Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

17. Buchedd Luc

golygwyd gan Alaw Mai Edwards

Rhagymadrodd

Hanes yr efengylydd a’r sant Luc a geir yn y fuchedd hon. Cristion oedd yn byw yn ystod y ganrif gyntaf OC oedd Luc ac roedd yn un o’r pedwar efengylydd a gofnododd hanes Crist yn y Testament Newydd. Priodolir ‘Yr Efengyl yn ôl Luc’ ac ‘Actau’r Apostolion’ iddo (ymhellach gw. ODCC3 1010–11).

Buchedd fer iawn yw’r fuchedd Gymraeg. Rhydd yr awdur y ffeithiau amlycaf amdano, sef ei fod yn feddyg (2, 4), yn gyfaill ac yn ddisgybl i Paul yr Apostol (1–3) a bod ganddo gysylltiadau ag Antioch yn Syria (gw. 7n). Pwysleisir ei barodrwydd i gynghori ac i ddwyn perswâd ar y rhai hynny nad oeddynt yn dilyn y ffydd Gatholig, a gelwir ef yn feddygyn yr ystyr ysbrydol hefyd (7). Yn rhan olaf y fuchedd dywedir na fu farw’n ferthyr ond megis be i bai ef yn kysgu(10–11), a’i gladdu mewn lle o’r enw Bethania. Yn ddiweddarach, fe ymddengys, cludwyd ei gorff i Gonstantinobl (12). Yr wybodaeth hon sydd fwyaf diddorol am y fuchedd gan fod mwy nag un traddodiad yn bodoli am farwolaeth a chladdedigaeth Luc (gw. 11n).

Wrth gymharu’r fersiwn hon â fersiynau mewn gweithiau hagiograffyddol eraill, gwelir ei bod hi’n fyr ac yn gryno iawn ac yn ymddangos fel fersiwn talfyredig o hanes y sant. Ni sonnir am darddiad ei enw, am y ffaith ei fod yn arlunydd, nac am y symbol traddodiadol a gysylltir ag ef, sef yr ych (er bod y beirdd yn gyfarwydd â’r traddodiadau hyn, gw. GLGC cerdd 4 a GMD ii, cerdd 14). Darlunnid ef gyda’r ych mewn delweddau gweledol o’r Oesoedd Canol; ceir y gynharaf gyda chyswllt Cymreig yn Llyfr Sant Chad, c.730 (Lord 2003: 27). Oherwydd ei ddawn fel meddyg, daeth yn nawddsant i feddygon. Daeth hefyd yn nawddsant i arlunwyr ar sail traddodiad ei fod wedi paentio o leiaf un llun o’r Forwyn Fair. Yn ei gywydd i’r creiriau o Rufain dywed Llywelyn ap Hywel ab Ieuan ap Gronw iddo weld llun o’r Forwyn Fair yn dal Iesu A wnaeth Luc unwaith â’i law yn Eglwys Fair, sef Santa Maria Maggiore yn Rhufain (Cartwright 2008: 56; Scourfield 1993:45 [12.56]). Ceir traddodiad hefyd mai ef a luniodd y ddelw wreiddiol o’r Forwyn Ddu yn Montserrat, Catalonia. Dethlir ei ŵyl ar 18 Hydref.