Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

43. Moliant i Ddeiniol (Syr Dafydd Trefor)

golygwyd gan Eurig Salisbury

Moliant gan Syr Dafydd Trefor i Ddeiniol ac i Domas Ysgefintẃn, esgob Bangor, pan adnewyddwyd yr eglwys a’r esgopty. Dyddiad 1527.

Mae ’m Mangor drysor a drig
Yn gadarn fendigedig,
Ac un o’r saith gefnder gwyn1 ⁠un o’r saith gefnder gwyn Am y gred, gw. Saith Gefnder Sant.
(Santeiddia’ saith saint oeddyn’):
5Deiniel,⁠2 ⁠Deiniel Am ffurfiau eraill ar ei enw, gw. G 296 d.g. Danyel2. ni wnaeth odineb,
Fo fynnai na wnâi neb.3 Llau. 5–6. Ni cheir dim yn y llithoedd Lladin sy’n cysylltu Deiniol â’r ddysgeidiaeth hon i ymwrthod â godineb, a gall mai yn sgil y gynghanedd a’r ffaith fod y sant wedi dechrau ei yrfa fel meudwy (gw. llau. 7–8n) y cyfeirir ati yma.1 ⁠Fo fynnai na wnâi neb Ll. chwesill. Gall mai’r ffurf ddeusill gwnaai a fwriedid, ond byddai’n syndod gweld y ffurf honno, na cheir ond rhai enghreiffitiau ohoni yng ngwaith beirdd y 14g., mewn cerdd a ganwyd yn hanner cyntaf yr 16g., gw. GGMD iii 8.12; GLlBH 5.6; G 695. Mae’n bosibl mai gwall yw wnâi am wnelai, a dilyn darlleniad LlGC 3048D fo fynai na wnelai neb, ond mae’n fwy tebygol mai ymgais ddeallus a geir yno i ymestyn hyd y llinell. Posibilrwydd arall yw mai Efo a geid ar ddechrau’r ll. yn wreiddiol, ond sylwer bod ll. 36 yn chwesill hefyd ym mhob testun, a cf. ll. 21n (esboniadol).
Meudwy ydoedd meudwydy⁠2 ⁠meudwydy Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, medwydy. Ceir yr un gwall yn nhestun LlGC 3048D.
Pen fu ar fraich Penfro fry.4 Llau. 7–8. Ceir mwy am yr hanes hwn yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 127–9 ‘Ac felly gadawodd y gwynfydedig Ddeiniol … ei rieni a bro ei eni pan oedd yn oed gŵr, a chan ddymuno byw bywyd meudwy a didryf … daeth at ryw fynydd a elwir yn awr Mynydd Deiniol yn ymyl Penfro yn esgobaeth Mynyw, a chan ei fod yn ystyried y lle hwnnw’n fuddiol ac yn addas i fwynhau ffrwythau myfyrdod dwyfol, am ei fod wedi ei neilltuo oddi wrth dwrw dynion, penderfynodd yn y nos y trigai yno i wasanaethu ei Arglwydd.’ Derbyniodd Deiniol groeso a thir gan arglwydd y lle, ac adeiladodd fwthyn lle saif bellach, yn ôl y llith, eglwys fawr wedi ei chysegru iddo. Sonnir wedyn fod Deiniol yn byw ‘ar fynydd yn y rhan ddehau o Benfro.’ Saif eglwys a gysegrwyd i Ddeiniol ar Fynydd Deiniol (St Daniel’s Hill) ar gyrion deheuol Penfro, gw. Harris 1955: 17–19; Lloyd et al. 2004: 384; LBS ii 330; WATU 194. Mae’n debyg fod [b]raich Penfro⁠ yn gyfeiriad penodol at bentir deheuol sir Benfro, gw. ibid. 309 (map).
Duw Iesu a’i dewisodd
10Yn dad i fil, daed ei fodd⁠,3 ⁠daed ei fodd Mae’n bosibl mai ychwanegiad diweddarach yw’r i a geir rhwng y ddau air hyn yn y llawysgrif. Gall fod y copïydd wedi cyfrif daed yn ddeusill yn wreiddiol (däed), cyn iddo sylwi ar y rhagenw yn ei ffynhonnell, cf. enghreifftiau o gyfrif daed yn unsill ac yn ddeusill yng ngwaith Guto’r Glyn, GG.net 60.11–12 Bôn derwen benadurwaed, / Bwclai o Stanlai, nos daed, 47.59 Odid fyth, er däed fo. Sylwer hefyd fod daed yn unsill, yn ôl pob tebyg, yn ll. 66 y gerdd hon. At hynny, ni ddisgwylid treiglad ar ôl ffurf gydradd. Gall mai hwn yw’r cyntaf o bedwar ychwanegiad a wnaeth y copïydd i’r testun, ac fe’u derbynnir i gyd ar gownt y ffaith fod yr ychwanegiad yn ll. 25 (gw. y nodyn) yn amlwg gywir, gw. hefyd llau. 54n, 60n.
Ac ni wyddiad ein tad da
Ladiniaith olud yna;5 Llau. 9–12. Ceir yr hanes hwn yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 129, ‘Yn nhreigl amser aeth eglwys gadeiriol Bangor yn wag drwy farwolaeth yr esgob, a phan oedd y rheini y perthynai iddynt yn yr eglwys honno ethol neu ddarparu esgob, wedi ymgynnull ynghyd ac wedi galw am ras yr Ysbryd Glân, cawsant ddatguddiad dwyfol i yrru i barthau Penfro … ac ethol … yn esgob … ar eu heglwys ryw feudwy a drigai ar fynydd … a chwanegwyd mai Deiniol y gelwid ef.’ Synnodd Deiniol yn fawr pan esboniodd y cenhadau o Fangor eu neges: ‘“Pa fodd y gall hyn fod – eich bod yn honni ddarfod fy ethol i’n esgob a minnau’n ŵr cwbl anllythrennog a heb wybod unrhyw wybodaeth lenyddol.” Yn ateb iddo dywedasant: “Ewyllys Duw ydyw y gwneler felly.”’
Ni adwaenai garrai o’i gob⁠4 ⁠Ni adwaenai garrai o’i gob Ll. wythsill. Gellid cyswasgu ni a- yn unsill, neu dalfyrru, ni ’dwaenai, ond noder bod Syr Dafydd Trefor yn tueddu i amrywio hyd ei lau., gw. GSDT 25.
Oni wisgwyd e’n esgob.6 Llau. 13–14. Yn ôl y llithoedd Lladin, nid urddwyd Deiniol yn esgob hyd nes ar ôl iddo dderbyn dysgeidiaeth yr eglwys gan Dduw, sef yr hyn a ddisgrifir yn llau. 15–18, gw. y nodyn; Williams 1949: 131. Yn ôl Llyfr Llandaf, fe’i hurddwyd yn esgob gan Ddyfrig, ond ceir nodyn diweddarach ar ymyl y ddalen yn honni mai Teilo a wnaeth, gan fod Teilo (fel Deiniol yntau, gw. llau. 29–34n) yn gysylltiedig â Phenalun yn sir Benfro, gw. LL 71, 337; WCD 191, 607. Bernir mai ystyr ll. gyntaf y cwpled yw bod Deiniol mor ddiniwed pan ddaethpwyd ag ef i Fangor fel na wyddai’r gwahaniaeth rhwng cerpyn di-nod a mantell clerigwr (dehongliad arall tebyg yw ‘ni adnabyddai gymaint ag un llinyn o’i fantell elgwysig’).
15Dŵad canu7 ⁠dŵad canu Ffurf yw dŵad ar dywawd, ffurf trydydd unigol gorffennol ar y ferf dywedyd, gw. G 431. Ceidw gwrthrych y ferf, sef canu, ei ffurf gysefin, gw. TC 223. Ti Dëwm8 ⁠Ti Dëwm Geiriau cyntaf emyn Lladin adnabyddus i Dduw ac i Grist, Te Deum laudamus ‘O Dduw, addolwn di’, gw. ODCC 1592–3. Am gyfieithiad Cymraeg Canol o’r emyn, gw. GM. Gall fod dylanwad Saesneg Canol ar Ti, gan mai felly yr yngenid y gair yn yr iaith honno yn sgil y newid a elwir ‘the great vowel shift’, pan droes e hir yn i.
I gaerau Crist a’r Gŵr crwm.9 ⁠[y] Gŵr crwm Awgrymir yn GSDT 14.16n mai cyfeiriad yw hwn at y Crist o Fostyn, sef cerflun pren o Grist yn eistedd ac yn myfyrio cyn iddo gael ei groeshoelio a berthyn i’r 15g., gw. llun a thrafodaeth fer yn Lord 2003: 163. Fodd bynnag, fel y nodir yno, er bod y cerflun yn yr eglwys ym Mangor bellach, mae’n bosibl iddo ddod o Lanrwst, ‘o abaty Maenan gellid tybied’, ac ni cheir sicrwydd ei fod ym Mangor pan ganodd Syr Dafydd Trefor ei gerdd yn 1527. At hynny, portread digon cefnsyth ydyw o Grist, a’r tebyg mai delwedd arall ohono yn yr eglwys a oedd gan y bardd mewn golwg. Diau bod crog fawr ym Mangor, fel yn y rhan fwyaf o eglwysi, yn yr 16g., a gall fod delwedd arni o gorff Crist yn crymu. Fel arall, tybed a oedd Syr Dafydd Trefor yn cyfeirio at gerflun carreg o Grist ar y groes a geir yn yr eglwys ym Mangor heddiw ac a berthyn i’r 14g. neu’r 15g.? Ynddo gwelir pen Crist ar dro a’i goesau wedi plygu, a gellid yn hawdd ei ddisgrifio fel gŵr crwm, gw. llun o’r cerflun yn ibid. 174. Posibilrwydd arall yw mai ar gwr crwm yw’r ystyr, hynny yw ‘Crist ar gornel gam’, fel disgrifiad rhyfedd o’r croeshoeliad.
Gŵr mud⁠5 ⁠mud Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, mvl, er mwyn y gynghanedd. a gâi ramadeg,
Bugail Duw’n dwyn bagal deg.10 Llau. 15–18. Ceir yr hanes hwn yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 129–31, ‘Yna arweiniodd clerigwyr yr eglwys … Ddeiniol ei hun at brif allor yr eglwys, a chan ganu’n ddihewydus iawn “Te Deum Laudamus”, molasant drugaredd y Gwaredwr. A phan oedd Deiniol Sant wedi codi i fyny o’i weddi, fe’i llanwyd ef gymaint â gwybodaeth eglwysig o bob llên fel nad oedd neb ym Mhrydain yr adeg honno yn ymddangos yn debyg iddo mewn gwybodaeth a llenyddiaeth.’ Ni ddywedir yn ddiamwys fod Deiniol ei hun wedi canu’r emyn Ladin, fel yr honna Syr Dafydd Trefor yn llau. 15–16.6 ⁠Bugail Duw’n dwyn bagal deg Dilynir darlleniad y llawysgrif o ran bagal, sef ffurf dafodieithol, o bosibl, gan ddiwygio dvw yn er mwyn sicrhau ll. seithsill. Gellid hefyd Duw yn dwyn bagl deg.

Mae’n falsomẃm neu flas mêl
20Sôn dynion am Sain Deiniel.
Aml iawn yn fy mlaen i⁠7 ⁠Aml iawn yn fy mlaen i Ll. chwesill, onid yngenir aml yn ddeusill, fel yr awgrymir gan ddarlleniad y llawysgrif, amyl.
Wrthiau hwn wrth eu henwi:11 Llau. 21–2. Dywedir yr un peth, i bob diben, yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 131, ‘Y mae’r gwyrthiau y gwelodd yr Arglwydd yn dda eu cyflawni drwy ei haeddiannau, yn gymaint yn ei fywyd ag ar ôl iddo farw, yn rhy lluosog i’w hadrodd … oherwydd yr oeddynt yn niferus iawn.’ O safbwynt y gynghanedd, rhaid naill ai roi’r orffwysfa ar ôl yn (ar yr arfer o roi’r acen ar fân eiriau, gw. CD 266–8) neu drin -n yn ail hanner y ll. yn gytsain berfeddgoll.
Ychen gwâr i gyfarwr,
Lladron a’u dugon’ o’r dŵr,
25Deiniel yn lle’r⁠8 ⁠lle Ychwanegwyd y gair hwn yn ddiweddarach gan y copïydd. Nid yw’r llinell yn synhwyrol hebddo. eidionnau
A roes y ceirw i’r iau,⁠9 ⁠A roes y ceirw i’r iau Rhaid trin ceirw yn ddeusill yma er mwyn sicrhau llinell seithsill. Fodd bynnag, gair unsill ydyw yn narlleniad LlGC 3048D a roes y ceirw yn yr iav. Hawdd gweld sut y gallai yn fod wedi ei golli o destun C 2.114 (cf. ll. 25n lle) ond, a dilyn llau. 6n a 59n, bernir mai diwygiad ydyw. Ar duedd Syr Dafydd Trefor i drin geiriau’n diweddu gydag -w yn sillafog neu’n ansillafog yn ôl ei angen, gw. GSDT 24–5.
Rhoi’r lladron brychion eu brig
Acw i orwedd fal cerrig;12 Llau. 23–8. Adroddir hanes y wyrth hon yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 131, ‘Rhyw noson pan oedd [Deiniol] yn trigo ar y mynydd ym Mhenfro, daeth dau ddyn drwg eu hewyllys yno i ladrata’r ychen a fenthyciwyd i’r gŵr santaidd er mwyn iddo aredig ei dir … Pan glywodd y gŵr santaidd yn ei gell fechan sŵn dynion ac anifeiliaid a gweld drwy’r ffenestr y lladron yn arwain ymaith yr ychen, aeth allan a gweiddi: “Gobeithiwch, gobeithiwch yn unig yn yr Arglwydd.” Eithr pan glywsant ei lais, rhedasant yn gyflymach. Gwnaeth Deiniol Sant arwydd y grog i gyfeiriad yr ychen fel na châi’r sawl a’u rhoes ar fenthyg, golled am ei weithred glodfawr, ac yn ddisymwth trowyd y lladron yn y fan a’r lle yn ddwy garreg sydd yn sefyll yno ar ddelw dynion hyd y dydd heddiw. Cyfeiriwyd yr anifeiliaid ar y llaw arall at eu cynefin borfeydd.’ Am enghreifftiau eraill yn y farddoniaeth o adrodd hanes sant yn troi drwgweithredwyr yn garreg, gw. IlltudLM llau.85–6; MWPSS 1.43–4. Mae’r hyn a ddywed Syr Dafydd Trefor yn cyd-fynd yn agos â’r hanes hwn, ac eithrio’r manylyn am liw gwallt y lladron a’r ffaith fod Deiniol wedi gosod yr iau ar geirw yn lle’r ychen. Yn y llithoedd, trinnir yr hyn a ddywedir am y ceirw yn y gerdd fel gwyrth wahanol yr adroddir ei hanes yn syth ar ôl y wyrth uchod, gw. Williams 1949: 133, ‘Adeg arall hefyd pan na ffindiai’r gŵr santaidd anifeiliaid i aredig ei dir â hwy, wele daeth dau garw mawr o goedwig Pencoed a oedd gyfagos, at y lle a oedd i’w aredig, a chan roi eu gyddfau tan yr iau, tynasant yr aradr fel anifeiliaid dof trwy gydol y dydd, ac ar ôl gorffen gwaith y dydd, dychwelasant i’r goedwig.’ Am enghreifftiau eraill o’r wyrth gyffredin hon, gw. Henken 1991 81–3.
A bun, gwedi chwyddo’i bol
30Gan wenwyn drwg, gwenwynol,
O ras y sant, pen roes hon
Yn ei phen ddŵr o’i ffynnon,
Afrifed bryfed heb wres
Beiriog o’i chorff a boeres.13 Llau. 29–34. Ceir hanes y wyrth hon yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 133 ‘rhyw fenyw o barthau Caerwy yn esgobaeth Mynyw oedd wedi chwyddo dros fesur fel na ellid ei gwella drwy unrhyw gyngor meddygol, ac o’r diwedd daeth at Eglwys Deiniol Sant a chwedyn at y ffynnon a grybwyllwyd uchod, a chan weddïo am gymorth y sant yfodd o’r dŵr hwnnw er mwyn adennill ei hiechyd a chyn iddi ddychwelyd aeth i borth yr eglwys. Yno yng ngŵydd llawer a oedd yn sefyll yn ymyl ac yn gweld, chwydodd o’i genau dri phryf echrydus ac iddynt bedwar troed bob un, a gwnaed y fenyw yn iach o’r awr honno.’ Yr unig wahaniaeth rhwng cynnwys y llith a’r hyn a geir yng ngherdd Syr Dafydd Trefor yw’r ffaith mai tri thrychfilyn yn unig a ddaeth o enau’r ferch yn y cyntaf, tra bod nifer dirifedi yn yr ail. Mae’n debyg fod y ferch yn byw yng nghyffiniau Caeriw yn sir Benfro, nid nepell o eglwys y sant ger Penfro nac ychwaith o ffynnon a chapel a gysylltir â Deiniol ym Mhenalun ger Dinbych-y-pysgod, gw. Harris 1955: 19; LBS ii 330; Lloyd et al. 2004: 354. Ar gyswllt Deiniol â sir Benfro yn gynnar yn ei yrfa, gw. llau. 7–8n. Deil buchedd Ladin Cadog fod ffynnon y sant hwnnw’n medru iacháu cleifion yn yr un modd, gw. VSB 94–5.
35Galwn, bawb, rhag ein gelyn,14 ⁠Galwn, bawb, rhag ein gelyn Ceir proest i’r odl yn y ll. hon, ond diau na chyfrifai Syr Dafydd Trefor hynny’n fai, fel nifer o feirdd eraill y bymthegfed ganrif, gw. CD 255–7.
Deiniel Sant, dy ras ynn!’15 ⁠Deiniel Sant, dy ras ynn Twyll gynghanedd. Ymhellach, gw. y nodyn testunol ar y ll. hon.10 ⁠Deiniel Sant, dy ras ynn Ll. chwesill ac ynddi dwyll cynghanedd, a gall fod gwall yn y gynsail. Fodd bynnag, ceir nifer o enghreifftiau eraill tebyg yng ngwaith Syr Dafydd Trefor, gw. GSDT 24–5.

Codi’i ris,16 ⁠codi’i ris Gall fod y bardd yn cyfeirio’n llythrennol at godi grisiau fel rhan o’r gwaith adnewyddu yn yr eglwys ym Mangor, neu’n ffigurol at godi ei statws. cadair Iesu,
Toi’r eglwys fawr, tir glas fu.
Fy swydd dan lythyr a sêl17 ⁠swydd dan lythyr a sêl Comisiynwyd Syr Dafydd Trefor yn ffurfiol gan awdurdodau’r eglwys, onid gan yr esgob ei hun, i ganu’r gerdd hon. Cf. y llythr caead, sef llythyr wedi ei gau, a roes Rhisiart Cyffin, deon Bangor, i’r bardd-delynor Llywelyn ap Gutun, o dan amgylchiadau pur wahanol, yn ôl un o’r cywyddau dychan a ganodd Llywelyn i’r deon, gw. GLlGt cerdd 9. Derbyniodd Llywelyn lythyr caeedig gan Risiart, ac yntau dan yr argraff fod y ddogfen yn rhoi caniatád iddo wyna ym Môn, ond pan agorwyd y llythyr gan Huw Lewys o Brysaeddfed, cafwyd mai gorchymyn ydoedd i garcharu Llywelyn yn sgil ei gyhuddo o ladrata ŵyn!
40Caru dynion côr Deiniel:
Organ bêr,18 ⁠organ bêr Cyfeirir at bibau’r organ yn ll. 44. Cf. disgrifiad Dafydd ap Gwilym o eglwys Bangor yn ei awdl fawl i Hywel ap Goronwy, deon Bangor, DG.net 8.11 Tŷ geirwgalch teg ei organ. Cyfeiriodd Gruffudd Gryg yntau at yr organ yn ei ail gywydd ymryson â Dafydd ap Gwilym, a hynny fel un o dri pheth a oedd, fel awen Dafydd, yn newydd yng Ngwynedd gynt, gw. ibid. 25.35–40 Ail yw’r organ ym Mangor, / Rhai a’i cân er rhuo côr. / Y flwyddyn, erlyn oerlef, / Daith oer drud, y doeth i’r dref, / Pawb o’i goffr a rôi offrwm / O’r plwyf, er a ganai’r plwm. Ymhellach, gw. ibid. 25.35n; GSDT 14.41n. cân offeren,
Clych19 ⁠clych Ceir cyfarwyddyd yn ewyllys yr Esgob Ysgefintẃn y dylid gosod pedair cloch (tair a oedd eisoes wedi eu prynu ac un arall i’w hychwanegu atynt) ‘[in] the Steeple and Lofte of Bangor Churche where the Bells doo hange’, sy’n awgrymu bod clychau eisoes yn yr eglwys ac mai’r rheini a oedd gan Syr Dafydd Trefor mewn golwg yma, gw. y nodyn cefndir a Willis 1721: 246. Bangor, ail Winsor⁠20 ⁠Winsor Sef castell Windsor yn Berkshire ac, yn benodol, gapel mawreddog y castell a gysegrwyd i San Siôr ac a ailadeiladwyd yn helaeth tua’r un adeg â’r gwaith adnewyddu ym Mangor. wen,
Cantorion gwchion ar gân,
Pob irgainc pibau organ.
45Tomas21 ⁠Tomas Yr Esgob Tomas Ysgefintẃn, gw. DNB Online s.n. Thomas Skevington. ddulas a ddilid
Eidionnau Duw dan ei did;
Canu a wnân’ acw ’n ei ôl
Osber,22 ⁠gosber Gw. GPC Ar Lein d.g. ‘gwasanaeth hwyrol, gweddi brynhawnol’. adar ysbrydol.23 Llau. 45–8. Darlunir yr Esgob Ysgefintẃn yn dilyn clerigwyr yr eglwys ym Mangor fel pe bai’n aradwr a hwythau’n ychen dan ei did (‘dan ei awdurdod’ neu, yn llythrennol, ‘dan ei gadwyn’). Parheir â’r ddelwedd wledig drwy ddisgrifio’r clerigwyr yn adleisio’r esgob wrth ganu gweddïau fel adar ysbrydol. Cf. yr hanes am Ddeiniol yn aredig ag ychen, llau. 23‒8n.
Apla’ sens, palis a sêl,
50Apla’ dynion plwy’ Deiniel,
A’u heglwys, baradwys ei bro,⁠11 ⁠A’u heglwys, baradwys ei bro Ll. wythsill. Gellid hepgor y rhagenw neu ddefnyddio’r ffurf dalfyredig b’radwys, ond noder bod gan Syr Dafydd Trefor duedd i amrywio hyd ei lau., gw. GSDT 25.
Mae Tomas i’w mintimio.24 ⁠mintimio Nis nodir fel ffurf yn GPC Ar Lein d.g. maentumiaf, ond cf. mintim.
Ni bu am waith, ni’i beiwn,⁠12 ⁠ni’i beiwn Bernir bod ’i yn ddealledig yn narlleniad y llawysgrif, ni beiwn, er bod cadw ffurf gysefin b- ar ôl ni yn arferol, gw. TC 357.
Ysgafn tâl Ysgefintẃn;25 ⁠Ysgefintẃn Ffurf Gymraeg ar ail enw’r esgob, a anwyd yn Skeffington yn swydd Gaerlŷr, gw. ll. 45n.13 ⁠Ysgefintẃn Ymddengys fod y llythren -i- wedi ei hychwanegu’n ddiweddarach yn y llawysgrif, ysgefinitwn, a bod y copïydd wedi anghofio dileu’r ail -i-. Fe’u diwygiwyd yn unol â’r ffurf gydnabyddedig ar enw’r esgob.
55Costiodd aur, lonaid cist dda,
Gist Domas, fu’r gost yma.⁠14 ⁠Gist Domas, fu’r gost yma Dehonglir orgraff amwys yn narlleniad y llawysgrif, gisd tomas fvr gosd tyma.
Seiri a bwyd sy ar y bar,26 ⁠ar y bar Ar yr ystyr, gw. y nodyn testunol ar y ll. hon.15 ⁠Seiri a bwyd sy ar y bar Dilynir darlleniad y llawysgrif. Fe’i diwygiwyd yn GSDT 14.57 Seiri a bwyd sy ar bâr, gw. y cyfuniad ar bâr ‘parod’ yn GPC Ar Lein d.g. pâr4, cf. hefyd pâr1 ‘together, in a team (of oxen), in pairs.’ Cf. yr un diwygiad, yn ei hanfod, yn LlGC 644B Seyri a bwyd sydd ar bar, efallai yn sgil cyfrif y llinell hon yn wythsill, ond noder bod nifer o linellau wythsill eraill yn y gerdd hon ac, at hynny, gall mai llinell seithsill ydyw yn sgil cywasgu seiri a yn ddeusill. Ond efallai mai amheuaeth ynghylch ystyr ar y bar yn y cyd-destun hwn a barodd y newid, gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. bar1 ‘in judgement, at the bar, also fig.’ Bernir yn betrus mai disgrifiad ydyw o’r eglwys ym Mangor fel llys barn dwyfol, neu hyd yn oed at estyll a pholion a ddefnyddid wrth wneud y gwaith adnewyddu yno.
A llaw esgob ’wllysgar,
Bwâu uchel a’u breichiau⁠16 ⁠Bwâu uchel a’u breichiau Ceir r berfeddgoll yn y llinell hon. Tebyg mai ymgais ddeallus i gaboli’r gynghanedd a geir yn narlleniad LlGC 3048D bwav uchel ai beichiav. Er nad yw beichiau yn amhriodol o ran ystyr, bernir bod breichiau yn cyd-fynd yn well â gweddill y cwpled. Hynny yw, roedd rhannau uchaf y trawstiau pren yn cyd-blethu fel breichiau ar ffurf bwâu yn nenfwd yr eglwys. Am enghreifftiau eraill o gytseiniaid perfeddgoll yn y gerdd hon, gw. llau. 36, 52, 64, 70.
60O’r coed ar eu brigau’n cau⁠,17 ⁠brigau’n cau Ceir yn y llinell hon yr olaf o bedwar ychwanegiad a wnaeth y copïydd i’r testun, sef brigav yn kav. A dilyn y ffaith fod yr ychwanegiad yn ll. 25 (gw. y nodyn) yn amlwg ddilys, dilynir y diwygiad yma hefyd, er gwaethaf y ffaith nad oes dim o’i le ar y darlleniad gwreiddiol. Gw. hefyd llau. 10n, 54n.
A simwr hon, os mawr hi,
A glyw drwst y glaw drosti,
Cist drom yr Arglwydd Domas
Yn rhoi cap plwm rhag glaw i’r plas.27 ⁠Yn rhoi cap plwm rhag glaw i’r plas Ceir twyll gynghanedd yn y ll. hon, cf. ll. 36n; GSDT 24–5. Mae’n debyg fod y bardd yn cyfeirio yma at waith adeiladu a wnaeth yr Esgob Ysgefintẃn yn yr esgopty ym Mangor, gw. y nodyn cefndir.
65Da’i cad yn adeiliadwr,
Daed yw’r gwaith, da Duw i’r gŵr!
Ystod fawr yw ei stad fo,
Ei oes, Deiniel a’i ystynno⁠18 ⁠Ei oes, Deiniel a’i ystynno Ll. wythsill. Disgwylid a’i hystynno, gan mai prin yw’r enghreifftiau o hepgor h- yn dilyn y rhagenw benywaidd, gw. TC 154. Efallai fod ei habsenoldeb yn ddadl o blaid talfyrru, a’i ’stynno, ond noder bod gan Syr Dafydd Trefor duedd i amrywio hyd ei lau., gw. GSDT 25.
Nes cael ar fawr afael fry
70Clych i uchder y clochdy.
Oed Duw gwyn yt i’w gynnal
Pan⁠19 ⁠Pan Ceir y ffurf pen yn llau. 8 a 31. Gall fod ffurf wahanol wedi ei defnyddio yma gan fod pen ‘brig’ yn ail hanner y ll. roi y pen ar y wal
Pymthecant, gwarant dan go’,
Hugain gyda saith hygo’.28 Llau. 71–4. Y prif gymal yn y frawddeg hir hon yw Oed Duw gwyn yt … / … / Pymthecant … / Hugain gyda saith hygo’. Hynny yw, dymuna Syr Dafydd Trefor i’r gwaith adnewyddu ym Mangor ddod i ben ym mlwyddyn canu’r gerdd, sef 1527, a choffáu’r digwyddiad, o bosibl drwy gofnodi’r flwyddyn honno’n swyddogol mewn arysgrif ar y mur, fel y gwnaethpwyd pan orffennwyd y gwaith yn y pen draw yn 1532, gw. y nodyn cefndir. Am Oed Duw, hynny yw, ‘oed Crist’, gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. oed.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae trysor ym Mangor
a bery’n gadarn fendigaid,
ac un o’r saith cefnder cysegredig
(y saith sant mwyaf sanctaidd oeddynt):
5Deiniol, ni chyflawnodd odineb,
fe fynnai ef na wnâi neb hynny.
Meudwy ydoedd mewn cell meudwy
pan fu ar bentir Penfro fry.
Duw Iesu a’i penododd
10yn dad i lu, mor dda oedd ei ddull,
ac ni wyddai ein tad da bryd hynny
gyfoeth yr iaith Ladin;
ni adnabyddai gerpyn o’i fantell eglwysig
hyd oni arwisgwyd ef yn esgob.
15Llafarganodd emyn Te Deum
ar gyfer caerau Crist a’r Gŵr crwm.
Cafodd gŵr dileferydd ramadeg Lladin,
bugail Duw’n cario bagl deg.

Mae sôn dynion am Sant Deiniol
20yn debyg i falsam neu flas mêl.
Niferus iawn, wrth eu henwi,
yw gwyrthiau hwn o flaen fy amser i:
ychen dof i gyd-aradwr,
lladron a’u dygasant o’r dŵr,
25Deiniol a roddodd y ceirw
yn yr iau yn lle’r eidionnau,
peri i’r lladron a chanddynt wallt brychlyd
orwedd acw fel cerrig;
a merch, wedi i’w bol chwyddo
30gan wenwyn afiach, marwol,
drwy ras y sant, pan roddodd hon
ddŵr o’i ffynnon yn ei cheg,
fe boerodd allan o’i chorff
drychfilod cyforiog dirifedi heb wres.
35Galwn, bawb, rhag ein gelyn,
‘Deiniol Sant, [rho] dy ras i ni!’

Codi ei ris, eglwys gadeiriol Iesu,
toi’r eglwys fawr, tir glas fu.
Fy swydd drwy lythyr dan sêl
40yw caru dynion cangell Deiniol:
organ bersain, cân offeren,
clychau Bangor, ail Windsor gysegredig,
cantorion gwych ar gân,
pob cainc fywiog pibau organ.
45Tomas mewn porffor a ddilyna
eidionnau Duw sydd o dan ei awdurdod;
adar ysbrydol, canu gosber
a wnânt acw ar ei ôl.
Yr arogldarth, y palis a’r sêl mwyaf nerthol,
50y dynion mwyaf abl yw plwyfolion Deiniol,
a’u heglwys, baradwys ei bro,
mae Tomas yn ei chynnal.
Ni bu gwariant Ysgefintẃn am waith
yn bitw, ni welwn fai arno;
55gwariodd aur, lond cist dda
fu’r gost yma, cist Tomas.
Seiri a bwyd sydd yn lle’r farn,
a llaw barod esgob,
bwâu uchel a’u breichiau
60o’r goedwig yn cydblethu yn eu brigau,
ac mae mantell hon, os yw hi’n [ddigon] mawr,
yn clywed trwst y glaw drosti,
cist drom yr arglwydd Tomas
yn rhoi cap plwm i’r plas rhag glaw.
65Da oedd ei gael yn adeiladwr,
mor dda yw’r gwaith, daioni Duw i’r gŵr!
Un hir ei chyfnod yw ei safle ef,
ei oes, boed i Ddeiniol ei hymestyn
nes cael clychau ar nenfforch fawr
70fry yn uchder y clochdy.
Er mwyn ei gynnal, pan roddi’r pen ar y wal,
i ti boed oed Crist cysegredig
pymtheg cant, cadarnhad sicr,
ac ugain gyda saith yn gofiadwy.

1 ⁠un o’r saith gefnder gwyn Am y gred, gw. Saith Gefnder Sant.

2 ⁠Deiniel Am ffurfiau eraill ar ei enw, gw. G 296 d.g. Danyel2.

3 Llau. 5–6. Ni cheir dim yn y llithoedd Lladin sy’n cysylltu Deiniol â’r ddysgeidiaeth hon i ymwrthod â godineb, a gall mai yn sgil y gynghanedd a’r ffaith fod y sant wedi dechrau ei yrfa fel meudwy (gw. llau. 7–8n) y cyfeirir ati yma.

4 Llau. 7–8. Ceir mwy am yr hanes hwn yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 127–9 ‘Ac felly gadawodd y gwynfydedig Ddeiniol … ei rieni a bro ei eni pan oedd yn oed gŵr, a chan ddymuno byw bywyd meudwy a didryf … daeth at ryw fynydd a elwir yn awr Mynydd Deiniol yn ymyl Penfro yn esgobaeth Mynyw, a chan ei fod yn ystyried y lle hwnnw’n fuddiol ac yn addas i fwynhau ffrwythau myfyrdod dwyfol, am ei fod wedi ei neilltuo oddi wrth dwrw dynion, penderfynodd yn y nos y trigai yno i wasanaethu ei Arglwydd.’ Derbyniodd Deiniol groeso a thir gan arglwydd y lle, ac adeiladodd fwthyn lle saif bellach, yn ôl y llith, eglwys fawr wedi ei chysegru iddo. Sonnir wedyn fod Deiniol yn byw ‘ar fynydd yn y rhan ddehau o Benfro.’ Saif eglwys a gysegrwyd i Ddeiniol ar Fynydd Deiniol (St Daniel’s Hill) ar gyrion deheuol Penfro, gw. Harris 1955: 17–19; Lloyd et al. 2004: 384; LBS ii 330; WATU 194. Mae’n debyg fod [b]raich Penfro⁠ yn gyfeiriad penodol at bentir deheuol sir Benfro, gw. ibid. 309 (map).

5 Llau. 9–12. Ceir yr hanes hwn yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 129, ‘Yn nhreigl amser aeth eglwys gadeiriol Bangor yn wag drwy farwolaeth yr esgob, a phan oedd y rheini y perthynai iddynt yn yr eglwys honno ethol neu ddarparu esgob, wedi ymgynnull ynghyd ac wedi galw am ras yr Ysbryd Glân, cawsant ddatguddiad dwyfol i yrru i barthau Penfro … ac ethol … yn esgob … ar eu heglwys ryw feudwy a drigai ar fynydd … a chwanegwyd mai Deiniol y gelwid ef.’ Synnodd Deiniol yn fawr pan esboniodd y cenhadau o Fangor eu neges: ‘“Pa fodd y gall hyn fod – eich bod yn honni ddarfod fy ethol i’n esgob a minnau’n ŵr cwbl anllythrennog a heb wybod unrhyw wybodaeth lenyddol.” Yn ateb iddo dywedasant: “Ewyllys Duw ydyw y gwneler felly.”’

6 Llau. 13–14. Yn ôl y llithoedd Lladin, nid urddwyd Deiniol yn esgob hyd nes ar ôl iddo dderbyn dysgeidiaeth yr eglwys gan Dduw, sef yr hyn a ddisgrifir yn llau. 15–18, gw. y nodyn; Williams 1949: 131. Yn ôl Llyfr Llandaf, fe’i hurddwyd yn esgob gan Ddyfrig, ond ceir nodyn diweddarach ar ymyl y ddalen yn honni mai Teilo a wnaeth, gan fod Teilo (fel Deiniol yntau, gw. llau. 29–34n) yn gysylltiedig â Phenalun yn sir Benfro, gw. LL 71, 337; WCD 191, 607. Bernir mai ystyr ll. gyntaf y cwpled yw bod Deiniol mor ddiniwed pan ddaethpwyd ag ef i Fangor fel na wyddai’r gwahaniaeth rhwng cerpyn di-nod a mantell clerigwr (dehongliad arall tebyg yw ‘ni adnabyddai gymaint ag un llinyn o’i fantell elgwysig’).

7 ⁠dŵad canu Ffurf yw dŵad ar dywawd, ffurf trydydd unigol gorffennol ar y ferf dywedyd, gw. G 431. Ceidw gwrthrych y ferf, sef canu, ei ffurf gysefin, gw. TC 223.

8 ⁠Ti Dëwm Geiriau cyntaf emyn Lladin adnabyddus i Dduw ac i Grist, Te Deum laudamus ‘O Dduw, addolwn di’, gw. ODCC 1592–3. Am gyfieithiad Cymraeg Canol o’r emyn, gw. GM. Gall fod dylanwad Saesneg Canol ar Ti, gan mai felly yr yngenid y gair yn yr iaith honno yn sgil y newid a elwir ‘the great vowel shift’, pan droes e hir yn i.

9 ⁠[y] Gŵr crwm Awgrymir yn GSDT 14.16n mai cyfeiriad yw hwn at y Crist o Fostyn, sef cerflun pren o Grist yn eistedd ac yn myfyrio cyn iddo gael ei groeshoelio a berthyn i’r 15g., gw. llun a thrafodaeth fer yn Lord 2003: 163. Fodd bynnag, fel y nodir yno, er bod y cerflun yn yr eglwys ym Mangor bellach, mae’n bosibl iddo ddod o Lanrwst, ‘o abaty Maenan gellid tybied’, ac ni cheir sicrwydd ei fod ym Mangor pan ganodd Syr Dafydd Trefor ei gerdd yn 1527. At hynny, portread digon cefnsyth ydyw o Grist, a’r tebyg mai delwedd arall ohono yn yr eglwys a oedd gan y bardd mewn golwg. Diau bod crog fawr ym Mangor, fel yn y rhan fwyaf o eglwysi, yn yr 16g., a gall fod delwedd arni o gorff Crist yn crymu. Fel arall, tybed a oedd Syr Dafydd Trefor yn cyfeirio at gerflun carreg o Grist ar y groes a geir yn yr eglwys ym Mangor heddiw ac a berthyn i’r 14g. neu’r 15g.? Ynddo gwelir pen Crist ar dro a’i goesau wedi plygu, a gellid yn hawdd ei ddisgrifio fel gŵr crwm, gw. llun o’r cerflun yn ibid. 174. Posibilrwydd arall yw mai ar gwr crwm yw’r ystyr, hynny yw ‘Crist ar gornel gam’, fel disgrifiad rhyfedd o’r croeshoeliad.

10 Llau. 15–18. Ceir yr hanes hwn yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 129–31, ‘Yna arweiniodd clerigwyr yr eglwys … Ddeiniol ei hun at brif allor yr eglwys, a chan ganu’n ddihewydus iawn “Te Deum Laudamus”, molasant drugaredd y Gwaredwr. A phan oedd Deiniol Sant wedi codi i fyny o’i weddi, fe’i llanwyd ef gymaint â gwybodaeth eglwysig o bob llên fel nad oedd neb ym Mhrydain yr adeg honno yn ymddangos yn debyg iddo mewn gwybodaeth a llenyddiaeth.’ Ni ddywedir yn ddiamwys fod Deiniol ei hun wedi canu’r emyn Ladin, fel yr honna Syr Dafydd Trefor yn llau. 15–16.

11 Llau. 21–2. Dywedir yr un peth, i bob diben, yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 131, ‘Y mae’r gwyrthiau y gwelodd yr Arglwydd yn dda eu cyflawni drwy ei haeddiannau, yn gymaint yn ei fywyd ag ar ôl iddo farw, yn rhy lluosog i’w hadrodd … oherwydd yr oeddynt yn niferus iawn.’ O safbwynt y gynghanedd, rhaid naill ai roi’r orffwysfa ar ôl yn (ar yr arfer o roi’r acen ar fân eiriau, gw. CD 266–8) neu drin -n yn ail hanner y ll. yn gytsain berfeddgoll.

12 Llau. 23–8. Adroddir hanes y wyrth hon yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 131, ‘Rhyw noson pan oedd [Deiniol] yn trigo ar y mynydd ym Mhenfro, daeth dau ddyn drwg eu hewyllys yno i ladrata’r ychen a fenthyciwyd i’r gŵr santaidd er mwyn iddo aredig ei dir … Pan glywodd y gŵr santaidd yn ei gell fechan sŵn dynion ac anifeiliaid a gweld drwy’r ffenestr y lladron yn arwain ymaith yr ychen, aeth allan a gweiddi: “Gobeithiwch, gobeithiwch yn unig yn yr Arglwydd.” Eithr pan glywsant ei lais, rhedasant yn gyflymach. Gwnaeth Deiniol Sant arwydd y grog i gyfeiriad yr ychen fel na châi’r sawl a’u rhoes ar fenthyg, golled am ei weithred glodfawr, ac yn ddisymwth trowyd y lladron yn y fan a’r lle yn ddwy garreg sydd yn sefyll yno ar ddelw dynion hyd y dydd heddiw. Cyfeiriwyd yr anifeiliaid ar y llaw arall at eu cynefin borfeydd.’ Am enghreifftiau eraill yn y farddoniaeth o adrodd hanes sant yn troi drwgweithredwyr yn garreg, gw. IlltudLM llau.85–6; MWPSS 1.43–4. Mae’r hyn a ddywed Syr Dafydd Trefor yn cyd-fynd yn agos â’r hanes hwn, ac eithrio’r manylyn am liw gwallt y lladron a’r ffaith fod Deiniol wedi gosod yr iau ar geirw yn lle’r ychen. Yn y llithoedd, trinnir yr hyn a ddywedir am y ceirw yn y gerdd fel gwyrth wahanol yr adroddir ei hanes yn syth ar ôl y wyrth uchod, gw. Williams 1949: 133, ‘Adeg arall hefyd pan na ffindiai’r gŵr santaidd anifeiliaid i aredig ei dir â hwy, wele daeth dau garw mawr o goedwig Pencoed a oedd gyfagos, at y lle a oedd i’w aredig, a chan roi eu gyddfau tan yr iau, tynasant yr aradr fel anifeiliaid dof trwy gydol y dydd, ac ar ôl gorffen gwaith y dydd, dychwelasant i’r goedwig.’ Am enghreifftiau eraill o’r wyrth gyffredin hon, gw. Henken 1991 81–3.

13 Llau. 29–34. Ceir hanes y wyrth hon yn y llithoedd Lladin, gw. Williams 1949: 133 ‘rhyw fenyw o barthau Caerwy yn esgobaeth Mynyw oedd wedi chwyddo dros fesur fel na ellid ei gwella drwy unrhyw gyngor meddygol, ac o’r diwedd daeth at Eglwys Deiniol Sant a chwedyn at y ffynnon a grybwyllwyd uchod, a chan weddïo am gymorth y sant yfodd o’r dŵr hwnnw er mwyn adennill ei hiechyd a chyn iddi ddychwelyd aeth i borth yr eglwys. Yno yng ngŵydd llawer a oedd yn sefyll yn ymyl ac yn gweld, chwydodd o’i genau dri phryf echrydus ac iddynt bedwar troed bob un, a gwnaed y fenyw yn iach o’r awr honno.’ Yr unig wahaniaeth rhwng cynnwys y llith a’r hyn a geir yng ngherdd Syr Dafydd Trefor yw’r ffaith mai tri thrychfilyn yn unig a ddaeth o enau’r ferch yn y cyntaf, tra bod nifer dirifedi yn yr ail. Mae’n debyg fod y ferch yn byw yng nghyffiniau Caeriw yn sir Benfro, nid nepell o eglwys y sant ger Penfro nac ychwaith o ffynnon a chapel a gysylltir â Deiniol ym Mhenalun ger Dinbych-y-pysgod, gw. Harris 1955: 19; LBS ii 330; Lloyd et al. 2004: 354. Ar gyswllt Deiniol â sir Benfro yn gynnar yn ei yrfa, gw. llau. 7–8n. Deil buchedd Ladin Cadog fod ffynnon y sant hwnnw’n medru iacháu cleifion yn yr un modd, gw. VSB 94–5.

14 ⁠Galwn, bawb, rhag ein gelyn Ceir proest i’r odl yn y ll. hon, ond diau na chyfrifai Syr Dafydd Trefor hynny’n fai, fel nifer o feirdd eraill y bymthegfed ganrif, gw. CD 255–7.

15 ⁠Deiniel Sant, dy ras ynn Twyll gynghanedd. Ymhellach, gw. y nodyn testunol ar y ll. hon.

16 ⁠codi’i ris Gall fod y bardd yn cyfeirio’n llythrennol at godi grisiau fel rhan o’r gwaith adnewyddu yn yr eglwys ym Mangor, neu’n ffigurol at godi ei statws.

17 ⁠swydd dan lythyr a sêl Comisiynwyd Syr Dafydd Trefor yn ffurfiol gan awdurdodau’r eglwys, onid gan yr esgob ei hun, i ganu’r gerdd hon. Cf. y llythr caead, sef llythyr wedi ei gau, a roes Rhisiart Cyffin, deon Bangor, i’r bardd-delynor Llywelyn ap Gutun, o dan amgylchiadau pur wahanol, yn ôl un o’r cywyddau dychan a ganodd Llywelyn i’r deon, gw. GLlGt cerdd 9. Derbyniodd Llywelyn lythyr caeedig gan Risiart, ac yntau dan yr argraff fod y ddogfen yn rhoi caniatád iddo wyna ym Môn, ond pan agorwyd y llythyr gan Huw Lewys o Brysaeddfed, cafwyd mai gorchymyn ydoedd i garcharu Llywelyn yn sgil ei gyhuddo o ladrata ŵyn!

18 ⁠organ bêr Cyfeirir at bibau’r organ yn ll. 44. Cf. disgrifiad Dafydd ap Gwilym o eglwys Bangor yn ei awdl fawl i Hywel ap Goronwy, deon Bangor, DG.net 8.11 Tŷ geirwgalch teg ei organ. Cyfeiriodd Gruffudd Gryg yntau at yr organ yn ei ail gywydd ymryson â Dafydd ap Gwilym, a hynny fel un o dri pheth a oedd, fel awen Dafydd, yn newydd yng Ngwynedd gynt, gw. ibid. 25.35–40 Ail yw’r organ ym Mangor, / Rhai a’i cân er rhuo côr. / Y flwyddyn, erlyn oerlef, / Daith oer drud, y doeth i’r dref, / Pawb o’i goffr a rôi offrwm / O’r plwyf, er a ganai’r plwm. Ymhellach, gw. ibid. 25.35n; GSDT 14.41n.

19 ⁠clych Ceir cyfarwyddyd yn ewyllys yr Esgob Ysgefintẃn y dylid gosod pedair cloch (tair a oedd eisoes wedi eu prynu ac un arall i’w hychwanegu atynt) ‘[in] the Steeple and Lofte of Bangor Churche where the Bells doo hange’, sy’n awgrymu bod clychau eisoes yn yr eglwys ac mai’r rheini a oedd gan Syr Dafydd Trefor mewn golwg yma, gw. y nodyn cefndir a Willis 1721: 246.

20 ⁠Winsor Sef castell Windsor yn Berkshire ac, yn benodol, gapel mawreddog y castell a gysegrwyd i San Siôr ac a ailadeiladwyd yn helaeth tua’r un adeg â’r gwaith adnewyddu ym Mangor.

21 ⁠Tomas Yr Esgob Tomas Ysgefintẃn, gw. DNB Online s.n. Thomas Skevington.

22 ⁠gosber Gw. GPC Ar Lein d.g. ‘gwasanaeth hwyrol, gweddi brynhawnol’.

23 Llau. 45–8. Darlunir yr Esgob Ysgefintẃn yn dilyn clerigwyr yr eglwys ym Mangor fel pe bai’n aradwr a hwythau’n ychen dan ei did (‘dan ei awdurdod’ neu, yn llythrennol, ‘dan ei gadwyn’). Parheir â’r ddelwedd wledig drwy ddisgrifio’r clerigwyr yn adleisio’r esgob wrth ganu gweddïau fel adar ysbrydol. Cf. yr hanes am Ddeiniol yn aredig ag ychen, llau. 23‒8n.

24 ⁠mintimio Nis nodir fel ffurf yn GPC Ar Lein d.g. maentumiaf, ond cf. mintim.

25 ⁠Ysgefintẃn Ffurf Gymraeg ar ail enw’r esgob, a anwyd yn Skeffington yn swydd Gaerlŷr, gw. ll. 45n.

26 ⁠ar y bar Ar yr ystyr, gw. y nodyn testunol ar y ll. hon.

27 ⁠Yn rhoi cap plwm rhag glaw i’r plas Ceir twyll gynghanedd yn y ll. hon, cf. ll. 36n; GSDT 24–5. Mae’n debyg fod y bardd yn cyfeirio yma at waith adeiladu a wnaeth yr Esgob Ysgefintẃn yn yr esgopty ym Mangor, gw. y nodyn cefndir.

28 Llau. 71–4. Y prif gymal yn y frawddeg hir hon yw Oed Duw gwyn yt … / … / Pymthecant … / Hugain gyda saith hygo’. Hynny yw, dymuna Syr Dafydd Trefor i’r gwaith adnewyddu ym Mangor ddod i ben ym mlwyddyn canu’r gerdd, sef 1527, a choffáu’r digwyddiad, o bosibl drwy gofnodi’r flwyddyn honno’n swyddogol mewn arysgrif ar y mur, fel y gwnaethpwyd pan orffennwyd y gwaith yn y pen draw yn 1532, gw. y nodyn cefndir. Am Oed Duw, hynny yw, ‘oed Crist’, gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. oed.

1 ⁠Fo fynnai na wnâi neb Ll. chwesill. Gall mai’r ffurf ddeusill gwnaai a fwriedid, ond byddai’n syndod gweld y ffurf honno, na cheir ond rhai enghreiffitiau ohoni yng ngwaith beirdd y 14g., mewn cerdd a ganwyd yn hanner cyntaf yr 16g., gw. GGMD iii 8.12; GLlBH 5.6; G 695. Mae’n bosibl mai gwall yw wnâi am wnelai, a dilyn darlleniad LlGC 3048D fo fynai na wnelai neb, ond mae’n fwy tebygol mai ymgais ddeallus a geir yno i ymestyn hyd y llinell. Posibilrwydd arall yw mai Efo a geid ar ddechrau’r ll. yn wreiddiol, ond sylwer bod ll. 36 yn chwesill hefyd ym mhob testun, a cf. ll. 21n (esboniadol).

2 ⁠meudwydy Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, medwydy. Ceir yr un gwall yn nhestun LlGC 3048D.

3 ⁠daed ei fodd Mae’n bosibl mai ychwanegiad diweddarach yw’r i a geir rhwng y ddau air hyn yn y llawysgrif. Gall fod y copïydd wedi cyfrif daed yn ddeusill yn wreiddiol (däed), cyn iddo sylwi ar y rhagenw yn ei ffynhonnell, cf. enghreifftiau o gyfrif daed yn unsill ac yn ddeusill yng ngwaith Guto’r Glyn, GG.net 60.11–12 Bôn derwen benadurwaed, / Bwclai o Stanlai, nos daed, 47.59 Odid fyth, er däed fo. Sylwer hefyd fod daed yn unsill, yn ôl pob tebyg, yn ll. 66 y gerdd hon. At hynny, ni ddisgwylid treiglad ar ôl ffurf gydradd. Gall mai hwn yw’r cyntaf o bedwar ychwanegiad a wnaeth y copïydd i’r testun, ac fe’u derbynnir i gyd ar gownt y ffaith fod yr ychwanegiad yn ll. 25 (gw. y nodyn) yn amlwg gywir, gw. hefyd llau. 54n, 60n.

4 ⁠Ni adwaenai garrai o’i gob Ll. wythsill. Gellid cyswasgu ni a- yn unsill, neu dalfyrru, ni ’dwaenai, ond noder bod Syr Dafydd Trefor yn tueddu i amrywio hyd ei lau., gw. GSDT 25.

5 ⁠mud Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif, mvl, er mwyn y gynghanedd.

6 ⁠Bugail Duw’n dwyn bagal deg Dilynir darlleniad y llawysgrif o ran bagal, sef ffurf dafodieithol, o bosibl, gan ddiwygio dvw yn er mwyn sicrhau ll. seithsill. Gellid hefyd Duw yn dwyn bagl deg.

7 ⁠Aml iawn yn fy mlaen i Ll. chwesill, onid yngenir aml yn ddeusill, fel yr awgrymir gan ddarlleniad y llawysgrif, amyl.

8 ⁠lle Ychwanegwyd y gair hwn yn ddiweddarach gan y copïydd. Nid yw’r llinell yn synhwyrol hebddo.

9 ⁠A roes y ceirw i’r iau Rhaid trin ceirw yn ddeusill yma er mwyn sicrhau llinell seithsill. Fodd bynnag, gair unsill ydyw yn narlleniad LlGC 3048D a roes y ceirw yn yr iav. Hawdd gweld sut y gallai yn fod wedi ei golli o destun C 2.114 (cf. ll. 25n lle) ond, a dilyn llau. 6n a 59n, bernir mai diwygiad ydyw. Ar duedd Syr Dafydd Trefor i drin geiriau’n diweddu gydag -w yn sillafog neu’n ansillafog yn ôl ei angen, gw. GSDT 24–5.

10 ⁠Deiniel Sant, dy ras ynn Ll. chwesill ac ynddi dwyll cynghanedd, a gall fod gwall yn y gynsail. Fodd bynnag, ceir nifer o enghreifftiau eraill tebyg yng ngwaith Syr Dafydd Trefor, gw. GSDT 24–5.

11 ⁠A’u heglwys, baradwys ei bro Ll. wythsill. Gellid hepgor y rhagenw neu ddefnyddio’r ffurf dalfyredig b’radwys, ond noder bod gan Syr Dafydd Trefor duedd i amrywio hyd ei lau., gw. GSDT 25.

12 ⁠ni’i beiwn Bernir bod ’i yn ddealledig yn narlleniad y llawysgrif, ni beiwn, er bod cadw ffurf gysefin b- ar ôl ni yn arferol, gw. TC 357.

13 ⁠Ysgefintẃn Ymddengys fod y llythren -i- wedi ei hychwanegu’n ddiweddarach yn y llawysgrif, ysgefinitwn, a bod y copïydd wedi anghofio dileu’r ail -i-. Fe’u diwygiwyd yn unol â’r ffurf gydnabyddedig ar enw’r esgob.

14 ⁠Gist Domas, fu’r gost yma Dehonglir orgraff amwys yn narlleniad y llawysgrif, gisd tomas fvr gosd tyma.

15 ⁠Seiri a bwyd sy ar y bar Dilynir darlleniad y llawysgrif. Fe’i diwygiwyd yn GSDT 14.57 Seiri a bwyd sy ar bâr, gw. y cyfuniad ar bâr ‘parod’ yn GPC Ar Lein d.g. pâr4, cf. hefyd pâr1 ‘together, in a team (of oxen), in pairs.’ Cf. yr un diwygiad, yn ei hanfod, yn LlGC 644B Seyri a bwyd sydd ar bar, efallai yn sgil cyfrif y llinell hon yn wythsill, ond noder bod nifer o linellau wythsill eraill yn y gerdd hon ac, at hynny, gall mai llinell seithsill ydyw yn sgil cywasgu seiri a yn ddeusill. Ond efallai mai amheuaeth ynghylch ystyr ar y bar yn y cyd-destun hwn a barodd y newid, gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. bar1 ‘in judgement, at the bar, also fig.’ Bernir yn betrus mai disgrifiad ydyw o’r eglwys ym Mangor fel llys barn dwyfol, neu hyd yn oed at estyll a pholion a ddefnyddid wrth wneud y gwaith adnewyddu yno.

16 ⁠Bwâu uchel a’u breichiau Ceir r berfeddgoll yn y llinell hon. Tebyg mai ymgais ddeallus i gaboli’r gynghanedd a geir yn narlleniad LlGC 3048D bwav uchel ai beichiav. Er nad yw beichiau yn amhriodol o ran ystyr, bernir bod breichiau yn cyd-fynd yn well â gweddill y cwpled. Hynny yw, roedd rhannau uchaf y trawstiau pren yn cyd-blethu fel breichiau ar ffurf bwâu yn nenfwd yr eglwys. Am enghreifftiau eraill o gytseiniaid perfeddgoll yn y gerdd hon, gw. llau. 36, 52, 64, 70.

17 ⁠brigau’n cau Ceir yn y llinell hon yr olaf o bedwar ychwanegiad a wnaeth y copïydd i’r testun, sef brigav yn kav. A dilyn y ffaith fod yr ychwanegiad yn ll. 25 (gw. y nodyn) yn amlwg ddilys, dilynir y diwygiad yma hefyd, er gwaethaf y ffaith nad oes dim o’i le ar y darlleniad gwreiddiol. Gw. hefyd llau. 10n, 54n.

18 ⁠Ei oes, Deiniel a’i ystynno Ll. wythsill. Disgwylid a’i hystynno, gan mai prin yw’r enghreifftiau o hepgor h- yn dilyn y rhagenw benywaidd, gw. TC 154. Efallai fod ei habsenoldeb yn ddadl o blaid talfyrru, a’i ’stynno, ond noder bod gan Syr Dafydd Trefor duedd i amrywio hyd ei lau., gw. GSDT 25.

19 ⁠Pan Ceir y ffurf pen yn llau. 8 a 31. Gall fod ffurf wahanol wedi ei defnyddio yma gan fod pen ‘brig’ yn ail hanner y ll.