roi arweinyddiaeth i’w fynachod ynghylch ethol olynydd iddo. Golygwyd y testun hwn o Peniarth 231. Mae darnau sy’n tarddu’n uniongyrchol o Fuchedd Cyndeyrn yn cael eu cymharu â Forbes 1874, a phan ddiwygir ar sail y testun hwn defnyddir y byrfodd VSK.

Vita Sancti Assaph

§1

Gloriosissimi confessoris et pontificis Assaph patroni nostri vitam per loca diuersa, monasteria, cathedrales et baptismales ecclesias diligenti affeccione quesiui. Cum igitur Assauensis1 Assauensis Assauens llsgr. ecclesia per beatum Kentigernum sit fundata, edificata, et solempniter consecrata2 consecrata consecrata et solo llsgr. admiratione dignum, quare non Kentigernensis sed Assauensis prefata intitulatur ecclesia? Hinc est quod de predicte sedis fundacione et fundatoris munificencia, fabricationis3 fabricationis fabricantis llsgr. et consecrationis4 consecrationis consecratis llsgr. honorificencia, que in vita beati Kentegerni stilo traduntur laciori, in presenti opusculo dictamine5 dictamine dictamine contrahentur llsgr. comprehenduntur breuiori. Demum de eleccione et creacione Sancti Assaph, confirmacione et consecracione et conuersacionis ipsius dulcedine, de corporis vniformitate, viribus et decore cordis, virtutibus et sanctitate ac miraculorum illustracione, ad populi deuocionem et aliqualem cleri instruccionem, familiaris affecionis mere aliqua, licet pauca, intendo parare.

§2

Cum dictator se ad loquendum preparat, sub quante cautele studio loquatur. Attendat ne, si obscure ad loquendum rapitur, erroris vulnere audiencium corda feriantur. Et cum fortasse sapientem se videri desiderat, virtutis compaginem insipienter abscidat. Sepe etenim dictatorum virtus amittitur, cum apud audientium corda obscuritas grauatur. Qui enim ea dictant, que audiencium corda intelligere nequeunt, non auditorum utilitatem, sed sui ostentacionem faciunt. Hoc igitur opusculum, ex vno libro Latino et diuersis codicillis nostro vulgari conscriptis, storiographorum Wallensium narracionibus, simplici dictamine tanquam pueris papulum, duxi compaginandum, moderacionis sic tenes temperiem, ut simplicioribus sit appetibile, nec aliis nimis inutile vel contemptibile habeatur. Totum igitur studium huius operis, totum fructum mei laboris, vestre illustrantis scientie examini duxi presentandum, ut quod mei erroris deffectu incorrectum relinquitur, vestre discrecionis sale conditum saporetur. Si quid forte minus ueritati6 ueritati ueritat llsgr. consonans sonuerit, vestro iudicio limitetur. Si autem quid inuenitur a neutro discidens uel discordans, vestro testimonio comprobetur.

§3

Beatus Kentigernus, ab impio rege Morken occidentalium parcium Albannie et suis dolosis complicibus dire et crudeliter persecutus, diuina monicione propriam ciuitatem de Glascu deseruit, et uersus sanctam ciuitatem beatissimi presulis Dauid Meneuie apostolorum exemplo pedibus et peregre iter arripuit. Omnis enim, qui gemmebat et uexabatur a Sawl, fugiebat et ueniebat ad Dauid. Licet igitur cum laboribus, variis iniuriis, et sudoribus angustiis innumeris et tribulacionibus ad sanctum Dauid Meneuie peruenit              7 Gadawodd Robert Vaughan nifer o fylchau yma ar gyfer geiriau a oedd ar goll neu’n annarllenadwy yn ei gynsail. et exultans tanquam angelus de celo pie et honorifice a beato Dauid est susceptus et aliquamdiu lumen               variis et continuis consolacionibus confortatus omnibus que persecucionibus oblitis, aliquantisper mutue karitatis8 karitatis karitatis llsgr.
comoratur ubi de illo per ora uniuersorum fama fulgurans ad plurium aures discurrebat.
Here wanted two great leaves.

§4

9 Illustrissimus Cum illustrissimus llsgr. Illustrissimus rex et miles strenuissimus, audita fama gloriosa beatissimi presulis Kentigerni et eius conuersacione sanctissima, per vniuersos fere orbis fines et terminos diuulgata, ad perpetuam salutem animarum sui regni incolarum, cooperante spiritu sancto, sanctissimum Kentigernum presulem ex unanimi procerum suorum consilio per legatos et nuncios solempnes deuotissime duxit inuitandum. Beatus igitur Kentigernus, audita tanti principis deuocione10 deuocione douocione llsgr. et sincera cordis humilitate, ad regem Caswallanum humiliter perexit et, honorifice a rege et regno receptus,11 receptus receptus recep llsgr. regem et regnum nomine Christi, crucifixi filii Dei viui, voce pia salutauit. Cui rex, ‘Benedictus Kentegernus, qui uenit in nomine domini, et benedictum nomen sanctitatis eius in secula’, et adiciens rex dixit sancto, ‘Ecce12 ecce ecclesie llsgr. (ecce gyda nod talfyrru) tota terra mea in conspectu tuo est et, vbicumque animo tuo cederit et bonum oculis tuis videatur, ad honorem nominis Dei tui et ad nostram nostreque gentis salutem tibi et tuis construe habitaculum et edifica monasterium.’ Vir Dei gratias multiplices regi et regno egit.

§5

Sanctus igitur presul Kentigernus non dedit sompnum oculis suis nec palpebris quietem donec inueniret locum aptum ad edificandum tabernaculum Deo Iacob. Circuiuit igitur terram et perambulauit eam, et turba discipulorum multa cum illo, explorans amenos citus locorum, qualitates aeris, glebe ubertatem et aquarum uicinitatem, pratorum et pascuarum ac siluarum sufficientiam et cetera, que ad monasterii edificandi spectabant comoditatem. Cumque scilicet pergerent per apruta13 apruta obruta llsgr. (apruta VSK) moncium, per concaua uallum et condensa et opaca nemorum, insedentes sermosinaruntur que ad presens spectabant negocium, et ecce singularis ferus aper, totus candidus, ad pedes sancti accedens, capud agitans aliquantulum, progrediens et retro aspiciens gestu quo potuit sancto et sociis eius vt illum sequerentur annuit. Cum autem peruenissent ad locum, quem sancto et successoribus suis dominus predestinauerat, aper substitit et, terram crebro pede percussiens, et dente protenso cespitem cuiusdam coruli extirpauit et ore grauiendo illum esse locum illis a Deo paratum signis diuinis et nutibus liquido preostendit, et ab eorum aspectu subito nemora repetit et absessit. Est autem locus ille super ripam fluminis constitutus, quod vocatur Elwy, a quo flumina sedes cathedralis nomen vulgare recepit, viz. Lanelwy. Tunc sanctus flexis genibus omnipotentem Deum adorauit, et in nomine Domini locum et circumiacencia solempniter dedicauit, ac in testimonium et signum salutis et future religionis ibidem crucem erexit et tentoria fixit.

§6

Cum igitur sanctus Dei Kentigernus monasterium construere studuisset in quo filii Dei dispersi salubriter conuenirent, more apium, ab oriente, occidente, aquilone, et meridie, premente14 premente premo llsgr. spiritu sancto, filii Dei uenientes, oracionibus et diuinis officiis expletis, viriliter et animose laborantes diuersis operibus insudebant: alii locum purgabant, alii complanebant, alii fundamenta preparabant. Quidam eciam gestantes, quidam compaginantes more Brittonum ecclesiam et ceteras officinas de lignis lenigatis subtiliter et festinanter construebant, pro loco et tempore de lapidibus dictum monasterium construere proponentes. Cum autem operi instarent et opus in manus eorum mirifice cresceret, superuenit quidam gentilis regulus nomine Maelgwn, indignantis nature et Dei ignarus. Quesiuit qui vel quo ausu in terra sua contemnabiliter monasterium edificauit. Sanctus vero, ad interrogata respondens, Christianos se esse et de aquilonibus partibus Britannie ad seruiendum Deo uiuo et uero illic aduenisse, non solum per licentiam immo per beneuolenciam regis Caswallawn15Caswallon Caswallawon llsgr. mansionem inhibi incoasse asserebat, ad cuius dominium et dissionem locum illum pertinere credebat.

§7

Quo audito, Maelgwn, fremens et furibundus, omnes cum violentia a loco expelli et quicquid edificatum fuerat euelli et dissipari precepit. Et ecce manus domini Maelgwn, crudeliter famulum Christi persequentem, repentina cessitate percussit, sed mox gratiam contricionis adeptus et gratia16 gratia gratiam llsgr. Dei illustratus, erronea precepta sua reuocauit et sanctum Kentegernum pro damnitate recuperanda humiliter adorauit. Orante igitur sancto Kentigerno, Maelgwn visum corporalem recepit et a sancto pontifice aqua salutari lotus in nomine patris etcetera, baptizatus est. Sic igitur de Saulo Paulus,17 Paulus Paulaus llsgr. de persecutore deuotus. Locum predictum et alias terras amplas et predia, census, et libertates sancto Kentigerno dicti regis Maelgwnn contulit munificentia, cuius suffultus amminiculo,18 amminiculo amuniculo llsgr. (amminiculo VSK) opus inceptum ad finem laudabilem perduxit, et deuotis peticionibus dicti regis aquiescere cupiens demum monasterium sedem cathedralem constituit.

§8

Deuulgata gloriosi presulis et conuentus gloriosa conuersacione, viri Dei ad sedem predictam, senes cum iunioribus, diuites et tenues, ad subportandum iugum Dei cateruatim confluebant. Augebatur de die in diem numero et merito hec sancta multitudo, ita ut usque ad nongentos sexaginta quinque numerus extenderetur Deo milicancium19 milicancium humilitancium llsgr. (militantium VSK) sub institucione sancti Kentigerni, vitam et habitum regularem profitencium, quorum obsequia Deo grata in libro de uita beati Kentegerni plenius scripta inuenietis,20 inuenietis inuenientis llsgr. multipliciter recommendanda.

§9

Beatus Kentegernus effusis lacrimis et flexis genibus gratias Deo omnipotenti egit, eo quod post regum, principum, et tiranorum persecuciones, post eroneos gentilium ritus dampnabiliter errantes, ad adiucionem21 adiucionem agiucionem llsgr. veri Dei salubriter conuertit. Post diuersas iniurias, contumelias, et sudores, ad perfeccionem monasterii et ad sancte multitudinis predicte salutarem institucionem et obseruantiam regularem, corporis et animi quietem et tranquilitatem feliciter peruenit. Et ubertim plorans Deum deuotissime exorauit, ut sue senectutis in eodem monasterio diem clauderet extremum, dicens, ‘Oro te, pater, ut hic diem senectutis mee possim claudere extremum, et in conspectu fratrum meorum ossa mea in ventre matris mee sint recondita.’ Hac oracione fusa, vox angelica in aures eius insonuit, ‘Reuertere in Glaschu ad ecclesiam tuam. Ibi eris in gentem magnam et crescere te faciet dominus in plebem suam. Gentem sanctam et innumerabilem22 innumerabilem in nuerabilem llsgr. populum adquisicionis adquires domino Deo tuo, coronam perpetuam percepturus ab eo. Ibi enim in senectute bona dies tuos consumabis et ex hoc mundo transibis ad patrem tuum, qui est in celis.’ Quo audito, ex humana fragilitate sanctus Dei fleuit, amore dicens, ‘O domine, non sicut ego volo fiat sed sicut tu vis.’

§10

Cum igitur dies crastinus illusceret, conuocatis discipulis suis in vnum, dixit, ‘Humanum dico vobis, karissimi, volui propter infirmitatem carnis mee, diu deliberans et desiderans, occulos istos seniles a vobis claudi, ossaque mea sub occulis omnium vestrum in ventre matris omnium recondi. Sed quia non est hominis via in potestate eius, iniunctum est mihi a domino ad ecclesiam meam de Glaschu redire, nec debemus, aut audemus, aut uolumus contradicere sue voti, aut sue sacre iussioni contraire.23 contraire contraire tercia llsgr. Ecce, sanctissimi fratres et filii, premissis Deo precibus, fraternitatem vestram cum pia exhortacione conuenio, et per diuinum nomen, supra quod non aliud, obtestor, vt huic loco et uestre sanctissime multitudini episcopum et antistitem eligatis. Deinde simili uos obtestacione coniuro, ut nullus vestrum in eligendo aut personam accipiat aut quolibet fauore, amore, uel munere a ueritate discedat, sed cum tanta pietate et sincere conscientie puritate quem, sicut24 sicut Setui llsgr. uestro eligendum intulere, communis assensus decreuerit, in nomine domini eligatis, vt nec discordans contencio ad subuersionem huius sacre sedis inter uos locum inueniat, nec in requirenda equitate vigor vestri ordinis et sollicitudo tempestat. Cum in cunctis sacris ordinibus et ecclesiasticis misteriis sint etatis ...

The rest to the end is lost.

Buchedd Asa Sant

§1

Ceisiais Fuchedd ein nawddsant, Asa, yr esgob a’r cyffeswr ardderchocaf, drwy amrywiol leoedd, mynachlogydd, cadeirlannau, ac eglwysi bedyddiol gyda hoffter diwyd. Felly, am fod eglwys Asa wedi ei sefydlu, ei hadeiladu a’i chysegru’n ddwys gan y bendigedig Gyndeyrn, teilwng o edmygedd, pam y gelwir yr eglwys hon yn Assauensis [‘yn perthyn i Asa’] yn hytrach na Kentigernensis [‘yn perthyn i Gyndeyrn’]? Dyma pam y cynhwysir mewn traethiad byrrach, yn y cyfansoddiad bychan hwn, y pethau ynghylch sefydlu’r esgobaeth ragddywededig a haelioni ei sefydlydd, anrhydedd ei hadeiladu a’i chysegru, a drosglwyddir mewn arddull fwy cwmpasog ym Muchedd y bendigedig Gyndeyrn. Yn olaf, yr wyf yn bwriadu darparu rhai pethau (serch eu bod yn fach) o win hoffter cymunedol ynghylch dethol a phenodi Asa Sant, ei gymeradwyo, ei gysegru, a hynawsedd ei fuchedd, ynghylch dianwadalwch ei gorff, ei gyneddfau a harddwch ei galon, ei rinweddau a’i sancteiddrwydd a gogoniant ei wyrthiau, ar gyfer defosiwn y bobl ac unrhyw fath o hyfforddiant i’r clerigwyr.

§2

Wrth i’r cyfansoddwr ymbaratoi at siarad, boed iddo siarad gan roi sylw dyfal i rybudd sylweddol. Boed iddo fod yn sylwgar rhag ofn, os rhuthrir i siarad yn aneglur, y trewir calonnau’r gwrandawyr gan glwyf cyfeiliornad.1 Dyfynnir y darn hwn o Gofal Bugeiliol Gregori Fawr. Cum dictator se ad loquendum preparat, sub quante cautele studio loquatur. Attendat ne, si obscure ad loquendum rapitur, erroris vulnere audiencium corda feriantur. Et cum fortasse sapientem se videri desiderat, virtutis compaginem insipienter abscidat. (‘Wrth i’r cyfansoddwr ymbaratoi at siarad, boed iddo siarad gan roi sylw dyfal i rybudd sylweddol. Boed iddo fod yn sylwgar rhag ofn, os rhuthrir i siarad yn aneglur, y trewir calonnau’r gwrandawyr gan glwyf cyfeiliornad. A phan ddymuna, o bosibl, gael ei ystyried yn ddoeth, gall dorri ymaith cymal rhinwedd.’). Cf. Gregorius Magnus, Regulae Pastoralis Liber, Rhan 2, pennod 4 (PL 77: 31): Sed cum rector se ad loquendum praeparat, sub quanto cautelae studio loquatur attendat, ne si inordinate ad loquendum rapitur, erroris vulnere audientium corda feriantur, et cum fortasse sapiens videri desiderat, unitatis compagem insipienter abscidat. A phan ddymuna, o bosibl, gael ei ystyried yn ddoeth, gall dorri ymaith gymal rhinwedd. Ac yn wir, collir grym cyfansoddwyr yn aml pan argreffir astrusi ar galonnau gwrandawyr. Oherwydd nad budd i’r gwrandawyr a wneir gan y sawl a ddywed y pethau hynny na all calonnau gwrandawyr mo’u deall, ond yn hytrach eu rhodres eu hunain. Gan hynny, penderfynais y dylid llunio’r cyfansoddiad bach hwn mewn arddull seml (fel hyn y cedwi gymedroldeb rheolaeth)2 moderacionis sic tenes temperiem (‘fel hyn y cedwi gymedroldeb rheolaeth’). Cf. Fulgentius Ruspensis, Sermones, Sermo I, De Dispensatoribus Domini, pennod 1 (PL 65: 719): moderationis suae tenens ubique temperiem. megis ymborth i fechgyn o un llyfr Lladin ac amryw destunau byrion a ysgrifennwyd yn ein hiaith frodorol, adroddiadau haneswyr y Cymry, fel y gall fod yn ddymunadwy i bobl fwy cyffredin a heb ei ystyried yn rhy ddiwerth neu ddirmygadwy gan eraill. Ac felly holl fwriad y gwaith hwn, holl ffrwyth fy llafur, y gwelais yn dda ei gyflwyno i sylw eich gwybodaeth oleuol, fel y gellir sawru, wedi ei flasuso â halen eich craffter, yr hyn a adewir yn anghywir drwy fai fy nghyfeiliornad. Ped ymddangosai fod rhywbeth, efallai, yn llai cyson â’r gwir, boed iddo gael ei nodi gan eich pwyll. Ymhellach, os deuir ar draws rhywbeth sydd heb ymwahanu nac anghytuno â’r naill na’r llall o’r rhain, boed iddo gael ei brofi gan eich tystiolaeth.3 Tardda’r darn hwn (o ‘Totum igitur studium’ ‘Ac felly holl fwriad’ ymlaen) o ddiwedd rhagymadrodd Buchedd Cyndeyrn (Kentigern), gan Jocelin. Mae’r frawddeg yn anoddach yma nag ym Muchedd Jocelin oherwydd talfyrru; nid yw mor glir yma at beth y cyfeirir yn yr ymadrodd ‘a neutro’ ‘â’r naill na’r llall’.

§3

4 Mae’n eglur fod VSAsaph yn dilyn Buchedd Cyndeyrn Jocelin yma. Dilynir y stori yn agos, ond dim ond o ddiwedd §3 ymlaen y daw benthyciadau gair-am-air yn amlwg. Ar ôl cael ei erlid yn enbyd ac yn greulon gan Morken,5 Mae’r Brenin Morken yn gwrthdaro â Chyndeyrn yn yr un modd ym Muchedd Cyndeyrn. Yno mae’n trengi cyn y rhan hon o’r hanes a’i dylwyth sy’n ceisio lladd Cyndeyrn, a’r sant yn penderfynu gadael o ganlyniad (Forbes 1874: 72–3, 198–9). Awgryma Bartrum y gellir uniaethu Morken â Morgan Fwlch neu Forgan Mawr ap Sadyrnin (WCD 485–6). Mae hwn yn achos prin o gadw orgraff Buchedd Cyndeyrn. brenin annuwiol parthau gorllewinol yr Alban, a’i gymdeithion cyfrwys, gadawodd y bendigedig Gyndeyrn ei Esgobaeth ei hun, Glasgow, drwy rybudd duwiol, a chan ddilyn esiampl yr apostolion, cychwynnodd ar draed ac fel pererin ar daith tuag at Esgobaeth dduwiol y bendigedicaf esgob Dewi o Fynyw. Am fod pawb a alarnadai neu a gystuddid gan Sawl6 Cyfeirir yn ôl pob tebyg at Sawyl Benuchel, pennaeth sy’n gwrthdaro â Chadog Sant yn VSCadoci §16 (WCD 581). yn ffoi ac yn dod at Ddewi. Felly, er trwy ymdrechion, amryw anafau, ac aneirif o drafaelion dwys a thrallodau, daeth at Ddewi Sant o Fynyw. …7 Gadawodd Robert Vaughan le ar gyfer tua dau air yma. a chan lawenhau megis angel o’r nefoedd fe’i croesawyd yn gariadus ac yn barchus gan y bendigedig Ddewi ac am beth amser golau …8 Gadawodd Robert Vaughan le ar gyfer tua dau air yma. wedi ei fywiocáu gan gysuron amryfal a pharhaus, a phob erledigaeth wedi ei hanghofio, am beth amser ...9 Yn y llawysgrif ceir ‘mutue karitatis’, yr ymddengys iddo olygu ‘am gariad cilyddol’, ond y mae’n anodd ei ddeall am fod y rhan hon o’r testun mor ddarniog. Nid yw arwyddocâd y dileu yn amlwg ychwaith, am nad yw ‘karita’ yn air. Gall mai ‘karitas’ a fwriedid. Ar ôl hyn, gadawodd Robert Vaughan le am tua thri neu bedwar gair. y mae’n trigo yn y man lle, ohono ef, rhedai’r clod, gan ddisgleirio, drwy enau pawb i glustiau llawer.10 Mae’r cyfieithiad yn rhannol ddamcaniaethol yma am fod dechrau’r frawddeg hon ar goll. Y frawddeg hon yw’r achos cyntaf yn VSAsaph o fenthyciad uniongyrchol iawn o Fuchedd Cyndeyrn (§ 23), lle ceir y darlleniad ‘Cumque Sanctus Kentegernus ibidem aliquantisper commoraretur, fama de illo fulgurans per ora plurimorum et aures discurrebat’ (‘A phan oedd Cyndeyrn Sant wedi trigo yno am beth amser, rhedai’r clod amdano, gan ddisgleirio, drwy glustiau a genau’r lliaws’ (Forbes 1874: 75, 201)). Mae’r llinellau blaenorol yn wahanol yn y ddwy fuchedd, ac mae’n eglur fod y frawddeg ei hun yn wahanol pan oedd yn gyflawn, ac felly, ni ellir adfer y frawddeg yn VSAsaph ar sail darlleniad Buchedd Cyndeyrn.
Dwy ddalen fawr yn eisiau yma.11 Ychwanegwyd, yn Saesneg (‘Here wanted two great leaves’), gan Robert Vaughan i dynnu sylw at y deunydd a gollwyd o Lyfr Coch Asaph. Mae’n syndod, wrth gymharu â Buchedd Cyndeyrn, cyn lleied o ddeunydd a hepgorwyd o VSAsaph; cynrychiolir yn VSAsaph bron popeth a geir yng ngweddill Buchedd Cyndeyrn § 23. Mae’n rhaid fod y dalennau coll yn cynnwys deunydd a oedd naill ai’n annibynnol ar Fuchedd Jocelin neu wedi ei symud o ran arall ohoni.

§4

Y12 Mae’n aneglur ai dechrau brawddeg oedd hyn yn wreiddiol, am fod deunydd wedi’i golli o’i flaen. Yn y llawysgrif ceir ‘Cum’, wedi ei ddileu, ar ddechrau’r adran hon, a gall hyn awgrymu bod cystrawen y darn wedi ei newid fel y gall sefyll ar ei ben ei hun fel prif gymal. brenin ardderchocaf13 O’r cyd-destun, mae’n rhaid fod hyn yn cyfeirio at y Brenin Caswallon, a grybwyllir isod. Fe’i gelwir yn Frenin Cathwallain ym Muchedd Cyndeyrn §23, a’r un yw ei rôl yn yr hanes yno. Gelwir nifer o lywodraethwyr Cymreig chwedlonol yn Gadwallon neu Gaswallon, yn ogystal â’r Cassivellaunus hanesyddol a fu farw c. 47 CC ac a gafodd ail ‘fywyd’ fel Caswallon ap Beli mewn testunau Cymraeg canoloesol (WCD 81–4, 108–9). Nodwch fod yr orgraff wedi ei newid yn VSAsaph i’r ffurf Gymraeg Canol Caswallawn. a’r milwr glewaf – ar ôl clywed clod gogoneddus yr esgob bendigedicaf Cyndeyrn a’i fuchedd tra sanctaidd, enwog drwy bron holl ffiniau a therfynau’r byd, er gwaredigaeth dragwyddol eneidiau trigolion ei deyrnas, a’r Ysbryd Glân yn cyflawni hyn mewn cydweithrediad – yn dduwiolfrydig iawn, a welodd yn dda, drwy farn unfryd ei uchelwyr, wahodd yr esgob sancteiddiaf Cyndeyrn drwy negeswyr a chenhadon pwyllog. Ac felly, ar ôl clywed am ddefosiwn a gostyngeiddrwydd calon pur y fath arweinydd, daeth y bendigedig Gyndeyrn yn ostyngedig at y Brenin Caswallon, ac, ar ôl ei groesawu’n anrhydeddus gan y brenin a’r deyrnas, cyfarchodd ef y brenin a’r deyrnas yn enw Crist, mab croeshoeliedig y Duw byw, mewn llais duwiolfrydig. Meddai’r brenin wrtho, ‘Bendigedig yw Cyndeyrn sydd wedi dod yn enw’r Arglwydd a bendigedig yw enwogrwydd ei sancteiddrwydd am byth’,14 Benedictus Kentegernus, qui uenit in nomine domini, et benedictum nomen sanctitatis eius in secula. (Bendigedig yw Cyndeyrn sydd wedi dod yn enw’r Arglwydd a bendigedig yw enwogrwydd ei sancteiddrwydd am byth). Cf. Math 21.9 (Benedictus qui venturus est in nomine Domini) a Salmau 71.19 (Fwlgat; diweddar 72.19) (et benedictum nomen maiestatis eius in aeternum). a, chan ychwanegu at hyn, meddai’r brenin wrth y sant, ‘Wele,15 O’r fan yma hyd at ddiwedd §4 gwelir eto fenthyca gair-am-air oddi wrth Fuchedd Cyndeyrn (§23); daw’r benthyca’n fwy cyffredin o’r adran hon ymlaen. Darlleniad Buchedd Cyndeyrn yw ‘“Terra mea in conspectu tuo est, ubicumque animo tuo sederit, et bonum videatur oculis tuis, mansionis tue construe habitaculum, edifica monasterium. At tamen, ut mihi videtur, ad hoc opus locum omnibus aptiorem vocabulo Nautcharvan tibi designo, quia isdem situs omnibus habundat necessariis propositio tuo.” Vir Domini Regi gratias multiplices egit.’ (‘“Y mae fy nhir o fewn dy olwg: pa le bynnag a fo’n ddymunol i’th fryd, ac a ymddangoser yn dda i’th lygaid, coda yno annedd dy breswylfa, adeilada yno dy fynachlog. Eto i gyd, am ei bod yn ymddangos i fi ei fod yn fwy addas i ti nag unman arall, pennaf i ti le, Nautcharvan, am ei fod yn llawn o bopeth sy’n addas i’th fenter.” Talodd gŵr Duw liaws diolchiadau i’r brenin’) (Forbes 1874: 75, 201). Nodwch fod y cyfeiriad at Lancarfan wedi’i hepgor. At hynny, mae VSAsaph yn hepgor brawddegau olaf §23 a dechrau §24, sy’n cyfeirio at ymadawiad Cyndeyrn â Dewi Sant. y mae fy holl dir o fewn dy olwg, a pha le bynnag a fo’n ddymunol i’th fryd ac a ymddangoso yn dda i’th lygaid, er anrhydedd i enw dy Dduw ac er ein gwaredigaeth ni a’n pobl ni, coda annedd i ti dy hun ac i’th bobl di ac adeilada fynachlog.’ Talodd gŵr Duw liaws diolchiadau i’r brenin a’r deyrnas.

§5

16 Tardda bron y cyfan o §5 yn uniongyrchol o ddau baragraff cyntaf Buchedd Cyndeyrn §24. Yn ogystal â hepgor tair llinell gyntaf y bennod, ac amryw newidiadau bychain, y mae ychydig o newidiadau mwy sylweddol a drafodir isod yn y mannau perthnasol. Ac felly ni chaniataodd yr esgob sanctaidd Cyndeyrn gwsg i’w lygaid na gorffwys i’w amrannau nes iddo ddod o hyd i le addas ar gyfer adeiladu annedd i Dduw Jacob.17 Gelwir Duw yn Dduw Jacob sawl gwaith yn y Beibl, yn fynychaf yn y Salmau. Roedd Jacob yn un o batriarchiaid yr Hen Destament; ceir ei hanes yn Genesis 25–50. Felly, cerddodd o gwmpas y tir a chrwydro drwyddo draw, a thorf fawr o ddisgyblion gydag ef, gan archwilio safleoedd hawddgar lleoedd, ansoddau’r awyr, helaethrwydd y pridd ac agosrwydd dŵr, cyflawnder dolydd a phorfeydd a choetiroedd a phethau eraill a ymwnâi â chyfleustra adeiladu mynachlog. Ac yn ogystal, pan oeddynt yn mynd yn eu blaenau drwy barthau serth mynyddoedd, drwy bantiau dyffrynnoedd a dryslwyni a gwyllon coedydd, trafodasant,18 Ceir yma sermosinaruntur yn hytrach na’r sermocinaruntur disgwyliedig. gan eistedd, bethau a ymwnâi â’u gorchwyl ar y pryd, ac wele faedd gwyllt, ar ei ben ei hun, yn wyn i gyd, yn dynesu at draed y sant, gan ysgwyd ei ben ychydig, wrth symud ymlaen ac edrych yn ôl gydag arwydd y gallai ei wneud, mynegodd i’r sant a’i gymdeithion y dylent ei ddilyn.19 Yma hepgorir brawddeg o Fuchedd Cyndeyrn (§24) sy’n disgrifio Cyndeyrn a’i ddilynwyr yn rhyfeddu at y baedd ac yn ei ddilyn. ’Nawr pan oeddynt wedi cyrraedd safle, yr oedd yr Arglwydd wedi ei ragordeinio i’r sant a’i olynwyr, safodd y baedd yn stond a, chan daro’r ddaear yn fynych â’i garn, nid yn unig y dadwreiddiodd dywarchen rhyw gollen â’i ddant ymwthiol ond hefyd drwy gloddio20 Mae’n bosibl fod grauiendo’r llawysgrif yn wall am grauiando neu grunniendo (darlleniad Buchedd Cyndeyrn). â’i enau, dangosodd yn eglur o flaen llaw drwy arwyddion duwiol ac ystumiau mai dyna’r lle a baratowyd iddynt gan Dduw, ac yn sydyn fe ddychwelodd yn ôl i’r coedydd allan o’u golwg a diflannu.21 Mae’r disgrifiad o ddiflaniad y baedd yn llawer byrrach ac wedi ei symud yma o’i leoliad ar ôl gosod y pebyll ym Muchedd Cyndeyrn (§24). At hynny, lleolir y safle hwnnw ar lan afon, a elwir yn Elwy,22 Mae’r Elwy yn afon yng Nghonwy a Sir Ddinbych sy’n llifo trwy Lanelwy, ger y gadeirlan, cyn uno ag afon Clwyd nid nepell i’r gogledd. ac o’r afon honno y cafodd yr Esgobaeth gadeiriol ei henw brodorol, sef Llanelwy.23 Llanelwy yw enw Cymraeg y ddinas a elwir yn St Asaph yn Saesneg. Ychwanegwyd enw Cymraeg y gadeirlan yn VSAsaph, a’r newidiadau, o’u cymharu â Buchedd Cyndeyrn, yn dangos safbwynt gwahanol y bucheddwr. Darlleniad Buchedd Cyndeyrn (§24) yw: ‘Est autem locus super ripam fluminis constitutus quod Elgu vocatur, a quo hodie ut dicitur pagus nomen sortitur.’ (‘’Nawr lleolir y safle ar lan afon a elwir yn Elgu, ac ohoni hi, ys dywedir, y caiff y dref ei henw hyd heddiw.’) (Forbes 1874: 76, 202). Wedyn, gan ostwng ar ei bengliniau, addolodd y sant Dduw Hollalluog, a chysegru’n ddwys y lle hwnnw a’i gyffiniau yn enw’r Arglwydd, ac fel tystiolaeth ac yn arwydd o iachawdwriaeth ac o ddefosiwn a ddaw fe gododd groes yn y fan honno a gosod pebyll.

§6

24 Tardda §6 yn bennaf o drydydd a phedwerydd paragraffau Buchedd Cyndeyrn (§24), er na ddilynwyd y testun hwnnw mor agos ag yn §5. Ni cheir yma y ddwy linell a hanner ar ddechrau paragraff 3. Ac felly pan oedd sant Duw, Cyndeyrn, wedi ymroi at adeiladu mynachlog y gallai meibion gwasgaredig Duw ymgynnull ynddi er adfer iechyd, megis gwenyn, o’r dwyrain, y gorllewin, y gogledd, a’r de,25 Hepgorwyd yma tua chwe llinell o Fuchedd Cyndeyrn (§24), sy’n ymhelaethu ar yr ymdyrru i fynachlog Cyndeyrn. a’r Ysbryd Glân yn argymell, wrth i feibion Duw gyrraedd, ar ôl cwblhau gweddïau a gwasanaethau dwyfol, gan weithio’n ẃraidd ac yn ddewr llafuriasant ar amryw orchwylion: bu rhai’n clirio’r lle, rhai’n ei wastatáu, eraill yn paratoi’r sylfeini. Rhai’n cartio hefyd, rhai’n saernïo yn null y Brythoniaid,26 Cyfeiria ‘dull y Brythoniaid’ yma at adeiladu’r eglwys o goed. Cynigir esboniad gwahanol ym Muchedd Cyndeyrn (§24): ‘quidam compaginantes, more Britonum ecclesiam, et ceteras officinas, de lignis levigatis sicut pater metiendo disposuerat edificare jam inchoabant; quum de lapide construere nondum poterant, nec usum habebant.’ (‘eraill yn saernïo, a ddechreuodd, fel yr oedd y tad wedi mesur a marcio ar eu cyfer, godi eglwys a’i hadeiladau o goed llyfn, yn null y Brythoniaid, am na allent adeiladu eto â meini ac nid oeddynt yn arfer gwneud.’ (Forbes 1874: 77, 203). yr oeddynt yn codi eglwys ac adeiladau eraill yn gain ac yn fuan o goed llyfn, gan fwriadu adeiladu’r fynachlog ragddywededig o feini pan fyddai ganddynt amser a chyfle. Ond pan oeddynt yn dyfalbarhau â’r gwaith a’r gwaith yn tyfu’n rhyfeddol dan eu dwylo, disgynnodd arnynt ryw is-frenin paganaidd a elwid yn Faelgwn,27 Crybwyllir Maelgwn Gwynedd yn aml ym Mucheddau’r seintiau Cymreig, ac yn aml, fel yma, y mae’n gwrthdaro â’r seintiau gan edifaru wedyn (WCD 438–442). Ym Muchedd Cyndeyrn §24, enw’r brenin yw Melconde Galganu, ond defnyddir y ffurf Gymraeg Maelgwn yma. Crybwyllir Maelgwn yn Siartr Cyndeyrn yn LlGC SA/MB/22 hefyd, ac yma fe’i dallir gan Dduw yn yr un modd, a’i olwg yn cael ei adfer trwy gymorth Cyndeyrn, ac o ganlyniad mae’n gwaddoli mynachlog Cyndeyrn. un sorllyd ei natur a heb wybod am Dduw. Ymofynnodd bwy, neu drwy ba haerllugrwydd, a adeiladodd fynachlog yn ddirmygus yn ei diriogaeth. Ond taerodd y sant, gan ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd, eu bod yn Gristnogion ac wedi cyrraedd yno o barthau gogleddol Prydain i wasanaethu’r Duw byw a gwir, eu bod wedi cychwyn eu preswylfa yno nid yn unig gyda chaniatâd y Brenin Caswallon ond hefyd, yn wir, gyda’i ewyllys da, [ac] y credai mai perthyn i’w arglwyddiaeth a’i awdurdod ef [Caswallon] a wnâi’r lle hwnnw.

§7

28 Ceir yn §7 ddeunydd sy’n tarddu o bedwerydd a phumed paragraffau Buchedd Cyndeyrn (§24), gyda rhywfaint o gopïo uniongyrchol ond cryn dipyn o aralleirio hefyd. Ar ôl clywed hyn, gorchmynnodd Maelgwn, wedi cynddeiriogi ac yn orffwyll, yrru pawb allan o’r lle drwy drais a dymchwel popeth a adeiladwyd a’i chwalu. Ac wele, tarodd llaw’r Arglwydd Faelgwn, gan erlid yn greulon was Crist, â dallineb sydyn, ond yn fuan, wedi ennill gras edifeirwch a chael ei oleuo gan ras Duw, diddymodd ei orchmynion ffals a gweddïo’n ostyngedig ar Gyndeyrn Sant am adfer ei friw. Ac felly, a Chyndeyrn Sant yn gweddïo, cafodd Maelgwn ei olwg corfforol ac, wedi ei olchi mewn dŵr gwaredigaethol, fe’i bedyddiwyd gan yr esgob sanctaidd, yn enw’r Tad ayb.29 Ceir etcetera yn lle’r et filii et spiritus sancti disgwyliedig (nad oes dim sy’n cyfateb yn union iddo ym Muchedd Cyndeyrn §24). Ac felly yn y modd hwn, megis Pawl o Sawl,30 Tardda hyn o’r ymadrodd ‘de vetere Saulo novum Paulum faciens’ (‘yn creu’r Pawl newydd o’r hen Sawl’) (Forbes 1874: 78, 204) ym Muchedd Cyndeyrn §24. Gelwid yr Apostol Pawl yn Sawl hefyd, a daeth y ddau enw gwahanol hyn yn gysylltiedig â thröedigaeth enwog Pawl ar y ffordd i Damascus, a Sawl yn cynrychioli’r pechadur a drawsnewidiwyd yn Bawl, y Cristion newydd. daeth yn ŵr duwiol o fod yn erlidiwr. Rhoddodd haelioni’r Brenin Maelgwn hwn y lle rhagddywededig a thiroedd helaeth eraill ac eiddo tirol, taliadau, a breintiau i Gyndeyrn Sant. Wedi ei gynnal gan gefnogaeth Maelgwn, cwblhaodd Cyndeyrn yn ganmoladwy y gwaith a ddechreuasid, a, chan ddymuno cydsynio â deisyfiadau duwiol y brenin hwn, sefydlodd y fynachlog fel Esgobaeth gadeiriol o’r diwedd.31 Mae diwedd §7 yn dilyn yn agos bumed paragraff Buchedd Cyndeyrn §24. Hepgorir diwedd y pumed paragraff o VSAsaph.

§8

32 Tardda §8 bron air am air o baragraff cyntaf Buchedd Cyndeyrn §25, ond gyda llawer o hepgoriadau. 33 Yn y llawysgrif mae nod tebyg i T fawr yma, a all ddynodi dechrau paragraff newydd. Pan oedd buchedd ogoneddus yr esgob gogoneddus a’r gymuned grefyddol wedi dod yn enwog, daeth gwŷr Duw, hen ddynion gyda rhai ifanc, cyfoethogion a thlodion, ynghyd mewn torfeydd i ddwyn iau Duw. O ddydd i ddydd, helaethid y llu sanctaidd hwn mewn nifer a theilyngdod, i’r fath raddau nes yr estynnwyd nifer y milwyr i Dduw dan hyfforddiant Cyndeyrn Sant i 965, yn proffesu’r fuchedd a’r wisg fynachaidd, y cewch hyd i’w gwasanaethau – dymunol i Dduw, canmoladwy ar lawer cyfrif – wedi’u hysgrifennu’n llawnach yn llyfr Buchedd y bendigedig Gyndeyrn.34 Mae’n wir fod manylion pellach helaeth am arferion mynachlog Cyndeyrn i’w cael ym Muchedd Cyndeyrn (§25). Yn fwyaf trawiadol, disgrifir yno’r wyrth a gyflawnodd Asa pan oedd yn fachgen (sef cario gloÿnnod poethion at Gyndeyrn heb gael ei losgi); hepgorwyd y stori hon o VSAsaph, efallai am fod bwriad i’w chynnwys gyda’r deunydd coll arall am Asa ar ddiwedd y Fuchedd.

§9

35 Yma, hepgorir tair pennod a geir ym Muchedd Cyndeyrn, ac ailymuna VSAsaph â Buchedd Cyndeyrn yn ail baragraff pennod 30. Nid yw §9 yn dilyn Jocelin yn agos nes cyrraedd araith yr angel, a honno’n tarddu bron air yn air o’r araith hwy ym Muchedd Cyndeyrn (§30). Ym Muchedd Cyndeyrn (§30), y brenin Rederech sy’n gwahodd Cyndeyrn yn gyntaf i ddychwelyd i Glasgow. Ar ôl gollwng dagrau a phenlinio, diolchodd y bendigedig Gyndeyrn i’r Hollalluog Dduw, am y rheswm hwnnw ei fod, ar ôl erledigaethau brenhinoedd, tywysogion, a gormeswyr, ar ôl arferion ffals paganiaid yn cyfeiliorni’n feius, wedi troi’n waredigaethol at gymorth y gwir Dduw. Ar ôl amryw archollion, sarhadau, a thrafaelion, tros gwblhad y fynachlog a thros hyfforddiant gwaredigaethol ac ufuddhad mynachaidd y llu sanctaidd rhagddywededig, cyrhaeddodd yn llawen dangnefedd a thawelwch y corff a’r meddwl. A chan ollwng dagrau’n hidl,36 Ym Muchedd Cyndeyrn (§30) lleolir y disgrifiad o’r sant yn wylofain yn hidl ar ôl araith yr angel, ond yma fe’i symudwyd fel ei fod o flaen yr araith. gweddïodd yn daer iawn ar Dduw, y câi derfynu diwrnod olaf ei henaint yn yr un fynachlog honno, gan ddweud, ‘Gweddïaf arnat, ’Nhad, y cawn derfynu diwrnod olaf fy henaint yma, ac y gellid claddu fy esgyrn ym mherfedd fy mameglwys37 Ar gyfieithiad mater yma, gw. DMLBS s.v. 2 mater 3. o fewn golwg fy mrodyr.’ Ar ôl i’r weddi hon gael ei lleisio, atseiniodd llais angylaidd yn ei glustiau, ‘Dos yn ôl i Glasgow i’th eglwys. Yno y byddi di’n genedl fawr38 Cf. Genesis 12.2, 18.18, 21.13, 21.18. ac y bydd yr Arglwydd yn peri i chi dyfu ymhlith ei bobl ef. Byddi di’n ennill cenedl sanctaidd a phobl ddetholedig ddi-rif39 gentem sanctam et innumerabilem populum adquisicionis (cenedl sanctaidd a pobl ddetholedig ddi-rif). Cf. 1 Pedr 2.9 (gens sancta, populus adquisitionis). i’r Arglwydd dy Dduw, gan aros derbyn coron dragwyddol ganddo’n fuan. Canys yno mewn henaint teg y byddi di’n diweddu dy ddyddiau a chroesi o’r byd hwn at dy Dad sydd yn y nefoedd.’ Ar ôl clywed hyn, wylodd sant Duw o wendid dynol, gan ddweud gyda chariad, ‘O Arglwydd, boed iddi gael ei chyflawni nad fel y mynnaf fi ond fel y mynni di.’40 O domine, non sicut ego volo fiat sed sicut tu vis. (O Arglwydd, boed iddi gael ei chyflawni nad fel y mynnaf fi ond fel y mynni di.) Cf. Math 26.39 (Verumtamen non sicut ego volo sed sicut tu). Mae’r araith hon yn wahanol i’r araith ym Muchedd Cyndeyrn (§30), ond yr un yw’r effaith.

§10

41 Mae hanner cyntaf §10 yn dilyn yn agos naw llinell gyntaf Buchedd Cyndeyrn §31, ond ymddengys fod yr ail hanner, o ‘Ecce, sanctissimi fratres et filii’ (‘Wele, frodyr a meibion sancteiddiaf’), yn annibynnol ar Jocelin, ac ni cheir ym mhennod 31 y cyfarwyddiadau manwl a roddir gan Gyndeyrn. Hepgorir y cyfeiriadau at Asa eto (ei gysegru’n esgob y tro hwn), efallai gyda’r bwriad o’u cynnwys mewn adran ddiweddarach a gollwyd erbyn hyn. Ac felly, pan oedd y diwrnod nesaf yn gwawrio, ar ôl galw ei ddisgyblion at ei gilydd, meddai, ‘Dywedaf wrthych mewn termau dynol, bobl anwylaf, y bûm yn ewyllysio, oherwydd gwendid fy nghnawd,42 Humanum dico vobis, karissimi, volui propter infirmitatem carnis mee (Dywedaf wrthych mewn termau dynol, bobl anwylaf, y bûm yn ewyllysio, oherwydd gwendid fy nghnawd). Cf. Rhufeiniaid 6.19 (humanum dico propter infirmitatem vestrae). am amser maith yn ystyried ac yn dymuno, y byddai’r hen lygaid hyn yn cael eu cau gennych chi, a’m hesgyrn yn cael eu claddu o flaen eich llygaid chi i gyd ym mherfedd mameglwys pawb. Ond am nad yw llwybr dyn o dan ei reolaeth, fe’m hanogwyd gan yr Arglwydd i ddychwelyd i’m heglwys yn Glasgow, ac ni ddylem na gwrth-ddweud ei ddymuniad, na beiddio nac ewyllysio gwneud hynny, na gwrthwynebu ei orchymyn sanctaidd. Wele, frodyr a meibion sancteiddiaf, ar ôl anfon yn gyntaf weddïau at Dduw, galwaf ynghyd eich brawdoliaeth gydag anogaeth dduwiol, ac yn enw Duw, nad oes dim sy’n uwch nag ef, deisyfaf yn daer arnoch i ddewis esgob43 Yn y Lladin ceir episcopum et antistitem, a’r ddau air yn golygu ‘esgob’. o’r lle hwn ac o blith eich llu sancteiddiaf. Yn nesaf erfyniaf arnoch gyda deisyfiad tebyg na ddylai’r un ohonoch, wrth ethol, na derbyn dyn na chyfeiliorni oddi wrth y gwir drwy unrhyw ffafr, cariad, nac arian, ond â chymaint duwioldeb a phurdeb cydwybod dilychwin, boed i chi ddewis yn enw’r Arglwydd yr un a fo wedi ei bennu gan gydsyniad cyffredin, yn union fel y daethant ag ef atoch i gael ei ethol, fel na châi cynnen anghytgordiol le yn eich plith i ddinistrio’r Esgobaeth sanctaidd hon, ac nad achosai grym eich urdd a gofal gwyliadwrus gythrwfl ffyrnig ychwaith wrth geisio penderfyniad teg. Pan fyddont, yn yr holl graddau sanctaidd a dirgelion eglwysig, o oed …44 Mae’r cyfieithiad yn ansicr am fod y frawddeg yn anghyflawn.

Collwyd y gweddill hyd y diwedd.45 Ychwanegwyd gan Robert Vaughan yn Saesneg (‘The rest to the end is lost’).

[Cyfieithiad Cymraeg gan Jenny Day]

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1 Dyfynnir y darn hwn o Gofal Bugeiliol Gregori Fawr. Cum dictator se ad loquendum preparat, sub quante cautele studio loquatur. Attendat ne, si obscure ad loquendum rapitur, erroris vulnere audiencium corda feriantur. Et cum fortasse sapientem se videri desiderat, virtutis compaginem insipienter abscidat. (‘Wrth i’r cyfansoddwr ymbaratoi at siarad, boed iddo siarad gan roi sylw dyfal i rybudd sylweddol. Boed iddo fod yn sylwgar rhag ofn, os rhuthrir i siarad yn aneglur, y trewir calonnau’r gwrandawyr gan glwyf cyfeiliornad. A phan ddymuna, o bosibl, gael ei ystyried yn ddoeth, gall dorri ymaith cymal rhinwedd.’). Cf. Gregorius Magnus, Regulae Pastoralis Liber, Rhan 2, pennod 4 (PL 77: 31): Sed cum rector se ad loquendum praeparat, sub quanto cautelae studio loquatur attendat, ne si inordinate ad loquendum rapitur, erroris vulnere audientium corda feriantur, et cum fortasse sapiens videri desiderat, unitatis compagem insipienter abscidat.

2 moderacionis sic tenes temperiem (‘fel hyn y cedwi gymedroldeb rheolaeth’). Cf. Fulgentius Ruspensis, Sermones, Sermo I, De Dispensatoribus Domini, pennod 1 (PL 65: 719): moderationis suae tenens ubique temperiem.

3 Tardda’r darn hwn (o ‘Totum igitur studium’ ‘Ac felly holl fwriad’ ymlaen) o ddiwedd rhagymadrodd Buchedd Cyndeyrn (Kentigern), gan Jocelin. Mae’r frawddeg yn anoddach yma nag ym Muchedd Jocelin oherwydd talfyrru; nid yw mor glir yma at beth y cyfeirir yn yr ymadrodd ‘a neutro’ ‘â’r naill na’r llall’.

4 Mae’n eglur fod VSAsaph yn dilyn Buchedd Cyndeyrn Jocelin yma. Dilynir y stori yn agos, ond dim ond o ddiwedd §3 ymlaen y daw benthyciadau gair-am-air yn amlwg.

5 Mae’r Brenin Morken yn gwrthdaro â Chyndeyrn yn yr un modd ym Muchedd Cyndeyrn. Yno mae’n trengi cyn y rhan hon o’r hanes a’i dylwyth sy’n ceisio lladd Cyndeyrn, a’r sant yn penderfynu gadael o ganlyniad (Forbes 1874: 72–3, 198–9). Awgryma Bartrum y gellir uniaethu Morken â Morgan Fwlch neu Forgan Mawr ap Sadyrnin (WCD 485–6). Mae hwn yn achos prin o gadw orgraff Buchedd Cyndeyrn.

6 Cyfeirir yn ôl pob tebyg at Sawyl Benuchel, pennaeth sy’n gwrthdaro â Chadog Sant yn VSCadoci §16 (WCD 581).

7 Gadawodd Robert Vaughan le ar gyfer tua dau air yma.

8 Gadawodd Robert Vaughan le ar gyfer tua dau air yma.

9 Yn y llawysgrif ceir ‘mutue karitatis’, yr ymddengys iddo olygu ‘am gariad cilyddol’, ond y mae’n anodd ei ddeall am fod y rhan hon o’r testun mor ddarniog. Nid yw arwyddocâd y dileu yn amlwg ychwaith, am nad yw ‘karita’ yn air. Gall mai ‘karitas’ a fwriedid. Ar ôl hyn, gadawodd Robert Vaughan le am tua thri neu bedwar gair.

10 Mae’r cyfieithiad yn rhannol ddamcaniaethol yma am fod dechrau’r frawddeg hon ar goll. Y frawddeg hon yw’r achos cyntaf yn VSAsaph o fenthyciad uniongyrchol iawn o Fuchedd Cyndeyrn (§ 23), lle ceir y darlleniad ‘Cumque Sanctus Kentegernus ibidem aliquantisper commoraretur, fama de illo fulgurans per ora plurimorum et aures discurrebat’ (‘A phan oedd Cyndeyrn Sant wedi trigo yno am beth amser, rhedai’r clod amdano, gan ddisgleirio, drwy glustiau a genau’r lliaws’ (Forbes 1874: 75, 201)). Mae’r llinellau blaenorol yn wahanol yn y ddwy fuchedd, ac mae’n eglur fod y frawddeg ei hun yn wahanol pan oedd yn gyflawn, ac felly, ni ellir adfer y frawddeg yn VSAsaph ar sail darlleniad Buchedd Cyndeyrn.

11 Ychwanegwyd, yn Saesneg (‘Here wanted two great leaves’), gan Robert Vaughan i dynnu sylw at y deunydd a gollwyd o Lyfr Coch Asaph. Mae’n syndod, wrth gymharu â Buchedd Cyndeyrn, cyn lleied o ddeunydd a hepgorwyd o VSAsaph; cynrychiolir yn VSAsaph bron popeth a geir yng ngweddill Buchedd Cyndeyrn § 23. Mae’n rhaid fod y dalennau coll yn cynnwys deunydd a oedd naill ai’n annibynnol ar Fuchedd Jocelin neu wedi ei symud o ran arall ohoni.

12 Mae’n aneglur ai dechrau brawddeg oedd hyn yn wreiddiol, am fod deunydd wedi’i golli o’i flaen. Yn y llawysgrif ceir ‘Cum’, wedi ei ddileu, ar ddechrau’r adran hon, a gall hyn awgrymu bod cystrawen y darn wedi ei newid fel y gall sefyll ar ei ben ei hun fel prif gymal.

13 O’r cyd-destun, mae’n rhaid fod hyn yn cyfeirio at y Brenin Caswallon, a grybwyllir isod. Fe’i gelwir yn Frenin Cathwallain ym Muchedd Cyndeyrn §23, a’r un yw ei rôl yn yr hanes yno. Gelwir nifer o lywodraethwyr Cymreig chwedlonol yn Gadwallon neu Gaswallon, yn ogystal â’r Cassivellaunus hanesyddol a fu farw c. 47 CC ac a gafodd ail ‘fywyd’ fel Caswallon ap Beli mewn testunau Cymraeg canoloesol (WCD 81–4, 108–9). Nodwch fod yr orgraff wedi ei newid yn VSAsaph i’r ffurf Gymraeg Canol Caswallawn.

14 Benedictus Kentegernus, qui uenit in nomine domini, et benedictum nomen sanctitatis eius in secula. (Bendigedig yw Cyndeyrn sydd wedi dod yn enw’r Arglwydd a bendigedig yw enwogrwydd ei sancteiddrwydd am byth). Cf. Math 21.9 (Benedictus qui venturus est in nomine Domini) a Salmau 71.19 (Fwlgat; diweddar 72.19) (et benedictum nomen maiestatis eius in aeternum).

15 O’r fan yma hyd at ddiwedd §4 gwelir eto fenthyca gair-am-air oddi wrth Fuchedd Cyndeyrn (§23); daw’r benthyca’n fwy cyffredin o’r adran hon ymlaen. Darlleniad Buchedd Cyndeyrn yw ‘“Terra mea in conspectu tuo est, ubicumque animo tuo sederit, et bonum videatur oculis tuis, mansionis tue construe habitaculum, edifica monasterium. At tamen, ut mihi videtur, ad hoc opus locum omnibus aptiorem vocabulo Nautcharvan tibi designo, quia isdem situs omnibus habundat necessariis propositio tuo.” Vir Domini Regi gratias multiplices egit.’ (‘“Y mae fy nhir o fewn dy olwg: pa le bynnag a fo’n ddymunol i’th fryd, ac a ymddangoser yn dda i’th lygaid, coda yno annedd dy breswylfa, adeilada yno dy fynachlog. Eto i gyd, am ei bod yn ymddangos i fi ei fod yn fwy addas i ti nag unman arall, pennaf i ti le, Nautcharvan, am ei fod yn llawn o bopeth sy’n addas i’th fenter.” Talodd gŵr Duw liaws diolchiadau i’r brenin’) (Forbes 1874: 75, 201). Nodwch fod y cyfeiriad at Lancarfan wedi’i hepgor. At hynny, mae VSAsaph yn hepgor brawddegau olaf §23 a dechrau §24, sy’n cyfeirio at ymadawiad Cyndeyrn â Dewi Sant.

16 Tardda bron y cyfan o §5 yn uniongyrchol o ddau baragraff cyntaf Buchedd Cyndeyrn §24. Yn ogystal â hepgor tair llinell gyntaf y bennod, ac amryw newidiadau bychain, y mae ychydig o newidiadau mwy sylweddol a drafodir isod yn y mannau perthnasol.

17 Gelwir Duw yn Dduw Jacob sawl gwaith yn y Beibl, yn fynychaf yn y Salmau. Roedd Jacob yn un o batriarchiaid yr Hen Destament; ceir ei hanes yn Genesis 25–50.

18 Ceir yma sermosinaruntur yn hytrach na’r sermocinaruntur disgwyliedig.

19 Yma hepgorir brawddeg o Fuchedd Cyndeyrn (§24) sy’n disgrifio Cyndeyrn a’i ddilynwyr yn rhyfeddu at y baedd ac yn ei ddilyn.

20 Mae’n bosibl fod grauiendo’r llawysgrif yn wall am grauiando neu grunniendo (darlleniad Buchedd Cyndeyrn).

21 Mae’r disgrifiad o ddiflaniad y baedd yn llawer byrrach ac wedi ei symud yma o’i leoliad ar ôl gosod y pebyll ym Muchedd Cyndeyrn (§24).

22 Mae’r Elwy yn afon yng Nghonwy a Sir Ddinbych sy’n llifo trwy Lanelwy, ger y gadeirlan, cyn uno ag afon Clwyd nid nepell i’r gogledd.

23 Llanelwy yw enw Cymraeg y ddinas a elwir yn St Asaph yn Saesneg. Ychwanegwyd enw Cymraeg y gadeirlan yn VSAsaph, a’r newidiadau, o’u cymharu â Buchedd Cyndeyrn, yn dangos safbwynt gwahanol y bucheddwr. Darlleniad Buchedd Cyndeyrn (§24) yw: ‘Est autem locus super ripam fluminis constitutus quod Elgu vocatur, a quo hodie ut dicitur pagus nomen sortitur.’ (‘’Nawr lleolir y safle ar lan afon a elwir yn Elgu, ac ohoni hi, ys dywedir, y caiff y dref ei henw hyd heddiw.’) (Forbes 1874: 76, 202).

24 Tardda §6 yn bennaf o drydydd a phedwerydd paragraffau Buchedd Cyndeyrn (§24), er na ddilynwyd y testun hwnnw mor agos ag yn §5. Ni cheir yma y ddwy linell a hanner ar ddechrau paragraff 3.

25 Hepgorwyd yma tua chwe llinell o Fuchedd Cyndeyrn (§24), sy’n ymhelaethu ar yr ymdyrru i fynachlog Cyndeyrn.

26 Cyfeiria ‘dull y Brythoniaid’ yma at adeiladu’r eglwys o goed. Cynigir esboniad gwahanol ym Muchedd Cyndeyrn (§24): ‘quidam compaginantes, more Britonum ecclesiam, et ceteras officinas, de lignis levigatis sicut pater metiendo disposuerat edificare jam inchoabant; quum de lapide construere nondum poterant, nec usum habebant.’ (‘eraill yn saernïo, a ddechreuodd, fel yr oedd y tad wedi mesur a marcio ar eu cyfer, godi eglwys a’i hadeiladau o goed llyfn, yn null y Brythoniaid, am na allent adeiladu eto â meini ac nid oeddynt yn arfer gwneud.’ (Forbes 1874: 77, 203).

27 Crybwyllir Maelgwn Gwynedd yn aml ym Mucheddau’r seintiau Cymreig, ac yn aml, fel yma, y mae’n gwrthdaro â’r seintiau gan edifaru wedyn (WCD 438–442). Ym Muchedd Cyndeyrn §24, enw’r brenin yw Melconde Galganu, ond defnyddir y ffurf Gymraeg Maelgwn yma. Crybwyllir Maelgwn yn Siartr Cyndeyrn yn LlGC SA/MB/22 hefyd, ac yma fe’i dallir gan Dduw yn yr un modd, a’i olwg yn cael ei adfer trwy gymorth Cyndeyrn, ac o ganlyniad mae’n gwaddoli mynachlog Cyndeyrn.

28 Ceir yn §7 ddeunydd sy’n tarddu o bedwerydd a phumed paragraffau Buchedd Cyndeyrn (§24), gyda rhywfaint o gopïo uniongyrchol ond cryn dipyn o aralleirio hefyd.

29 Ceir etcetera yn lle’r et filii et spiritus sancti disgwyliedig (nad oes dim sy’n cyfateb yn union iddo ym Muchedd Cyndeyrn §24).

30 Tardda hyn o’r ymadrodd ‘de vetere Saulo novum Paulum faciens’ (‘yn creu’r Pawl newydd o’r hen Sawl’) (Forbes 1874: 78, 204) ym Muchedd Cyndeyrn §24. Gelwid yr Apostol Pawl yn Sawl hefyd, a daeth y ddau enw gwahanol hyn yn gysylltiedig â thröedigaeth enwog Pawl ar y ffordd i Damascus, a Sawl yn cynrychioli’r pechadur a drawsnewidiwyd yn Bawl, y Cristion newydd.

31 Mae diwedd §7 yn dilyn yn agos bumed paragraff Buchedd Cyndeyrn §24. Hepgorir diwedd y pumed paragraff o VSAsaph.

32 Tardda §8 bron air am air o baragraff cyntaf Buchedd Cyndeyrn §25, ond gyda llawer o hepgoriadau.

33 Yn y llawysgrif mae nod tebyg i T fawr yma, a all ddynodi dechrau paragraff newydd.

34 Mae’n wir fod manylion pellach helaeth am arferion mynachlog Cyndeyrn i’w cael ym Muchedd Cyndeyrn (§25). Yn fwyaf trawiadol, disgrifir yno’r wyrth a gyflawnodd Asa pan oedd yn fachgen (sef cario gloÿnnod poethion at Gyndeyrn heb gael ei losgi); hepgorwyd y stori hon o VSAsaph, efallai am fod bwriad i’w chynnwys gyda’r deunydd coll arall am Asa ar ddiwedd y Fuchedd.

35 Yma, hepgorir tair pennod a geir ym Muchedd Cyndeyrn, ac ailymuna VSAsaph â Buchedd Cyndeyrn yn ail baragraff pennod 30. Nid yw §9 yn dilyn Jocelin yn agos nes cyrraedd araith yr angel, a honno’n tarddu bron air yn air o’r araith hwy ym Muchedd Cyndeyrn (§30). Ym Muchedd Cyndeyrn (§30), y brenin Rederech sy’n gwahodd Cyndeyrn yn gyntaf i ddychwelyd i Glasgow.

36 Ym Muchedd Cyndeyrn (§30) lleolir y disgrifiad o’r sant yn wylofain yn hidl ar ôl araith yr angel, ond yma fe’i symudwyd fel ei fod o flaen yr araith.

37 Ar gyfieithiad mater yma, gw. DMLBS s.v. 2 mater 3.

38 Cf. Genesis 12.2, 18.18, 21.13, 21.18.

39 gentem sanctam et innumerabilem populum adquisicionis (cenedl sanctaidd a pobl ddetholedig ddi-rif). Cf. 1 Pedr 2.9 (gens sancta, populus adquisitionis).

40 O domine, non sicut ego volo fiat sed sicut tu vis. (O Arglwydd, boed iddi gael ei chyflawni nad fel y mynnaf fi ond fel y mynni di.) Cf. Math 26.39 (Verumtamen non sicut ego volo sed sicut tu). Mae’r araith hon yn wahanol i’r araith ym Muchedd Cyndeyrn (§30), ond yr un yw’r effaith.

41 Mae hanner cyntaf §10 yn dilyn yn agos naw llinell gyntaf Buchedd Cyndeyrn §31, ond ymddengys fod yr ail hanner, o ‘Ecce, sanctissimi fratres et filii’ (‘Wele, frodyr a meibion sancteiddiaf’), yn annibynnol ar Jocelin, ac ni cheir ym mhennod 31 y cyfarwyddiadau manwl a roddir gan Gyndeyrn. Hepgorir y cyfeiriadau at Asa eto (ei gysegru’n esgob y tro hwn), efallai gyda’r bwriad o’u cynnwys mewn adran ddiweddarach a gollwyd erbyn hyn.

42 Humanum dico vobis, karissimi, volui propter infirmitatem carnis mee (Dywedaf wrthych mewn termau dynol, bobl anwylaf, y bûm yn ewyllysio, oherwydd gwendid fy nghnawd). Cf. Rhufeiniaid 6.19 (humanum dico propter infirmitatem vestrae).

43 Yn y Lladin ceir episcopum et antistitem, a’r ddau air yn golygu ‘esgob’.

44 Mae’r cyfieithiad yn ansicr am fod y frawddeg yn anghyflawn.

45 Ychwanegwyd gan Robert Vaughan yn Saesneg (‘The rest to the end is lost’).

1 Assauensis Assauens llsgr.

2 consecrata consecrata et solo llsgr.

3 fabricationis fabricantis llsgr.

4 consecrationis consecratis llsgr.

5 dictamine dictamine contrahentur llsgr.

6 ueritati ueritat llsgr.

7 Gadawodd Robert Vaughan nifer o fylchau yma ar gyfer geiriau a oedd ar goll neu’n annarllenadwy yn ei gynsail.

8 karitatis karitatis llsgr.

9 Illustrissimus Cum illustrissimus llsgr.

10 deuocione douocione llsgr.

11 receptus receptus recep llsgr.

12 ecce ecclesie llsgr. (ecce gyda nod talfyrru)

13 apruta obruta llsgr. (apruta VSK)

14 premente premo llsgr.

15 Caswallon Caswallawon llsgr.

16 gratia gratiam llsgr.

17 Paulus Paulaus llsgr.

18 amminiculo amuniculo llsgr. (amminiculo VSK)

19 milicancium humilitancium llsgr. (militantium VSK)

20 inuenietis inuenientis llsgr.

21 adiucionem agiucionem llsgr.

22 innumerabilem in nuerabilem llsgr.

23 contraire contraire tercia llsgr.

24 sicut Setui llsgr.