Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

16. Moliant i’r Seintiau

golygwyd gan Eurig Salisbury

Moliant i Dduw a’r seintiau ac i Robert Dwli, esgob Tyddewi, gan Huw Cae Llwyd. Dyddiad 1460‒82.

Rhoes Duw wared i’n gwledydd:
Rhai da saint yn rhodio sydd,
Llais brodyr, llu ysbrydol,
Llawenhawn bob llu ’n eu hôl.
5Pond doniog pan y’n tynnen’
Saint o’i rhwym, y seintwar1 o’i rhwym, y seintwar Cyfeiria’r rhagenw ’i at y seintwar. hen?
Rhwym sentes2 sentes Dilynir GSDT 6.30 Gyffes, mewn sentes y sai’ a tt. 139–40, ‘Deellir yma sentes “dedfryd” … er mwyn y gynghanedd defnyddiwyd ffurf amrywiol ar sentens a fyddai’n odli â gyffes.’ Tebyg bod yr un peth wedi digwydd yma, gyda sentes yn cwblhau’r odl yn y gynghanedd lusg, er nas nodir fel ffurf amrywiol yn GPC Ar Lein d.g. sentens. Ar arwyddocâd posibl y gair yma yng nghyd-destun ehangach y gerdd, gw. y nodyn cefndir. drwy’r dinesydd,
Weithion y rhwym aeth yn rhydd.3 Weithion y rhwym aeth yn rhydd Gw. llau. 11–12n.
Oes un wlad na roeson’ lw
10Gwedy hyn heb gadw hwnnw?
Gwedy’n rhoi i⁠1 i Nis ceir yn y llawysgrif, yn ôl pob tebyg yn sgil cywasgu rhoi i yn unsill. gyd yn y rhwyd,
Gloyw o’n perigl4 perigl Ffurf ar perygl, gw. GPC Ar Lein d.g. y’n purwyd.5 Llau. 11–12. Cf. Salmau 66.10–12 ‘buost yn ein profi, O Dduw … Dygaist ni i’r rhwyd, rhoist rwymau amdanom … ond dygaist ni allan i ryddid.’
Troi ac eiriol trugaredd
Y mae’r byw a’r marw o’r bedd.
15Saint y wlad a roesant lef,
Saint Enlli⁠6 saint Enlli Credid bod ugain mil o saint wedi eu claddu ar yr ynys fechan ym mhen pellaf penrhyn Llŷn. sy hwnt unllef.
Rhoddes yr uchel Geli
Rhodd o nef i’n rhyddhau ni.
Aeth Dewi7 Dewi Ar y nawddsant, gw. BDewi (Rhagymadrodd).’n tad, prelad prudd,
20Ataw, Rhobert,8 Rhobert Rhobert Dwli, esgob Tyddewi 1460–81, gw. y nodyn cefndir. â rhybudd,9 rhybudd Ar arwyddocâd posibl y gair hwn, gw. y nodyn cefndir.
Gŵr o gnawd y Gŵr10 y Gŵr Crist. a’i gwnaeth
A roes gwbl i’r esgobaeth.11 [y]r esgobaeth Esgobaeth Tyddewi, gw. y nodyn cefndir.
Ni bu fyth ei wyneb fo
Heb wên deg i’n bendigo;
25Ni bu wlad hyd na bai les
Rag uffern roi y gyffes.⁠2 Rag uffern roi y gyffes Noder bod y defnydd o R ac rr i ddynodi rh yn orgraff y llawysgrif yn gyson iawn (gw. yn y trawsysgrifiad lau. 1, 6, 7, 8, 11, 17, 18, 20, 56; gthg. ll. 2), ac fe’i dilynir yn achos y ll. hon, rac vffern roi y gyffes.
Yr oeddem wedy’i weddi⁠3 wedy’i weddi Y tebyg yw fod i yn ddealledig yn narlleniad y llawysgrif, wedy ỽeddi, ond gellid hefyd wedy’r weddi, gan gwblhau’r gyfatebiaeth gytseiniol. Fodd bynnag, bernir bod r wreiddgoll ar ddechrau’r ll.
Yn gweled nef i’n gwlad ni.

Gyrrodd gynt, graddau a gaid,
30Gŵr12 gŵr Lludd, gw. ll. 30n Cornaniaid. o’n ynys Gornaniaid.13 Cornaniaid Ffurf unigryw ar Coraniaid, sef y gyntaf o dair gormes a ddaeth i Brydain yn ôl chwedl ‘Cyfranc Lludd a Llefelys’ a Thrioedd Ynys Prydain, gw. Williams 1910: xi–xiv; CLlLl2 xxxii–xxxiii; TYP 92–3; cf. GLM LXXI.29–32. Llwyddodd Lludd i drechu’r Coraniaid, a fedrai glywed pob gair a leferid yn yr awyr agored, drwy gyngor ei frawd, Llefelys, a luniodd gorn hud i’w galluogi i gynllwynio’n breifat yn erbyn yr estroniaid. Ceid cythraul yn y corn, ond fe’i golchwyd ymaith gan win Llefelys, gw. CLlLl2 3–4. Gall mai’r rhan hon o’r stori ynghylch y corn hud a barodd y ffurf uchod, ond cf. y fersiwn o’r chwedl a geir yng Nghronicl Ellis Gruffudd, ibid. 17–20 Koronaniaid.
Dŵr glân14 dŵr glân ‘Dŵr sanctaidd’, cf. GLM LXXII.39 (ni cheir y cyfuniad yn GPC). Ac ystyried bod pryfed wedi eu malu yn y dŵr a ddefnyddir yn chwedl ‘Cyfranc Lludd a Llefelys’ er mwyn gwared yr ynys o’r Coraniaid (gw. CLlLl2 3), gellid dŵr glan ‘merddwr’, er nas ceir yn GPC (awgryma orgraff y llawysgrif, glan, mai glân a fwriedid). fu driagl yna
Dros dai’r doeth, dros dir a da.15 Llau. 31–2. Er mwyn gwared Prydain o ormes y Coraniaid, cynghorodd Llefelys i’w frawd, Lludd, grynhoi holl drigolion Prydain a phobl y Coraniaid ynghyd mewn un man a thaenu dŵr arbennig dros bawb, gw. CLlLl2 3–4. Yr un hanes a geir yma, yn ei hanfod, eithr bod Huw Cae Llwyd yn sôn yn benodol am daenu dŵr dros dai a thros dir a da, tra bod testun y chwedl yn sôn am vwrw [dŵr] ar pawp yn gyfredin.
Gyrrwn ninnau⁠4 Gyrrwn ninnau Diwygir darlleniad y llawysgrif, Gyrrwn Innav. Gellid y ffurf amherffaith unigol yma, ac felly hefyd yn ll. 42, ond mwy synhwyrol yw dilyn y ffurfiau lluosog yn llau. 34, 36 a 40. Tebyg mai camrannu llythrennau a geir yn y llawysgrif. Gornaniaid
A gwall o’n plith, gwell yw’n plaid;
35Dygwn lle mae yn gaead
Dŵr swyn16 dŵr swyn ‘Dŵr sanctaidd’, gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. dŵr. i gloi drysau’n gwlad.
Delwau a’r llu’n eu dilyn,
Manerau saint – mae’n ras hyn.
At faner sant o Fynyw⁠17 Mynyw Yr enw Cymraeg arferol ar Dyddewi yn yr Oesoedd Canol.
40Mae pwys18 pwys Cf. GG.net 27.52 Mae pwys holl Bowys lle bych. ein tir, mabsant yw.19 Mae pwys ein tir, mabsant yw Caledir -b- gan -s- yn mabsant er mwyn cwblhau’r gyfatebiaeth gytseiniol, gw. CD 211–12.
Llu du a bellha Dewi,20 Dewi Gw. ll. 19n.
A llu gwyn oll a gawn ni.⁠5 a gawn ni Diwygir darlleniad y llawysgrif, a gawn i, yn unol â’r hyn a ddadleuir yn ll. 33n.
Un mabsant o’r cant nis caid
Heb eu tynnu’n gapteniaid:21 Heb eu tynnu’n gapteniaid Meddalir -p- gan -t- yn gapteniaid er mwyn cwblhau’r gyfatebiaeth gytseiniol, gw. CD 212–13.
45Torch Gynog,22 torch Gynog Prif grair Cynog, sant enwocaf Brycheiniog, oedd ei dorch ryfeddol. Fe’i cedwid ym Merthyr Cynog, a gwelodd Gerallt Gymro hi yno ar ei daith o amgylch Cymru yn 1188. Deil Hywel Dafi a Dafydd Epynt mai rhodd ydoedd o’r nefoedd. Y tebyg yw i’r dorch gael ei dinistrio yn ystod y Diwygiad. Ymhellach, gw. MWPSS cerddi 14 ac 15. trycha gynnen,23 Torch Gynog, trycha gynnen Cf. Hywel Dafi mewn cywydd i Gynog, MWPSS 14.39–40 Torch o nef, trychu a wnaeth / Trwy filaen, twrf o alaeth.
Tor y sis,24 tor y sis Bernir bod y geiriau hyn yn ffurfio is-gymal, a bod gweddill y frawddeg yn dilyn ymlaen o ddiwedd y ll. flaenorol. Nid ymddengys fod Tor y sis ar bob trais hen yn synhwyrol yn y cyd-destun hwn – nid wrth roi’r gorau i warchae ar y gelyn y’i trechir. Ar sis, ffurf ar sîj ‘gwarchae’, gw. GPC Ar Lein d.g. ar bob trais hen!
Cynydr25 Cynydr Ffurf ar Cynidr, nawddsant nifer o eglwysi ym Mrycheiniog. deg, hen awdur26 awdur Gw. GPC Ar Lein d.g. (b) ‘amddiffynnwr, noddwr’. da,
Cur elynion creulona’!
Gwisged ar a gred i’r Grog
50Guras y Mab trugarog.27 Llau. 49–50. Gw. llau. 53–6n. Gallai y mab fod yn gyfeiriad at Gynidr, ond mae’n fwy tebygol mai at Grist y cyfeirir, cf. ll. 60.
Cair ystondardd Crist wyndeg,
Cair ystâl,28 ystâl ‘Gorsedd’, ond mae ‘cwmni, mintai’ yn bosibl hefyd, gw. GPC Ar Lein d.g. stâl (a), (b). wrth bob croes deg.
Arfau Iesu ar feysydd
Yn gorfod sarffod y sydd;
55Moes, od awn i maes o dŷ,
Wisgo’r rhain os gwir hynny.29 Llau. 53–6. Gw. Eseia 59.17, ‘Gwisgodd [yr Arglwydd] gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; gwisgodd ddillad dialedd, a rhoi eiddigedd fel mantell amdano’; Effesiaid 6.13–17, ‘ymarfogwch â holl arfogaeth Duw … â gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron, a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed. Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharian ffydd … Derbyniwch iachawdwriaeth yn helm, a’r Ysbryd, sef gair Duw, yn gleddyf.’ Dwg y cyfeiriad at orfod sarffod i gof Luc 10.19, ‘Dyma fi wedi rhoi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac i drechu holl nerth y gelyn’, yn ogystal â stori’r sarff yng Ngardd Eden yn Genesis 3.
Os gadan’, mae’n wisgedig
Wisg Mair30 [g]wisg Mair Disgwylid wisg Fair, a dilyn yr arfer o dreiglo enw priod ar ôl enw benywaidd, gw. TC 107–8; cf. ll. 45 torch Gynog. Gall fod y gynghanedd gytsain yn drech na’r rheol yma, neu bod Huw Cae Llwyd yn ystyried gwisg yn enw gwrywaidd, gw. GPC Ar Lein d.g. dros Gymry a drig.
Gwall mawr ynn golli morwyn
60Y bu’r un Mab er ein mwyn.
Ni roes ynn siartr ar gartref
Ond Duw a’r saint o’i ras Ef.
O buon wers (ein bai ni⁠6 ein bai ni Nid yw orgraff y llawysgrif o gymorth wrth benderfynu ai ein ynteu i’n a geir yma, cf. llau. 18 Rodd o nef yn rryddhav ni, 60 vn mab er yn mwyn. Nid yw i’n bai ni yn amhosibl, ond bernir bod gwell ystyr yn narlleniad y golygiad.)
Dan gudd, a dyn yn gweiddi,
65Duw a stofed31 stofed Ffurf trydydd unigol orchmynnol ystofi, gw. GPC Ar Lein d.g. ystofaf1 (b). O ran yr ystyr, dilynir CO3 102, 199 ‘cynllunio, cynllwyno’ a GBF 301 ‘trefnu’. Ei stafell
Gyda ni – moes Ei gadw’n well!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhoddodd Duw waredigaeth i’n gwledydd:
rhai saint da sydd ar gerdded,
llais mynachod, llu ysbrydol,
llawenhawn, bob llu, ar eu hôl.
5Onid oedd yn ffodus pan dynnai
saint ni o’i rhwym, y seintwar hen?
Rhwym dedfryd drwy’r trefi,
aeth y rhwym bellach yn rhydd.
A oes unrhyw wlad na thyngodd [ei thrigolion] lw
10a pheidio â chadw hwnnw wedi hynny?
Wedi ein rhoi i gyd yn y rhwyd,
o’n perygl fe’n purwyd yn llwyr.
Troi [i’r ffydd] ac erfyn am drugaredd
mae’r byw a’r marw o’r bedd.
15Saint y wlad a roddodd lef,
saint Enlli acw sy’n llefain yr un fath.
Rhoddodd yr Arglwydd dyrchafedig
rodd o’r nef i’r rhyddhau ni.
Aeth Dewi ein tad, prelad doeth,
20ato, Rhobert, â rhybudd,
gŵr o’r un cnawd â’r Gŵr a’i creodd
a roddodd bopeth i’r esgobaeth.
Ni bu ei wyneb ef fyth
heb wên deg i’n bendithio;
25nid gwlad oedd hon tra nad oedd unrhyw les
mewn rhoi’r gyffes rhag uffern.
Wedi ei weddi roeddem
yn gweld nef yn ein gwlad ni.

Gyrrodd gŵr gynt, haeddiannau a gafwyd,
30Goraniaid o’n hynys.
Bu dŵr sanctaidd yn eli yn yr achos hwnnw
dros dai’r bobl ddoeth, dros dir a chyfoeth.
Gyrrwn ninnau Goraniaid
a thwyll o’n plith, ein llu sy’n well;
35dygwn lle mae’n orchudd
ddŵr sanctaidd i gloi drysau ein gwlad.
Delwau a’r llu yn eu dilyn,
banerau saint – dyma yw gras.
Mae pwysau ein tir y tu ôl i faner
40sant o Fynyw, mabsant yw.
Fe yrra Dewi lu du ymhell,
a llu hollol wyn a gawn ni.
Ni ellid cael un mabsant o’r dorf
heb eu gwneud yn gapteiniaid:
45torch Cynog, trywana gynnen
yn erbyn bob hen ormes, coda’r gwarchae!
Cynidr teg, hen amddiffynnwr da,
cura’r gelynion creulonaf!
Boed i’r sawl a gred yn y Grog
50wisgo curas y Mab trugarog.
Ceir baner Crist bendigaid a theg,
ceir gorsedd, wrth bob croes deg.
Mae arfau Iesu ar feysydd
yn gorchfygu seirff;
55os awn allan o dŷ, gadewch i ni
wisgo’r rhain os yw hynny’n wir.
Os caniatânt hynny, mae gwisg Mair
a bery dros Gymry yn weddus i’w gwisgo.
Methiant mawr i ni yw colli [cymorth] morwyn
60y bu [ohoni] yr un Mab er ein mwyn.
Ni roddodd neb i ni siartr ar dŷ
ond Duw a’r saint drwy Ei ras Ef.
Os buom am ysbaid (ein bai ni)
yn cuddio, a’r hil ddynol yn cwyno,
65boed i Dduw drefnu ei ystafell
gyda ni – boed iddo gael Ei barchu’n well!

1 o’i rhwym, y seintwar Cyfeiria’r rhagenw ’i at y seintwar.

2 sentes Dilynir GSDT 6.30 Gyffes, mewn sentes y sai’ a tt. 139–40, ‘Deellir yma sentes “dedfryd” … er mwyn y gynghanedd defnyddiwyd ffurf amrywiol ar sentens a fyddai’n odli â gyffes.’ Tebyg bod yr un peth wedi digwydd yma, gyda sentes yn cwblhau’r odl yn y gynghanedd lusg, er nas nodir fel ffurf amrywiol yn GPC Ar Lein d.g. sentens. Ar arwyddocâd posibl y gair yma yng nghyd-destun ehangach y gerdd, gw. y nodyn cefndir.

3 Weithion y rhwym aeth yn rhydd Gw. llau. 11–12n.

4 perigl Ffurf ar perygl, gw. GPC Ar Lein d.g.

5 Llau. 11–12. Cf. Salmau 66.10–12 ‘buost yn ein profi, O Dduw … Dygaist ni i’r rhwyd, rhoist rwymau amdanom … ond dygaist ni allan i ryddid.’

6 saint Enlli Credid bod ugain mil o saint wedi eu claddu ar yr ynys fechan ym mhen pellaf penrhyn Llŷn.

7 Dewi Ar y nawddsant, gw. BDewi (Rhagymadrodd).

8 Rhobert Rhobert Dwli, esgob Tyddewi 1460–81, gw. y nodyn cefndir.

9 rhybudd Ar arwyddocâd posibl y gair hwn, gw. y nodyn cefndir.

10 y Gŵr Crist.

11 [y]r esgobaeth Esgobaeth Tyddewi, gw. y nodyn cefndir.

12 gŵr Lludd, gw. ll. 30n Cornaniaid.

13 Cornaniaid Ffurf unigryw ar Coraniaid, sef y gyntaf o dair gormes a ddaeth i Brydain yn ôl chwedl ‘Cyfranc Lludd a Llefelys’ a Thrioedd Ynys Prydain, gw. Williams 1910: xi–xiv; CLlLl2 xxxii–xxxiii; TYP 92–3; cf. GLM LXXI.29–32. Llwyddodd Lludd i drechu’r Coraniaid, a fedrai glywed pob gair a leferid yn yr awyr agored, drwy gyngor ei frawd, Llefelys, a luniodd gorn hud i’w galluogi i gynllwynio’n breifat yn erbyn yr estroniaid. Ceid cythraul yn y corn, ond fe’i golchwyd ymaith gan win Llefelys, gw. CLlLl2 3–4. Gall mai’r rhan hon o’r stori ynghylch y corn hud a barodd y ffurf uchod, ond cf. y fersiwn o’r chwedl a geir yng Nghronicl Ellis Gruffudd, ibid. 17–20 Koronaniaid.

14 dŵr glân ‘Dŵr sanctaidd’, cf. GLM LXXII.39 (ni cheir y cyfuniad yn GPC). Ac ystyried bod pryfed wedi eu malu yn y dŵr a ddefnyddir yn chwedl ‘Cyfranc Lludd a Llefelys’ er mwyn gwared yr ynys o’r Coraniaid (gw. CLlLl2 3), gellid dŵr glan ‘merddwr’, er nas ceir yn GPC (awgryma orgraff y llawysgrif, glan, mai glân a fwriedid).

15 Llau. 31–2. Er mwyn gwared Prydain o ormes y Coraniaid, cynghorodd Llefelys i’w frawd, Lludd, grynhoi holl drigolion Prydain a phobl y Coraniaid ynghyd mewn un man a thaenu dŵr arbennig dros bawb, gw. CLlLl2 3–4. Yr un hanes a geir yma, yn ei hanfod, eithr bod Huw Cae Llwyd yn sôn yn benodol am daenu dŵr dros dai a thros dir a da, tra bod testun y chwedl yn sôn am vwrw [dŵr] ar pawp yn gyfredin.

16 dŵr swyn ‘Dŵr sanctaidd’, gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. dŵr.

17 Mynyw Yr enw Cymraeg arferol ar Dyddewi yn yr Oesoedd Canol.

18 pwys Cf. GG.net 27.52 Mae pwys holl Bowys lle bych.

19 Mae pwys ein tir, mabsant yw Caledir -b- gan -s- yn mabsant er mwyn cwblhau’r gyfatebiaeth gytseiniol, gw. CD 211–12.

20 Dewi Gw. ll. 19n.

21 Heb eu tynnu’n gapteniaid Meddalir -p- gan -t- yn gapteniaid er mwyn cwblhau’r gyfatebiaeth gytseiniol, gw. CD 212–13.

22 torch Gynog Prif grair Cynog, sant enwocaf Brycheiniog, oedd ei dorch ryfeddol. Fe’i cedwid ym Merthyr Cynog, a gwelodd Gerallt Gymro hi yno ar ei daith o amgylch Cymru yn 1188. Deil Hywel Dafi a Dafydd Epynt mai rhodd ydoedd o’r nefoedd. Y tebyg yw i’r dorch gael ei dinistrio yn ystod y Diwygiad. Ymhellach, gw. MWPSS cerddi 14 ac 15.

23 Torch Gynog, trycha gynnen Cf. Hywel Dafi mewn cywydd i Gynog, MWPSS 14.39–40 Torch o nef, trychu a wnaeth / Trwy filaen, twrf o alaeth.

24 tor y sis Bernir bod y geiriau hyn yn ffurfio is-gymal, a bod gweddill y frawddeg yn dilyn ymlaen o ddiwedd y ll. flaenorol. Nid ymddengys fod Tor y sis ar bob trais hen yn synhwyrol yn y cyd-destun hwn – nid wrth roi’r gorau i warchae ar y gelyn y’i trechir. Ar sis, ffurf ar sîj ‘gwarchae’, gw. GPC Ar Lein d.g.

25 Cynydr Ffurf ar Cynidr, nawddsant nifer o eglwysi ym Mrycheiniog.

26 awdur Gw. GPC Ar Lein d.g. (b) ‘amddiffynnwr, noddwr’.

27 Llau. 49–50. Gw. llau. 53–6n. Gallai y mab fod yn gyfeiriad at Gynidr, ond mae’n fwy tebygol mai at Grist y cyfeirir, cf. ll. 60.

28 ystâl ‘Gorsedd’, ond mae ‘cwmni, mintai’ yn bosibl hefyd, gw. GPC Ar Lein d.g. stâl (a), (b).

29 Llau. 53–6. Gw. Eseia 59.17, ‘Gwisgodd [yr Arglwydd] gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; gwisgodd ddillad dialedd, a rhoi eiddigedd fel mantell amdano’; Effesiaid 6.13–17, ‘ymarfogwch â holl arfogaeth Duw … â gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron, a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed. Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharian ffydd … Derbyniwch iachawdwriaeth yn helm, a’r Ysbryd, sef gair Duw, yn gleddyf.’ Dwg y cyfeiriad at orfod sarffod i gof Luc 10.19, ‘Dyma fi wedi rhoi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac i drechu holl nerth y gelyn’, yn ogystal â stori’r sarff yng Ngardd Eden yn Genesis 3.

30 [g]wisg Mair Disgwylid wisg Fair, a dilyn yr arfer o dreiglo enw priod ar ôl enw benywaidd, gw. TC 107–8; cf. ll. 45 torch Gynog. Gall fod y gynghanedd gytsain yn drech na’r rheol yma, neu bod Huw Cae Llwyd yn ystyried gwisg yn enw gwrywaidd, gw. GPC Ar Lein d.g.

31 stofed Ffurf trydydd unigol orchmynnol ystofi, gw. GPC Ar Lein d.g. ystofaf1 (b). O ran yr ystyr, dilynir CO3 102, 199 ‘cynllunio, cynllwyno’ a GBF 301 ‘trefnu’.

1 i Nis ceir yn y llawysgrif, yn ôl pob tebyg yn sgil cywasgu rhoi i yn unsill.

2 Rag uffern roi y gyffes Noder bod y defnydd o R ac rr i ddynodi rh yn orgraff y llawysgrif yn gyson iawn (gw. yn y trawsysgrifiad lau. 1, 6, 7, 8, 11, 17, 18, 20, 56; gthg. ll. 2), ac fe’i dilynir yn achos y ll. hon, rac vffern roi y gyffes.

3 wedy’i weddi Y tebyg yw fod i yn ddealledig yn narlleniad y llawysgrif, wedy ỽeddi, ond gellid hefyd wedy’r weddi, gan gwblhau’r gyfatebiaeth gytseiniol. Fodd bynnag, bernir bod r wreiddgoll ar ddechrau’r ll.

4 Gyrrwn ninnau Diwygir darlleniad y llawysgrif, Gyrrwn Innav. Gellid y ffurf amherffaith unigol yma, ac felly hefyd yn ll. 42, ond mwy synhwyrol yw dilyn y ffurfiau lluosog yn llau. 34, 36 a 40. Tebyg mai camrannu llythrennau a geir yn y llawysgrif.

5 a gawn ni Diwygir darlleniad y llawysgrif, a gawn i, yn unol â’r hyn a ddadleuir yn ll. 33n.

6 ein bai ni Nid yw orgraff y llawysgrif o gymorth wrth benderfynu ai ein ynteu i’n a geir yma, cf. llau. 18 Rodd o nef yn rryddhav ni, 60 vn mab er yn mwyn. Nid yw i’n bai ni yn amhosibl, ond bernir bod gwell ystyr yn narlleniad y golygiad.